1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am ar 5 Mehefin 2024.
3. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi busnesau canol trefi Gorllewin De Cymru? OQ61196
Diolch. Rydym yn darparu £125 miliwn o gyllid dros dair blynedd i awdurdodau lleol Cymru drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae ein datganiad sefyllfa ar ganol trefi, a gyhoeddwyd y llynedd, yn nodi’r heriau sy’n wynebu trefi Cymru a chyfres o gamau gweithredu cydgysylltiedig, traws-bolisi i fynd i’r afael â’r heriau hynny.
Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â’r Ffederasiwn Busnesau Bach i drafod yr heriau presennol sy’n wynebu canol trefi yn fy rhanbarth. Mae cau banciau a siopau angor fel Marks and Spencer yng Nghastell-nedd yn ddiweddar, ar ôl bron i ganrif, wedi peri cryn bryder i fusnesau a thrigolion. Cynhaliais arolwg yn ddiweddar ar sut y gellir cefnogi canol tref Castell-nedd i ffynnu, a rhannodd bron i 400 o bobl eu barn â mi, er i'r rhan fwyaf ddweud, yn anffodus, fod ganddynt farn negyddol ynglŷn â'r dref ar hyn o bryd. Ysgrifennodd bron bob un restrau hir o’r pethau y maent yn eu hoffi ac yn eu caru am Gastell-nedd, o’r farchnad hanesyddol i’r camlesi i’r amrywiaeth o siopau annibynnol i lefydd fel Gerddi Victoria a chae rygbi’r Gnoll, wrth gwrs. Nid yw ein trefi'n brin o dalent a brwdfrydedd, ond mae angen cymorth arnynt.
Mae ardrethi busnes wedi codi yr un pryd ag y mae costau eraill yn cynyddu, ac mae gan bobl lai o arian yn eu pocedi i’w wario. Mae pethau fel yr hyn a fydd yn digwydd ym Mhort Talbot yn mynd i gael effaith ddifrifol ar faint o arian y bydd gan bobl Castell-nedd yn eu pocedi i'w wario. Felly, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, busnesau a thrigolion i wireddu potensial canol ein trefi a chefnogi’r busnesau hollbwysig yng nghanol y dref?
Diolch am eich cwestiwn, Sioned Williams, a hefyd am gynnal yr arolwg gyda thrigolion Castell-nedd a'i rhannu gyda ni. Ynglŷn â chau Marks and Spencer, rwyf am ddweud hefyd ei bod bob amser yn siomedig pan fyddwn yn colli un o'r manwerthwyr mawr hyn yng nghanol tref. Mae'n ymwneud â mwy na'r effaith ariannol yn unig, neu hyd yn oed y cyfleoedd manwerthu, ond teimlaf fod diffyg hyder yn taro'r gymuned yn sgil hynny. Maent yn teimlo’r effaith honno'n ddwfn iawn, ac mae hwn yn gyfnod hynod heriol i’r sector manwerthu a chanol trefi, fel y gwyddom. Mae materion cymhleth, oherwydd fel y dywedoch chi, mae llawer o leoliadau ar gyfer ystod o wasanaethau, mentrau economaidd, cyflogaeth a chymuned oll yn rhan o hyn, ac mae arnom angen hyn, yn ei dro, er mwyn inni allu cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r siopau.
Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn adfywio trefi, gan gynnwys ein buddsoddiad presennol o £125 miliwn mewn grantiau a benthyciadau drwy raglen Trawsnewid Trefi, y soniais amdani. Gwn, er enghraifft, yng Nghastell-nedd, fod yr awdurdod lleol wedi cael bron i £29 miliwn, a bod hynny wedi mynd tuag at y ganolfan hamdden, y llyfrgell, y caffi a'r unedau manwerthu. Ceir hefyd y weledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu, sydd wedi'i datblygu mewn partneriaeth gymdeithasol â'r fforwm manwerthu, ac rwyf wedi cyfarfod â nhw—yr undebau llafur a chyrff cynrychiadol y sector manwerthu.
Mae'n rhaid i fuddsoddiad drwy Trawsnewid Trefi gael ei ategu gan waith creu lleoedd o'r radd flaenaf. Credaf mai dyma lle mae’n ymwneud â'r hyn roeddech chi'n ei ddweud, a pham fod yr arolwg mor hollbwysig. Mae'n rhaid i greu lleoedd fod yn ganolog, a rhaid iddo fod yn fwy nag ymarfer ticio blychau, a rhaid iddo fod yn fwy na siop siarad. Credaf mai fel hyn y mae hi ym mhob man. Mae’n rhaid i’r gymuned ddod at ei gilydd a dweud beth maent am ei weld, ond hefyd, a dweud y gwir, mae'n ymwneud hefyd â’r gymuned yn derbyn y ffaith bod yn rhaid iddynt wedyn fynd i ganol eu trefi a gwario eu harian yno.
Felly, byddwn yn croesawu sgwrs bellach am hyn, oherwydd yn amlwg, byddai'n dda clywed eich barn ar y buddsoddiad yng Nghastell-nedd, a gweld sut mae'n mynd ac yn datblygu, ac yn cael ei groesawu gan y gymuned, ond hefyd, a dweud y gwir, i gael golwg well ar rai o'r ymatebion i'r arolwg, sy'n swnio'n wych ac yn gadarnhaol ac yn obeithiol, a dyna sut rydym am i bawb deimlo am ganol eu tref.
Mae'n braf eich gweld fel Gweinidog. Weinidog, roedd canol ein trefi yn arfer bod yn asgwrn cefn i’n cymunedau, ond maent wedi cael eu dinistrio gan benderfyniadau cynllunio gwael a chystadleuaeth gan ddatblygiadau mawr ar gyrion y dref gyda pharcio am ddim. Mae angen inni annog mwy o bobl i siopa’n lleol a chefnogi manwerthwyr annibynnol rhagorol. I wneud hynny, mae angen inni ailgyflwyno parcio am ddim mewn lleoedd fel Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, yn ogystal â sicrhau chwarae teg o ran rhenti ac ardrethi. Weinidog, pa drafodaethau rydych chi wedi’u cael gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am y camau y gallant eu cymryd i adfywio canol ein trefi a denu mwy o fanwerthwyr annibynnol i’r mannau hyn a fu unwaith yn ganolfannau cymunedol?
Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn amlwg, mae gennym rai o'r ardaloedd y gwnaethoch chi sôn amdanynt yn gyffredin, yn fy etholaeth innau hefyd, felly rwyf am ddweud hynny. Ond fel y dywedoch chi, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn ymgysylltu â’r awdurdodau lleol sydd wedi cael y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru i weld sut mae’n cael ei wario, a hefyd i sicrhau ei fod yn cyflawni’r amcanion y mae’r gymuned gyfan yn dymuno eu gweld. Dywedaf, serch hynny, fy mod yn gwybod bod llawer iawn o awdurdodau lleol yn defnyddio’u harian i ddarparu parcio am ddim yng nghanol trefi, ac mae hyn yn aml yn dod gan y masnachwyr eu hunain sy’n gofyn am hynny, a chredaf fod hynny’n fuddiol iawn.
Credaf hefyd ei bod yn anodd iddynt ar hyn o bryd gyda’r cyllidebau sydd ganddynt, ond credaf fod llawer o bobl yn ystyried hynny'n rhywbeth cadarnhaol. A hefyd, mae canol llawer o drefi ar hyn o bryd—ac mae hyn yn ymwneud â nifer o bortffolios eraill—yn rhan o gynlluniau adfywio gwirioneddol ystyrlon. Mae'n ymwneud â'r hyn a ddywedais wrth Sioned Williams. Fel y gwyddom, mae’n wirioneddol bwysig felly fod y cymunedau a’r masnachwyr oll yn cael dweud eu barn yn hynny o beth. Nid wyf am i bobl deimlo fel pe bai pethau'n cael eu gwneud iddynt; mae'n rhaid inni ddod â phawb gyda ni. Ac mae cymaint o bethau ynghlwm wrth wneud canol tref yn fendigedig ac yn rhagorol, a chredaf fod llawer o'r nodau llesiant a osodwyd gennym hefyd fel Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at hynny, a hoffwn weld hyn oll yn dwyn ffrwyth gyda chanol ein trefi.
Fe sonioch chi am ardrethi busnes. Mae hyn yn rhywbeth sy'n codi. Mewn ymateb i'ch cwestiwn am gyfarfod ag awdurdodau lleol, nid wyf wedi cael cyfle i gyfarfod â nhw fel grŵp eto, ond byddaf yn gwneud hynny, ac mae hyn yn rhywbeth y gwn y byddant yn ei drafod ymhellach gyda mi. Byddwn bob amser yn ymdrechu i wneud popeth a allwn i gefnogi canol ein trefi a’n sector manwerthu. Diolch.