Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 4 Mehefin 2024.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gael y ddadl hon heddiw, yn dilyn cyhoeddiad adroddiad terfynol yr ymchwiliad gwaed heintiedig fis diwethaf. Rwy'n awyddus i fod yn eglur: hon oedd y sgandal waethaf yn hanes triniaethau'r GIG. Er ei bod yn rhagflaenu datganoli, gan mai fi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, rwy'n dymuno ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi eu heffeithio gan y drasiedi ofnadwy hon. Rwy'n dymuno rhoi teyrnged i'r rhai sydd wedi eu heintio a'u heffeithio, ac fe gwrddais i â rhai ohonyn nhw'n gynharach heddiw ac maen nhw yn yr oriel y prynhawn yma i wrando ar y ddadl hon. Mae cymaint o bobl wedi dioddef. Fe fuon nhw'n ymladd am ddegawdau a dweud y gwir, ac mae'n rhaid eu canmol nhw am hynny.
Rwyf i newydd gwrdd â rhai o'r dioddefwyr hynny ac wedi clywed eu straeon: Tony a Pat Summers, sydd wedi brwydro am gyfiawnder i'w mab, Paul, am ddegawdau; Rose, a gollodd ei brawd yn 1990, yn 44 oed; Suzanne, a ddywedodd mai ychydig yn anemig oedd ei mam pan gafodd hi waed heintiedig gan wasanaeth a oedd i fod i'w gwella hi ond a wnaeth ei lladd hi yn y pen draw a'i hamddifadu o'r cyfle i gwrdd â’i naw gorwyr; y stori ddirdynnol a glywais gan Margaret Sugar am sut y bu i'w mab Lee ddioddef a sut mae ei mab Craig yn talu pris o hyd; Joanne, a esboniodd sut y cafodd ei brawd yng nghyfraith ei wrthod yn yr ysgol am fod ganddo HIV a methiant yr ysgol i gadw hynny'n breifat; Kirk, sy'n dal i ddioddef ac sy'n benderfynol o sicrhau cyfiawnder; Sharon a Ceri, y bu farw eu tad heb i unrhyw un ddweud wrthyn nhw fod ganddo hepatoma; Ruth, y bu farw ei gŵr yn 1989, ac ni ddywedwyd wrtho fod ganddo hep C. Maen nhw i gyd wedi brwydro ers degawdau i'r gwir gael ei ddatgelu.
Daeth yr ymchwiliad gwaed heintiedig i'w gyflawniad ar 20 Mai a gwnaeth argymhellion Syr Brian Langstaff roi llawer o'r atebion iddyn nhw i lawer o'r cwestiynau y maen nhw wedi bod yn eu gofyn cyhyd. Mae'r ymdeimlad o gyfiawnhad a rhyddhad yn amlwg. Ond felly hefyd y dicter oherwydd i hyn gael eu caniatáu i ddigwydd erioed. Fe hoffwn i ddiolch i aelodau'r grŵp trawsbleidiol sydd wedi cefnogi'r dioddefwyr hefyd ac wedi ymgyrchu dros gynnal ymchwiliad yn y DU. Fe hoffwn i roi teyrnged arbennig i Julie Morgan, sydd wedi gweithio yn ddiflino ers degawdau lawer gyda Haemophilia Wales, gan helpu pobl fel Tony Lane. Rwyf i am roi teyrnged hefyd i'r cadeirydd, Lynne Kelly. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi brwydro am yr ymchwiliad, maen nhw wedi lobïo am daliadau ex-gratia, am gydraddoldeb a phecyn iawndal.
Dirprwy Lywydd, yn dilyn casgliad yr ymchwiliad gwaed heintiedig a chyhoeddiad yr adroddiad terfynol, rydym ni wedi dechrau gweithio eisoes i ystyried ei argymhellion. Fe wnaethom ni sefydlu grŵp y camau nesaf i Gymru ar yr ymchwiliad gwaed heintiedig, dan gadeiryddiaeth ein dirprwy brif swyddog meddygol newydd, Dr Push Mangat, ac fe fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn fuan. Bydd yn gweithio gyda byrddau iechyd, Gwasanaeth Gwaed Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddogion polisi i sicrhau ein bod ni'n ystyried camweddau'r gorffennol ac yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau na all rhywbeth fel hyn fyth ddigwydd eto. Mae yna rai materion y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â nhw'n gyflym, ac fe wnawn ni hynny; fe fydd eraill yn cymryd mwy o amser. Fe fyddaf i'n adrodd yn ôl i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Fe wnes i gyfarfod â John Glen, y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn yn Swyddfa'r Cabinet, ychydig ar ôl cyhoeddi'r etholiad cyffredinol, ac fe ddywedais i y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar sail pedair gwlad i weithredu gwelliannau ledled y DU. Mewn ymateb i hynny, fe ddywedodd wrthyf na fyddai'r etholiad yn oedi'r gwaith. Mae'r Aelodau yn siŵr o fod yn cofio bod y Senedd hon wedi rhoi ei chydsyniad i'r darpariaethau ym Mil Dioddefwyr a Charcharorion y DU i sefydlu'r trefniadau iawndal newydd ar gyfer pobl sydd wedi eu heintio a'u heffeithio. Cafodd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ei gymeradwyo gan Senedd y DU yn rhan o broses cau pen y mwdwl y Senedd honno, ac mae wedi cael Cydsyniad Brenhinol erbyn hyn. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod iawndal gwaed heintiedig newydd yn cael ei sefydlu yn ffurfiol ac fe fydd y taliadau yn cael eu gwneud.
Mater i Lywodraeth y DU yw'r iawndal a'i ariannu, ond fe fydd fy swyddogion i'n parhau i weithio gyda'u cymheiriaid yn Whitehall i sicrhau y bydd trosglwyddiad rhwydd i fuddiolwyr ar gyfer y trefniadau newydd. Bydd y bobl hynny a gafodd eu heintio a'u heffeithio yn gallu hawlio iawndal, a hynny'n briodol, ac fe fyddwn ni'n eu cynorthwyo nhw gyda'r broses hon. Fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y bydd pawb sy'n gymwys i gael taliadau iawndal interim pellach yn eu derbyn cyn gynted â phosibl hefyd. Fe fydd ail daliad dros dro yn cael ei wneud ymhen 90 diwrnod i'r buddiolwyr sy'n fyw ac sydd ar gofrestr cynllun cymorth. Bydd taliadau dros dro pellach yn cael eu gwneud i ystadau'r rhai a gofrestrwyd ac fe fydd cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn parhau i wneud taliadau ex gratia i ddarparu cymorth lles a seicolegol hyd nes y caiff y pontio ei gwblhau.
Bydd Syr Robert Francis, a ysgrifennodd yr adroddiad iawndal i Swyddfa'r Cabinet, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dros yr haf ar gyfer ymgysylltu ynglŷn â'r pecyn iawndal a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y wybodaeth gywir gan y rhai sy'n gallu gwneud hawliadau a hefyd, lle bod angen, y gellir clywed eu barn ar y cynigion.
Rwyf am droi i'r Gymraeg nawr, felly efallai y bydd angen eich clustffonau arnoch chi.