Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 1:42, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, mae hynny braidd yn haerllug gan rywun sy’n cynrychioli plaid a welsom yn dinistrio economi’r DU o dan eu goruchwyliaeth fel rhan o Lywodraeth y DU. Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru—yr hyn sydd ei angen ar bob rhan o’r DU, mewn gwirionedd—yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy’n barod i fuddsoddi yn yr economi ledled y DU, a bydd ganddynt bartner ynom ni yma yng Nghymru i wneud hynny. A dweud y gwir, mae'r darlun mewn perthynas â chyflogaeth ieuenctid yn fwy cadarnhaol nag y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio. Bydd yn gwybod am y llwyddiant a gawsom drwy'r warant i bobl ifanc, a byddai ei blaid ef wedi gwneud yn dda i efelychu rhaglen o'r fath ledled y DU.