Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 5 Mehefin 2024.
Wel, credaf y byddai’n ddefnyddiol pe bai'r Aelod yn cydnabod y ffaith bod lefel yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Lafur newydd yn ei haddo yn newid sylweddol o’r hyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am wneud hynny a'i ailadrodd eto yma heddiw. Mae’r cyllid—ac mae trafodaethau wedi bod, yn amlwg—ynghylch sut y caiff ei ddefnyddio yn fater y bydd angen gweithio arno ar y cyd â chwmnïau cynhyrchu dur yn y DU, ond nid yw hynny’n rhywbeth y gall gwrthblaid ei wneud. Y pwynt rwy'n ei wneud i chi, a chredaf fy mod wedi gwneud y pwynt yn y drafodaeth hon, os caf ddweud, yw bod hynny'n newid sylweddol o’r dirwedd bresennol, ac felly fod angen edrych eto ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud heddiw yng nghyd-destun yr hyn a fyddai’n Llywodraeth y DU lawer mwy cefnogol, un sydd wedi ymrwymo go iawn i gynhyrchu dur, ond hefyd i greu’r galw yn yr economi am gynhyrchu mwy o ddur.