Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 4 Mehefin 2024.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad hwn ar fy mlaenoriaethau ar gyfer y portffolio diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hwn yn bortffolio amrywiol sy'n ymestyn ar draws sawl agwedd ar y Llywodraeth, ac sydd â'r potensial i wneud newid dwys a pharhaol i fywydau pobl a chymunedau ledled Cymru. Mae diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a chyfiawnder cymdeithasol yn bileri rhyng-gysylltiedig, a phan gânt eu hysgogi'n effeithiol gallan nhw helpu i adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol, teg a bywiog. Rwyf am harneisio effaith gyfunol yr elfennau hyn i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig, cryfhau cydlyniant cymunedol a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl noddfa.
Un o fy mhrif flaenoriaethau yw gwneud cynnydd o ran trechu tlodi, yn enwedig tlodi plant. Helpodd mwy na 3,000 o bobl i ddatblygu ein strategaeth tlodi plant, a'r neges a gafwyd amlaf o lawer gan randdeiliaid yw bod gennym ni'r amcanion a'r blaenoriaethau cywir. Ein ffocws nawr yw eu darparu mewn ffordd sy'n garedig, yn dosturiol ac sy'n canolbwyntio ar y person, gan gynnwys sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys yn ariannol ac yn ddigidol, ac yn gallu hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael.
Mae ymrwymiad i hawliau plant ar draws fy mhortffolio o ran trechu tlodi, sicrhau'r hawl i chwarae a'r hawl i gyfarfod, mynd i'r afael â gwahaniaethu, amddiffyn rhag trais a chamdriniaeth, a'u galluogi i gymryd rhan yn rhydd mewn bywyd diwylliannol.
Blaenoriaeth allweddol arall fydd parhau â'n ffocws ar sicrhau cydraddoldeb, cynhwysiant a pharch at hawliau dynol. Mae ein hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol. Mae pobl anabl yn aml yn cael eu heithrio o gyflogaeth a chyfleoedd eraill, gan gynnwys gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chwaraeon. Byddwn ni'n parhau â'n gwaith i hyrwyddo tegwch i bobl anabl, gan ystyried profiad bywyd pobl. Mae gwaith pwysig y tasglu hawliau anabledd yn cefnogi datblygiad cynllun a fydd yn nodi ein huchelgais ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar wneud newidiadau i wella bywydau pobl anabl yn fesuradwy.
Rwy'n gwbl ymrwymedig i fwrw ymlaen â 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a gwireddu ein gweledigaeth o fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym wedi ymrwymo mwy na £5 miliwn rhwng 2022 a 2025 i gefnogi'r gwaith hwn. Rwy'n falch bod ein cynllun gweithredu LHDTC+ wedi'i gydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd yn erbyn Hiliaeth ac Anoddefiad fel enghraifft dda, ac yn fodel posibl i eraill. Byddaf yn parhau i arwain y gwaith i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.
Ym mhob maes yn fy mhortffolio, fel sy'n digwydd ar draws Llywodraeth Cymru, mae'r trydydd sector a gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau a chefnogi cymunedau. Yfory byddaf yn siarad yn Gofod3, wrth i ni ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr gyda'n gilydd.
Gan droi at gyfiawnder troseddol, byddwn ni'n parhau â'n hymdrechion i wella canlyniadau i bobl yn y system gyfiawnder. Er nad yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli i Gymru eto, mae'r gwasanaethau hyn yn rhyngweithio'n rheolaidd â meysydd datganoledig fel tai, gofal iechyd ac addysg. Trwy ein glasbrint cyfiawnder menywod a'n glasbrint cyfiawnder ieuenctid, rydym yn ymgorffori dull ataliol o ymdrin â chyfiawnder sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ac sy'n helpu pobl i fyw bywydau cyflawn, di-drosedd. Yn 2024 i 2025, byddwn ni'n ymestyn dull y rhaglen fraenaru i fenywod i Gymru gyfan i gryfhau ymhellach ein cefnogaeth i fenywod sy'n aml yn agored i niwed, yn ogystal â chynnal ein ffocws cryf ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol trwy lasbrint VAWDASV.
Byddaf hefyd yn canolbwyntio'n glir ar ddarparu cynnig diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon cryf. Mae llesiant diwylliannol Cymru yn anwahanadwy o'n cymdeithas, ein hamgylchedd a'n heconomi. Rwy'n cydnabod gwerth cynhenid diwylliant ac yn ymrwymo i'r egwyddor bod gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael mynediad, i greu, i gyfranogi ac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgarwch diwylliannol ein cenedl. Ein huchelgais yw bod diwylliant yng Nghymru yn ffynnu, gyda chynllun strategol hirdymor ar gyfer buddsoddi. Yn ddiweddar, fe gyhoeddais i'r ymgynghoriad ar gyfer ein strategaeth ddiwylliant, sy'n darparu fframwaith polisi ar gyfer ein sectorau cyhoeddus a diwylliant yng Nghymru, gan ddiffinio'r cyfeiriad strategol ar gyfer sectorau'r celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a'r amgylchedd hanesyddol.
Mae'r blaenoriaethau a nodir yn y strategaeth wedi'u datblygu yn ystod cyfnod o gyfyngiadau ariannol difrifol. Byddai'n esgeulus i mi beidio â chydnabod y dirwedd ariannol, ac rwy'n gwybod bod llawer o sefydliadau yn wynebu heriau ariannol anodd. Mae toriadau mewn cyllid dros nifer o flynyddoedd wedi effeithio ar y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r sector diwylliant yn teimlo'n fregus. Rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd y gostyngiad yn ein dyraniad cymorth grant dangosol ar gyfer 2024-25 yn ei chael ar ein cyrff hyd braich diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon. Rwyf wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb arnyn nhw, ond does dim hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol i'w cyllidebau.
Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod y dyraniadau'n cael eu targedu tuag at barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu. Mae cydweithio â'r Llywodraeth ac o fewn y sector yn bwysicach nawr nag erioed. Rwy'n gwybod pa mor wydn yw'r sectorau celfyddydol a diwylliannol, ac rwyf wedi edmygu eu hagwedd gallu gwneud ers tro. Rwy'n cydnabod y cyfraniad gwirioneddol y gall treftadaeth a gwaith Cadw ei wneud i'm blaenoriaethau ehangach o gynhwysiant a chydraddoldeb—ehangu mynediad i bawb i safleoedd a thirweddau hanesyddol eithriadol Cymru, ac adrodd straeon ehangach Cymru.
Rwy'n gwybod nad oes unrhyw beth fel gêm bêl-droed wych yn eich tref enedigol i ddod â phobl at ei gilydd, a dyna pam mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion arloesol i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu ar draws ystod o chwaraeon. Trwy gydweithio ar draws y Llywodraeth a chyda'n partneriaid allanol, mae gennym gyfle i fynd i'r afael â llawer o rwystrau ac achosion niweidiol anghydraddoldeb a thlodi a brofir gan bobl yng Nghymru, a'u dymchwel. Rwy'n benderfynol o wneud fy rhan i sicrhau bod Cymru'n lle ffyniannus, teg a mwy diogel i'w holl ddinasyddion. Diolch.