5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol — Ailddatgan ein gwerthoedd

– Senedd Cymru am 4:37 pm ar 4 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:37, 4 Mehefin 2024

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, ar ailddatgan ein gwerthoedd. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad hwn ar fy mlaenoriaethau ar gyfer y portffolio diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hwn yn bortffolio amrywiol sy'n ymestyn ar draws sawl agwedd ar y Llywodraeth, ac sydd â'r potensial i wneud newid dwys a pharhaol i fywydau pobl a chymunedau ledled Cymru. Mae diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a chyfiawnder cymdeithasol yn bileri rhyng-gysylltiedig, a phan gânt eu hysgogi'n effeithiol gallan nhw helpu i adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol, teg a bywiog. Rwyf am harneisio effaith gyfunol yr elfennau hyn i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig, cryfhau cydlyniant cymunedol a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl noddfa.

Un o fy mhrif flaenoriaethau yw gwneud cynnydd o ran trechu tlodi, yn enwedig tlodi plant. Helpodd mwy na 3,000 o bobl i ddatblygu ein strategaeth tlodi plant, a'r neges a gafwyd amlaf o lawer gan randdeiliaid yw bod gennym ni'r amcanion a'r blaenoriaethau cywir. Ein ffocws nawr yw eu darparu mewn ffordd sy'n garedig, yn dosturiol ac sy'n canolbwyntio ar y person, gan gynnwys sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys yn ariannol ac yn ddigidol, ac yn gallu hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael.

Mae ymrwymiad i hawliau plant ar draws fy mhortffolio o ran trechu tlodi, sicrhau'r hawl i chwarae a'r hawl i gyfarfod, mynd i'r afael â gwahaniaethu, amddiffyn rhag trais a chamdriniaeth, a'u galluogi i gymryd rhan yn rhydd mewn bywyd diwylliannol.

Blaenoriaeth allweddol arall fydd parhau â'n ffocws ar sicrhau cydraddoldeb, cynhwysiant a pharch at hawliau dynol. Mae ein hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol. Mae pobl anabl yn aml yn cael eu heithrio o gyflogaeth a chyfleoedd eraill, gan gynnwys gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chwaraeon. Byddwn ni'n parhau â'n gwaith i hyrwyddo tegwch i bobl anabl, gan ystyried profiad bywyd pobl. Mae gwaith pwysig y tasglu hawliau anabledd yn cefnogi datblygiad cynllun a fydd yn nodi ein huchelgais ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar wneud newidiadau i wella bywydau pobl anabl yn fesuradwy.

Rwy'n gwbl ymrwymedig i fwrw ymlaen â 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a gwireddu ein gweledigaeth o fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym wedi ymrwymo mwy na £5 miliwn rhwng 2022 a 2025 i gefnogi'r gwaith hwn. Rwy'n falch bod ein cynllun gweithredu LHDTC+ wedi'i gydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd yn erbyn Hiliaeth ac Anoddefiad fel enghraifft dda, ac yn fodel posibl i eraill. Byddaf yn parhau i arwain y gwaith i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.

Ym mhob maes yn fy mhortffolio, fel sy'n digwydd ar draws Llywodraeth Cymru, mae'r trydydd sector a gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau a chefnogi cymunedau. Yfory byddaf yn siarad yn Gofod3, wrth i ni ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr gyda'n gilydd.

Gan droi at gyfiawnder troseddol, byddwn ni'n parhau â'n hymdrechion i wella canlyniadau i bobl yn y system gyfiawnder. Er nad yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli i Gymru eto, mae'r gwasanaethau hyn yn rhyngweithio'n rheolaidd â meysydd datganoledig fel tai, gofal iechyd ac addysg. Trwy ein glasbrint cyfiawnder menywod a'n glasbrint cyfiawnder ieuenctid, rydym yn ymgorffori dull ataliol o ymdrin â chyfiawnder sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ac sy'n helpu pobl i fyw bywydau cyflawn, di-drosedd. Yn 2024 i 2025, byddwn ni'n ymestyn dull y rhaglen fraenaru i fenywod i Gymru gyfan i gryfhau ymhellach ein cefnogaeth i fenywod sy'n aml yn agored i niwed, yn ogystal â chynnal ein ffocws cryf ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol trwy glasbrint VAWDASV. 

Byddaf hefyd yn canolbwyntio'n glir ar ddarparu cynnig diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon cryf. Mae llesiant diwylliannol Cymru yn anwahanadwy o'n cymdeithas, ein hamgylchedd a'n heconomi. Rwy'n cydnabod gwerth cynhenid diwylliant ac yn ymrwymo i'r egwyddor bod gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael mynediad, i greu, i gyfranogi ac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgarwch diwylliannol ein cenedl. Ein huchelgais yw bod diwylliant yng Nghymru yn ffynnu, gyda chynllun strategol hirdymor ar gyfer buddsoddi. Yn ddiweddar, fe gyhoeddais i'r ymgynghoriad ar gyfer ein strategaeth ddiwylliant, sy'n darparu fframwaith polisi ar gyfer ein sectorau cyhoeddus a diwylliant yng Nghymru, gan ddiffinio'r cyfeiriad strategol ar gyfer sectorau'r celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a'r amgylchedd hanesyddol.

Mae'r blaenoriaethau a nodir yn y strategaeth wedi'u datblygu yn ystod cyfnod o gyfyngiadau ariannol difrifol. Byddai'n esgeulus i mi beidio â chydnabod y dirwedd ariannol, ac rwy'n gwybod bod llawer o sefydliadau yn wynebu heriau ariannol anodd. Mae toriadau mewn cyllid dros nifer o flynyddoedd wedi effeithio ar y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r sector diwylliant yn teimlo'n fregus. Rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd y gostyngiad yn ein dyraniad cymorth grant dangosol ar gyfer 2024-25 yn ei chael ar ein cyrff hyd braich diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon. Rwyf wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb arnyn nhw, ond does dim hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol i'w cyllidebau.

Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod y dyraniadau'n cael eu targedu tuag at barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu. Mae cydweithio â'r Llywodraeth ac o fewn y sector yn bwysicach nawr nag erioed. Rwy'n gwybod pa mor wydn yw'r sectorau celfyddydol a diwylliannol, ac rwyf wedi edmygu eu hagwedd gallu gwneud ers tro. Rwy'n cydnabod y cyfraniad gwirioneddol y gall treftadaeth a gwaith Cadw ei wneud i'm blaenoriaethau ehangach o gynhwysiant a chydraddoldeb—ehangu mynediad i bawb i safleoedd a thirweddau hanesyddol eithriadol Cymru, ac adrodd straeon ehangach Cymru.

Rwy'n gwybod nad oes unrhyw beth fel gêm bêl-droed wych yn eich tref enedigol i ddod â phobl at ei gilydd, a dyna pam mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion arloesol i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu ar draws ystod o chwaraeon. Trwy gydweithio ar draws y Llywodraeth a chyda'n partneriaid allanol, mae gennym gyfle i fynd i'r afael â llawer o rwystrau ac achosion niweidiol anghydraddoldeb a thlodi a brofir gan bobl yng Nghymru, a'u dymchwel. Rwy'n benderfynol o wneud fy rhan i sicrhau bod Cymru'n lle ffyniannus, teg a mwy diogel i'w holl dinasyddion. Diolch. 

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr 4:44, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, er nad yw'n un ymrwymol iawn. Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod y datganiad yn un diddorol iawn yn fy marn i oherwydd fe wnaethoch chi sôn am ddiwylliant, ac eto mae dyfodol Opera Cenedlaethol Cymru, yn llythrennol, yn hongian yn y fantol, a galla' i ddim dweud bod unrhyw ran o'r datganiad wedi tawelu fy meddwl. Dydy hi ddim yn ymddangos bod unrhyw gynllun clir ar unrhyw beth rydych chi wedi sôn amdano, yn enwedig chwaraeon, sy'n ymddangos fel pe bai'n ôl-ystyriaeth ar ddiwedd eich datganiad, a does dim ymrwymiadau ar sut i wella'r sefyllfa bresennol yng Nghymru.

Rydych chi'n sôn am eich cynllun gweithredu LHDTC+. Byddai bwrw ymlaen â'r cynllun hwn nawr, yng ngoleuni canfyddiadau adolygiad Cass, yn anghyfrifol a gallai beri risg i blant a phobl ifanc o bosibl. Mae angen i gynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru gael ei adolygu yng ngoleuni canfyddiadau Dr Cass. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, gofynnaf unwaith eto: pryd all dinasyddion pryderus Cymru—a'r Senedd hon—ddisgwyl i adolygiad o'r cynllun gael ei gynnal? Nid blaenoriaethau presennol pobl Cymru yw'r blaenoriaethau hyn.

Fodd bynnag, roeddwn i'n falch o'ch clywed yn sôn, er yn fyr, am chwaraeon yn y datganiad heddiw, fel rhywbeth y gwyddys ei fod yn dod â chymunedau ynghyd, fel y gwyddoch chi, ac yn newid bywydau. Mae'r Llywodraeth Lafur, yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, wedi siomi pobl Cymru yn llwyr o ran cyfleusterau chwaraeon. Nid yw chwaraeon yn cael, ac nid ydyn nhw erioed wedi cael y buddsoddiad sydd ei wir angen arnyn nhw, o lefel gymunedol i lefel genedlaethol, dros y 2.5 degawd diwethaf—mae'n gywilyddus o gymharu â gweddill y DU. Mae'r Llywodraeth hon i fod eisiau bod yn arweinydd ym maes cyfranogiad mewn chwaraeon ar lawr gwlad, a dylai fod eisiau bod yn arweinydd ar lefel elitaidd hefyd. Fyddwn ni ddim yn cyflawni hyn, na hyd yn oed yn dod yn agos ato, ar y llwybr presennol hwn. Mae'n amlwg i bawb, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, bod mynediad at gyfleusterau chwaraeon yn fwyfwy anodd neu'n amhosibl, ac eto mae'n gwaethygu yn ystod y gaeaf, oherwydd diffyg cyfleusterau chwaraeon pob tywydd, yn enwedig, unwaith eto, mewn ardaloedd gwledig, lle mae diffyg cyfleusterau o'r fath. Ysgrifennydd Cabinet, pan fo chwaraeon yn wastatäwr, mae'n darparu buddion iechyd, mae'n ennyn balchder cenedlaethol, mae'n gwella llesiant, pryd y bydd yn cael y lefel o fuddsoddiad y mae'n ei haeddu cymaint, oherwydd y rôl enfawr y mae'n ei chwarae wrth atal anhwylderau iechyd, yn ogystal, wrth gwrs, â hawl pobl i gael mynediad at gyfleusterau chwaraeon yn agos atyn nhw, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru?

Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, gan barhau eto gyda chwaraeon, mae'n hanfodol bwysig bod menywod a merched yn cael eu cefnogi er mwyn tyfu chwaraeon menywod, wrth symud ymlaen. Am resymau diogelwch a thegwch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Cheidwadwyr y DU yn cefnogi cryfhau Deddf Cydraddoldeb 2010 i ymgorffori hawliau menywod a merched mewn chwaraeon yng Nghymru drwy roi pwyslais ar ryw biolegol. Dylai pawb gael y cyfle i chwarae chwaraeon, ond dylai menywod ddim cael eu cosbi trwy fod â mantais fiolegol gwrywaidd—trwy orfod derbyn gwrywod biolegol i'w categori. Mae'n niweidio chwaraeon benywaidd ac yn cael effaith negyddol ar lefelau cyfranogiad menywod a merched. Mae'n debyg, cyn y gall Llafur ddechrau honni eu bod yn cefnogi menywod yn iawn, fod angen iddyn nhw ddysgu yn gyntaf, wrth gwrs, sut i ddiffinio un. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi ymrwymo heddiw i ddiogelu chwaraeon menywod biolegol, os gwelwch yn dda? Diolch.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 4:47, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, fe wnes i ddweud ar ddechrau fy natganiad fod gen i bortffolio amrywiol iawn, felly mae'n anodd iawn ei gyfyngu i'ch blaenoriaethau chi, ond os gallaf ei gwmpasu mewn tri o'r datganiad hwnnw—ac fe wnes i hyn yn glir iawn i'm cyd-Aelodau yn y Cabinet—trechu tlodi ddylai fod yn brif flaenoriaeth, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys tlodi plant. Ond rydym yn gwybod bod plant mewn tlodi oherwydd bod eu rhieni mewn tlodi, felly rwy'n defnyddio'r ymadrodd 'trechu tlodi', sy'n amlwg yn cynnwys tlodi plant. I mi, mae cydlyniant cymunedol neu ddiogelwch cymunedol yn bwysig iawn, oherwydd rwy'n credu, i'n hetholwyr ac i bawb yng Nghymru, mae angen iddyn nhw deimlo'n ddiogel yn y gymuned honno ac yn eu cartref. A'r trydydd yw dod â phobl ynghyd yn gyffredinol. Doedd e' ddim yn ôl-ystyriaeth o gwbl; roedd yn ymwneud â dod â'r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon at ei gilydd, oherwydd rwy'n credu bod y tri ohonyn nhw—mae gennym ni lawer iawn i'w gynnig yma yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod nad oes gennym ddigon o arian i allu cefnogi ein sector celfyddydol, diwylliant a chwaraeon yn y ffordd y byddem i gyd yn dymuno, ond mae'n rhaid i ni fod yn bragmatig ac yn y Llywodraeth mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd, ac, yn anffodus, roedd ein sefyllfa ariannol yn golygu bod yn rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hynny. Ond rwyf am roi sicrwydd i bawb fy mod i'n parhau i weithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae gen i gyfarfod gyda Rhianon Passmore yfory. Rwyf wedi cyfarfod ag Opera Cenedlaethol Cymru. Rwy'n credu, y tro diwethaf i mi fod yn y Siambr, roeddwn i eisoes wedi cwrdd â nhw i weld beth allem ei wneud, oherwydd rwy'n cydnabod yn llwyr eu bod nhw'n em yn ein coron ni, ac rwy'n credu fy mod wedi sôn, yn ein sesiwn holi, eu bod, o safbwynt byd-eang, yn cael eu cydnabod yn eang iawn. Felly, wyddoch chi, galla' i ddim cynnig sicrwydd am gyllid, ond yr hyn y gallaf ei gynnig yw fy ymrwymiad i barhau i weithio gyda phob rhan o'r sector celfyddydau, y sector diwylliant a'r sector chwaraeon.

Rwy'n cytuno'n llwyr bod chwaraeon yn dod â phobl at ei gilydd, ac, os ydw i'n meddwl am fy mhrofiad i fy hun, mae fy merch, sy'n dod i'r pêl-droed gyda fi, yn byw dwy awr o gartref, ond, ar brynhawn Sadwrn am 3 o'r gloch, rydym yn dod at ein gilydd, a dyna'r achos—. Rwy'n edrych o gwmpas stadiwm y Cae Ras, a gallaf weld hynny ar draws stadiwm y Cae Ras, felly, i mi, mae hynny'n bwysig iawn. O safbwynt chwaraeon elitaidd, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud yn well na'r disgwyl yng Nghymru.

Gan fynd yn ôl at lawr gwlad, mae angen i ni weld mwy o gaeau pob tywydd, er enghraifft, oherwydd, fel y dywedwch chi, nid dim ond yn y gaeaf mae caeau yn gorlifo ac ati. Rwyf wedi cwrdd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i drafod y cynllun sydd ganddyn nhw, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cydweithio i sicrhau bod cyllid yno. Mae gennym ni hefyd bobl eraill sy'n hapus iawn i'n helpu ni yn y ffordd hon gyda chwaraeon llawr gwlad, ac rwyf i a fy swyddogion wedi cael cyfarfodydd a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. 

O ran y cynllun gweithredu LHDTC+ y sonioch amdano, fel y gwyddoch chi, cafodd y cynllun hwnnw ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023, felly dydw i ddim yn credu bod angen i ni gael adolygiad ohono; mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar weithredu ac ar wneud effeithiau sylweddol a chadarnhaol i fywydau pobl LHDTC+ yma yng Nghymru. Byddwn ni'n sicrhau ein bod yn diweddaru'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn pob gweithgaredd a phwynt gweithredu yn y cynllun, a byddan nhw'n cael eu monitro.

Y pwynt rydych chi'n ei wneud ar y diwedd, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi gyfeirio at y Ddeddf Cydraddoldeb—. Does dim cyfeiriad at ryw biolegol yn y Ddeddf Cydraddoldeb. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth mae Llywodraeth y DU—y Torïaid—yn ei gynllunio o gwmpas ymdrechion i ddiwygio'r Ddeddf ar y sail honno, ond rwy'n credu bod angen iddyn nhw droedio'n ofalus iawn.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:51, 4 Mehefin 2024

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Dwi'n falch o glywed y ffocws sydd gyda chi ar dlodi plant yn enwedig. Mae'n gywilyddus, yn fy marn i, cyn lleied rŷn ni wedi clywed gan arweinwyr Llafur a Thorïaidd yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma am y miliynau sy'n mynd heb hanfodion bywyd, am y ffaith bod defnydd o fanciau bwyd ar ei lefel uchaf erioed. Dyw taflu termau o gwmpas fel 'tyfu'r economi' ddim yn banacea; mae twf economaidd yn cymryd blynyddoedd. Heb gynlluniau trethiant a gwariant gwahanol, fe welwn ni doriadau i wasanaethau cyhoeddus a lefelau tlodi yn cael eu normaleiddio, achos, fel rŷch chi'n gwybod, mae lefel tlodi plant yng Nghymru gyda'r uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Pan wyf wedi holi'r Llywodraeth—Llywodraeth Cymru—am yr hyn maen nhw'n ei wneud i fynd i'r afael â'r sgandal genedlaethol hon, rwyf bob tro yn clywed mewn ymateb, 'Llywodraeth San Steffan sydd bennaf ar fai', a dwi'n cytuno bod yna lawer y dylai ac y gallai Llywodraeth San Steffan ei wneud i ddileu tlodi plant, gan gynnwys, wrth gwrs, cael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau, sy'n dyfnhau tlodi plant yng Nghymru.

Yn ôl yr End Poverty Coalition, mae dros 65,000 o blant Cymru sydd mewn tlodi yn cael eu taro gan y polisi annynol hwn. Mae Torsten Bell, cyfarwyddwr y Resolution Foundation, fel ag yr oedd, ond sydd nawr, wrth gwrs, yn gobeithio cynrychioli Gorllewin Abertawe dros Lafur yn San Steffan, wedi dweud bod cost cael gwared ar y cap yma yn ddim o'i gymharu â'r gost o'i gadw—neu efallai bod hwnna'n un o'r tweets mae wedi eu dileu erbyn hyn.

Ydych chi'n cytuno gydag ymgeisydd Llafur Gorllewin Abertawe, felly, neu gyda'ch arweinydd, Keir Starmer, sydd wedi dweud bod hyn yn anfforddiadwy, tra bod arfau yn gwbl fforddiadwy? Ac a fyddwch chi fel aelod o Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am fesurau i ddileu tlodi plant yn gwneud yr achos dros gael gwared ar y cap dau blentyn i Lywodraeth nesaf San Steffan er mwyn plant Cymru? 

Ac, wrth gwrs, mae yna gamau sy'n llwyr o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru. A wnewch chi wrando ar gyngor arbenigwyr polisi a grwpiau ymgyrchu tlodi plant, y comisiynydd plant, adroddiad y pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a seiliodd ein hargymhellion ar dystiolaeth ryngwladol, a sicrhau bod y camau hynny'n rhai effeithiol, y rhai sydd yn y strategaeth tlodi plant, drwy osod targedau statudol i fesur cynnydd, sicrhau perchnogaeth, a ffocysu a gyrru gweithredu? Achos yn wahanol i'r hyn gawsom ni yn eich datganiad, doedden nhw ddim yn fodlon o gwbl gyda'r strategaeth tlodi plant. Mae'r awgrym yna i ddefnyddio cerrig milltir cenedlaethol yn lle targedau. Dwi'n meddwl taw Dr Victoria Winckler o Sefydliad Bevan a darodd yr hoelen ar ei phen pan ddywedodd hi:

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:54, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

'Mae ychydig fel marcio'ch gwaith cartref eich hun. Rwy'n credu ei bod yn anodd monitro cynnydd pan nad oes gennych chi dargedau clir, oherwydd dim ond adrodd ar dueddiadau ydych chi. Dydych chi ddim yn adrodd ar effeithiolrwydd eich ymyriadau eich hun mewn gwirionedd.'

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

A wnawn ni weld newid, felly, Ysgrifennydd Cabinet? Ydych chi'n barod i wrando ar y cyngor hwn a dangos eich bod o ddifrif am wneud popeth posib i sicrhau bod eich gwaith yn y maes hwn mor effeithiol â phosib?

Rŷch chi hefyd yn dweud bod y frwydr i godi plant o dlodi wrth hanfod eich holl waith. Felly, pa waith byddwch chi'n ei wneud i yrru'r gwaith i greu system budd-daliadau Cymreig, a allai fod yn drawsnewidiol o ran mynd i'r afael â thlodi plant? Fe ellid cyflawni hynny cymaint yn haws pe byddai'r pwerau gennym ni yng Nghymru, wrth gwrs. Felly, pa wahaniaeth y mae'r siarter budd-daliadau, sydd wedi’i gyflwyno gyda chi, wedi ei wneud yn barod? Wnewch chi roi diweddariad inni ar hynny? Ac oes yna waith modelu wedi ei wneud o ran sut byddai creu system statudol yn fwy effeithiol o ran lliniaru tlodi plant?

Ac, wrth gwrs, rydyn ni ar hyn o bryd yn dathlu Mis Pride, Mis Balchder. Ac wrth inni wneud hynny, rhaid inni ailddatgan ein hymrwymiad i bobl LHDTC+ Cymru ein bod yn parchu eu hawliau ac y byddwn yn ymladd dros eu hawliau. Mae Plaid Cymru yn credu y dylid datganoli pwerau sy'n ymwneud â'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 i Gymru er mwyn helpu i sicrhau hawl pobl draws i fyw eu bywydau fel y dymunant, gydag urddas, ac yn rhydd o ormes. Ac o ystyried yr hyn glywon ni gan y Torïaid ddoe—yr ymgais ciaidd i chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobl—ydych chi fel Llywodraeth yn cadw at yr hyn oedd yn eich maniffesto diwethaf chi, sef gweithio i ddatganoli y Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned draws? Diolch. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 4:56, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ac rwy'n cydnabod yn llwyr y pwysigrwydd rydych chi hefyd yn ei roi ar weithio gyda ni i ddileu tlodi plant. Pan ddes i i mewn i'r portffolio, ar ôl bod yn y portffolio hwn 10 mlynedd yn ôl, mae'n hynod siomedig gweld tlodi plant ar lefel mor uchel.

Rwy'n hapus iawn i wrando ar arbenigwyr polisi. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â'r comisiynydd plant, rwyf wedi cyfarfod â Sefydliad Bevan, ac rydym wedi cael trafodaeth ynghylch y strategaeth tlodi plant. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n Weinidog sy'n edrych yn reddfol at dargedau, a chefais sgwrs gyda fy rhagflaenydd, Jane Hutt, ynghylch hynny. Ond rwyf yn credu y dylid caniatáu i'r fframwaith monitro tlodi plant sydd gennym fod yn union fel ag y mae—wedi'i fonitro. Felly, pan wnes i gyfarfod â'r comisiynydd plant ddoe, bydd gennym ni adroddiad o fewn y flwyddyn gyntaf yn erbyn y fframwaith monitro hwn. Rwy'n credu ei fod yn seiliedig ar ystod o fesurau tlodi perthnasol iawn. Mae'n asesiad o gynnydd wrth gyflawni ein hymrwymiadau polisi. Mae hefyd yn ymwneud â gwrando ar blant ac oedolion a theuluoedd sydd â phrofiad bywyd o dlodi. Rwyf wir yn meddwl y bydd hynny'n ein helpu ni i weld beth yw effaith ein dull gweithredu ni, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni, ymhen blwyddyn, yn edrych ac yn meddwl am yr hyn rydym yn ei wneud i geisio lleihau tlodi, ac mae hynny'n cynnwys tlodi plant—. Dydw i ddim yn rhywun sy'n mynd i ymrwymo am bum mlynedd a pheidio â gwneud rhywbeth yn wahanol. Does dim pwynt parhau i wneud yr un pethau, hyd yn oed yr un pethau'n wahanol. Efallai y bydd angen i chi wneud pethau gwahanol iawn.

Mae gennym ni ddulliau ysgogi fel Llywodraeth, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod rhai o'r dulliau ysgogi hynny gyda Llywodraeth y DU, a byddaf yn hapus iawn i gael y sgyrsiau hynny pan fydd gennym ni Lywodraeth Lafur ar waith. Ond, fel Llywodraeth Cymru, yn amlwg, rydym wedi gweithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio ynghylch ein cynnig gofal plant, ynghylch bwyd mewn ysgolion—mae'r rhain yn bethau sy'n mynd ati i wneud gwahaniaeth—y grant hanfodion ysgol, y lwfans cynhaliaeth addysg ac, wrth gwrs, cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, oherwydd y syniad yw cael cymaint o arian i bocedi pobl.

Fe wnaethoch chi sôn am siarter budd-daliadau Cymru. Does gen i ddim y ffigurau wrth law, ond byddaf i, yn sicr, yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd gennym y data cyntaf hwnnw i allu dangos tystiolaeth o'r hyn rydym yn ei wneud, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael effaith fawr. Ond rwy'n credu y byddai'n wych pe gallai Llywodraeth y DU efallai gael rhyw fath o ymgyrch y gallem ni i gyd ei chefnogi i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddyn nhw yr hawl i'w gael. Ac unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth roeddwn i wedi dechrau siarad amdano gyda Llywodraeth y DU, ond bydd yn rhaid i ni aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nawr.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ei ddweud am fis Pride. Mae'n rhywbeth y dylid ei ddathlu a'i barchu, ac fe soniais i yn fy ateb cynharach i Laura Anne Jones am y ffaith ein bod ni wedi bod yn canolbwyntio ar roi'r cynllun LHDTC+ a gyhoeddwyd y llynedd ar waith.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur 4:59, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd Cabinet, diolch yn fawr iawn am y datganiad, ac rwy'n mynd i gyfyngu fy sylwadau heddiw i'r sector perfformiad yng Nghymru. Mae diwylliant Cymru, y celfyddydau Cymreig a cherddoriaeth Cymru ar gyfer pawb, ac nid dim ond ar gyfer yr elît neu'r rhai sy'n gallu eu fforddio. Ond mae hefyd yn iawn bod rhagoriaeth fel cysyniad yn cael ei chydnabod o fewn ein strategaeth ddiwylliannol, ac nid felly y mae hi ar hyn o bryd. Nid yw sicrhau amrywiaeth o ran mynediad a chyflawni llwybrau at ragoriaeth a chyflawni potensial unigol yn gysyniadau sy'n annibynnol ar ei gilydd, felly mae angen i'r nod artistig hwnnw o ragoriaeth fod wedi'i gynnwys yn gadarn yn y strategaeth honno. Ond mae'n ffaith syml, ac nid yw'n sgorio pwyntiau gwleidyddol, i ddatgan bod crebachu'r wladwriaeth, gwasanaethau cyhoeddus a gwariant cyhoeddus wedi creu amgylchedd cras lle bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i ddiogelu bywyd diwylliannol Cymru. Mae hynny'n ffaith syml. Ac rwy'n cydnabod geiriau'r Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd y gostyngiad yn ein dyraniad cymorth grant dangosol ar gyfer 2024-25 yn ei chael ar ein cyrff hyd braich diwylliant, celfyddydau a chwaraeon, ac rwyf wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb arnyn nhw, ond does dim hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol i'w cyllidebau.'

Mae hyn yn sicr yn gywir, ac mae'n codi cwestiynau i ni o ran sut mae ein cyrff hyd braich yn gweithredu o ran llywodraethu a gwneud penderfyniadau. Pam mae hyn mor bwysig? Heddiw ar risiau'r Senedd, fe gwrddais i â rhai aelodau angerddol iawn o adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, oherwydd ar ddydd Sadwrn mae'r dysgwyr, sydd rhwng pedair a 18 oed, yn ymgynnull i ddysgu, ac mae'r penderfyniadau cyllido a wneir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn bygwth y fodolaeth honno nawr. Ar 21 Mai, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gerddoriaeth, roeddwn i hefyd yn gallu croesawu'r arweinydd enwog, Carlo Rizzi, ac aelodau o Opera Cenedlaethol Cymru i risiau'r Senedd, lle buon nhw'n protestio am eu bodolaeth. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn ac, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu eich parodrwydd i gwrdd â chyfarwyddwr cyffredinol dros dro Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â minnau, i drafod y pryderon enfawr sy'n bodoli. Ac mae'n iawn nad yw ein sefydliadau rhagoriaeth, fel Opera Cenedlaethol Cymru, yn cael eu colli ond yn cael eu cydnabod a'u cefnogi gan eu cyrff hyd braich sy'n eu cadw'n fyw.

Ysgrifennydd Cabinet, wrth i ni ailddatgan ein gwerthoedd diwylliannol, mae'n rhaid i ni sicrhau, yn ogystal â chyfranogiad ar lawr gwlad, bod rhagoriaeth o fewn ein bywyd diwylliannol yn cael ei diogelu. Mae'n rhaid i ni wneud y ddau. Ysgrifennydd Cabinet, gyda'r etholiad cyffredinol sydd ar ddod yn cynnig cyfeiriad newydd i bobl Prydain, pa opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i ail-lunio'r bygythiadau i ddiwylliant Cymru, a sut allwch chi weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i adolygu cytundebau hirsefydlog rhwng y ddwy genedl sydd wedi cefnogi bywyd diwylliannol Cymru ers degawdau? Diolch.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 5:02, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, fel y soniais yn gynharach, rwy'n credu, rwyf eisoes wedi cwrdd ag Opera Cenedlaethol Cymru, gyda'r cyfarwyddwr dros dro, ac edrychaf ymlaen at gwrdd â chi hefyd. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad ydym erioed wedi gweld nac wedi clywed protest fel yr un a gawsom gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn sicr, y trafodaethau a gefais gydag Opera Cenedlaethol Cymru, oherwydd—. Mae'n sefydliad anarferol iawn gan ei fod yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru, a hynny oherwydd ei fod wedi cael ei gydnabod am y gwaith mae'n ei wneud yn Lloegr hefyd. Rwy'n credu hefyd nad yw llawer o bobl yn ymwybodol fwy na thebyg o'r gwaith allgyrsiol, os mynnwch chi, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ei wneud, yn enwedig mewn lleoliad iechyd. Rwyf wedi cael trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu i'w cefnogi yno. Yn sicr, dyna'r tro cyntaf i mi ddod ar draws Opera Cenedlaethol Cymru, pan ddaethon nhw i fy etholaeth a gwneud gwaith mewn rhan ddifreintiedig iawn o fy etholaeth gyda phlant ifanc, oherwydd, fel y dywedwch chi, mae ar gyfer pawb.

Mae'r blaenoriaethau rwyf wedi'u nodi yn y strategaeth ddiwylliannol—. A hoffwn dalu teyrnged i waith fy rhagflaenydd, Dawn Bowden, oherwydd fe wnaeth Dawn y rhan fwyaf o'r gwaith o amgylch y strategaeth ddiwylliant o dan gyfyngiadau ariannol anodd iawn. Dydyn ni ddim yn gofyn i'r sector diwylliant wneud mwy gyda llai. Yr hyn rydym yn ei wneud yw nodi blaenoriaethau clir iawn gyda nhw, i helpu i wneud penderfyniadau ar lefel fwy gronynnog, felly gofyn iddyn nhw weithio mewn partneriaeth ychydig yn fwy, oherwydd hyd yn oed gyda Llywodraeth Lafur newydd yn y DU, mae'n rhaid i ni dderbyn na fydd cymaint o arian, efallai, ag y byddem ei eisiau. Ond, yn sicr, rwy'n credu y bydd yna ffocws, os byddwn ni'n cael Llywodraeth Lafur, ar y celfyddydau a diwylliant mewn ffordd nad yw'n wir ar hyn o bryd. Felly, yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrth Opera Cenedlaethol Cymru, yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, yw na ddylem daflu ymaith y da i ganlyn y drwg. Rhaid i ni beidio â cholli sgiliau a fydd yn anodd iawn, iawn eu cael yn ôl. Ond rwy'n addo parhau i gael y sgyrsiau hynny.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:04, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb i un o bwyntiau Sioned Williams yn eich ymateb i mi, dim ond i egluro beth yw safbwynt y Llywodraeth ar y cap dau blentyn—rhywbeth sydd, wrth gwrs, o bryder enfawr i lawer ohonom oherwydd y polisi creulon iawn hwnnw.

Byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad ar y celfyddydau a diwylliant, a byddwn yn gofyn i chi, efallai, fyfyrio ar un o'ch brawddegau pan ddywedoch chi eich bod yn edmygu agwedd a gwytnwch y sector celfyddydau a diwylliannol. Wel, ie, mae hynny wedi bod yn wir ond mae'r 'gallu gwneud' wedi troi'n 'ddim yn gallu mwyach', ac mae gan bawb bwynt torri ac, yn anffodus, mae hynny wedi ei gyrraedd. Nid bygythiadau yw'r rhain bellach—rydym wedi colli arbenigwyr, arbenigedd allweddol. Mae'r sgiliau hynny wedi mynd. Mae'r difrod wedi'i wneud o ran ein sefydliadau cenedlaethol, i'r Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru. Noddais amser cinio ddigwyddiad gan Prospect, lle roedd llawer o'r arbenigwyr hynny yno. Roedd yn dorcalonnus, Ysgrifennydd Cabinet, a byddwn i'n eich annog i efallai gael y sgwrs gydag Aelodau Prospect a PCS i glywed am y sefyllfa dorcalonnus honno—. Gallan nhw ddim gwneud mwy. Maen nhw'n bryderus iawn am ddyfodol y casgliadau cenedlaethol, ond hefyd hygyrchedd swyddi o fewn ein sefydliadau cenedlaethol, oherwydd maen nhw'n dweud na fyddan nhw'n gallu darparu cyfleoedd i bobl ifanc, y bydd yn dod yn elitaidd, ac nid dyna rydyn ni eisiau ei weld. Felly, os gwelwch yn dda, a gaf i ofyn ichi fyfyrio ar y sylw hwnnw, oherwydd mae difrifoldeb i sefyllfa ein sefydliadau cenedlaethol, a'r hyn yr hoffwn ei wybod yw sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â hyn yn y tymor byr, nid dim ond y tymor hir?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 5:06, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Prospect a PCS, ac rwy'n credu fy mod i'n cael cyfarfod ar wahân gydag Undeb y Cerddorion, yr wyf hefyd wedi cyfarfod â nhw, ond rwy'n credu eu bod nhw wedi gofyn am gyfarfod pellach. Fel y gwyddoch chi, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, Dawn Bowden a Siân Gwenllian, un o'r pethau a wnaethant, o ran yr arian a roddwyd o'r neilltu rwy'n credu ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i roi'r strategaeth ddiwylliant ar waith, mae wedi cael ei ddefnyddio i achub cynifer o swyddi â phosibl. Rwy'n cydnabod, yn amlwg, bod diswyddiadau gwirfoddol wedi bod, ond rwyf wedi cael sicrwydd eu bod nhw wedi ceisio sicrhau nad yw'r holl sgiliau o un maes penodol wedi mynd. Iawn, efallai y bydd yn cael ei ledaenu ychydig yn fwy tenau i geisio diogelu rhai o'r sgiliau hynny, ond, fel y dywedais i, rwy'n hapus iawn i barhau i weithio gyda nhw. Mae rhai o'r sefydliadau yn gofyn am swm bach iawn o arian. Nawr, os byddwn ni'n cael yr arian hwnnw, os byddwn ni'n cael Llywodraeth Lafur, oherwydd rwy'n credu y byddai gennym ni rywfaint, os edrychwch chi ar yr hyn maen nhw'n ei addo—ac, yn amlwg, nid yw'r maniffesto wedi cael ei gyhoeddi eto—byddem yn cael cyllid canlyniadol. Felly, yr hyn rwy'n ceisio ei ddweud wrth bawb yw, 'Os gallwch chi aros ychydig yn hirach a gallwn ni weld a allwn ni ddod o hyd i ychydig mwy o arian.' Ond rydym mewn sefyllfa ariannol anodd iawn a dydw i ddim eisiau tanbwysleisio hynny.

Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi cyfeirio at y cap dau blentyn. Yr hyn roeddwn i wedi'i ddweud yw y byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hynny, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod pa mor bwerus y gallai'r dull ysgogi hwnnw fod.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. I mi, mae gwerthoedd Llafur Cymru yn ymwneud â sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, a gall mynediad at chwarae, cerddoriaeth, diwylliant ddod yn fforddiadwy yn hawdd i'r rhai sy'n gyfoethog yn unig os nad ydyn nhw'n cael eu hariannu gan gyllid cyhoeddus, ac mae'r cyllid hwnnw wedi'i dorri cymaint dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae'n fy mhoeni pan fyddaf yn clywed rhethreg hefyd yn dweud bod angen i ni dyfu'r economi cyn y gallwn ni gael cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Dydw i ddim yn credu bod angen i hynny fod y ffordd ymlaen, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi wneud sylwadau am hynny.

Hefyd, rwy'n poeni bod llawer o hyn yn cael ei wleidyddoli hefyd, megis Cymru fel cenedl noddfa, sy'n golygu helpu ffoaduriaid i berthyn i gymunedau sy'n gydlynol; dydy e' ddim yn ymwneud â cheiswyr lloches. Felly, sut ydych chi'n mynd i'r afael â hynny hefyd, wrth symud ymlaen, oherwydd pan gewch chi niferoedd mawr o'r cyhoedd gael y wybodaeth anghywir honno, yna mae hynny'n helpu i reoli penderfyniadau gwleidyddol ac yn gwneud i'r penderfyniadau fynd y ffordd anghywir, os ydych chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu.

Ac mae llawer o benderfyniadau yn seiliedig ar gynnyrch domestig gros a busnes. Sut ydyn ni'n rhoi gwerth i iechyd a lles, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl angen lefel benodol o hapusrwydd a lles, mynediad at gerddoriaeth, diwylliant a  chydraddoldeb, i fyw, nid dau dŷ a chyfoeth. Mae gennym ni Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, felly sut allwn ni gymhwyso honno fel mesur? A sut allwn ni fesur yr holl bethau gwerthfawr hyn er mwyn gwneud cymdeithas gyfartal? Mae'n ddrwg gennyf, dydy hwnnw ddim yn gwestiwn da iawn, ond dyna rwy'n teimlo sy'n bwysig ac sy'n ein gwneud ni fel Plaid Lafur Cymru yn bwysig, i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Diolch.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 5:09, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Roeddwn i wrthi'n myfyrio, pan oeddech chi'n sôn am genedl noddfa a chymunedau cydlynol, fy mod i bore yma wedi cyfarfod â HOPE Not Hate, a chawson ni drafodaeth ddiddorol iawn am rannu gwybodaeth a pha mor bwysig yw hynny. Fe wnaethon ni ganolbwyntio'r bore 'ma, oherwydd roedden ni'n sôn am wersi i'w dysgu—roedd cyn i mi ddod i mewn i bortffolio—am sicrhau ein bod ni'n osgoi sefyllfa fel yr oedd gennym ni yn Llanelli, gyda Gwesty Parc y Strade, a phwysigrwydd dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd. Nid wyf wedi gallu cyfarfod â'r Ysgrifennydd Cartref. Rydw i wedi bod yn y swydd nawr tua 11 wythnos ac rwy'n sylweddoli nawr bod gennym ni etholiad cyffredinol, felly dydw i ddim yn mynd i gyfarfod â'r Ysgrifennydd Cartref nes bod un newydd. Ond mae'n bwysig iawn bod gwybodaeth yn cael ei rhoi sy'n gywir, nad ydych chi'n cael rhethreg, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato rwy'n credu, lle nad yw pobl yn deall y ffeithiau, oherwydd gall hynny arwain at y gwrthwyneb yn llwyr i'r hyn yr ydym ei eisiau o ran cydlyniant cymunedol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Mae gennym ni sefydliadau gwych yn ein cymunedau sydd eisiau bod yn rhan o genedl noddfa, sydd eisiau bod yn rhan o groesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Does dim ond rhaid i ni weld y ffordd y gwnaethom ni agor ein drysau—pan oeddwn i yn y portffolio hwn 10 mlynedd yn ôl, ffoaduriaid o Syria ydoedd. Nawr, yn amlwg, ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi cael eu croesawu yma. Felly, rydym yn genedl noddfa, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod hynny'n parhau.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ei ddweud am iechyd a lles a'r celfyddydau a diwylliant, ac rwyf wedi dweud ychydig o weithiau fy mod i'n credu bod y celfyddydau'n achubwr bywyd gwych. Mae'n bwysig iawn nad ydyn nhw'n elitaidd a bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu gwneud hynny fel y gallan nhw ffynnu ac nid goroesi yn unig.