Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 4 Mehefin 2024.
Ysgrifennydd Cabinet, diolch yn fawr iawn am y datganiad, ac rwy'n mynd i gyfyngu fy sylwadau heddiw i'r sector perfformiad yng Nghymru. Mae diwylliant Cymru, y celfyddydau Cymreig a cherddoriaeth Cymru ar gyfer pawb, ac nid dim ond ar gyfer yr elît neu'r rhai sy'n gallu eu fforddio. Ond mae hefyd yn iawn bod rhagoriaeth fel cysyniad yn cael ei chydnabod o fewn ein strategaeth ddiwylliannol, ac nid felly y mae hi ar hyn o bryd. Nid yw sicrhau amrywiaeth o ran mynediad a chyflawni llwybrau at ragoriaeth a chyflawni potensial unigol yn gysyniadau sy'n annibynnol ar ei gilydd, felly mae angen i'r nod artistig hwnnw o ragoriaeth fod wedi'i gynnwys yn gadarn yn y strategaeth honno. Ond mae'n ffaith syml, ac nid yw'n sgorio pwyntiau gwleidyddol, i ddatgan bod crebachu'r wladwriaeth, gwasanaethau cyhoeddus a gwariant cyhoeddus wedi creu amgylchedd cras lle bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i ddiogelu bywyd diwylliannol Cymru. Mae hynny'n ffaith syml. Ac rwy'n cydnabod geiriau'r Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd y gostyngiad yn ein dyraniad cymorth grant dangosol ar gyfer 2024-25 yn ei chael ar ein cyrff hyd braich diwylliant, celfyddydau a chwaraeon, ac rwyf wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb arnyn nhw, ond does dim hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol i'w cyllidebau.'
Mae hyn yn sicr yn gywir, ac mae'n codi cwestiynau i ni o ran sut mae ein cyrff hyd braich yn gweithredu o ran llywodraethu a gwneud penderfyniadau. Pam mae hyn mor bwysig? Heddiw ar risiau'r Senedd, fe gwrddais i â rhai aelodau angerddol iawn o adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, oherwydd ar ddydd Sadwrn mae'r dysgwyr, sydd rhwng pedair a 18 oed, yn ymgynnull i ddysgu, ac mae'r penderfyniadau cyllido a wneir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn bygwth y fodolaeth honno nawr. Ar 21 Mai, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gerddoriaeth, roeddwn i hefyd yn gallu croesawu'r arweinydd enwog, Carlo Rizzi, ac aelodau o Opera Cenedlaethol Cymru i risiau'r Senedd, lle buon nhw'n protestio am eu bodolaeth. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn ac, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu eich parodrwydd i gwrdd â chyfarwyddwr cyffredinol dros dro Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â minnau, i drafod y pryderon enfawr sy'n bodoli. Ac mae'n iawn nad yw ein sefydliadau rhagoriaeth, fel Opera Cenedlaethol Cymru, yn cael eu colli ond yn cael eu cydnabod a'u cefnogi gan eu cyrff hyd braich sy'n eu cadw'n fyw.
Ysgrifennydd Cabinet, wrth i ni ailddatgan ein gwerthoedd diwylliannol, mae'n rhaid i ni sicrhau, yn ogystal â chyfranogiad ar lawr gwlad, bod rhagoriaeth o fewn ein bywyd diwylliannol yn cael ei diogelu. Mae'n rhaid i ni wneud y ddau. Ysgrifennydd Cabinet, gyda'r etholiad cyffredinol sydd ar ddod yn cynnig cyfeiriad newydd i bobl Prydain, pa opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i ail-lunio'r bygythiadau i ddiwylliant Cymru, a sut allwch chi weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i adolygu cytundebau hirsefydlog rhwng y ddwy genedl sydd wedi cefnogi bywyd diwylliannol Cymru ers degawdau? Diolch.