Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr 1:41, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym yn sôn am ystadegau. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023 oedd 9.4 y cant—cynnydd o 1.5 pwynt canran. Mae sicrhau bod pobl yn cael gwaith yn hanfodol bwysig, ond mae’r math o waith a wnânt yr un mor allweddol. Credaf yn gryf y dylem fod yn anelu at economi sy’n galw am weithlu medrus ac addysgedig, ac un sy’n rhoi cyfle i bawb. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae’r record yn ei ddangos ar ôl 25 mlynedd o reolaeth Lafur? Gweithwyr Cymru sydd â'r pecyn cyflog lleiaf ymhlith pedair gwlad y DU. Felly, mae'r Llywodraeth Lafur hon nid yn unig yn fodlon â'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd, Lywydd, mae hi hefyd yn barod i gadw gweithlu Cymru yn dlotach. Pam?