Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 5 Mehefin 2024.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ymateb i ddadl y Llywodraeth ddoe ar ddur a mynegi fy siom fod gwelliannau Plaid Cymru i’r cynnig wedi eu gwrthod. Ni chredaf y gall y Llywodraeth, na’r Torïaid o ran hynny, honni gydag unrhyw hygrededd eu bod yn dymuno gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn os nad ydynt hyd yn oed yn fodlon ymrwymo i archwilio'r opsiynau eraill a gynigiwyd. Mae’r hyn y mae Plaid Cymru wedi’i awgrymu yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn hawdd. Ac fel y gwnaeth Adam Price ein hatgoffa neithiwr, y Senedd yw’r cyfan sydd ar ôl o ganlyniad i’r etholiad cyffredinol. Y lle hwn yw'r amddiffynfa olaf. Ac er fy mod yn gwerthfawrogi ei gydnabyddiaeth mai Plaid Cymru sydd wedi bod yn cynnig yr atebion hyn, ei Lywodraeth ef sydd â'r adnoddau i wneud y gwaith a darparu atebion i weld a yw'r atebion posibl hyn yn ymarferol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod hynny o leiaf?