1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am ar 5 Mehefin 2024.
2. Pa fwriad sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ehangu safonau'r iaith Gymraeg i sectorau eraill? OQ61209
Rwy’n ymrwymedig i ddod â mwy o gyrff o dan y drefn safonau. Fel y soniais i'n fras jest nawr, y flaenoriaeth ar gyfer y cyfnod sy’n weddill o’r Senedd hon yw paratoi rheoliadau safonau ar gyfer cyrff cyhoeddus sydd y tu allan i’r gyfundrefn ar hyn o bryd, ac wedyn cymdeithasau tai a darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus.
Rŷch chi eisoes y prynhawn yma wedi sôn eich bod chi'n siomedig ynglŷn â phenderfyniad HSBC i ddod i ben â'u gwasanaeth llinell gymorth Gymraeg. Nawr, ar y pryd, roedden nhw'n derbyn 22 galwad y dydd i'r llinell Gymraeg yna. Ers symud i fodel ble mae pobl yn cael gofyn am alwad yn ôl, maen nhw ond wedi derbyn 17 cais mewn cyfnod o dri mis. Felly, mae'n amlwg nad yw'r gyfundrefn newydd yna'n gweithio, ac mae'n amlwg nad yw y sector bancio, ar y cyfan, yn cwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg, nac, yn wir, yn darparu gwasanaethau sylfaenol yn ein hiaith ni ein hunain. Nawr, gaf i ofyn, felly—? Rŷch chi eisoes wedi dweud nad ydych chi'n hapus â hynny, ac rŷch chi'n derbyn ei fod e'n annerbyniol. Y cwestiwn yw, felly: beth rŷch chi'n gwneud am y peth? Mi allech chi ddod â banciau o dan safonau'r iaith Gymraeg, felly pam na wnewch chi hynny?
Wel, fe wnaethom ni gytuno rhaglen er mwyn ymestyn y safonau gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae hynny'n golygu bod y ddwy blaid yn blaenoriaethu'r hyn roeddwn i'n credu oedd yn cael yr impact mwyaf, ac wedyn yn sicrhau ein bod ni'n delifro hynny. Dyna rŷn ni wedi gwneud, ac rwy'n ymrwymo i barhau i wneud hynny dros weddill tymor y Senedd hon, er gwaetha'r ffaith bod y cytundeb, wrth gwrs, wedi dod i ben. Mae hynny'n fater o ewyllys da. Ond, rwy'n credu mai beth mae'r drafodaeth hon yn dangos i ni yw nad jest cyrff cyhoeddus sy'n diwallu anghenion bob dydd pobl. Felly, mae gyda ni bwerau eisoes o dan y Ddeddf i ymestyn ar gyfer rhai elfennau o'r sector preifat, ond bydd angen diwygio pellach er mwyn ymestyn i gyffwrdd â'r holl rŷn ni wedi eu trafod heddiw. Rwy'n credu bod achos i edrych ar hyn, ond, yn anffodus, ar gyfer y Senedd nesaf y bydd hynny, yn ymarferol.
Wrth gwrs, Weinidog, byddwn yn awgrymu mai rhan bwysig o safonau’r Gymraeg yw nid yn unig gwasanaethu pobl a chefnogi pobl sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd, ond annog mwy o bobl i siarad Cymraeg yn rheolaidd hefyd. Fel y saif pethau, nid yw'n edrych yn debyg y bydd targed 'Cymraeg 2050' o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei gyflawni, sy'n amlwg yn achos pryder. Dangosodd canlyniadau cyfrifiad 2021 y ganran isaf erioed o siaradwyr Cymraeg i gael eu cofnodi mewn cyfrifiad. Felly, ar sail hynny, tybed pa asesiad rydych wedi'i wneud o'r rôl y gall safonau'r Gymraeg ei chwarae i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i helpu i gyflawni'r nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050?
Fydden i ddim yn cytuno bod y nod sydd gyda ni yn un na allwn ni ei gyrraedd. Mi fydd e'n sicr yn heriol, ac rŷn ni i gyd yn gyfarwydd â hynny. Ac rŷn ni wedi trafod yn y Siambr hon sawl gwaith erbyn hyn yr her o ran casglu data sy'n caniatáu i ni gael taflwybr a fydd yn sicrhau ein bod ni ar y trac er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Ac mae cwestiynau'n codi ynglŷn â'r data a sut mae hynny'n gyson ag arolygon eraill sy'n dangos darlun llawer mwy positif o ble rŷn ni o ran y Gymraeg. Byddwn i'n dweud bod gan y safonau rôl. Fy marn bersonol i yw nad hynny yw'r prif ffordd o sicrhau bod gyda ni fwy o siaradwyr, mwy o bobl yn dysgu'r Gymraeg. Sicrhau ein bod ni'n dysgu'r Gymraeg i bobl a bod cyfleoedd iddyn nhw ei defnyddio mewn pob mathau o ffyrdd yw'r ffordd debycaf, yn fy marn i, o gyrraedd y nod honno. Ond rwy'n sicr yn cydnabod bod galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan bwysig o normaleiddio defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Felly, mae ganddi rôl bwysig i'w chwarae.