Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 4 Mehefin 2024.
Rwy'n cofio'r diwrnod wyth mlynedd yn ôl, roeddwn i'n eistedd wrth ymyl Julie Morgan yn y Siambr hon, ac ychydig ar ôl amser cinio, fe ddywedodd hi, 'Mae yna grŵp trawsbleidiol yr wyf i'n ei gadeirio, a wnewch chi ddod i gwrdd â rhai o'ch etholwyr chi sydd wedi'u heffeithio gan y sgandal hon?' Ac fe es i gyfarfod â nhw—ac rwy'n gallu gweld Kirk Ellis yn yr oriel heddiw—ac fe gafodd hynny effaith aruthrol arnaf i ac roeddwn i'n awyddus i ymuno â'r ymgyrch honno, ac felly rwy'n falch o fod yn is-gadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar hemoffilia a gwaed heintiedig.
Fe hoffwn i roi rhai enghreifftiau i chi o'r etholwyr hynny yr wyf i wedi cwrdd â nhw ac wedi bod mewn cysylltiad â nhw ers hynny. Ysgrifennodd Janet Morgan a'i merch Felicity ataf i sôn am ei diweddar ŵr a thad a oedd â hemoffilia, a gafodd ei drwytho â ffactor VIII ac, o ganlyniad i hynny, fe gafodd ei heintio â hepatitis C. Cafodd nifer o feddyginiaethau clinigol arbrofol a oedd yn ei wneud yn wan iawn, a chafodd ef a'i deulu eu hamddifadu o fywyd normal. Dim ond 12 oed oedd Felicity pan gafodd ei thad wybod bod ganddo hepatitis C a thair i bum mlynedd o fywyd ar ôl. Fe wnaeth colli gŵr a'u tad yn 2010 eu hysgwyd ac mae hynny'n dal i effeithio'n fawr ar eu teulu, gan ei fod yn ŵr, tad a thaid mor annwyl, ac nid yw eu bywydau fyth wedi bod yr un fath.
Cysylltodd Susan Hughes â mi, yr oedd ei brawd Alan Jones â hemoffilia ac fe gafodd ei heintio â HIV a hepatitis C ar ôl derbyn gwaed heintiedig yn y 1980au yn 15 oed. Cafodd wybod hynny'n 17 oed, heb i'w rieni fod yn bresennol, sef ei fod wedi cael y firysau. Roedd gan Alan anawsterau dysgu ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd yn dair oed, ac fe fu farw yn 1994 yn ddim ond 25 oed o diwmor ar yr ymennydd a achoswyd gan y firws AIDS. Mae rhieni Alan a Susan wedi marw eu hunain bellach yn drist, ac ni welson nhw gyfiawnder erioed.
Cysylltodd yr Athro Nicholas Moran â mi, y cafodd ei ddiweddar frodyr, Peter a Tim, a oedd yn efeilliaid, eu cyd-heintio â HIV a hepatitis C gan gynhyrchion gwaed heintiedig y GIG. Bu'r ddau farw yn ifanc oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â HIV. Dioddefodd iechyd eu mam o ganlyniad, ac roedd ei marwolaeth hi o ganlyniad uniongyrchol i hynny. Mae'r Athro Moran yn uwch lawfeddyg sydd wedi gweithio ar hyd ei yrfa yn y GIG ers dros bedwar degawd, ond fe ddywedodd ef wrthyf ei fod wedi cael ei ysgwyd gymaint o ganlyniad i'r sgandal hon fel bod ei hyder yn y gwasanaeth wedi cael ei chwalu, yn enwedig gan ddatguddiadau dinistriol adroddiad Syr Brian Langstaff. O ganlyniad i hynny, mae wedi penderfynu ymadael â'r GIG. Mae'n dymuno gweld argymhellion adroddiad Syr Brian yn cael eu gweithredu yn eu llawnder ac yn ddiymdroi, ac mae'n pryderu, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd taliadau dros dro yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio, ni chafwyd unrhyw ymrwymiad i gefnogi perthnasau a effeithiwyd na chydnabod marwolaethau nad oedden nhw wedi cael eu nodi yn flaenorol.
Rwy'n dod at Kirk Ellis. Kirk a roddodd y tei yma i mi, sydd â lliwiau'r ymgyrch arno, y tu allan i swyddfa Wayne David ym Medwas, rwy'n credu ei bod hi'n dair blynedd oddi ar hynny erbyn hyn. Roeddem ni'n dal i weithio ar gyfraddau iawndal sylfaenol ar yr adeg honno. Bydd ef yn mynychu cyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn rheolaidd, ac, fel y soniais i, mae ef yn yr oriel gyhoeddus. Fe wnes i gyfarfod ag ef ychydig ar ôl cinio heddiw, ac fe ddywedodd fod pryderon gwirioneddol ganddo ynglŷn â chynllun iawndal arfaethedig Llywodraeth y DU. Gallai hwnnw mewn gwirionedd fod yn waeth yn y pen draw er gwaethaf y taliadau pe byddai ef yn cael y cyfandaliad a grybwyllir yn natganiad y cynllun iawndal, oherwydd fe fyddai'r taliadau cymorth y mae'n eu derbyn yn dod i ben wedyn. Fe fyddai ei gyfandaliad ef yn para 20 mlynedd ar y mwyaf iddo ef a'i deulu, ac mae'n nodi bod Llywodraeth yr Alban yn yr Alban wedi gwarantu y bydd y taliadau cymorth cyfredol parhaus yn para am oes, yn ogystal â'r taliadau cyfandaliad iawndal a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i adroddiad Syr Brian. Yr hyn y mae ef yn dymuno i Lywodraeth Cymru ei wneud—mae'n cydnabod mai mater cyn datganoli oedd hwn—yw sicrhau bod y mater hwnnw yn cael ei ddatrys, ac nad yw'n ddibynnol ar ddim ond 20 mlynedd o gyllid o ganlyniad i'r iawndal, ac nad yw'n cael ei ddal yn y fagl o weld yr incwm hwnnw'n lleihau, wedyn, sef incwm y budd-daliadau anabledd yr oedd hawl ganddo i'w cael o'r blaen.
Ac yn olaf, rwy'n dymuno rhoi teyrnged i Wayne David, cyn AS Caerffili erbyn hyn. Gweithiodd Wayne yn galed iawn ar y mater hwn yn Nhŷ'r Cyffredin, ac fe gyflwynodd ddeiseb yn ddiweddar ar yr ymchwiliad gwaed heintiedig yn Siambr Tŷ'r Cyffredin. Roedd y ddeiseb yn galw am roi iawndal ar unwaith i'r rhai a gafodd eu heffeithio gan waed heintiedig, ac ar y cyd ag ef, roedd ein hetholwyr Lee Stay a Kirk Ellis wedi ychwanegu nifer o enwau lleol at y ddeiseb honno. Rwy'n credu y bydd Tŷ'r Cyffredin yn gweld eisiau ysbryd ymgyrchu Wayne ar hyn, ond rwy'n credu ei fod ef wedi gweithio yn galed hefyd i sicrhau ein bod ni'n gweld y canlyniad sydd gennym heddiw, er fy mod i o'r farn o hyd, mai un cam ar y daith o ddarparu cyfiawnder llawn ydyw i'r teuluoedd a'r bobl y mae'r sgandal hon yn effeithio arnyn nhw.