– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 4 Mehefin 2024.
Y datganiad nesaf fydd yr un gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ar drawsnewid gwasanaethau plant. Y Gweinidog, felly, i gyflwyno'r datganiad—Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Ychydig cyn y toriad, cefais y fraint wirioneddol o gyflwyno'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) i'r Senedd hon fel un o'm gweithredoedd cyntaf fel y Gweinidog Gofal Cymdeithasol. Yn ystod y datganiad, cafwyd llawer o gwestiynau gan yr Aelodau am wasanaethau plant yn gyffredinol. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle hwn i roi diweddariad amserol i'r Aelodau ar ein cynnydd o ran cyflawni'r wyth ymrwymiad penodol yn y rhaglen lywodraethu a fydd yn trawsnewid gofal cymdeithasol plant yng Nghymru yn sylweddol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ymdrin yn fanylach â rhai o'r meysydd a drafodwyd gennym yn ystod y datganiad ar y Bil iechyd a gofal cymdeithasol.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod wedi ymrwymo'n gadarn i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon drwy wneud popeth o fewn fy ngallu i, a phopeth y gall y Llywodraeth hon ei wneud, i gefnogi teuluoedd i ofalu am eu plant yn llwyddiannus. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, Julie Morgan, sydd wedi gwneud cymaint o gynnydd yn y maes hwn. Dyma'r trawsnewidiad mwyaf o wasanaethau plant yn ystod ein hoes. Rydym am newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu fel ein bod yn canolbwyntio ar gadw teuluoedd gyda'i gilydd, agenda ataliol, gyda llai o blant yn cael eu derbyn i ofal ac anghenion plant wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae ein huwchgynadleddau blynyddol profiad o ofal wedi rhoi llais i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal rannu eu profiadau a rhannu eu syniadau â Gweinidogion am y newidiadau maen nhw'n credu y mae angen eu gwneud. Rydym yn bwrw ymlaen â gwaith i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yn natganiad yr uwchgynhadledd profiad o ofal, sef y cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi ymrwymo i gyflawni'r uchelgais a amlinellwyd gan y llysgenhadon ifanc, a bydd y ddau ohonom yn llofnodi'r datganiad gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ddiweddarach y mis hwn, gan bwysleisio ein hymrwymiad i'w gyflawni.
Mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio erbyn hyn ers i'n grŵp cyflawni ar gyfer trawsnewid gael ei sefydlu, ac mae gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal sedd ar y grŵp hwn, sy'n gyfrifol am fwrw ymlaen â dau faes gwaith. Mae'r cyntaf yn canolbwyntio ar ddata a metrigau, a'r ail ar atal a chymorth cynnar, gan gydnabod yr angen am gymorth dwys, cofleidiol ar ffiniau gofal ar gyfer rhieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn lleihau'r risg y bydd eu plant yn cael eu cymryd oddi arnynt.
Rydym yn buddsoddi £1.6 miliwn i gryfhau a chynyddu eiriolaeth rhieni. Mae'r prosiectau hyn yn cefnogi rhieni i ymgysylltu â gweithwyr cymdeithasol, sefydliadau trydydd sector, llysoedd teulu a gweithwyr proffesiynol eraill i ddatrys materion sy'n cael effaith negyddol ar eu teulu. Bydd y cyllid yn sicrhau bod gwasanaethau newydd yn cael eu sefydlu ym mhob un o'r saith rhanbarth yng Nghymru fel rhan o'r broses o gyflwyno eiriolaeth rhieni yn genedlaethol.
Yn ganolog i'r gwaith trawsnewid mae datblygu a chyflwyno'r fframwaith ymarfer cenedlaethol. Dyma fydd y set gyntaf o safonau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru a bydd yn cael ei chynllunio i gyd-fynd â gweithdrefnau eraill Cymru gyfan, megis gweithdrefnau diogelu Cymru gyfan. Rydym wedi datblygu a gweithio ar y chwe safon gyntaf ac, erbyn hyn, rydym yn datblygu drafft llawn y fframwaith, a fydd yn cael ei rannu â gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr dros yr haf. Bydd y fframwaith llawn yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gyda'i ddarpariaeth graidd i ddileu elw preifat o ofal plant, os caiff ei basio, yn bodloni un arall o'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu i helpu i drawsnewid gofal plant. Fodd bynnag, fel yr eglurais yn fy natganiad diwethaf i chi, mae dileu elw preifat yn ymwneud â llawer mwy na dim ond y model o berchnogaeth ac elw yn y dyfodol. Mae'n ymwneud ag adeiladu gwytnwch yn y sector bregus hwn; mae'n ymwneud â'r ffordd orau o ddiwallu anghenion gofal a chymorth plant a phobl ifanc; mae'n ymwneud â sut rydym yn eu cadw yn eu cymunedau lleol a sut rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi i fod gyda'u teuluoedd.
Gwnaethom lansio'r siarter rhianta corfforaethol ym mis Medi y llynedd, ac rwy'n falch o nodi bod 40 o sefydliadau wedi cytuno i'w chefnogi hyd yma, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru. Rydym yn parhau i annog pob corff cyhoeddus a sefydliad preifat a'r trydydd sector i ddod yn rhieni corfforaethol, a byddwn yn eich annog i wneud yr un peth. Byddwn yn cryfhau canllawiau i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ynghylch rhianta corfforaethol gyda phennod benodol yng nghod ymarfer Rhan 6 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd hyn yn nodi'n llawer cliriach eu dyletswyddau fel rhieni corfforaethol ac yn gyrru dull strategol cryfach a thraws-sector o ymdrin â rhianta corfforaethol.
Rwyf am droi nawr at sut rydym yn bodloni'r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi plant ag anghenion cymhleth. Rhwng 2021 a 2023, rydym wedi sicrhau bod £3.5 miliwn o gyllid llety rhanbarthol ar gael i ddarparu 15 o brosiectau ledled Cymru. Mae hyn wedi arwain at greu 26 o welyau newydd ar gyfer plant ag anghenion cymhleth a chefnogaeth i 62 o blant a phobl ifanc eraill. Ers hynny, rydym wedi dyrannu £23 miliwn arall ac rydym yn parhau i dderbyn cynigion drwy'r gronfa tai â gofal. Bydd hyn yn darparu 96 o welyau ychwanegol ac, o'r rhain, mae pum cartref eisoes yn weithredol, gyda 15 o welyau.
Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn cynnwys buddsoddiad sylweddol o tua £18 miliwn y flwyddyn i gefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel ac i ddarparu cymorth therapiwtig i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi'n helaeth yn ein cynllun maethu cenedlaethol, Maethu Cymru, i wella gallu gwasanaethau maethu awdurdodau lleol i recriwtio a chadw gofalwyr maeth. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr maeth sy'n berthnasau yn derbyn yr un gefnogaeth â gofalwyr maeth prif ffrwd, a thrwy ymrwymiad cenedlaethol Maethu Cymru rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod pecyn o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision y cytunwyd arno ar gael yn gyson i bob gofalwr maeth drwy bob un o’r 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae'r ymrwymiad olaf yn y rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i barhau i gefnogi a chynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches ac mae'n cyd-fynd i raddau helaeth â'n dull cenedl noddfa. Yng Nghymru, rydym yn trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches fel plentyn sy'n derbyn gofal. Rydym yn falch o fabwysiadu dull 'plentyn yn gyntaf', sy'n cynnal buddiannau gorau a hawliau darparu gofal a chymorth i bob plentyn yng Nghymru. Rwy'n ymrwymedig i weithio gyda phob awdurdod lleol a phartneriaid yn y trydydd sector i sicrhau bod pob plentyn ar ei ben ei hun yn cael mynediad at y gofal, y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arno tra ei fod dan ofal awdurdodau lleol yng Nghymru. Ni fyddwn yn pardduo nac yn gwleidyddoli'r plant a'r bobl ifanc hyn sy'n agored iawn i niwed. Byddwn yn rhoi croeso cynnes iddynt a'r un cyfleoedd â phlant a phobl ifanc yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, rydym am i bob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a chyrraedd ei lawn botensial. Bydd trawsnewid gwasanaethau plant i roi eu hanghenion yn gyntaf yn sicrhau canlyniadau gwell i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Trawsnewid gofal plant yw un o'r tasgau pwysicaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Fel y mae'r Gweinidog yn derbyn yn briodol, mae llawer gormod o blant yn mynd i mewn i'r system gofal ffurfiol—nifer uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu, nid yn unig i sicrhau diogelwch plant, ond hefyd i sicrhau nad ydynt yn mynd i mewn i'r system gofal yn ddiangen. Felly, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i agenda ataliol.
Fel y dywedais wrth i ni ryngweithio yn ystod Pythefnos Gofal Maethu, roedd y rhaglen 'Step Up Step Down' yn sicrhau canlyniadau addawol. Gweinidog, yn eich ymateb i Julie Morgan, dywedoch ei bod hi'n rhy gynnar i werthuso'r rhaglen, ond eich bod wedi gobeithio ymweld â pheilot Gogledd Iwerddon. A allwch roi unrhyw ddiweddariadau pellach ar yr ymweliad hwnnw? Rwyf hefyd yn croesawu datblygu fframwaith ymarfer cenedlaethol. Mae angen set genedlaethol o safonau arnom, a byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe gallech ehangu ar yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r fframwaith llawn a pha mor rhwymol fydd y safonau ar ddarparwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
O ran y siarter rhianta corfforaethol, Gweinidog, a allwch amlinellu a oes awdurdodau lleol o hyd nad ydynt wedi cytuno i gefnogi'r siarter? Yn anffodus, mae gormod o amrywiaeth o hyd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal fesul 10,000 o'r boblogaeth yn ôl ardal awdurdod lleol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gweld nifer y plant sy'n derbyn gofal yn dyblu o gymharu â chynghorau eraill sydd â demograffeg debyg. Hefyd, yn fwy brawychus, mae gennym awdurdodau lleol o hyd sydd wedi colli golwg ar blant yn eu gofal. Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r amrywiad hwn ac a ydych yn credu y bydd y siarter yn helpu i fynd i'r afael ag achosion o blant sydd ar goll o ofal?
Yn olaf, Gweinidog, rwyf am ailadrodd fy ymrwymiad i chi i weithio gyda chi i sicrhau bod gwasanaethau plant yn cael eu trawsnewid, gan roi plant yn gyntaf a helpu i sicrhau bod ein plant yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Diolch yn fawr.
Diolch, Altaf. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch yn fawr iawn i chi am y sylwadau hynny? Rwy'n croesawu'r cyfle i weithio gyda chi. Rwy'n credu bod consensws i raddau helaeth ynghylch yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni yma. Mae hyn yn ymwneud â cheisio lleihau nifer y plant a welwn mewn gofal ledled Cymru, ac mae popeth yr ydym yn ei wneud drwy'r rhaglen drawsnewid hon a'r wyth ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu sy'n ceisio cyflawni hyn yn ymwneud â chyflawni'r nod hwnnw. Fel y soniwyd yn flaenorol, cyflwynais y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), sy'n ymwneud â dileu elw mewn gofal plant, ond mae'n ymwneud â llawer mwy na hynny; mae'n ymwneud ag ail-gydbwyso'n llwyr y ffordd rydym yn darparu gofal i blant a, lle mae'n rhaid, y ffordd rydym yn darparu gofal preswyl. Mae'r rhaglen gyfan hon yn ymwneud â lleihau'r galw am y math hwnnw o ofal preswyl. Oherwydd yr hyn y mae pob un ohonom yn ei wybod yw mai’r lle gorau i blant fod, lle gellir gwneud hynny'n ddiogel, yw i aros gyda'u teuluoedd yn eu cymunedau. A dyna hanfod ein hagenda ataliol.
Fe wnaethoch chi sôn am y fframwaith ymarfer cenedlaethol; rydym yn anelu at roi hwn ar waith erbyn mis Medi, erbyn yr hydref, ac mae'n mynd i fod yn gymysgedd o ofynion gorfodol a chyfarwyddiadau ymarfer. Mae'n ymwneud â sicrhau bod agweddau allweddol ar ymarfer yn gyson ledled Cymru. Rhoddaf enghraifft i chi. Mae gennym 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru, a gwelwn rai awdurdodau lleol yn cymryd mwy o blant i ofal nag awdurdodau lleol eraill. Ac nid yw hynny oherwydd bod y plant hynny'n arbennig o wahanol; mae'n ymwneud â'r gwahanol ddulliau a welwn mewn gwahanol awdurdodau lleol. Mae rhai gwasanaethau cymdeithasol a rhai gweithwyr cymdeithasol yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y plant hynny'n aros gyda'u teuluoedd. Maen nhw, os mynnwch chi, ychydig yn llai gwrthwynebus i risg, ond mae bod yn llai gwrthwynebus i risg yn eithaf llafurddwys, ac mae'n rhaid i chi weithio'n galed iawn gyda'r teuluoedd hynny. Mae'n rhaid i ni weld newid diwylliannol mawr ar draws ein holl awdurdodau lleol i wneud hynny. Rydym yn gobeithio'n fawr, gyda fframwaith cenedlaethol sy'n datblygu'r awgrymiadau hynny ac yn datblygu'r arferion hynny, y bydd gweithwyr cymdeithasol yn yr ardaloedd hynny yn teimlo'n fwy hyderus ynghylch gweithio yn y ffordd yr ydym am iddynt weithio a chadw cynifer o blant â phosibl allan o ofal.
O ran rhianta corfforaethol, rydym yn hapus iawn gyda nifer y sefydliadau sydd wedi cofrestru hyd yma. Mae deugain o sefydliadau—a'r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol—wedi cofrestru. Nid yw rhai wedi cofrestru o hyd, ac nid yw hynny oherwydd diffyg parodrwydd i wneud hynny. Rwy'n credu i lawer o sefydliadau nad ydynt wedi cofrestru eto, nid ydynt yn gwbl glir ynghylch beth fyddai'r cyfrifoldeb. Dyna pam rydym yn mynd i ymgorffori a chryfhau'r canllawiau, fel y dywedais yn fy natganiad, i sicrhau ein bod yn ymgorffori hynny yn Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel y bydd yn dod yn llawer cliriach. Mae nifer o sefydliadau wedi dweud wrthym eu bod yn barod i wneud hyn, ond maen nhw am sicrhau eu bod yn barod ar ei gyfer cyn iddyn nhw ei wneud. Dydyn nhw ddim eisiau mynd i mewn i wneud rhywbeth ac yna canfod na allant gyflawni'r hyn sydd ei angen arnom. Felly, rwy'n credu ei bod yn well i'r sefydliadau hynny weithio gyda ni i nodi ble mae'r bylchau yn eu sefydliad a allai eu hatal rhag cofrestru, ac yna, pan fyddant yn barod i wneud hynny, ein bod yn eu cofrestru. Mae'r broses sydd gennym yn un barhaus, ond rwy'n falch iawn bod gennym 40 o sefydliadau wedi cofrestru erbyn hyn.
Bydd y fframwaith cenedlaethol, rwy'n credu, hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r mater yr ydych wedi'i godi ynghylch plant sydd ar goll o ofal. Ychydig iawn ohonyn nhw sydd—yn ystadegol, mae hwnnw'n nifer bach iawn, iawn—ond mae unrhyw nifer yn ormod. Yn anffodus, mewn rhai o'r rhai a welwn gyda'r lefel uchaf o blant sydd ar goll o ofal, mae'n tueddu i fod ymhlith ceiswyr lloches ar eu pennau eu hunain. Mae hynny am nifer o resymau cymhleth iawn, yn anad dim bod rhai o'r plant hyn sy'n dod yma yn cael eu masnachu ac mae rhai ar eu pennau eu hunain, ac maent yn cael eu symud i ddiwylliant newydd ac amgylchedd newydd. Mae'n gyfnod brawychus iddyn nhw, ac rydym wedi gweld un neu ddau o'r rheini'n diflannu. Mae hynny'n fy mhoeni, oherwydd tybed i ble aiff y plant hynny yn y pen draw, yn enwedig os ydyn nhw'n blant sydd wedi cael eu masnachu. Ond rwy'n hyderus iawn y bydd y darpariaethau o fewn y fframwaith ymarfer cenedlaethol, pan gaiff ei gyflwyno a phan gaiff ei gymhwyso'n gyson ar draws pob ardal awdurdod lleol, yn ein helpu i nodi a sicrhau na fydd hynny'n digwydd.
A gaf i gychwyn drwy ddatgan buddiant, gan fod fy ngwraig wych yn gweithio i elusen yn y sector yma? Mae adeiladu cenedl sydd yn galluogi cenedlaethau'r dyfodol i ffynnu, lle nad yw un plentyn yn cael ei adael ar ei ôl oherwydd amgylchiadau personol sydd y tu hwnt i'w reolaeth, yn achos sydd yn greiddiol i ethos a daliadau Plaid Cymru. Oherwydd ein cred ddiysgwyd yn hyn, mi rydym ni yn ymfalchïo bod y rhaglen yma ar gyfer gwasanaethau plant yn cynnwys y mesur blaengar o gael gwared ag elw o'r sector plant sydd yn derbyn gofal, a oedd, wrth gwrs, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu a oedd yn bodoli rhyngom ni a'r Llywodraeth.
Yn wahanol i ddaliadau craidd y Blaid Geidwadol, ac, yn wir, carfan sylweddol o'r Blaid Lafur Brydeinig, yn cynnwys yr Ysgrifennydd iechyd cysgodol, mi rydym ni yn ymwrthod yn llwyr â'r mantra mai'r farchnad sydd yn gwybod orau pan fo'n dod i ddarparu ar gyfer anghenion iechyd a lles ein cymdeithas, ac yn enwedig, felly, plant bregus. Fe wnaeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd y pwynt yn glir yn eu hadroddiad yn 2022 drwy ddangos sut mae'r farchnad plant mewn gofal yn gwyro yn sylweddol ac yn anghymesur o blaid darparwyr preifat, gyda'r darparwyr yma yn medru codi crocbris am eu gwasanaethau, wrth i allu awdurdodau lleol i ddarparu'r gofal maeth eu hunain erydu yn sylweddol yn sgil 14 mlynedd o lymder ideolegol Ceidwadol. Canlyniad hyn ydy model o wasanaethau plant mewn gofal sydd wedi torri yn sylfaenol yma yng Nghymru, ac sydd wedi tanseilio'n gyfan gwbl yr elfennau hollbwysig o barhad gofal pan ei fod yn dod at ddarparu'r gwasanaeth, a lleoliad ardaloedd daearyddol.
Roedd hi'n hen bryd diwygio yn y maes hwn, ac felly rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fwrw ymlaen â pholisi Plaid Cymru drwy'r Bil iechyd a gofal cymdeithasol. Ond yn debyg iawn i ymgais yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd i berswadio pleidleiswyr bod ei phlaid ar flaen y gad o ran moderneiddio'r GIG yng Nghymru, mae'n rhaid cymryd y syniad y gellir ymddiried yn Llafur Cymru i drawsnewid gwasanaethau plant yn ehangach, ar ôl 25 mlynedd mewn grym, gyda phinsiad mawr o halen. Wedi'r cyfan, chwarter canrif ers dechrau datganoli, mae bron i draean o blant yng Nghymru yn byw mewn cyflwr o dlodi, gyda galwadau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaethau tlodi plant wedi'u cefnogi gan dargedau cadarn a chlir yn parhau i syrthio ar glustiau byddar. Yn y cyfamser, mae ystadegau diweddar gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn tanlinellu bylchau brawychus yn y gweithlu gofal plant, gyda chynnydd o 38.3 y cant yn nifer y swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol plant yn 2022, yr oedd dros 50 y cant ohonynt yn swyddi gwag i weithwyr cymdeithasol cymwysedig.
Rydym yn deall cyfyngiadau cynhenid adnoddau'r Llywodraeth yn hyn o beth, sydd yn y pen draw yn deillio o annhegwch fformiwla Barnett sydd wedi gadael Cymru ar ei cholled o'r naill flwyddyn i'r llall. Ond er mai hi yw'r wlad, y gellid dadlau, y mae'r Blaid Lafur yn fwyaf dyledus iddi, o ran ei llwyddiant etholiadol a'i bodolaeth, mae'n ddyfarniad damniol o'r ffordd y caiff Cymru ei chymryd yn ganiataol gan Keir Starmer ei fod yn gwrthod ymrwymo i gael gwared ar fformiwla anghyfiawn Barnett. Mae'r ymdeimlad hwn o hunanfodlonrwydd wedi'i grynhoi gan chwe addewid ymgyrch etholiad cyffredinol Llafur i Gymru, y mae pedwar ohonynt wedi bod yn gyfrifoldeb datganoledig Llywodraeth Lafur Cymru ers blynyddoedd. A dweud y gwir, mae hyn yn sarhad ar ddeallusrwydd pleidleiswyr Cymru. Ond yn hytrach na beirniadu difaterwch arweinydd y DU, a mynnu gwell i Gymru o'r Llywodraeth sy'n dod i mewn, ymddengys fod Gweinidogion Cymru wedi bod yn fodlon mabwysiadu dull 'aros a gobeithio am y gorau', tra bod ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys gwasanaethau plant, yn parhau i blygu oherwydd diffyg cyllid.
Ni allwn ddymuno am ddyfodol mwy disglair i'n plant o ewyllys da yn unig, mae angen yr adnoddau ymarferol arnoch i'w adeiladu. Felly, fy nghwestiwn i, ar ddiwedd fy nghyfraniad i'r Gweinidog yw: a wnaiff y Blaid Lafur, ledled y DU, ymrwymo i ddiwygio fformiwla Barnett, a fformiwla ariannu Cymru, er mwyn cyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog wedi nodi y bwriedir ei gyflawni yma heddiw?
Gallai newid er gwaeth.
O dan Lafur?
[Anghlywadwy.]
Diolch, Mabon. Diolch am y sylwadau hynny. Rydym yn amlwg yng nghanol etholiad cyffredinol o ddifrif erbyn hyn, onid ydyn, felly cyfeiriwyd y rhan fwyaf o'r sylwadau hynny at Lafur y DU, yn hytrach nag at Lafur Cymru, o ran yr hyn y gallaf i fel Gweinidog Cymru ei wneud a'r hyn rwyf yn ei wneud. Felly, byddaf yn canolbwyntio ar ymateb i'r pethau rwy'n gyfrifol amdanynt, ac yna byddwn yn parhau ac yn ymgyrchu dros ein partïon priodol y tu allan i'r Siambr hon. Rwy'n gobeithio y byddaf yn gweld Keir Starmer yn Rhif 10 ar ôl 4 Gorffennaf, ac rwy'n siŵr y byddwn ni mewn sefyllfa lawer gwell nag yr ydym ni nawr.
Yn amlwg, o'n sefyllfa ariannol ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod dim o ran ble fyddwn ni o fis Mawrth 2025. Mae gennym ni gyllid a setliadau cyllideb hyd at fis Mawrth 2025. Mae Llywodraeth newydd sy'n dod i mewn yn mynd i fod â dull gwahanol iawn o ymdrin ag ystod eang o bethau, felly ni allwn siarad y tu hwnt i hynny mewn gwirionedd. Ond un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud, i'n cadw ar sail gadarnhaol, oherwydd nid wyf yn credu bod gwahaniaeth enfawr rhyngom o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma, yw bod gennym ddyhead ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau plant. Ac rydych chi'n llygad eich lle, fe wnaethon ni weithio'n dda iawn gyda'n gilydd ar y cytundeb cydweithio, ac rwy'n difaru'n fawr iawn bod y cytundeb hwnnw wedi dod i ben, yn enwedig o ran meysydd o'r rhaglen dileu yn benodol. Rydym wedi gweithio'n agos, rydym wedi gweithio ar y cyd, ac roedd gennym agenda ar y cyd ac roeddem ar y llwybr hwnnw i gyflawni'r agenda ar y cyd honno. Mae'n rhaid i ni gyflawni hynny ar ein pennau ein hunain nawr, fel Llywodraeth Cymru, ond rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i gael cefnogaeth Plaid Cymru, gan ei bod yn ymddangos bod ganddi gefnogaeth gyffredinol meinciau'r Ceidwadwyr hefyd.
Mae yna heriau—wrth gwrs mae yna heriau. Allwn ni ddim esgus nad oes unrhyw heriau. Rwy'n lansio strategaeth gweithlu newydd yr wythnos hon, sy'n mynd i'r afael â nifer o'r pwyntiau rydych wedi'u codi. Rydym wedi gwneud llawer iawn yn y maes hwnnw eisoes, yn enwedig o ran dod â'r cyflog byw gwirioneddol i mewn i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Ond y tu hwnt i gyflogau, hyfforddiant a datblygu gyrfa, proffesiynoli, sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru a hynny i gyd—mae'r cyfan yn helpu tuag at ein symud i weithlu gofal cymdeithasol proffesiynol, lle gallwn ni ddatblygu ein gweithlu ein hunain hefyd, lle gallwn ni gael pobl sy'n dod i mewn fel gweithwyr gofal cymdeithasol ond sy'n gallu datblygu o fewn y rôl honno i ddod yn weithwyr cymdeithasol ac sydd, yn y pen draw, yn dod yn arweinwyr ein gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol.
Felly, mae gen i gryn uchelgais ar gyfer hynny. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi'i hyrwyddo ers ymhell cyn i mi ddod i mewn i'r Senedd hon. Fel y byddwch yn ei werthfawrogi, roeddwn i'n swyddog Unsain ers talwm, felly rydw i wedi bod yn hyrwyddo hyn ers amser maith, ac rydym wedi gweld llawer iawn o lwyddiant a chynnydd anhygoel yn y maes hwnnw, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n hundebau llafur, ac mae gennym y fforwm gofal cymdeithasol, ac erbyn hyn rydym yn cyflwyno cynigion ar gyfer symud y mathau hynny o amodau cyflog, polisïau datblygiad cyflog, i'r sector preifat yn ogystal ag i'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud, ond rwy'n credu ein bod ni yn dal i fod ar y ffordd honno.
O ran dileu, rwyf eisiau ail-bwysleisio, am wn i, y pwyntiau roeddech chi'n eu gwneud, Mabon, bod cael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yn rhywbeth rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'w wneud, ac rydym wedi ymrwymo i'w wneud oherwydd ein bod yn gwybod mai dyna beth mae plant eu hunain—y lleisiau o ofal, y plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal eu hunain—wedi dweud, eu bod yn gwrthwynebu'n gryf sefydliadau yn elwa o'r profiad o fod mewn gofal, ac mae angen i ni wrando arnynt. Mae angen i ni wrando ar leisiau plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. A dydyn ni ddim yn sôn am blant ifanc iawn—rydym yn sôn am bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi bod drwy'r system ac sydd bellach wedi cyrraedd yr oedran hwnnw lle maen nhw'n gallu mynegi sut roeddent yn teimlo fwy na thebyg yn blant ifanc iawn, ond sydd bellach yn gallu ei fynegi, ac mae'n rhaid i ni wrando arnyn nhw.
Mae'r cysyniad o elw yn cael ei dalu i gyfranddalwyr ar gefnau'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn anathema i mi, ac rwy'n siŵr ei fod i chithau, ac rydw i am weld yr arian hwnnw sy'n mynd mewn elw i gyfranddalwyr ar hyn o bryd yn cael ei ailfuddsoddi yng ngofal ein plant a'n pobl ifanc.
Felly, ydy, mae'n rhaglen uchelgeisiol iawn. Mae'r rhan fwyaf o'n rhaglen eisoes wedi'i chostio. Rwyf wedi nodi'n hollol glir rywfaint o'r gwariant yn barod, a byddwn yn edrych i hwnnw gael ei ddatblygu a chynyddu wrth i ni fynd ymlaen.
Byddaf yn y pwyllgor ddydd Iau gyda chi, lle byddwch yn craffu ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), ac rwy'n siŵr y byddwn yn archwilio hyn ymhellach o lawer bryd hynny. Ond fel y dywedais, fy safbwynt i wrth sefyll yma heddiw yw ein bod wedi ymrwymo'n llwyr, nid yn unig i gyflawni'r Bil iechyd a gofal cymdeithasol, ond pob elfen o drawsnewid gwasanaethau plant, a fydd yn cyfrannu at lwyddiant y Bil hwnnw.
Rwyf am ganolbwyntio ar Rannau 3 a 4, ond rwyf hefyd am nodi fy mod yn croesawu gweithio gyda Phlaid Cymru ar ddileu'r elfen elw honno o'r sector gofal. Ond oherwydd cyfyngiadau amser, rwyf am ganolbwyntio ar 3 a 4. Mae Rhan 3 yn ymwneud â rhannu, drwy fforwm arferion da, anghenion plant ag anghenion cymhleth sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa lle mae angen gofal preswyl arnynt. Mae'r arian, y £25.4 miliwn sydd wedi mynd i mewn i'r gronfa gofal integredig honno a'r gronfa tai â gofal ar gyfer lletya'r unigolion hynny, yn hanfodol. Mae'r rheswm pam fy mod i wedyn yn cysylltu â Rhan 4, gan gydnabod rôl y rhiant corfforaethol yma, yn eithaf amlwg, oherwydd rwy'n gobeithio, Gweinidog—a dyma fy nghwestiwn i, a dweud y gwir—y bydd hynny'n cael ei ategu gan arolygiaeth annibynnol a fydd yn adrodd. Yn fy marn i—. Gofynnaf mai adroddiad blynyddol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yw hwnnw, fel y gellir craffu arno, ac y gall y bobl hynny yn yr ardaloedd hynny, yn enwedig awdurdodau lleol, fod yn fodlon bod y plant y maent yn dal i fod yn gyfrifol amdanynt fel rhieni corfforaethol, ond nad ydynt yn byw o fewn eu hawdurdodaeth efallai—y gallant fodloni eu hunain drwy'r adroddiadau hynny bod y plant hynny wedi derbyn gofal yn effeithiol, yn effeithlon, ond hefyd eu bod yn cael gofal priodol.
Diolch, Joyce Watson, am y sylwadau hynny, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn rydych chi'n ei wneud. Mae arolygu yn gwbl hanfodol i ddatblygiad y gwasanaethau hyn. Mae gennym arolygiaeth dda iawn yng Nghymru. Mae gennym Arolygiaeth Gofal Cymru ar hyn o bryd, sy'n annibynnol ar y Llywodraeth. Gwnaethom yn siŵr bod yr arolygiaeth honno yn cael ei hariannu'n llawn fel y gallant barhau gyda'r arolygiadau hynny a'u harolygiadau ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant—y JICPAs, fel y'u gelwir—sy'n bwysig iawn lle mae gennym addysg ar y cyd, gofal ac ati, arolygiadau'r heddlu, y gambit cyfan.
Ac mae gennym rai enghreifftiau da iawn o rai o'r prosiectau sy'n darparu'r dull newydd neu'r mathau newydd o ofal i blant ag anghenion cymhleth. Mae yna ddau yn benodol yr hoffwn sôn amdanynt. Mae enghraifft o'r enw MyST yng Ngwent, ac mae hynny'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl hyd at 21 oed sy'n derbyn gofal, ac mae'n cynnwys plant drwy ofal cymdeithasol ac anghenion iechyd meddwl cymhleth iawn sy'n deillio o drawma cynnar. Ac mae honno wedi bod yn rhaglen lwyddiannus iawn. Felly, unwaith eto, mae'r rhain yn fodelau o ganolfannau sydd wedi'u sefydlu gyda'r gronfa honno y cyfeirioch ati a allai fod yn enghraifft o'r ffordd rydym yn eu cyflwyno mewn ardaloedd eraill, yn fy marn i.
Mae yna enghraifft arall o'r enw MAPS, ac maen nhw'n darparu hyd at 12 o sesiynau therapi i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal gan ddadansoddwyr ymddygiad, fel y gallant weithio gyda phobl ifanc i sefydlu emosiynau ac yn y blaen. Ac fe fydd yn gwbl hanfodol bod y gwasanaethau hynny'n cael yr arolygiad priodol, ein bod yn cael adborth nid yn unig eu bod yn darparu'r hyn yr ydym am iddynt ei gyflawni, ond bod hynny'n cael ei wneud mewn ffordd briodol mewn lleoliad priodol, ac rydym yn cael y canlyniadau y mae eu hangen arnom yn glir iawn. Ac, wrth gwrs, bydd hynny hefyd yn cael ei gynnwys yn y Ddeddf iechyd a gofal cymdeithasol, yn nhrydedd Rhan y Ddeddf ynghylch y rheoliadau y mae angen eu diwygio ar gyfer Deddfau eraill i'w cysoni â hyn.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ond rwy'n anghytuno â dileu'r elw, yn anffodus, ond nid yw'n ddim byd newydd, byddwch yn falch o glywed, oherwydd rwyf wedi trafod hyn ers amser maith gyda'ch rhagflaenydd, Julie Morgan, yn y Senedd ac yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd cefais y briff gwasanaethau cymdeithasol am dair blynedd. Felly, fe ymdriniais ag ef yn eithaf helaeth.
Y broblem sydd gennyf yw, yn amlwg, rydych chi'n gwneud y gymhariaeth â chyfranddalwyr mewn cwmnïau mwy, sy'n bwynt mwy dilys, ond cysylltwyd â mi pan oedd gen i'r portffolio gwasanaethau cymdeithasol gan berchnogion busnesau bach sydd wedi buddsoddi llawer o arian yn y busnesau hynny, a buddsoddiad personol i'r rheini ers blynyddoedd lawer. A gwnaethant gysylltu â mi i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â nhw yn ystod y cyfnod dilynol hwnnw o 2021 pan ffurfiwyd y cytundeb cydweithio, ac roeddwn i'n gobeithio, gyda Phrif Weinidog newydd a diwedd y cytundeb cydweithio, y byddai'n dod i ben, ond nid yw hynny'n wir.
A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd y prynhawn yma am pa ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda darparwyr gofal plant preifat ynglŷn â hynny, gan eu bod nhw'n cyfrif am 80 y cant o'r sector ar hyn o bryd? Mae'n darged uchelgeisiol, felly rwy'n meddwl tybed pa ymgynghoriad rydych chi wedi'i gael gyda'r sectorau hynny. Diolch.
Rwy'n credu eich bod chi ar y pwyllgor iechyd hefyd, Gareth, felly byddwn ni'n archwilio hyn—
Dydw i ddim mwyach.
O, dydych chi ddim mwyach. Iawn. Felly, fyddwch chi ddim yn archwilio hyn gyda mi ddydd Iau. Iawn. Wel, wna'i ddim mynd drwy'r agweddau dileu'r elw oherwydd, fel y dywedwch, mae hynny wedi cael ei drafod yn helaeth; dydyn ni ddim yn mynd i gytuno ar hynny, ond rwy'n deall y pwyntiau rydych yn eu gwneud. Rydym wedi nodi'n glir iawn yn y Bil y gwahanol fodelau o sefydliadau nid-er-elw y teimlwn y gallan nhw weithredu yn y maes hwn, sef sefydliadau trydydd sector, elusennau, awdurdod lleol ac yn y blaen.
Nawr, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw rhoi cyfle i lawer o'r sefydliadau llai rydych yn sôn amdanynt, y mae llawer ohonyn nhw—. Nid wyf yn awgrymu am eiliad nad yw'r sefydliadau hyn, y busnesau bach hyn sy'n rhedeg cartrefi plant yn gwneud hynny'n effeithiol ac nad ydynt yn ei wneud yn y ffordd iawn, ond nid ydym yn teimlo bod y sector yn ddigon gwydn ar hyn o bryd, oherwydd nid yw'r sector preifat, yn ein barn ni, yn darparu'r un lefel honno o wydnwch. A bydd disgwyl i awdurdodau lleol lunio cynllun cydnerthedd, lle bydd yn rhaid iddynt nodi bod ganddynt ddigon o leoedd i blant yn eu hardal leol, ar gyfer eu plant eu hunain, fel nad oes gennym gymaint o blant yn mynd allan o'r sir ac yn y blaen. Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni'n sôn am gyfnod pontio; nid ydym yn sôn am ymyl clogwyn, lle bydd yr holl ddarparwyr preifat hyn yn rhoi'r gorau i weithredu yn y farchnad yn sydyn. Bydd gan lawer ohonynt gontractau tymor hir gydag awdurdodau lleol, bydd ganddynt blant yn eu gofal lle dyna yw cartrefi'r plant hynny, ac nid ydym yn bwriadu tanseilio'r rheini. Ac fe fydd amgylchiadau achlysurol iawn lle gall y setiau mwyaf cymhleth ac anarferol o amgylchiadau ei gwneud yn ofynnol i ni leoli plentyn mewn darpariaeth breifat, ac mae'r Bil yn darparu ar gyfer hynny hefyd. Yr hyn a fydd yn digwydd yw, o fis Ebrill 2027, ni fydd unrhyw ddarparwyr preifat newydd yn cael eu hawdurdodi i'r farchnad.
Ond beth fyddwn i’n ei ddweud, o ran yr ymgynghoriad, yw bod darparwyr y trydydd sector, y sector preifat a darparwyr awdurdodau lleol i gyd yn rhan o fwrdd y rhaglen dileu, ynghyd â'r comisiynydd plant, ynghyd â Voices from Care Cymru, ynghyd â chomisiynwyr gwasanaethau, undebau llafur—maen nhw i gyd ar y bwrdd hwnnw ac maen nhw i gyd wedi bod yn cyfrannu at ddatblygu darpariaethau'r Bil, a byddwn ni'n parhau i siarad â nhw. Mae tipyn o waith i'w wneud ar y Bil eto; dim ond ar Gyfnod 1 ydym o hyd. Rwy'n amau y bydd yna nifer o welliannau yng Nghyfnodau 2 a 3, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd bydd angen newid hyn wrth i ni fynd ymlaen. Mae angen i ni ei gael yn iawn. Mae angen i ni ei gael yn iawn; rydym am sicrhau nad yw'r Bil hwn yn cyflawni canlyniadau anfwriadol. Felly, bydd yr holl bobl rydych yn sôn amdanynt—y sector preifat, y sector cyhoeddus, y trydydd sector—yn parhau i fod yn rhan o'r trafodaethau gyda ni wrth i ni symud y Bil yn ei flaen.
Diolch i'r Gweinidog.