4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol

– Senedd Cymru am 3:54 pm ar 4 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:54, 4 Mehefin 2024

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle. 

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dair wythnos yn ôl, roeddwn i'n falch o ddod i'r Siambr hon a siarad â'r Aelodau am fy mlaenoriaethau ar gyfer y system addysg yng Nghymru. Rwyf bob amser wedi hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc, ac yn y datganiad hwnnw fe nodais yn glir fy ymrwymiad i godi cyrhaeddiad, i fod yn uchelgeisiol ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru ac i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a chau'r bwlch cyrhaeddiad. I mi, mae'r rhain yn uchelgeisiau canolog ac, fel y dywedais i, maen nhw'n rhai yr wyf eisiau ac yr wyf yn disgwyl i'r system addysg gyfan gydweithio i'w cyflawni.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 3:55, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr yr Aelodau, ymrwymodd y Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu i archwilio diwygio'r flwyddyn ysgol, a hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd, Jeremy Miles, am ei holl ymdrechion yn y gwaith hwnnw. Hoffwn ddiolch hefyd i Siân Gwenllian am ei hymdrechion a'i chefnogaeth wrth fwrw ymlaen â hyn.

Gyda deilliannau dysgwyr yn ganolog iddi, rydym wedi edrych ar y system yn ei chyfanrwydd i weld sut y gallai'r ffordd yr ydym yn strwythuro calendr yr ysgol gefnogi staff ysgolion yn well i wella profiadau addysgol ein pobl ifanc, yn enwedig ein rhai mwyaf difreintiedig, ac alinio'n fwy effeithiol â'r ffordd y mae pobl a theuluoedd yn byw ac yn gweithio ar yr un pryd.

Ar 13 Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd lansiad yr ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol. Heddiw, rwy'n cyhoeddi canfyddiadau'r ymgynghoriad hwnnw, a ddaeth i ben ar 12 Chwefror. Ar ôl derbyn dros 16,000 o ymatebion, mae'n amlwg yn un o ymgyngoriadau mwyaf pellgyrhaeddol Llywodraeth Cymru, ac mae'n deg dweud bod mater y flwyddyn ysgol yn un sy'n cyrraedd ar draws cymdeithas, gyda barn ar bob ochr. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr ymatebion, lle rhannwyd barn bron yn gyfartal ar bob cwestiwn a ofynnwyd a phob opsiwn a gyflwynwyd.

Roedd yr ymgynghoriad yn nodi tri chynnig craidd sef, yn gyntaf, i gynnal y status quo; byddai'r ail yn gweld pum wythnos o haf, toriad o bythefnos yn yr hydref, a'r hyblygrwydd i ddatgysylltu toriad diwedd tymor y Pasg o ŵyl y Pasg; roedd y trydydd opsiwn a'r opsiwn olaf yn adeiladu ar hyn, a byddai'n edrych ar symud i bedair wythnos o haf, cyflwyno toriad o bythefnos ym mis Mai, a threfnu i ganlyniadau UG, Safon Uwch a TGAU gael eu cyhoeddi ar yr un diwrnod.

Bydd yr Aelodau'n gweld, er bod y canlyniadau'n dangos bod cefnogaeth i newidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol, nid oedd dewis cryf i unrhyw un o'r opsiynau a gyflwynwyd. Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi dychwelyd i'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer newid, ac unwaith eto, fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw hyn yn glir.

Mae yna dystiolaeth sy'n awgrymu bod cyfnod yr haf yn cyfrannu at golli dysgu, ac mae yna bryderon amlwg ynghylch sut rydym yn cefnogi'r plant hynny y mae'r ysgol yn fwy diogel na'u cartref. Ond mae yna dystiolaeth hefyd sy'n dangos budd toriad estynedig i les plant a'r gweithlu, a sut mae hynny'n cyfrannu'n gadarnhaol at fywyd teuluol. Un enghraifft o blith llawer yw hon, a gall Aelodau weld mwy o fanylion yn y wybodaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol ar ein gwefan.

Yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, fe ddywedais i y byddwn i'n gwrando ar farn y rhai sy'n gweithio o fewn y system addysg, ac ar farn plant, pobl ifanc a rhieni, ac rwyf wedi cymryd amser i ystyried y sylwadau a wnaed mewn ymateb i'r ymgynghoriad ac i wrando ar y farn a'r safbwyntiau gwahanol. O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu na fyddwn yn rhoi unrhyw newidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol ar waith yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'n bwysig bod yn glir am hyn, ac felly rwyf hefyd yn cadarnhau heddiw fy mod i wedi gofyn i awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill gyhoeddi dyddiadau tymhorau ar gyfer 2025-26. Fodd bynnag, rwyf am barhau i edrych ar beth arall y gellir ei wneud i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, eu dysgu a'r camau hollbwysig sydd eu hangen i godi cyrhaeddiad, safonau a dyheadau.

Dros weddill tymor y Senedd hon, rwy'n bwriadu parhau i archwilio'r cynigion a nodwyd yn ein hail opsiwn yn yr ymgynghoriad: pum wythnos o haf, toriad o bythefnos yn yr hydref, a'r hyblygrwydd i ddatgysylltu toriad diwedd tymor y Pasg o ŵyl y Pasg. Fodd bynnag, mae diwygio pethau'n iawn yn golygu sicrhau ei fod wedi'i gynllunio'n iawn a'i fod yn cael yr amser a'r lle i lwyddo. Rwyf am gymryd yr amser hwn i drafod gyda phlant a phobl ifanc, rhieni, y gweithlu a phartneriaid eraill yr hyn y gallai'r newidiadau hyn ei olygu a phryd fyddai'r amser iawn ar eu cyfer nhw. Ni fydd unrhyw benderfyniadau terfynol cael eu gwneud yn nhymor y Senedd hon, gan fy mod i'n teimlo'n gryf bod angen i ni barhau i ganolbwyntio ar y rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau sy'n gennym eisoes yn ystod y cyfnod hwn, ac rwy'n ymwybodol iawn ein bod ni'n gofyn llawer gan athrawon ac ysgolion.

Yn ystod y misoedd nesaf, byddaf yn blaenoriaethu cymorth ar ddylunio'r cwricwlwm, cynnydd ac asesu. Byddaf yn gweithio gydag athrawon i sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cyrraedd eu hystafelloedd dosbarth a bod ganddyn nhw'r wybodaeth, yr adnoddau a'r hyder i sicrhau bod pob dysgwr a phob rhan o Gymru yn teimlo budd y cwricwlwm.

Fel y dywedais i cyn y toriad, byddaf hefyd yn canolbwyntio ar ddiwygio ADY. Rwyf am sicrhau bod sylfeini deddfwriaethol cadarn ar waith, ac rwyf am gryfhau gweithredu trwy wella cysondeb y dull gweithredu sy'n cael ei gymryd. Yn sicr, nid yw hynny'n golygu na fyddwn ni'n gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael ag effaith toriad hir yr haf nawr. Ein blaenoriaeth gyntaf fydd sicrhau bod dysgwyr yn cael y cymorth mwyaf posibl yn ystod gwyliau'r haf, gan gynnwys gwneud mwy i dargedu'r ddarpariaeth honno tuag at y cymunedau tlotaf a chynyddu gwerth addysgol y ddarpariaeth honno.

Byddwn ni'n ceisio cynyddu effaith y rhaglen gwella gwyliau'r haf a gwella ein rhaglen ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan gynnwys drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y rhaglen partneriaeth gwella ysgolion. Rwy'n falch bod Julie Morgan AS wedi cytuno i arwain adolygiad o SHEP i Lywodraeth Cymru ar sut y gellir gwneud y mwyaf o ddarpariaethau yn ystod gwyliau'r haf i sicrhau eu bod yn cyrraedd y plant a'r bobl ifanc hynny sydd eu hangen fwyaf. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ar y gwaith pwysig hwn.

Mae'r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad yn dangos bod hwn yn faes lle mae llawer o ddiddordebau, gan gynnwys o sectorau a sefydliadau nad ydyn nhw'n ymwneud ag addysg ein plant a'n pobl ifanc. Ac felly mae angen i mi fod yn glir, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, mai fy mlaenoriaeth i yw lles a dysgu ein plant a'n pobl ifanc. Dyna fydd y sbardun y tu ôl i'm gweithredoedd a bydd yn ganolog wrth fynd ati i archwilio'r cynigion ymhellach.

I gloi, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod ein system addysg yn cefnogi pob plentyn a'i uchelgeisiau. Byddaf yn parhau i archwilio newidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol lle gall y rhain gefnogi cyrhaeddiad, uchelgais a lles, yn enwedig i'r rhai mwyaf difreintiedig, er mwyn rhoi'r cyfleoedd gorau iddyn nhw mewn dysgu ac mewn bywyd. A byddaf yn gwneud hyn dros weddill tymor y Senedd hon, gan weithio mewn partneriaeth â'r sector addysg, plant, pobl ifanc a rhieni i sicrhau ein bod ni'n gwneud y newidiadau cywir ar yr adeg gywir. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 4:02, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw ac am gyfarfod â mi yn gynharach y prynhawn yma i drafod cynnwys y datganiad? Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwthio ei chynlluniau diweddaraf ar gyfer newidiadau i'r flwyddyn ysgol i'r naill ochr. Ond dylem fod yn glir iawn nad yw'r cynlluniau hyn wedi diflannu am byth, ac mae'n ymddangos y gallen nhw ddychwelyd o ddifrif ymhen dwy flynedd, os bydd y Llywodraeth Lafur Cymru hunanfodlon hon yn parhau mewn grym erbyn hynny.

Rydym yn gwybod ei fod yn bolisi hynod amhoblogaidd ar draws ystod o sectorau yng Nghymru ac, yn ôl ym mis Ionawr, daeth 11 o wahanol gyrff at ei gilydd, gan gynnwys undebau athrawon, undebau ffermio a chynrychiolwyr o'r sector twristiaeth a llawer mwy, ac fe wnaethon nhw ysgrifennu at y Gweinidog addysg ar y pryd i rybuddio am y difrod y gallai'r cynlluniau hyn ei achosi ledled Cymru. Fe ddywedodd y llythyr, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae yna risg y bydd y cynnig hwn yn datrys problem nad yw'n bodoli, pan nad oes llawer o awydd ymhlith y cyhoedd am newid o'r fath.'

Diwedd y dyfyniad. Ac maen nhw'n iawn. Mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cyflwyno'r newid yn wan ar y gorau. Mae'r syniadau hyn am ddysgu coll dros fisoedd yr haf yn ddiffygiol i ddechrau. Rydym yn gwybod bod y dystiolaeth hon yn aml yn seiliedig ar wledydd fel UDA, sy'n cael toriad haf llawer hirach nag yr ydym ni'n ei wneud. Mewn gwirionedd, mae ein gwyliau haf eisoes ymhlith y byrraf yn Ewrop, a byddai'r cynlluniau hyn wedi ei leihau ymhellach. Ac mae gwledydd sy'n uwch na ni o ran safleoedd y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr—ac mae llawer ohonyn nhw—yn cael toriadau haf llawer hirach na ni.

Ond mae hyd yn oed ymchwil ddiweddar o UDA yn dangos bod rhagdybiaeth graidd Llywodraeth Cymru bod toriad yr haf yn cael effaith anghymesur ar ddisgyblion tlotach yn ddiffygiol yn y lle cyntaf. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd ychydig cyn y pandemig gan yr academyddion Americanaidd Megan Kuhfeld a Karyn Lewis, ac rwy'n dyfynnu eto,

'nid yw data diweddar yn dangos bod gostyngiadau mewn sgoriau profion haf wedi'u crynhoi ymhlith myfyrwyr sydd mewn tlodi'.

Diwedd y dyfyniad. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn nawr bod y dystiolaeth academaidd am effaith gwyliau haf ar enillwyr incwm is wedi newid, neu a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn dal i lynu wrth ragdybiaethau hen ffasiwn am y mater?

Ond gadewch imi ddychwelyd at y llythyr cynharach hwnnw, oherwydd ynddo maen nhw'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'r undebau addysg hefyd yn anghrediniol, ar adeg pan fo ysgolion yn wynebu argyfwng o ran cyllid, recriwtio ac ymddygiad disgyblion, fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymaint o sylw i rywbeth sy'n gwbl ddiangen.'

Rwy'n siŵr nad ydyn nhw'n defnyddio gair fel 'anghrediniol' yn ysgafn. Ond maen nhw'n hollol gywir. Ar ôl 25 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, rydym wedi gweld disgyblion a staff gweithgar yn cael eu tanseilio'n llwyr gan record Llafur o safonau sy'n gostwng. Rydym wedi bod ar waelod tablau cynghrair ledled y DU ym mhob un pwnc a aseswyd gan PISA bob tro rydym wedi cael ein hasesu. Am dditiad damniol o bolisïau addysg di-drefn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Rydym yn gwybod hefyd fod y polisi hyd yma wedi costio £350,000 i drethdalwyr Cymru. Y gwahaniaeth y gallai hynny fod wedi'i wneud i'n hysgolion. Mae'r neges gan rieni ac athrawon fel ei gilydd yn glir, Ysgrifennydd Cabinet: dydyn ni ddim eisiau i'r cynnig hwn gael ei ohirio; rydym eisiau iddo gael ei fwrw i ebargofiant am byth.

Yn ehangach, roedd y sector twristiaeth a lletygarwch yn glir y byddai'r newidiadau hyn yn golygu y byddai busnesau'n cau a swyddi'n cael eu colli. Mae hynny'n ychwanegol at y polisïau eraill y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn eu dilyn, fel treth dwristiaeth, y mae'n ymddangos eu bod yn bwriadu difrodi sector y mae un o bob saith swydd yng Nghymru yn dibynnu arno. Roedd y sector amaethyddol hefyd yn glir y byddai'n achosi niwed aruthrol i'r ffermydd hynny sydd wedi arallgyfeirio i fanteisio ar fisoedd yr haf. Ac yn yr un modd, dywedodd Sioe Frenhinol Cymru y byddai ysgolion yn aros ar agor yn ystod wythnos y sioe yn arwain at golled o £1 filiwn i'r sioe ac yn bygwth ei hyfywedd ariannol yn y dyfodol. Dywedodd cynrychiolwyr o bob un o'r sectorau hyn yn y llythyr damniol hwnnw bod y rhain yn

'rhai o blith llawer o ddadleuon yr ydym oll wedi ailadrodd dro ar ôl tro i swyddogion Llywodraeth Cymru, ond does neb yn gwrando.'

Felly, a wnaeth Llywodraeth Cymru ei diwydrwydd dyladwy ar yr effaith y byddai'r newidiadau hyn yn ei chael ar sectorau eraill yng Nghymru, a pham mae hi'n credu eu bod nhw wedi dweud nad oes neb yn gwrando?

Ac yn olaf, byddai'n esgeulus i mi beidio â nodi, Llywydd, lle mae hyn yn y darlun ehangach o ran y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Yn ystod yr wythnosau diwethaf yn unig, rydym wedi gweld cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei ohirio, diwygiadau ADY yn cael eu hadolygu, newidiadau i'r dreth gyngor yng Nghymru yn cael eu rhoi o'r neilltu, cam yn ôl o ran 20 mya, a nawr diwygiadau i'r flwyddyn ysgol yn cael eu gwthio i'r naill ochr. Mae'r rhain yn bolisïau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru yn ystod y tymor hwn—arian yn cael ei wastraffu ar ddatblygu ac ymgynghori—ac sydd wedi cael eu rhoi o'r neilltu wedyn yn wyneb gwrthwynebiad. Mae hynny'n syml. Mae'r rheswm am hynny'n syml. Y rheswm am hyn yw bod hon yn Blaid Lafur ranedig a gwan yn y Senedd nad yw'n gallu cytuno ar unrhyw beth, a Phrif Weinidog gwan na all reoli ei grŵp. Ac rydym ni, y cyhoedd yng Nghymru, i gyd yn talu'r pris am hynny. Pan ddywedodd Keir Starmer fod Llywodraeth Lafur Cymru yn lasbrint i Lywodraeth Lafur y DU, rwy'n deall nawr beth mae'n ei olygu. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod ei fod yn hoffi ffit-ffatian, ond nawr rwy'n gwybod o ble mae'n cael ei ysbrydoliaeth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:07, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Gadewch i'r Aelod orffen ei gyfraniad, os gwelwch yn dda.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Felly, wrth gloi, Ysgrifennydd Cabinet, y tro nesaf y bydd Gweinidog Llafur yn codi ar ei draed yn Siambr y Senedd hon, neu Weinidog Llafur damcaniaethol yn San Steffan, ac yn cyhoeddi polisi, sut allwn ni gael unrhyw ffydd y bydd yn digwydd mewn gwirionedd?

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Tom Giffard am ei sylwadau? Fe ddechreuodd mor gadarnhaol, on'd do fe, ac fe aeth popeth i lawr yr allt o'r fan yna, ond dyna ni. Dydw i ddim yn ystyried bod hyn wedi cael ei wthio o'r neilltu. Fel yr ydych wedi nodi, Tom, mae'r sylfaen dystiolaeth ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol yn ddarlun cymysg. Mae llawer ohono'n seiliedig ar America, sydd â system hollol wahanol i ni. Roedd llawer ohono'n seiliedig ar rywbeth o'r enw addysg drwy gydol y flwyddyn. Felly, rydym wedi edrych ar y sylfaen dystiolaeth, ond rydym hefyd wedi cynnal ymgynghoriad trylwyr iawn, y gobeithiaf eich bod chi wedi cael y cyfle i'w ddarllen, ac roedd yr ymgynghoriad hwnnw'n gymysg ac yn groesddywedol. Roedd mwyafrif o bobl o'r farn bod yna ffyrdd gwell o ailgynllunio'r flwyddyn ysgol, ond roedd mwyafrif o bobl hefyd eisiau cadw'r status quo, a doedd yna ddim mwyafrif ar gyfer unrhyw un o'r opsiynau oedd ar gael. Felly, yn hytrach na'i wthio o'r neilltu, rwy'n ystyried hyn yn gwrando—gwrando ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym. Pam fydden ni'n cael ymgynghoriad ac wedyn ddim yn gwrando? Ac roedd hwn yn ymgynghoriad a gafodd dros 16,000 o ymatebion. Dyna'r ymgynghoriad mwyaf rydym erioed wedi'i gael ym maes addysg.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r llythyr y gwnaethoch chi gyfeirio ato gan yr undebau llafur, a anfonwyd at fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ac rwy'n ymwybodol o bryderon yr undebau llafur am y cynigion. Rwyf hefyd wedi manteisio ar bob cyfle rwyf wedi'i gael ers ymgymryd â'r swydd i siarad â staff rheng flaen am y cynlluniau hyn. Ac am y rheswm hwnnw, yn ogystal â gwrando ar yr ymgynghoriad ac i gydnabod ein bod ni'n gofyn llawer iawn gan ein hysgolion—maen nhw'n gwella ar ôl pandemig, maen nhw'n gweithredu diwygiadau mawr gyda'r Cwricwlwm i Gymru ac ADY, maen nhw'n delio â rhai heriau enfawr o ran presenoldeb, ac rwyf eisiau sicrhau eu bod nhw'n cael yr amser a'r lle i ganolbwyntio ar gyflawni'r diwygiadau hynny, a thra bod hynny'n digwydd, byddwn ni'n parhau i archwilio'r trafodaethau hyn gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y sector twristiaeth a lletygarwch, ac rwy'n siŵr y byddwch chi wedi gweld bod eu barn wedi'i hadlewyrchu yn yr ymgynghoriad, a bu ymgysylltu â'r ddau sector ac yn wir gyda'r Sioe Frenhinol drwy gydol yr ymgynghoriad. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn, rwy'n credu, y bydd y penderfyniadau y byddaf yn eu gwneud ar hyn yn cael eu gwneud ar sail yr hyn sydd er budd gorau plant a phobl ifanc a gweithlu'r ysgol sy'n eu cefnogi. Ond fe fyddwn ni dal, wrth gwrs, yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach, y mae'n iawn ac yn briodol i'w wneud.

Dydw i ddim, fwy na thebyg, yn mynd i ymateb i'ch llith pleidiol wleidyddol ar y diwedd.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:11, 4 Mehefin 2024

Diolch i’r Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mi wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod nifer o hyn yn deillio o’r cytundeb cydweithio, a sôn am waith Siân Gwenllian ar hyn. Yn amlwg, mi fydd yna nifer o bobl yn siomedig dyw'r diwygiadau radical hir-ddisgwyliedig yma ddim yn digwydd, ac, fel rydych chi wedi cydnabod ac fel sy’n glir o’r dystiolaeth, mae’r ymateb wedi bod yn gymysg iawn, ac mae nifer eisiau gweld newid, felly er bod yna nerfusrwydd ymhlith rhai, ac, yn amlwg, mae’n rhaid inni wrando ar y straen aruthrol sydd o ran athrawon, a’u lleisiau nhw o ran hyn yn y sefyllfa eithriadol o heriol, dwi’n meddwl bod yn rhaid inni edrych hefyd o ran yr amserlen ehangach yna o ran sut ydym ni am fynd â hynny rhagddo. Ac efallai mai'r cwestiwn i'w ofyn ydy: oeddem ni'n edrych ar ddigon o opsiynau? Oes yna opsiynau hyd yn oed yn fwy radical y dylem ni fod yn eu hystyried?

Dwi yn falch o glywed eich bod wedi rhoi tasg i Julie Morgan o ran rhaglen gwella'r gwyliau haf, oherwydd dwi’n credu ei fod o’n eithriadol o bwysig, onid ydy? Hyd yn oed os bydden ni’n lleihau'r gwyliau haf i bum wythnos, mae hynny’n dal i adael pum wythnos i rai plant sy’n methu cael pryd o fwyd iach fel maen nhw’n ei gael yn yr ysgol, sy’n methu cael mynediad i’r math o weithgareddau ac ati sydd ar gael i rai eraill o’u cyfoedion nhw.

Felly, mae yna broblem ehangach fan hyn, onid oes, o ran edrych ar gyd-destun plant a phobl ifanc, o ran un peth ydy’r gefnogaeth yn yr ysgol, ond hefyd beth ydym ni’n ei wneud yn y gwyliau haf? Dwi wedi bod yn rhan o’r gwaith ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chlywed am yr heriau aruthrol o ran rhieni sydd gyda phlant efo anghenion dysgu ychwanegol, neu blant gydag anableddau, o ran gallu cael mynediad at unrhyw fath o ofal plant yn y gwyliau haf o gwbl, felly. Felly, dydy o ddim yn gwneud gwahaniaeth pa mor hir ydy’r gwyliau; mae yna ddiffyg darpariaeth.

Felly, ydw i’n iawn i gymryd, o’r ffaith eich bod chi yn oedi gweithredu rŵan—? Ydy hyn yn mynd i fod yn waith ehangach i edrych ar yr holl becyn o gefnogaeth sydd ar gael o ran gofal plant, o ran darpariaeth y gwyliau haf, ac ydym ni’n mynd i weld cynigion mwy radical yn dod gerbron? Oherwydd un o'r pethau oedd yn dod yn glir gan athrawon a rhieni, dwi’n meddwl, o'r ymchwil oedd doedd pobl ddim eisiau ein gweld ni'n tincro er mwyn newid pethau, ond bod pobl eisiau gweld newid fyddai hefyd yn ateb rhai o'r heriau hynny. Yn amlwg, mi oedd yna bryderon o ran y sioe frenhinol, yr effaith ar yr Eisteddfod Genedlaethol ac ati, sydd hefyd, fel sydd eisoes wedi ei amlinellu, nid jest yn bwysig o ran twristiaeth, ond hefyd economi leol nifer o’n hardaloedd ni, ac yn rhan bwysig o'r calendr. Felly, mae rhaid inni edrych yn ehangach.

Os caf i ofyn un cwestiwn hefyd: o ran y rhaglen gwella'r gwyliau haf, pa mor hir, beth ydy’r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw, ac ai'r bwriad ydy bod yna bethau yn cael eu rhoi mewn lle ar gyfer gwyliau yr haf yma? Oherwydd dwi eisoes yn cael banciau bwyd ac ati yn cysylltu gyda mi sydd eisiau gwybod pa gymorth fydd ar gael.

Ac a gaf fi ofyn hefyd: fyddwch chi'n edrych ar yr elfen o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg? Oherwydd yn aml—. Mi oedd Trystan Edwards o ysgol Garth Olwg, fu’n rhan o’r gweithgor oedd yn edrych ar hyn, ar y radio y bore yma, ac roedd o’n sôn, wrth gwrs, fod un o’r heriau efo addysg cyfrwng Cymraeg ydy faint o golli’r Gymraeg sydd yn digwydd yn ystod y gwyliau haf, ac, yn anffodus, er bod yna weithgareddau gwych yn cael eu trefnu gan yr Urdd ac ati, y mentrau iaith ledled Cymru, nid pawb sy'n gallu cael mynediad at y gweithgareddau hynny ar hyn o bryd. Yn sicr, yn fy rhanbarth i, doedd y cynllun SHEP yn aml ddim ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, neu dim ond nifer fach o sesiynau cyfrwng Cymraeg oedd ar gael. Felly, sut ydyn ni'n sicrhau bod beth bynnag sydd ar gael hefyd gyda'r elfen yna o ran y Gymraeg ynddo fo? Felly, os cawn ni eglurder o ran amserlen ar gyfer y gwyliau haf yma, ond hefyd o ran mynd â'r gwaith yma rhagddo, ei fod o ddim yn rhywbeth sydd yn dod yn angof, ond ein bod ni'n gweld y gweithredu radical sydd ei angen i sicrhau'r gorau i bob un o'n dysgwyr ni. Diolch.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 4:15, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Heledd. Fel y sonioch chi, roedd y gwaith hwn yn rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd arno, yn enwedig y berthynas adeiladol iawn yr oedd gennyf â Siân Gwenllian ar hyn, a Dafydd Trystan hefyd, a oedd yn helpu gyda'r gwaith hwnnw. Fel y sonioch chi, cymysg iawn oedd yr ymateb, ac rwy'n ddiolchgar am eich cydnabyddiaeth bod hyn yn ymwneud â gwrando.

O ran y gwaith y mae Julie yn mynd i'w wneud ar SHEP, rydym wedi gofyn i hwn fod yn adolygiad cyflym. Mae angen i mi gael trafodaethau pellach gyda Julie ynglŷn â sut y bydd hynny'n edrych. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cydnabod bod gan Julie record wirioneddol ragorol o weithio gyda phobl ifanc sy'n profi anfantais, felly rwyf hefyd eisiau ystyried ei barn am yr hyn y dylid ei gynnwys hefyd. Yn ôl yr hyn rwyf yn ei ddeall, ar gyfer SHEP eleni, mae cynlluniau eisoes wedi'u gwneud, felly mae'n fwy tebygol y bydd hyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol, er ein bod ni eisoes wedi cytuno i ymestyn SHEP eleni er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol anodd iawn.

Rwy'n deall yn iawn yr hyn rydych chi'n ei ddweud am ADY, ac fe fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud wrth y pwyllgor pa mor bryderus ydw i i sicrhau ein bod ni'n cael cymorth ar gyfer ADY yn iawn. Mae fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, yn arwain ar faterion gofal plant, ac rwy'n gwybod ei bod hi, fel fi a Lesley Griffiths, yn aros am adroddiad y pwyllgor ar fynediad at ofal plant ac addysg ar gyfer plant anabl. Byddwn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n ystyried hynny'n ofalus ac yn ymateb i'r argymhellion.

O ran yr hyn rydych chi wedi'i ddweud am addysg Gymraeg, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn. Roedd hyn yn rhywbeth a ystyriwyd fel rhan o'r ymgynghoriad o ran colli dysgu ar gyfer y plant hynny lle nad oedd ganddyn nhw deulu Cymraeg eu hiaith gartref. Unwaith eto, roedd y farn yn eithaf cymysg, ac ni chafwyd ystod gref o safbwyntiau. Ond rydym yn darparu SHEP mewn cryn nifer o awdurdodau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mewn rhai awdurdodau lleol mae gennym ni ddarpariaeth ddeuol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rwy'n cydnabod y gallai fod yn fwy ac yn well. Byddaf yn sicr yn sicrhau mai dyna fydd un o'r pethau y bydd Julie yn edrych arno, ac rwy'n fwy na pharod, os yw'n ddefnyddiol, i ysgrifennu atoch gyda rhestr o'r awdurdodau lleol sy'n cynnig SHEP drwy gyfrwng y Gymraeg.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Llafur 4:18, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am fod yn ddigon dewr i wrthsefyll pwysau gwleidyddol ac i wrando ar yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y flwyddyn ysgol. Wrth siarad fel cyn-athro a chan ystyried graddfa'r diwygiadau radical yr ydym eisoes yn disgwyl i'n hysgolion ymgymryd â nhw, rwy'n credu mai eich ffocws ar godi safonau yw'r union le y mae angen i ni fod. Bydd gohirio'r cynlluniau hyn yn caniatáu i'n hysgolion ganolbwyntio ar hynny, yn enwedig mynd i'r afael â materion presenoldeb a chyrhaeddiad ymhlith ein disgyblion mwyaf difreintiedig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allech chi ymhelaethu ar sut rydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r ddau fater allweddol hyn?

Yn ail, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'n llwyr eich penderfyniad i benodi Julie Morgan AS i oruchwylio adolygiad o'r rhaglen gwella gwyliau'r haf. Rwy'n arfer ymweld â rhaglenni SHEP yn fy etholaeth bob haf, ac mae'r prydau maethol rhagorol a'r tasgau addysgol hwyliog sydd ar gael wastad yn creu argraff arnaf. Fodd bynnag, mae'r nifer sy'n manteisio yn broblem bob amser, a'r hyn a welaf yw, er bod rhaglenni SHEP bob amser wedi'u lleoli yn ein cymunedau mwy difreintiedig, dydw i dal ddim i deimlo, mewn gwirionedd, eu bod nhw'n cyrraedd y disgyblion mwyaf difreintiedig yn y cymunedau hynny. Felly, allwch chi gadarnhau y bydd yr adolygiad yn cymryd golwg galed, hir a manwl ar sut y gallwn ni gyrraedd y disgyblion mwyaf difreintiedig hynny go iawn?

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 4:20, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Vikki Howells am ei sylwadau ac am ei chefnogaeth? Rwy'n croesawu'n arbennig y ffaith eich bod chi wedi tynnu ar eich profiad fel athro a'r gydnabyddiaeth honno o ran faint o waith diwygio yr ydym yn gofyn i ysgolion ei reoli ar hyn o bryd. Rwyf wedi bod yn glir iawn ers i mi ymgymryd â'r swydd bod codi cyrhaeddiad yn flaenoriaeth i mi. Yn sicr, dydw i ddim yn cydnabod y darlun llwm a baentiwyd gan Tom Giffard, ond rwyf yn cydnabod bod ein canlyniadau PISA diwethaf yn siomedig a bod angen i ni ganolbwyntio ar godi cyrhaeddiad yn gyffredinol.

Mae swyddogion wrthi'n gweithio ar gynllun a fydd yn ein galluogi i godi cyrhaeddiad addysgol ledled Cymru, gan roi tegwch, cynhwysiant a lles wrth wraidd hynny, a bydd pedair elfen o waith i gyflawni hynny. Y gyntaf yw bod cyrhaeddiad i ni yn cynnwys cynhwysiant, tegwch, dyhead ac ymestyn. Yn ail, mae'r cwricwlwm a diwygio anghenion dysgu ychwanegol yn ganolog i gyflawni safonau gwell yng Nghymru. Yn drydydd, mae angen i ni sefydlu ein harweinyddiaeth genedlaethol er mwyn dod â'n partneriaid at ei gilydd i ganolbwyntio ar safonau gwell, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r rhaglen partneriaeth gwella ysgolion, sydd ar ail gam ei gwaith ar hyn o bryd. Yn bedwerydd, fel yr wyf wedi'i ddweud sawl gwaith, mae iechyd meddwl a lles yn hanfodol i'r agenda hon yn ei chyfanrwydd.

Rydych chi'n hollol iawn i gydnabod y materion sy'n ymwneud â phresenoldeb. Mae'r ffigurau presenoldeb yng Nghymru yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ond mae mwy i'w wneud. Rwy'n arbennig o bryderus am bresenoldeb plant a phobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Felly, rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud o ran hynny. Rwy'n cadeirio'r tasglu presenoldeb cenedlaethol, y mae ei holl ffrydiau gwaith a'i is-grwpiau ar waith erbyn hyn, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ddod â ffocws manwl go iawn i'r gwaith hwnnw.

Diolch am eich sylwadau ar SHEP; byddwn i'n sicr yn annog unrhyw Aelod i fynd i ymweld â'i gynlluniau SHEP lleol yn ystod yr haf. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â'r nifer sy'n cymryd rhan ac mae hynny'n rhywbeth rydw i wedi bod yn poeni amdano fy hun. Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o dargedu meddal sy'n mynd ymlaen gyda SHEP sy'n seiliedig ar wybodaeth leol gan y bobl sy'n rhedeg y cynlluniau, ond un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i Julie edrych arno mewn gwirionedd yw sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod y cynlluniau'n cyrraedd y plant hynny sydd—rwy'n casáu'r term 'anodd eu cyrraedd'—yn lleiaf tebygol o ymgysylltu â'r rhaglen SHEP, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael allan.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:23, 4 Mehefin 2024

Gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet? Dwi'n meddwl bod cymryd cam yn ôl yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn gam synhwyrol. Dwi'n synnu bod yna ddim cyfeiriad penodol yn eich datganiad chi at yr effaith y byddai rhai o'r cynigion wedi'i chael ar y sioe fawr a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn enwedig gan fod hynny wedi bod yn nodwedd flaenllaw iawn yn y crynodeb rŷch chi wedi'i gyhoeddi heddiw o'r ymatebion, ac yn sicr rhywbeth roeddem ni, fel plaid, wedi gwneud yn glir ynglŷn â'n gwrthwynebiad ni i newidiadau fyddai'n cael effaith negyddol ar y sioe neu'r Eisteddfod. Rŷch chi wedi dweud na fydd yna benderfyniad terfynol, felly, yn cael ei wneud yn y Senedd yma, ond yn eich datganiad, rŷch chi hefyd yn dweud y byddwch chi nawr, fel Ysgrifennydd Cabinet ac fel Llywodraeth, yn parhau i archwilio'r ail gynnig yn benodol yn yr ymgynghoriad yn ystod gweddill y Senedd yma. Ond, wrth gwrs, mi oedd hwnnw'n un o'r cynigion fyddai wedi cael effaith ar y sioe frenhinol yn enwedig. Felly, allwch chi gadarnhau, wrth ichi ddatblygu'r gwaith yna, nid yn unig y byddwch chi'n ymwybodol o'r angen i warchod buddiannau'r sioe fawr a'r Eisteddfod, ond y byddwch chi'n sicrhau na fydd unrhyw newid yn y pen draw yn arwain at effaith negyddol ar y gwyliau hynny?

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 4:24, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llyr. Fel y dywedwch chi, fe gafodd y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ac mae trafodaethau wedi bod gyda sefydliadau perthnasol mewn perthynas â hynny. Rwyf am fod yn glir iawn, serch hynny, fy mod i'n credu bod hwn yn benderfyniad y mae'n rhaid ei wneud ar sail yr hyn sydd orau i blant a phobl ifanc, ond rwy'n gwybod hefyd fod cymunedau yng Nghymru sydd wir yn gwerthfawrogi mynd â'u plant a'u pobl ifanc i ymweld â'r Sioe Frenhinol. Yn wir, roedd yr ymgynghoriad ei hun yn adlewyrchu'r angen i wneud yn siŵr bod digwyddiadau mawr yn cael eu darparu ar eu cyfer yn hynny o beth. Felly, rwy'n deall bod hyn yn achos pryder i Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig, ac fe allaf eich sicrhau y byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â'r Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod a sefydliadau eraill ynglŷn â hyn wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur 4:25, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Hoffwn groesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae yna ddadleuon a gwerth ar ddwy ochr y mater hwn. Ond mae'r ymgynghoriad ar y newid i'r calendr ysgolion yng Nghymru wedi derbyn 16,000 o ymatebion, ac mae'n rhaid i ni nodi mai dyma'r ymgynghoriad addysg mwyaf erioed yng Nghymru. Mae'r rhestr o sefydliadau sy'n gwrthwynebu yn helaeth iawn, felly hefyd yr ymateb cymysg iawn gan rieni, sy'n dangos bod angen mabwysiadu dull synnwyr cyffredin. Mae'n iawn ymgynghori ar y mater hwn, ac mae hefyd yn iawn gwrando ar yr ymgynghoriad hwnnw ac yna gweithredu arno.

Heddiw, wrth i'n cymunedau ysgol barhau i geisio symud ymlaen o gysgod pandemig COVID-19 a brwydro allan o dywyllwch cyni, rydym yn gwybod bod yr heriau maen nhw'n eu hwynebu yn rhai dwys a gallwn ni ddim, a dylen ni ddim, danbrisio hyn, yn enwedig y gostyngiad mewn presenoldeb ysgol a welwyd ledled Cymru, yn dyngedfennol gan rai o'r plant tlotaf yn ein cymdeithas, ein carfan fwyaf bregus.

Ysgrifennydd Cabinet, diolch am yr eglurder rydych chi wedi'i roi heddiw; bydd yn cael ei groesawu'n eang. O ran y sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni heddiw—i'r plant, yr athrawon, y staff a'r teuluoedd ar draws Islwyn—y byddwch chi'n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ac yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â phresenoldeb, rhoi'r cwricwlwm newydd ar waith, ymgymryd â'r diwygiadau sydd eu hangen o ran anghenion dysgu ychwanegol, datblygu rhaglen gwella gwyliau'r haf gryfach, lleihau'r fiwrocratiaeth sy'n wynebu athrawon ac, yn olaf, mynd i'r afael â'r angen i gryfhau cadw staff ar draws ysgolion Cymru, mae angen y blaenoriaethu hwnnw arnom. 

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 4:27, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Rhianon, am y croeso hwnnw i'r cyhoeddiad heddiw, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd i chi fod presenoldeb yn gwbl hanfodol. Dydy plant ddim yn mynd i ddysgu a ffynnu os nad ydyn nhw yn yr ysgol, ac rydym yn gwybod bod gennym fwy o waith i'w wneud o ran hynny. Rydym yn cyflwyno diwygiadau uchelgeisiol i'r Cwricwlwm i Gymru, ac rwyf wedi bod yn glir iawn bod gennym fwy o waith i'w wneud ar ein diwygiadau ADY. Mae yna faterion llwyth gwaith hefyd fel yr ydych newydd eu crybwyll—rydym yn gwneud llawer o waith ar hynny. Mae gennym grŵp gweithlu strategol o fewn Llywodraeth Cymru; rydym yn datblygu teclyn digidol i benaethiaid wneud asesiadau o'r effaith ar y gweithlu. Rydych chi'n codi pwynt pwysig hefyd am gadw, oherwydd un o'r materion yr oedd y gweithlu yn poeni amdano oedd y gallai'r cynigion hyn effeithio ar gadw'r gweithlu. Felly, rwy'n credu mai dyna pam ei bod yn bwysig iawn, wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ein bod ni'n gwneud hynny mewn partneriaeth â'r gweithlu a chyda'n partneriaid undebau llafur. 

Photo of Hefin David Hefin David Llafur 4:28, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar effeithiau'r hyn y gallai'r newid fod wedi ei olygu. Fe wnes i bostio fideo ar fy nhudalen Facebook yn gofyn i bobl sy'n byw yng Nghaerffili am eu barn, ac roedd yn gymysg iawn, sy'n adlewyrchu'r ymatebion a gawsoch. Un o'r pethau a ddaeth drwodd yn amlwg ymhlith y bobl rwy'n mynychu grŵp Sparrows gyda nhw, gyda fy merch sydd ag ADY, yw bod llawer mwy o weithgareddau am ddim ar gael iddyn nhw yn yr haf, a gallwch chi ddim cadw plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn y tŷ yn barhaus dros wyliau'r haf, neu unrhyw wyliau. Fe aethon ni i Barc Morgan Jones dros y penwythnos; mae yna bad sblasio yno, ac mae yna lawer o weithgareddau awyr agored tywydd da sy'n tueddu i gau yn hanner tymor mis Hydref. Yn hanner tymor mis Hydref, rydym yn tueddu i weld chwarae meddal, trampolinio—y pethau hynny y mae'n rhaid i chi dalu amdanyn nhw o dan do—ac mae'n llawer mwy costus i deuluoedd, yn enwedig i deuluoedd sydd yn y sefyllfa honno ac sydd hefyd yn fwy tebygol o fod ar incwm is. Felly, rwy'n croesawu'r saib hwn, ond byddwn i hefyd yn gofyn i chi gadw mewn cof yr hyn rwyf wedi'i ddweud, os byddwch chi'n penderfynu bwrw ati yn y dyfodol.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 4:29, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Hefin. Yn wir, daeth y materion hynny i'r amlwg drwy'r ymgynghoriad: pryderon am bethau fel gwresogi eich cartref yn ystod hanner tymor estynedig ym mis Hydref a'r ffaith ei bod yn anoddach dod o hyd i weithgareddau i'w gwneud yn rhad ac am ddim. Ond yr ochr arall i hynny oedd bod yna gydnabyddiaeth hefyd o'r blinder y mae plant a'r gweithlu yn ei brofi yn ystod y tymor hir iawn hwnnw hyd at y Nadolig. Mae'r ddadl rydym yn ei chael heddiw wir yn tynnu sylw at ba mor gymysg a gwrthgyferbyniol yw'r materion hyn, a sut mae'r gwaith hwnnw i'w wneud i gydbwyso'r anghysondebau hynny.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 4:30, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Fe wrandawais i'n ofalus ar ddatganiad siomedig yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma. Fe sylwais i ei bod hi wedi dewis dechrau a gorffen ei datganiad drwy gyfeirio at ei hymrwymiad i fudd gorau plant. Wrth gwrs, dydy ansawdd ei hymrwymiad ddim yn fater y prynhawn yma—mae hynny'n amlwg wythnos ar ôl wythnos yma yn y Siambr. Ansawdd ei phenderfyniadau hi yr ydym yn craffu arno, nid ansawdd ei hymrwymiad. A gadewch i ni fod yn glir mai'r hyn rydym wedi'i glywed y prynhawn yma yw cefnu ar ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf. A dylai'r Gweinidog ddim ceisio cysgodi y tu ôl i semanteg wrth ddweud wrthyf mai ymrwymiad i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol oedd hwn, oherwydd mae hi'n gwybod yn iawn bod ei rhagflaenwyr wedi cyhoeddi cynllun—nid archwiliad, ond cynllun—i weithredu'r ymrwymiad hwnnw, a bydd hynny ddim yn digwydd nawr yn nhymor y Senedd hon. A beth oedd y cynllun hwnnw, Llywydd? Byddai wedi symud un wythnos—un wythnos—mewn pum mlynedd o wyliau'r ysgol yn yr haf i hanner tymor yr hydref. Gallai neb, dydw i ddim yn meddwl, honni bod y Llywodraeth yn rhuthro'n bendramwnwgl i lawr rhyw lwybr radical, ond roedd yn ddechrau. Roedd yn ddechrau ar daith a fyddai wedi gwella'r deilliannau i blant yng Nghymru. Rwy'n gresynu at y niwed gwleidyddol. Rwy'n gresynu at y difrod a fydd yn cael ei wneud i enw da Cymru, yn union fel yr oedd rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn edrych ar Gymru ac yn pwyntio atom fel enghraifft o'r hyn y gallai Llywodraeth flaengar ei wneud. Yr hyn rwy'n gresynu ato fwyaf yw'r difrod a fydd yn cael ei wneud i gyfleoedd bywyd y plant sydd wrth wraidd y polisi hwn.

Bydd cyd-Aelodau yma yn gwybod am yr anawsterau a brofwyd ar ystad Trelái yma yng Nghaerdydd. Dywedaf wrth yr Ysgrifennydd Cabinet: fydd y plant rwy'n poeni amdanyn nhw, eu teuluoedd ddim yn poeni, fel y dywedwyd yn eich datganiad, am y cyfleoedd ansawdd bywyd sy'n dod gyda thoriad estynedig dros yr haf. Bydd y teuluoedd hynny yn agosáu at wyliau'r haf yn teimlo'n bryderus, weithiau'n ofnus. Ac mae cyfleoedd bywyd y plant hynny yn dibynnu'n llwyr ar yr hyn y gall yr ysgol ei wneud iddyn nhw, a'r ysgolion gwych ar yr ystad sy'n gwneud cymaint i fuddsoddi yn y plant hynny sydd heb gyfle—[Torri ar draws.]—fel arall, ac sy'n gweithio trwyddyn nhw i gyd, o fis Medi i fis Gorffennaf. Ac ym mis Gorffennaf, mae'r plant hynny wedi cael—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:33, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae Hefin David yn ceisio heclo ar hyn o bryd. Rwy'n caniatáu i'r Aelod barhau â'i gyfraniad. Mark Drakeford.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r plant hynny, ym mis Gorffennaf, wedi cael budd o bopeth y gall yr ysgol honno ei wneud. [Torri ar draws.] Ac yna mae'r plant hynny'n mynd i ffwrdd—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Esgusodwch fi, peidiwch â chwestiynu fy mhenderfyniad i ganiatáu i Mark Drakeford—. Fe ddywedoch chi, 'Mae hyn yn hurt', fy mod i'n caniatáu i Mark Drakeford barhau. Dyw e ddim. Rwyf wedi caniatáu disgresiwn i chi dro ar ôl tro i barhau ar faterion sy'n bwysig i chi eich hun, felly cofiwch hynny, Hefin David. Rwy'n caniatáu i Mark Drakeford barhau.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Pan fydd y plant hynny'n mynd i ffwrdd ym mis Gorffennaf, yn y chwe wythnos hynny, fyddan nhw ddim yn gweld llyfr, fyddan nhw ddim yn cael cyfle i chwarae mewn ffordd sy'n eu galluogi i werthfawrogi'r hyn y gall mathemateg ei wneud iddyn nhw yn eu bywydau, a phan fyddan nhw'n dod yn ôl ym mis Medi, mae'r ysgol yn dechrau eto. Mae'r syniad nad oes unrhyw ddysgu yn cael ei golli ym mywydau'r plant hynny yn hollol hurt. Yr hyn y byddai'r polisi hwn wedi'i wneud yw y byddai wedi dechrau cau'r bwlch ym mywydau'r plant hynny. Dyma Lywodraeth a allai fod wedi gwneud rhywbeth i'w helpu, ond mae wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Pa esboniad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn credu y dylwn i ei gynnig i'r plant hynny sydd bellach yn gweld bod eu buddiannau nhw yn yr ail safle, yn erbyn rhai'r grymoedd adweithiol a fydd wastad ynghlwm wrth y status quo?

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 4:34, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Mark Drakeford am ei sylwadau? Rwy'n difaru naws rhai o'r sylwadau hynny, yr wyf yn teimlo eu bod yn cwestiynu fy ymrwymiad fy hun i blant a phobl ifanc, sef yr unig reswm pam fy mod i'n gwneud y swydd hon, a'r rheswm pam rwyf wedi gwneud pob swydd rwyf wedi'i gwneud yn y Siambr hon: i hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc. A chyda pharch, Mark, rwy'n credu fy mod i wedi nodi'n glir iawn fy rhesymau dros y penderfyniad hwn heddiw. Mae'n ymwneud â gwrando ar ymgynghoriad. Gallwch chi ddim cael ymgynghoriad ac yna anwybyddu'r ymgynghoriad hwnnw. Fyddai hynny ddim yn dderbyniol. Ond mae hefyd yn ymwneud â chydnabod bod yn rhaid i ni weithredu cyfres o ddiwygiadau mawr a mynd i'r afael â rhai materion cyrhaeddiad difrifol yn ein hysgolion. A wyddoch chi pwy sy'n dioddef fwyaf o'r heriau hynny o ran cyrhaeddiad? Yr union blant hynny rydych chi'n sôn amdanyn nhw. Cael y plant hynny allan o dlodi yw'r hyn y mae gen i ddiddordeb yn ei wneud, trwy roi ein diwygiadau ar waith. A dweud y gwir, mae meddwl bod newid wythnos yn y flwyddyn ysgol yn mynd i wneud gwahaniaeth i'r heriau systemig rydym yn eu hwynebu ym myd addysg yn chwarae'r crwth a Rhufain yn llosgi, ac mae'n ddrwg iawn, iawn gen i eich bod chi wedi dewis ei roi fel yna.

Mae'r cyfraddau absenoldeb parhaus ar gyfer plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn yr ysgol uwchradd yn 50 y cant a mwy. Mae hynny'n ffigwr rhyfeddol, a dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Dydy e ddim yn ymwneud â newid wythnos yma ac acw. A dydy hyn ddim yn ymwneud â grymoedd adweithiol. [Torri ar draws.] Allwch chi adael i mi orffen? Oherwydd fe wnes i adael i chi siarad, on'd do fe? Wnes i ddim dweud gair tra roeddech chi'n siarad. Dydy hyn ddim yn ymwneud â grymoedd adweithiol. Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniad rwy'n ei wneud yn seiliedig ar ymgynghoriad 16,000 a mwy a'r hyn rwy'n ei glywed ar lawr gwlad am system ysgol sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac yn cael ei llethu â diwygiadau, sy'n ei chael hi'n anodd codi cyrhaeddiad, ac sydd hefyd yn cael trafferth dod o hyd i gyllid. Felly, dyna'r hyn rwy'n ei flaenoriaethu, a dydw i ddim yn ymddiheuro am y penderfyniad hwnnw. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw ar ôl wythnosau lawer o ystyriaeth ofalus, er budd gorau pob plentyn a pherson ifanc yn fy marn i, gan gynnwys y plant ar ystad Trelái, yr wyf yn teimlo'n angerddol amdanyn nhw.