Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 5 Mehefin 2024.
Mae'n rhaid imi ddweud, cefais fy synnu ddoe gan sylw Ysgrifennydd y Cabinet pan ddywedodd nad yw'r atebion yr wyf i ac Adam Price wedi'u hyrwyddo wedi'u gwreiddio mewn realiti. Mae wedi ailadrodd hynny yma nawr. Ond y realiti fel y'i gwelaf yw bod y cau ar fin digwydd, mae Tata yn gwrthod newid eu trywydd, a hyd yn oed yn ystyried cyflymu'r broses o bosibl mewn ymateb i weithwyr yn sefyll dros eu hawliau, ac mae mwy a mwy o alw am berchnogaeth gyhoeddus gan bob rhan o gymdeithas—gan gynnwys y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol. Hynny yw, os yw'r hyn a ddywedir ynglŷn â gwasanaeth sifil y DU yn ystyried gwladoli yn opsiwn posibl yn wir, yna byddai hynny'n arwyddocaol. Nawr, gadewch inni ystyried yr ateb sydd wedi'i wreiddio mewn realiti yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet: aros am Lywodraeth Lafur y DU. Ai dyna mae’r Llywodraeth wedi bancio popeth arno? Oherwydd mae honno'n strategaeth beryglus. Ac yn y realiti rwyf newydd ei disgrifio, nid yw hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y strategaeth honno.