3. Dadl: Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 4 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:24, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

'I arbed wyneb ac arbed cost, cafodd llawer o'r gwirionedd ei gelu.'

Mae'n rhaid i eiriau damniol a brawychus Syr Brian Langstaff fod yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth i ni ystyried effaith y sgandal gwaed heintiedig ar etholwyr yr ydym ni'n eu cynrychioli yma. Mae dwy chwaer o Gwm Tawe yn yr oriel gyhoeddus heddiw, Sharon a Rhian. Roedden nhw'n dymuno i mi dynnu sylw at sefyllfa a dioddefaint eu teulu nhw o ran y sgandal echrydus ac anfaddeuol hon, oherwydd mae eu stori nhw'n tynnu sylw at sut y mae'n rhaid ystyried, a chydnabod a gwneud cyfiawnder yn deg ac yn gyfartal heb oedi dim mwy. Roedd eu diweddar dad, Arwyn Davies, o Drebanos, â hemoffilia. Roedd dan ofal y proffesiynau meddygol ac roedd yn ymddiried ynddyn nhw, a oedd yn darparu triniaeth ar gyfer ei gyflwr. Roedd yn mynd i ganolfannau hemoffilia Caerdydd ac Abertawe, a Mr Bloom oedd ei brif ymgynghorydd. Bu farw Arwyn Davies ar 18 Mawrth 1992, yn 60 mlwydd oed. Roedd tystysgrif ei farwolaeth yn nodi ei fod wedi marw o hepatitis C, hepatoma a emoffilia.

Treuliodd ei yrfa gyfan yn swyddog llywodraeth leol, ond, yn yr 1980au, dechreuodd ei iechyd ddirywio a bu'n rhaid iddo ymddeol yn gynnar o'i waith, ac ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach roedd wedi marw. Bu farw ei wraig Eira yn 2018, 26 mlynedd ar ôl ei gŵr, a dim ond ar ôl marwolaeth eu mam y daeth Rhian a Sharon yn ymwybodol o'r hyn a nodwyd ar dystysgrif marwolaeth eu tad. Yn ystod y 26 mlynedd hynny, ni wnaed unrhyw gyswllt i roi gwybod i unrhyw un o'r teulu am unrhyw un o'r risgiau yr oedden nhw wedi dod yn agored iddynt, nac i'w hysbysu bod ganddyn nhw hawl i unrhyw fath o daliadau budd-dal. Roedd hi mor anodd clywed gan Sharon a Rhian am eu brwydr faith a dolurus i gael gafael ar gofnodion meddygol a oedd yn ymwneud â'u tad, wrth iddyn nhw ymgyrchu dros gyfiawnder i'w teulu. Ond fe gawson nhw brawf o'r diwedd, a oedd yn cadarnhau mai wedi cael ffactor heintiedig yr oedd eu tad a bod y meddygon ymgynghorol yn ymwybodol o achos ei farwolaeth.

Ers cael y wybodaeth hon, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'r ymchwiliad gwaed heintiedig a Haemophilia Wales i sicrhau bod rhywun yn cael ei ddwyn i gyfrif. Ac er i Syr Brian Langstaff gymryd y cam anarferol o gyhoeddi iawndal dros dro cyn yr adroddiad terfynol, dim ond ar gyfer y rhai sy'n fyw a gafodd eu heintio a'r gweddwon mewn profedigaeth yr oedd hyn. Ni chafwyd unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i'r argymhelliad yn yr ail adroddiad interim ar iawndal, ym mis Ebrill 2023, a oedd yn galw am daliad iawndal dros dro am y marwolaethau nas cydnabuwyd yn flaenorol, ac, hyd yma, nid yw plant a gollodd rieni, fel Rhian a Sharon, erioed wedi cael iawndal na chydnabyddiaeth o farwolaeth eu tad. Nid ydyn nhw wedi cael llythyr ymddiheuriad gan eu bwrdd iechyd lleol, hyd yn oed. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau nad yw Llywodraeth y DU yn oedi'r cynnydd  ymhellach?

Ac yn y rheoliad newydd o iawndal gwaed heintiedig, o dan y pennawd, 'Cais ystad', mae'n nodi:

'pan fo unigolyn yr effeithiwyd arno wedi marw, nid yw'n bosibl i gynrychiolwyr personol eu hystad wneud cais am iawndal.'

Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n cytuno nad oes modd cyfiawnhau hynny pan ddioddefodd pobl, fel mam Rhian a Sharon, sef Eira, galedi ariannol a salwch, heb unrhyw gymorth ariannol, yn dilyn marwolaeth Arwyn? A yw Llywodraeth Cymru felly yn derbyn mai'r peth iawn i'w wneud mewn amgylchiadau fel un y teulu hwn fyddai sicrhau bod y teulu yr effeithiwyd arno'n cael manteisio ar iawndal? Rwy'n credu nid yn unig mai dyna sy'n foesol gywir, ond ei fod hefyd yn arwydd o ymddiheuriad dyledus gan y wladwriaeth—y wladwriaeth, cofiwch, a gelodd y mater—i'r rhai y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnyn nhw, y rhai y mae eu bywydau cyfan wedi eu creithio gan golled a chan gelwyddau? A pha mor bell y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau y bydd pawb sydd bellach yn byw gyda hemoffilia, fel ŵyr Arwyn, mab Sharon, yn cael y cymorth gorau posibl gan wasanaethau cyhoeddus, heb orfod egluro goblygiadau eu cyflwr i leoliadau addysg a lleoliadau gofal iechyd, er enghraifft, bob tro, sef yr hyn sy'n digwydd, er mwyn rhoi camau ehangach ar waith i gynyddu ymwybyddiaeth a sicrhau diogelwch i bawb sy'n byw gyda hemoffilia? Diolch.