– Senedd Cymru am ar 4 Mehefin 2024.
Nesaf, mae eitem 3, dadl ar adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Eluned Morgan.
Cynnig NNDM8595 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod:
a) y niwed a'r dioddefaint a achoswyd i filoedd o bobl yn sgil y sgandal gwaethaf o ran triniaethau yn hanes y GIG;
b) ymgyrchu diflino a gwaith caled pawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef, i geisio'r gwir; ac
c) ymddiheuriad Llywodraeth y DU am y degawdau hir o fethiant moesol wrth galon ein bywyd cenedlaethol.
2. Yn croesawu adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a gyhoeddwyd ar 20 Mai 2024 a'i argymhellion.
3. Yn croesawu gwaith y pedair gwlad i sefydlu Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.
4. Yn nodi y bydd taliadau iawndal pellach yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gael y ddadl hon heddiw, yn dilyn cyhoeddiad adroddiad terfynol yr ymchwiliad gwaed heintiedig fis diwethaf. Rwy'n awyddus i fod yn eglur: hon oedd y sgandal waethaf yn hanes triniaethau'r GIG. Er ei bod yn rhagflaenu datganoli, gan mai fi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, rwy'n dymuno ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi eu heffeithio gan y drasiedi ofnadwy hon. Rwy'n dymuno rhoi teyrnged i'r rhai sydd wedi eu heintio a'u heffeithio, ac fe gwrddais i â rhai ohonyn nhw'n gynharach heddiw ac maen nhw yn yr oriel y prynhawn yma i wrando ar y ddadl hon. Mae cymaint o bobl wedi dioddef. Fe fuon nhw'n ymladd am ddegawdau a dweud y gwir, ac mae'n rhaid eu canmol nhw am hynny.
Rwyf i newydd gwrdd â rhai o'r dioddefwyr hynny ac wedi clywed eu straeon: Tony a Pat Summers, sydd wedi brwydro am gyfiawnder i'w mab, Paul, am ddegawdau; Rose, a gollodd ei brawd yn 1990, yn 44 oed; Suzanne, a ddywedodd mai ychydig yn anaemig oedd ei mam pan gafodd hi waed heintiedig gan wasanaeth a oedd i fod i'w gwella hi ond a wnaeth ei lladd hi yn y pen draw a'i hamddifadu o'r cyfle i fod yn hen nain i naw; y stori ddirdynnol a glywais gan Margaret Sugar am sut y bu i'w mab Lee ddioddef a sut mae ei mab Craig yn talu pris o hyd; Joanne, a esboniodd sut y cafodd ei brawd yng nghyfraith ei wrthod yn yr ysgol am fod ganddo HIV a methiant yr ysgol i gadw hynny'n breifat; Kirk, sy'n dal i ddioddef ac sy'n benderfynol o sicrhau cyfiawnder; Sharon a Ceri, y bu farw eu tad heb i unrhyw un ddweud wrthyn nhw fod ganddo hepatoma; Ruth, y bu farw ei gŵr yn 1989, ac ni ddywedwyd wrtho fod ganddo hep C. Maen nhw i gyd wedi brwydro ers degawdau i'r gwir gael ei ddatgelu.
Daeth yr ymchwiliad gwaed heintiedig i'w gyflawniad ar 20 Mai a gwnaeth argymhellion Syr Brian Langstaff roi llawer o'r atebion iddyn nhw i lawer o'r cwestiynau y maen nhw wedi bod yn eu gofyn cyhyd. Mae'r ymdeimlad o gyfiawnhad a rhyddhad yn amlwg. Ond felly hefyd y dicter oherwydd i hyn gael eu caniatáu i ddigwydd erioed. Fe hoffwn i ddiolch i aelodau'r grŵp trawsbleidiol sydd wedi cefnogi'r dioddefwyr hefyd ac wedi ymgyrchu dros gynnal ymchwiliad yn y DU. Fe hoffwn i roi teyrnged arbennig i Julie Morgan, sydd wedi gweithio yn ddiflino ers degawdau lawer gyda Haemophilia Wales, gan helpu pobl fel Tony Lane. Rwyf i am roi teyrnged hefyd i'r cadeirydd, Lynne Kelly. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi brwydro am yr ymchwiliad, maen nhw wedi lobïo am daliadau ex-gratia, am gydraddoldeb a phecyn iawndal.
Dirprwy Lywydd, yn dilyn casgliad yr ymchwiliad gwaed heintiedig a chyhoeddiad yr adroddiad terfynol, rydym ni wedi dechrau gweithio eisoes i ystyried ei argymhellion. Fe wnaethom ni sefydlu grŵp ymchwiliad gwaed heintiedig - camau nesaf Cymru, dan gadeiryddiaeth ein dirprwy brif swyddog meddygol newydd, Dr Push Mangat, ac fe fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn fuan. Bydd yn gweithio gyda byrddau iechyd, Gwasanaeth Gwaed Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddogion polisi i sicrhau ein bod ni'n ystyried camweddau'r gorffennol ac yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau na all rhywbeth fel hyn fyth ddigwydd eto. Mae yna rai materion y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â nhw'n gyflym, ac fe wnawn ni hynny; fe fydd eraill yn cymryd mwy o amser. Fe fyddaf i'n adrodd yn ôl i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Fe wnes i gyfarfod â John Glen, y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn yn Swyddfa'r Cabinet, ychydig ar ôl cyhoeddi'r etholiad cyffredinol, ac fe ddywedais i y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar sail pedair gwlad i weithredu gwelliannau ledled y DU. Mewn ymateb i hynny, fe ddywedodd wrthyf na fyddai'r etholiad yn oedi'r gwaith. Mae'r Aelodau yn siŵr o fod yn cofio bod y Senedd hon wedi rhoi ei chydsyniad i'r darpariaethau ym Mil Dioddefwyr a Charcharorion y DU i sefydlu'r trefniadau iawndal newydd ar gyfer pobl sydd wedi eu heintio a'u heffeithio. Cafodd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ei gymeradwyo gan Senedd y DU yn rhan o broses cau pen y mwdwl y Senedd honno, ac mae wedi cael Cydsyniad Brenhinol erbyn hyn. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod iawndal gwaed heintiedig newydd yn cael ei sefydlu yn ffurfiol ac fe fydd y taliadau yn cael eu gwneud.
Mater i Lywodraeth y DU yw'r iawndal a'i ariannu, ond fe fydd fy swyddogion i'n parhau i weithio gyda'u cymheiriaid yn Whitehall i sicrhau y bydd trosglwyddiad rhwydd i fuddiolwyr ar gyfer y trefniadau newydd. Bydd y bobl hynny a gafodd eu heintio a'u heffeithio yn gallu hawlio iawndal, a hynny'n briodol, ac fe fyddwn ni'n eu cynorthwyo nhw gyda'r broses hon. Fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y bydd pawb sy'n gymwys i gael taliadau iawndal interim pellach yn eu derbyn cyn gynted â phosibl hefyd. Fe fydd ail daliad dros dro yn cael ei wneud ymhen 90 diwrnod i'r buddiolwyr sy'n fyw ac sydd ar gofrestr cynllun cymorth. Bydd taliadau dros dro pellach yn cael eu gwneud i ystadau'r rhai a gofrestrwyd ac fe fydd cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn parhau i wneud taliadau ex gratia i ddarparu cymorth lles a seicolegol hyd nes y caiff y pontio ei gwblhau.
Bydd Syr Robert Francis, a ysgrifennodd yr adroddiad iawndal i Swyddfa'r Cabinet, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dros yr haf ar gyfer ymgysylltu ynglŷn â'r pecyn iawndal a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y wybodaeth gywir gan y rhai sy'n gallu gwneud hawliadau a hefyd, lle bod angen, y gellir clywed eu barn ar y cynigion.
Rwyf am droi i'r Gymraeg nawr, felly efallai y bydd angen eich clustffonau arnoch chi.
Dirprwy Lywydd, roedd hi'n drychineb i bob un gafodd eu heintio a’u heffeithio. Gwaetha'r modd, dyw nifer fawr ohonyn nhw ddim gyda ni bellach. Dwi eisiau sicrhau pobl sy'n gwrando heddiw bod newidiadau wedi cael eu gwneud ac, yn bwysig iawn, bod y gwasanaeth a’r cyflenwad gwaed yn dra gwahanol erbyn hyn. Mae pawb sy’n rhoi gwaed yn wirfoddolwr di-dâl, ac mae’r risg o waed wedi'i heintio yn mynd i gyflenwad gwaed y Deyrnas Unedig yn llai nag un mewn 20 miliwn ar gyfer HIV a hepatitis C. Mae modd i unrhyw un sy'n poeni y gallai fod wedi heintio gael gafael ar becyn profi gartref trwy wasanaeth ar-lein Iechyd Cyhoeddus Cymru neu drwy eu bwrdd iechyd neu feddygfa.
Dirprwy Lywydd, mae sgandal gwaed heintiedig yn taflu cysgod tywyll ar hanes y GIG a'n sefydliadau cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni fod yn well, ac mae'n rhaid i ni wneud yn well na'r gwadiadau, y sicrwydd di-sail, yr hunanfodlonrwydd, y celu, y cymylu a'r methiannau dro ar ôl tro ar lefel unigolion, sefydliadau a Llywodraeth a fu'n nodweddu ac a waethygodd y drasiedi enbyd hon, a achosodd i gymaint o bobl golli eu bywydau a'u dyfodol.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Llywodraeth am gytuno i gyflwyno'r ddadl yma heddiw. Er ei bod yn ddadl sydd yn amlwg yn haeddu sylw brys, y gwir ydy na ddylem ni fod yn y sefyllfa yma o orfod cael y ddadl yn y lle cyntaf.
Mae canfyddiadau adroddiad Langstaff ar y sgandal gwaed heintiedig yn gyhuddiad llwyr ddamniol yn erbyn diwylliant ymwreiddiedig o gam-drin sefydliadol, esgeulustod llywodraethol a chymylu gwleidyddol a ganiatawyd i gronni yn ein corff gwleidyddol ers degawdau ac a arweiniodd at ganlyniadau trychinebus ar raddfa ddigynsail. Yn gyntaf i gyd, mae hi'n iawn i ni roi teyrnged i ymgyrchu ysbrydoledig yr unigolion a gafodd eu heffeithio sydd wedi brwydro dros gyfiawnder yn ddiflino yn wyneb buddiannau breintiedig grymus a geisiodd roi taw ar eu trafferthion ar bob cam. Dylid diolch hefyd i fy nghydweithiwr Rhun ap Iorwerth am ei gadeiryddiaeth o'r grŵp trawsbleidiol a'i gefnogaeth gyson i bawb a gafodd ei effeithio. Felly hefyd fe hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad aruthrol i'r frwydr hon.
Er na all unrhyw beth lwyr atgyweirio'r difrod a achoswyd i fywydau gan y sgandal hon, rwy'n gobeithio y gall yr adroddiad roi rhywfaint o ddiweddglo ar y mater i'r unigolion hynny a gafodd eu heffeithio a chychwyn y broses atebolrwydd y bu llawer gormod o aros amdani. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd hwn yn drobwynt o ran mynd i'r afael â grym sy'n amlwg yn anghytbwys ac sydd yng nghraidd ein system cyfiawnder troseddol. O drychineb Hillsborough i sgandal Horizon Swyddfa'r Post, yn rhy aml fe all olwynion cyfiawnder droi yn llawer yn rhy araf o ran camymddygiad a methiannau'r cyfoethog, yr elît a'r rhai â chysylltiadau da fel, yn anffodus, y mae'r ffaith i gymaint o ddioddefwyr fynd i'w beddau ymhell cyn i gyfiawnder ddod i'r golwg yn tystio i hynny.
Am y rheswm hwn, rwy'n credu bod cyfrifoldeb arbennig arnom ni'r cynrychiolwyr etholedig, ni waeth beth fo'n cysylltiadau gwleidyddol, i fyfyrio ar yr adroddiad gyda'r gwyleidd-dra mwyaf teilwng ac ymdrechu bob amser i beidio â cholli golwg fyth ar wir ystyr gwasanaeth cyhoeddus. Yn yr ysbryd hwn, rydym ni wedi cyflwyno cyfres o welliannau i gynnig gwreiddiol y Llywodraeth i'r ddadl hon. Fis diwethaf, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei hymateb i fy nghwestiwn ynglŷn â'r mater hwn ei bod hi wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd yr ail daliad iawndal dros dro o £210,000 i unigolion a gafodd eu heffeithio sydd wedi eu cofrestru ar y cynllun cymorth yn cael ei dalu o fewn 90 diwrnod i gyhoeddiad yr adroddiad. Mae ein gwelliant cyntaf ni, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau y bydd yr addewid hwn yn cael ei gadw fel yr addawyd. Mae'n hanfodol nad yw iawndal i unigolion yr effeithir arnynt, waeth pa mor fach y gallai fod yng nghyd-destun eu dioddefaint, yn cael ei ddal yn ôl gan newid yn y Llywodraeth yn San Steffan.
Fe fyddwn i'n croesawu diweddariad hefyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei hymateb ynghylch hyd y cynllun taliadau rheolaidd. Mynegwyd pryder mai dim ond hyd at fis Ebrill 2025 y bwriedir gwneud taliadau rheolaidd, ar hyn o bryd. Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i ymestyn y taliadau hyn y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw?
Rydym ni o'r farn hefyd fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fod yn rhagweithiol wrth estyn allan at y 264 o bobl sydd wedi'u cofrestru ar gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru ar hyn o bryd gyda chynigion o gefnogaeth a chwnsela perthnasol, fel mae ein trydydd diwygiad yn ei nodi. Wrth gwrs, fe gymerodd y sgandal hon gymaint o amser, gwnaeth hi bontio'r cyfnod cyn ac ar ôl datganoli yng Nghymru, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ystod a chymhlethdod y pwerau a neilltuwyd i'r Senedd wedi esblygu yn sylweddol. Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod anallu Swyddfa Cymru a Llywodraethau cynharaf Cymru i herio neu graffu ar sefyllfa sefydlog gweinyddiaethau olynol y DU ar fater y defnydd o waed heintiedig yn rhoi sylwebaeth ddigalon iawn ar effeithiolrwydd y trefniadau rhynglywodraethol hyn. Yn amlwg, felly, ni ellir caniatáu i'r fframweithiau llywodraethu yma yn y Senedd nac ar lefel y DU gyfan fyth eto â methu mewn ffordd mor eithriadol. Ac o safbwynt Llywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi yn y ffordd fwyaf effeithiol ac eang â phosibl.
Felly, am y rheswm hwn, mae ein gwelliant terfynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig yn llawn ac yn ddi-oed. Mae'r penodau tywyllaf yma yn hanes y gwasanaeth iechyd, a'r sefydliad gwleidyddol yn ehangach, yn wers hollbwysig yn y modd y mae sefydliadau sydd i fod i ymgorffori'r egwyddor o wneud dim niwed yn gallu cael eu hecsbloetio, gan arwain at fwy o niwed yn y pen draw. Mae'n ddyletswydd, felly, arnom i ddioddefwyr y sgandal hwn, i gynnal y tryloywder a'r atebolrwydd mwyaf mewn bywyd cyhoeddus, a ddylai cynnwys mesurau diogelu cadarn ar gyfer chwythwyr chwiban a grymuso lleisiau'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Hyderaf, felly, y byddwch yn cefnogi ein gwelliannau heddiw. Diolch.
Mae llawer o Aelodau sy'n dymuno siarad ar yr eitem hon, felly os bydd Aelodau'n cadw eu cyfraniadau'n fyr, byddaf yn gallu galw mwy o siaradwyr. Sam Rowlands.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Er, yn dechnegol, nid dadl mohoni, nid oes safbwyntiau pleidiol yma o ran y mater dan sylw, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn cytuno â'r holl gynigion a nododd y Llywodraeth a hefyd gyda'r gwelliannau a gyflwynodd Plaid Cymru yma heddiw. A'r cyfan oherwydd bod gwarth gwaed heintiedig yn un o'r camweddau mwyaf erchyll a fu erioed yn hanes cyfiawnder ym Mhrydain. Cafodd bywydau pob un o'r dioddefwyr eu troi wyneb i waered, bywydau wedi eu dinistrio neu hyd yn oed eu colli mewn amgylchiadau mor ingol, ac mae hi'n gwbl gyfiawn ei bod hi'n flaenoriaeth nawr i Lywodraethau, yma ac yn San Steffan, i sicrhau bod iawndal yn cael ei roi i'r dioddefwyr hynny a theuluoedd y dioddefwyr hynny hefyd.
Mae'n ystrydeb, ond mae angen i ni sicrhau yn ogystal fod gwersi yn cael eu dysgu o hyn hefyd. Mae'n rhaid iddi fod yn flaenoriaeth na fyddwn ni fyth yn caniatáu i bethau gael eu celu ac, yn y bôn, nad oes llygredd o'r fath yn digwydd eto yn ein sefydliadau, ac yn enwedig ein sefydliadau cyhoeddus mwyaf sy'n bodoli i amddiffyn a gwasanaethu'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Ysgrifennydd Cabinet, fel chi, fe hoffwn innau rannu cwpl o straeon y mae trigolion wedi dweud wrthyf amdanyn nhw o ran rhai o'u profiadau mwyaf ingol. Rhannodd un o drigolion y gogledd, a oedd wedi cael gwaed o gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, ei stori gyda mi o gael ei heintio yn blentyn â hepatitis B a HIV a hepatitis C, ac fe dreuliodd fisoedd mewn gofal dwys. Disgrifiodd yr effaith gydol oes arno, ei wraig a'i rieni fel 'rhywbeth yn cnoi ar ein heneidiau ers talwm'. Felly, ar wahân i'r effaith ar iechyd corfforol, y 'rhywbeth yn cnoi ar ein heneidiau ers talwm' hwnnw a oedd gyda nhw trwy'r amser. Cafodd etholwr arall ei heintio â hepatitis C trwy driniaethau ar gyfer clefyd Von Willebrand, ac fe gafodd ei mam ef ei heintio hefyd, ac fe fu'n rhaid i'r ddwy gael trawsblaniad iau—sy'n amlwg yn driniaeth ddifrifol iawn, iawn sydd ag effeithiau hirdymor arnyn nhw a'u teulu. Ac mae llawer o fanylion trawmatig i'r achosion hyn a llawer gormod o rai eraill. Mae'r bobl hyn i gyd yn ein meddyliau ni yma heddiw, wrth i ni gymryd rhan yn y ddadl hon.
Wrth gwrs, fe gawsom ni gyfle i drafod adroddiad yr ymchwiliad cyn ein toriad ychydig wythnosau yn ôl, ond Ysgrifennydd Cabinet, fel roeddech chi'n ei nodi, bu rhai diweddariadau yn y cyfamser, ac rwy'n falch fod y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, ar 24 Mai, wedi cael cydsyniad yn rhan o'r broses cau pen y mwdwl cyn etholiad, y cafodd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, fel rydych chi'n dweud, Gydsyniad Brenhinol, sy'n creu'r awdurdod i roi iawndal am waed heintiedig, a fydd yn gyfrifol am wneud y taliadau terfynol hyn i ddioddefwyr. Wrth gwrs, mae nifer o rannau symudol yn hynny, felly tybed, Ysgrifennydd Cabinet, pe gallech chi, yn rhan o'ch diweddglo, egluro'r hyder sydd gennych chi, gyda'r etholiad cyffredinol yn digwydd nawr, a rhai o'r materion newidiol hynny, yr hyder sydd gennych chi y bydd yr iawndal hwn yn wir yn cyrraedd y bobl sy'n ei haeddu â phob cyfiawnder yn yr amserlen gyflymaf bosibl; fe ddywedir wrthym ni mai erbyn 24 Awst yw'r dyddiad cau.
Rwy'n falch hefyd, fel roeddech chi'n sôn, Ysgrifennydd Cabinet, bod cadeirydd dros dro'r awdurdod iawndal gwaed heintiedig, Syr Robert Francis, wedi gwneud datganiad eu bod ni'n gweithio mor gyflym â phosibl i fod mewn sefyllfa i dderbyn y ceisiadau hynny a gwneud y dyfarniadau hynny, felly fe hoffwn i ddeall sut y gallech fod yn gweithio gyda'r awdurdod iawndal gwaed heintiedig i helpu'r broses honno fynd rhagddi gyda'r cyflymder y mae cymaint o angen amdano.
Rwy'n ymwybodol bod llawer o siaradwyr yma heddiw, Dirprwy Lywydd, ond fe hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon a chydnabod yr holl waith caled a wnaeth cymaint o bobl dros gymaint o flynyddoedd i sicrhau cyfiawnder o'r diwedd. Diolch.
Rwy'n falch iawn fod grŵp mawr o'r rhai sydd wedi eu heintio a'u heffeithio yma yng Nghymru yn ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus, gan gynnwys fy etholwyr, Sybil a Bev, a chadeirydd Haemophilia Wales, Lynne Kelly. Fe hoffwn i roi teyrnged arbennig i Lynne Kelly i ddiolch iddi hi am y ffordd deimladwy a phenderfynol y mae hi wedi arwain y grŵp hwn. Oherwydd mae'n rhaid i'r rhai y mae eu bywydau wedi cael eu troi yn gwbl wyneb i waered fod yn flaenllaw yn y ddadl hon heddiw. Fe hoffwn, felly, roi profiadau dau o fy etholwyr, Sybil a Bev, sy'n dangos profiad llawer o rai eraill, wrth gwrs, ar y cofnod heddiw.
Cafodd Sybil lawdriniaeth ar ei chalon yn 1989. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd lythyr gan bennaeth gwasanaeth trallwyso gwaed Cymru a chafodd y newyddion ei bod wedi cael gwaed a oedd wedi'i heintio â hepatitis C. Dywedwyd wrthi am beidio â defnyddio'r un llestri na'r un cyllyll a ffyrc â'i gŵr, a pheidio â chael cyfathrach agos. Ni chafodd Sybil unrhyw gwnsela. Bu'n rhaid iddi fynychu'r clinig clefydau heintus yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac fe ddisgrifiodd sut y byddai hi'n teimlo yn aflan oherwydd bod ganddi hepatitis C. Roedd sgil effeithiau ei thriniaeth yn waeth na chael cemotherapi. Roedd cyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig ar 20 Mai yn garreg filltir yn yr ymgyrch dros gyfiawnder. Yng ngeiriau Sybil ei hun, 'Ni all neb ddechrau amgyffred sut rwy'n teimlo ar hyn o bryd wrth glywed sylwadau agoriadol Syr Brian Langstaff pan ddywedodd, "Nid damwain oedd hon"'.
Rwyf i am droi nawr at Bev, y bu farw ei dau frawd, Gareth a Haydn, mewn 10 mis o'i gilydd yn 2010 ar ôl cael gwaed heintiedig a oedd wedi'i heintio â HIV a hepatitis C. Roedd Gareth a Haydn yn ffigurau allweddol yn yr ymgyrch i ddarparu cefnogaeth a chyfiawnder i bobl â hemoffilia a'u teuluoedd trwy Birchgrove Cymru, Haemophilia Wales, Grŵp Cenedlaethol Birchgrove a grŵp ymgyrchu Tainted Blood, ac, mewn gwirionedd, fe ddechreuon nhw drwy gyfarfod fel grŵp yn nhafarn y Birchgrove yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, ond erbyn hyn, wrth gwrs, mae wedi dod yn Birchgrove Cymru.
Pan ddywedwyd wrth gleifion haemoffilia am eu diagnosis o HIV, roedd yn brofiad arswydus—dedfryd o farwolaeth, gydag amcangyfrifon disgwyliad oes o rhwng dwy a phum mlynedd. Roedd y gwarthnod yn erchyll ac roedd y mwyafrif o gleifion yn cadw eu cyflwr yn gyfrinachol. Roedd y grwpiau a sefydlodd Gareth a Haydn i gefnogi'r rhai a oedd wedi eu heintio yn achubiaeth i'r bobl hyn. Dywedodd Bev wrthyf fod Gareth yn ddig, yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn benderfynol, tra bod Haydn yn llawer tawelach ac yn bwyllog yn ei ddull o weithio, gan weithio i ffwrdd ac ymchwilio yn dawel.
Gyda datganoli yn 1999, aeth yr ymgyrchu i fynd at y gwir o nerth i nerth, ac fe gyflwynodd Gareth, fel cadeirydd Haemophilia Wales a oedd newydd gael ei sefydlu, yr achos dros ymchwiliad cyhoeddus yn y grŵp trawsbleidiol cyntaf a gynhaliwyd yn y Cynulliad a oedd newydd ei ffurfio. Pan deithiodd Bev i Lundain ar 20 Mai, roedd hi'n ei ddisgrifio fel 'profiad emosiynol, dyrchafol' wrth glywed y canlyniad a gweld goroeswyr o bob rhan o'r DU, ond llanwyd hi â thristwch enfawr o ystyried nad oedd ei brodyr hi, Gareth a Haydn, gyda'u cyfraniad enfawr tuag at yr ymchwiliad, yno i'w glywed. Roedd hi'n dymuno y bydden nhw wedi gallu bod yno gyda hi.
Ond nid yw'r frwydr wedi ei hennill eto. Mae Brian Langstaff wedi dweud nad damwain oedd hon, ac mae hynny wedi bod o gysur mawr, rwy'n credu, i lawer o'r bobl sydd wedi eu heintio a'u heffeithio. Ond mae pryderon eang o ran a fydd rhestr lawn argymhellion Brian Langstaff yn cael ei gweithredu. Mae pryderon ynglŷn â'r cynllun cymorth misol, ac mae llawer o bobl yn poeni y gallen nhw fod yn dlotach yn ariannol os na weithredir ar argymhellion Syr Brian. Rwy'n credu bod llawer o bobl yn credu mai gobaith di-sail a roddwyd. Ac rwy'n credu, os edrychwch chi ar hanes yr hyn sydd wedi digwydd i'r grŵp hwn, fe allwch chi ddeall yn iawn pam mae pobl yn teimlo felly. Mae hwn yn adroddiad gwych, roedd Brian Langstaff yn hollol wych ym mhopeth a ddywedodd, ond nawr mae'n rhaid i ni sicrhau bod hynny'n cael ei roi ar waith, ac fe wn i y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud popeth yn ei gallu gyda'r pwerau sydd gennym ni yma i sicrhau bod yr argymhellion hynny i gyd yn cael eu gweithredu. Mae hi wedi cymryd 40 mlynedd i gyrraedd y sefyllfa hon, ac mae angen i ni ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a gwneud yr hyn sy'n iawn o'r dechrau'n deg.
Mi oedd hi'n anrhydedd go iawn i fod yn Llundain ychydig wythnosau'n ôl i wrando ar Syr Brian Langstaff yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol. Mi oedd Julie Morgan yno hefyd, a chymaint o'r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd yma yng Nghymru. Mi oedd o'n ddigwyddiad emosiynol iawn, iawn, efo llawer iawn yn eu dagrau, wrth gwrs, ac yn cofio am y rheini oedd yn methu bod yno—y rhai oedd wedi gorfod talu efo'u bywydau am y sgandal yma ddylai fod erioed wedi digwydd ac, ie, oedd ddim o gwbl yn ddamwain. Ac yno oedden nhw i glywed y canfyddiadau ac i dderbyn y cyfiawnder roedden nhw'n ei haeddu, ac i glywed y gwir, wrth gwrs, dŷn ni i gyd yn gwybod oedd yn wirionedd drwy'r cyfan.
Etholwyr i mi, Mr a Mrs Hutchinson, wnaeth fy nghyflwyno i i fawredd y sgandal yma, a dwi wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd efo nhw dros y blynyddoedd. Drwyddyn nhw y dysgais i am yr anghyfiawnder. Drwyddyn nhw y des i'n rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar waed wedi'i heintio, yn cael ei gadeirio gan Julie Morgan ar y pryd. A phan ddaeth Julie Morgan yn Weinidog yn y Llywodraeth, fy mraint i oedd cael cymryd drosodd fel cadeirydd, a gweithio'n agos efo Lynne Kelly a'r holl unigolion a theuluoedd hynny sydd wedi rhoi eu bywydau yn llythrennol, neu eu hamser, eu hegni a'u holl angerdd i frwydro am y cyfiawnder dydyn ni ddim wedi'i gael eto, ond o leiaf rydyn ni'n agos at ei gael. Mi oedd gwrando arnyn nhw unwaith eto amser cinio heddiw—y brodyr wedi colli eu chwiorydd, y chwiorydd wedi colli eu brodyr, pobl wedi colli eu rhieni, rhieni wedi colli eu plant; y stigma, y galw enwau, y cywilydd sydd wedi bod yn gysgod dros gymaint o fywydau.
Dwi ddim yn mynd i wneud pwyntiau ychwanegol o ran yr hyn dŷn ni angen ei weld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain, fwy na sydd wedi cael ei ddweud gan Mabon ap Gwynfor ar ran y meinciau Plaid Cymru yma'n barod, ond i ategu y geiriau hynny a gwneud y pwynt na allwn ni ildio eiliad yn ein penderfynoldeb i gyrraedd at ben draw hyn a chael y cyfiawnder gwirioneddol, oherwydd mae yna garreg filltir bwysig wedi'i chyrraedd yn y datganiad hwnnw gan Syr Brian Langstaff a gwaith yr ymchwiliad, ond dim ond carreg filltir ydy hi ar hyn o bryd.
Mi ddaeth yr ymddiheuriadau a'r ymateb taer gan Weinidogion yn San Steffan oriau, mewn difri, cyn i etholiad cyffredinol gael ei alw, felly mae pethau ar stop, ond mae'n rhaid inni rŵan, dan y Llywodraeth nesaf, o ba bynnag liw fydd honno, fod mor benderfynol ag erioed o fwrw'r maen i'r wal, er mwyn y rheini sy'n dal i ymgyrchu, a'r rheini sydd, oherwydd eu bod nhw wedi talu i'r eithaf am hyn, yn methu â gwneud hynny bellach. Mae'n ddyletswydd arnom ni, a'n dyled ni iddyn nhw ydy gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y cyfiawnder yna'n dod.
Mark Isherwood. Mark, rydych chi wedi eich dad-dawelu.
O, fi sydd i siarad. Diolch. Roedd canfyddiadau damniol yr ymchwiliad gwaed heintiedig a gyhoeddwyd ar 25 Mai yn taflu goleuni ar un o'r sgandalau mwyaf yn hanes triniaethau'r GIG. Amcangyfrifir bod 3,000 o bobl a heintiwyd â HIV a hepatitis C ar ôl cael cynhyrchion gwaed heintiedig wedi marw. Gwyddys bod tua 400 o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio, ac eithrio'r rhai a fu farw heb gael gwybod eu bod wedi eu heintio. Mae Haemophilia Wales yn dweud bod 283 o gleifion yng Nghymru wedi cael eu heintio â hepatitis C yn y 1970au a'r 1980au, a bu farw dros 70 o bobl â hemoffilia yng Nghymru yn unig.
Fel y gwnaeth yr ymchwiliad pum mlynedd ei fynegi, nid damwain ydoedd ac roedd modd ei osgoi. Cafodd y gwirionedd ei gelu a chafodd dioddefwyr eu siomi dro ar ôl tro. Mae Haemophilia Wales wedi gofyn i mi siarad am effaith gwaed heintiedig ar etholwraig o'r gogledd, Jane Jones, a'i theulu. Cafodd Jane ei heintio â hepatitis C trwy driniaeth ar gyfer clefyd Von Willebrand, anhwylder prin ar y gwaed. Ni chafodd wybod am yr haint a oedd arni. Cafodd ei diweddar fam, Anona, ei heintio â hepatitis C hefyd ac fe gafodd y ddwy drawsblaniad iau oherwydd hepatitis C. Teithiodd Jane o'r gogledd i Lundain i glywed argymhellion Syr Brian Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad gwaed heintiedig. Cafodd ei chyfweld gan y cyfryngau Cymraeg a Saesneg am wythnosau cyn yr ymchwiliad ac ar y diwrnod ei hun, fe gafodd ei dewis i gynrychioli dioddefwyr Cymru a Haemophilia Wales. Ar 21 Mai, cynrychiolodd Jane Haemophilia Wales a dioddefwyr gwaed heintiedig Cymru yn y Senedd gan fod yno i weld datganiad John Glen ar iawndal gwaed heintiedig o oriel y Llefarydd.
Mae Haemophilia Wales yn ddiolchgar iawn iddi am ran bwysig Jane a'i mam yn yr ymgyrch dros gael ymchwiliad cyhoeddus i ganfod y gwirionedd o'r diwedd ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd. Roedd y ddwy yn honni nad oedden nhw erioed wedi cael gwybod am risgiau'r driniaeth ac na chawson nhw wybod wedyn eu bod nhw wedi eu heintio. Fel y dywedodd Jane yn ei datganiad i'r ymchwiliad, mae cael eich heintio â hepatitis C yn rhywbeth na fyddech chi'n ei ddymuno ar eich gelyn pennaf.
Mae etholwraig o sir Ddinbych, Rose Richards, wedi ysgrifennu hefyd yn gofyn i mi siarad ar ei rhan yn y ddadl hon. Mae hi wedi ei heffeithio am ei bod yn cario genyn haemoffilia ac fel chwaer i frawd a oedd â haemoffilia a fu farw o AIDS yn 46 oed ym 1990, ar ôl derbyn triniaeth ffactor VIII halogedig yn gynnar yn y 1980au. Mae hi hefyd yn gyfranogwr craidd yn yr ymchwiliad gwaed heintiedig ac mae hi wedi cyflwyno dau ddatganiad ysgrifenedig i hwnnw. Fe wnaeth hi benderfyniad ynghylch a ddylai gael plant ar sail y wybodaeth a oedd yn dal y gwir yn ôl am y risg hysbys o niwed difrifol. Mae gan ei meibion hi, a aned ym 1983 a 1985, haemoffilia. Yn ffodus, nid oedd angen ffactor VIII ar y ddau hyd nes ei fod yn gynnyrch mwy diogel ar ddiwedd yr 1980au. Fel mae hi'n dweud, er hynny, mae'r profiad o glywed rhieni eraill yn colli eu plant wedi bod yn ddirdynnol nawr ein bod ni'n gwybod y gwir am y sgandal. Ychwanegodd hi, er bod Syr Brian Langstaff yn argymell y dylai'r taliadau cymorth parhaus presennol o dan gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru barhau i bobl a phriod heintiedig neu bartneriaid pobl heintiedig a fu farw, ac y dylid talu iawndal yn ychwanegol at y taliadau cymorth, ni fu unrhyw ymrwymiad i anrhydeddu hyn. Fe ddaeth hi i'r casgliad, 'Fel grŵp, rydym ni'n bryderus iawn ynglŷn ag unrhyw oedi eto gan y Llywodraeth.' Mae dioddefwyr yn parhau i farw ar gyfradd o un bob pedwar diwrnod heb gael cyfiawnder.
Wrth siarad yma mewn dadl yn 2017, wrth alw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drychineb gwaed heintiedig y 1970au a'r 1980au, fe ddyfynnais i Monica Summers, y bu farw ei gŵr Paul, a oedd yn ddioddefwr oherwydd banc gwaed heintiedig, ar 16 Rhagfyr 2008, yn 44 oed. Pum mlwydd oed oedd eu merch. Dywedodd Monica,
'Bob dydd am 18 mis roedd hi'n holi "pryd bydd dadi'n dod adref?" Fe drodd hi'n 13 oed ym mis Hydref ac mae'r ddwy ohonom ni'n dal i'w chael hi'n anodd. Ni chafodd fy ngŵr ddewis, fe wnaeth rhywun ddewis drosto ac fe gollodd ei fywyd oherwydd penderfyniadau a wnaeth eraill. Ond dros 30 mlynedd yn ddiweddarach rydym ni'n dal i geisio rhywfaint o gytundeb. Gadewch i'r penderfyniadau nesaf gael eu gwneud gan leisiau pobl sy'n dioddef o HIV a Hepatitis C ar hyn o bryd, gan y gweddwon a'r teuluoedd sy'n cael eu gadael ar ôl ac sy'n ceisio gwella ac adeiladu bywyd normal newydd.'
Byddai eu merch yn 20 oed erbyn hyn. Fel y dywedais i bryd hynny, mae gwaed heintiedig wedi cael ac yn parhau i gael effaith ddinistriol ar fywydau miloedd o bobl a heintiwyd a'u teuluoedd.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o dri dioddefwr y sgandal gwaed heintiedig o fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd: Colin John Smith, Terry Webley a Bill Dumbleton, ac mae pob un ohonyn nhw wedi dioddef oherwydd methiannau gresynus y systemau iechyd a gwleidyddol a oedd yn gysylltiedig â hyn ac a nodwyd yn yr adroddiad. Yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn gynharach gan Haemophilia Wales ac a gadeiriwyd gan Lynne Kelly, a fu'n ymgyrchydd mor anhygoel ynglŷn â'r materion hyn ac yn ffynhonnell mor wych o gadernid a chefnogaeth i'r teuluoedd, fe gwrddais i â Joanne Davies a sonioddd am frawd ei gŵr Gavin, sef Terry Webley, a fu farw yn 10 oed, ac am yr anwybodaeth a'r ofn a glywsom ni amdano eisoes, y stigma a oedd yn bodoli ynghylch HIV/AIDS ar y pryd, a oedd yn golygu eu bod yn cael eu hosgoi yn y gymuned, y teuluoedd dan sylw, nad oedd yr ysgolion yn darparu'r gefnogaeth y dylen nhw fod wedi ei rhoi, nad oedd y cyfryngau lleol yn garedig nac yn deall ac nad oedden nhw'n dangos llawer o gydymdeimlad, roedd bwlio a galw enwau yn gysylltiedig â hynny ac, wrth gwrs, mae'r effaith ar iechyd y teuluoedd yn parhau, ac, yn achos Joanne, ar iechyd ei gŵr Gavin a'r teulu yn fwy eang.
Ac yn bresennol hefyd yr oedd Colin a Janet Smith, a gollodd eu mab Colin John Smith, a fu farw yn saith oed o AIDS yn pwyso dim ond 13 pwys, ar ôl dioddef methiannau o'r fath. Ac rwy'n gwybod bod eu tŷ nhw, Dirprwy Lywydd, wedi cael ei paentio â sarhâd a graffiti oherwydd cyflwr Colin John Smith, a'i bod hi'n anodd ei gael mewn i ysgol a bod problemau yn yr ysgol wedyn ac, unwaith eto, problemau fel hyn yn y gymuned yn fwy eang. Roedd hi'n sgandal ofnadwy ac yn gyhuddiad o systemau'r cyfnod, Dirprwy Lywydd, ac fe ddioddefodd cymaint o deuluoedd yn y ffordd y gwnaeth y teuluoedd hyn. Roedd Colin John Smith yn gwybod ei fod ar farw a'r hyn a wnaeth mewn gwirionedd oedd rhoi ei deganau, cyn iddo farw, i'w frodyr. Rydych chi'n meddwl am y don enfawr honno o emosiwn a ddaeth dros deuluoedd yn y cyfnod hwnnw, cymaint o deuluoedd, a methiannau ofnadwy'r systemau hynny a nodir yn yr adroddiad yn dilyn yr ymchwiliad.
Ond fe hoffwn i ddweud wrth gloi, Dirprwy Lywydd, wrth i ni fyfyrio ar y dioddefaint hwnnw—ac fe fyddwn ni'n clywed enghreifftiau pellach yma heddiw, ac fe glywsom ni'r enghreifftiau hynny drwy adroddiad yr ymchwiliad a'r achosion i fyny yn Nhŷ'r Cyffredin yn San Steffan hefyd—pan fyddwn ni'n myfyrio ar raddfa'r drasiedi i bobl a'r dioddefaint cysylltiedig, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni fyfyrio ar ba mor gadarnhaol yw ysbryd y bobl yn nheuluoedd y dioddefwyr, y cariad a'r ymrwymiad sydd wedi cael ei gynnal dros gyfnod hirfaith ac sy'n dal i gael ei gynnal heddiw a hwnnw a gynhyrchodd yr ymgyrch, a gynhyrchodd yr ymchwiliad a'r adroddiad a gafodd y gydnabyddiaeth honno i'r dioddefwyr a'u teuluoedd, fe ddylai hynny arwain nawr at y camau cyflym y mae eraill wedi galw amdanynt heddiw.
Ac fe hoffwn i orffen gyda geiriau Janet Smith, mam Colin John Smith, pan fynegodd hi'n union beth yw ystyr yr ymgyrch hon, yr ymchwiliad, yr adroddiad i'r dioddefwyr a'r teuluoedd nhw. Meddai Janet:
'Mae angen cydnabyddiaeth arnaf i. Rwyf eisiau i fy mab gael ei enw yn ôl. Ei enw yw Colin John Smith. A dyna yr wyf i eisiau i bobl ei gofio.'
'I arbed wyneb ac arbed cost, cafodd llawer o'r gwirionedd ei gelu.'
Mae'n rhaid i eiriau damniol a brawychus Syr Brian Langstaff fod yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth i ni ystyried effaith y sgandal gwaed heintiedig ar etholwyr yr ydym ni'n eu cynrychioli yma. Mae dwy chwaer o Gwm Tawe yn yr oriel gyhoeddus heddiw, Sharon a Rhian. Roedden nhw'n dymuno i mi dynnu sylw at sefyllfa a dioddefaint eu teulu nhw o ran y sgandal echrydus ac anfaddeuol hon, oherwydd mae eu stori nhw'n tynnu sylw at sut y mae'n rhaid ystyried, a chydnabod a gwneud cyfiawnder yn deg ac yn gyfartal heb oedi dim mwy. Roedd eu diweddar dad, Arwyn Davies, o Drebanos, â haemoffilia. Roedd dan ofal y proffesiynau meddygol ac roedd yn ymddiried ynddyn nhw, a oedd yn darparu triniaeth ar gyfer ei gyflwr. Roedd yn mynd i ganolfannau haemoffilia Caerdydd ac Abertawe, a Mr Bloom oedd ei brif ymgynghorydd. Bu farw Arwyn Davies ar 18 Mawrth 1992, yn 60 mlwydd oed. Roedd tystysgrif ei farwolaeth yn nodi ei fod wedi marw o hepatitis C, hepatoma a haemoffilia.
Treuliodd ei yrfa gyfan yn swyddog llywodraeth leol, ond, yn yr 1980au, dechreuodd ei iechyd ddirywio a bu'n rhaid iddo ymddeol yn gynnar o'i waith, ac ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach roedd wedi marw. Bu farw ei wraig Eira yn 2018, 26 mlynedd ar ôl ei gŵr, a dim ond ar ôl marwolaeth eu mam y daeth Rhian a Sharon yn ymwybodol o'r hyn a nodwyd ar dystysgrif marwolaeth eu tad. Yn ystod y 26 mlynedd hynny, ni wnaed unrhyw gyswllt i roi gwybod i unrhyw un o'r teulu am unrhyw un o'r risgiau yr oedden nhw wedi dod yn agored iddynt, nac i'w hysbysu bod ganddyn nhw hawl i unrhyw fath o daliadau budd-dal. Roedd hi mor anodd clywed gan Sharon a Rhian am eu brwydr faith a dolurus i gael gafael ar gofnodion meddygol a oedd yn ymwneud â'u tad, wrth iddyn nhw ymgyrchu dros gyfiawnder i'w teulu. Ond fe gawson nhw brawf o'r diwedd, a oedd yn cadarnhau mai wedi cael ffactor heintiedig yr oedd eu tad a bod y meddygon ymgynghorol yn ymwybodol o achos ei farwolaeth.
Ers cael y wybodaeth hon, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'r ymchwiliad gwaed heintiedig a Haemophilia Wales i sicrhau bod rhywun yn cael ei ddwyn i gyfrif. Ac er i Syr Brian Langstaff gymryd y cam anarferol o gyhoeddi iawndal dros dro cyn yr adroddiad terfynol, dim ond ar gyfer y rhai sy'n fyw a gafodd eu heintio a'r gweddwon mewn profedigaeth yr oedd hyn. Ni chafwyd unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i'r argymhelliad yn yr ail adroddiad interim ar iawndal, ym mis Ebrill 2023, a oedd yn galw am daliad iawndal dros dro am y marwolaethau nas cydnabuwyd yn flaenorol, ac, hyd yma, nid yw plant a gollodd rieni, fel Rhian a Sharon, erioed wedi cael iawndal na chydnabyddiaeth o farwolaeth eu tad. Nid ydyn nhw wedi cael llythyr ymddiheuriad gan eu bwrdd iechyd lleol, hyd yn oed. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau nad yw Llywodraeth y DU yn oedi'r cynnydd ymhellach?
Ac yn y rheoliad newydd o iawndal gwaed heintiedig, o dan y pennawd, 'Cais ystad', mae'n nodi:
'pan fo unigolyn yr effeithiwyd arno wedi marw, nid yw'n bosibl i gynrychiolwyr personol eu hystad wneud cais am iawndal.'
Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n cytuno nad oes modd cyfiawnhau hynny pan ddioddefodd pobl, fel mam Rhian a Sharon, sef Eira, galedi ariannol a salwch, heb unrhyw gymorth ariannol, yn dilyn marwolaeth Arwyn? A yw Llywodraeth Cymru felly yn derbyn mai'r peth iawn i'w wneud mewn amgylchiadau fel un y teulu hwn fyddai sicrhau bod y teulu yr effeithiwyd arno'n cael manteisio ar iawndal? Rwy'n credu nid yn unig mai dyna sy'n foesol gywir, ond ei fod hefyd yn arwydd o ymddiheuriad dyledus gan y wladwriaeth—y wladwriaeth, cofiwch, a gelodd y mater—i'r rhai y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnyn nhw, y rhai y mae eu bywydau cyfan wedi eu creithio gan golled a chan gelwyddau? A pha mor bell y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau y bydd pawb sydd bellach yn byw gyda hemoffilia, fel ŵyr Arwyn, mab Sharon, yn cael y cymorth gorau posibl gan wasanaethau cyhoeddus, heb orfod egluro goblygiadau eu cyflwr i leoliadau addysg a lleoliadau gofal iechyd, er enghraifft, bob tro, sef yr hyn sy'n digwydd, er mwyn rhoi camau ehangach ar waith i gynyddu ymwybyddiaeth a sicrhau diogelwch i bawb sy'n byw gyda haemoffilia? Diolch.
Rwy'n cofio'r diwrnod wyth mlynedd yn ôl, roeddwn i'n eistedd wrth ymyl Julie Morgan yn y Siambr hon, ac ychydig ar ôl amser cinio, fe ddywedodd hi, 'Mae yna grŵp trawsbleidiol yr wyf i'n ei gadeirio, a wnewch chi ddod i gwrdd â rhai o'ch etholwyr chi sydd wedi'u heffeithio gan y sgandal hon?' Ac fe es i gyfarfod â nhw—ac rwy'n gallu gweld Kirk Ellis yn yr oriel heddiw—ac fe gafodd hynny effaith aruthrol arnaf i ac roeddwn i'n awyddus i ymuno â'r ymgyrch honno, ac felly rwy'n falch o fod yn is-gadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar haemoffilia a gwaed heintiedig.
Fe hoffwn i roi rhai enghreifftiau i chi o'r etholwyr hynny yr wyf i wedi cwrdd â nhw ac wedi bod mewn cysylltiad â nhw ers hynny. Ysgrifennodd Janet Morgan a'i merch Felicity ataf i sôn am ei diweddar ŵr a thad a oedd â haemoffilia, a gafodd ei drwytho â ffactor VIII ac, o ganlyniad i hynny, fe gafodd ei heintio â hepatitis C. Cafodd nifer o feddyginiaethau clinigol arbrofol a oedd yn ei wneud yn wan iawn, a chafodd ef a'i deulu eu hamddifadu o fywyd normal. Dim ond 12 oed oedd Felicity pan gafodd ei thad wybod bod ganddo hepatitis C a thair i bum mlynedd o fywyd ar ôl. Fe wnaeth colli gŵr a'u tad yn 2010 eu hysgwyd ac mae hynny'n dal i effeithio'n fawr ar eu teulu, gan ei fod yn ŵr, tad a thaid mor annwyl, ac nid yw eu bywydau fyth wedi bod yr un fath.
Cysylltodd Susan Hughes â mi, yr oedd ei brawd Alan Jones â haemoffilia ac fe gafodd ei heintio â HIV a hepatitis C ar ôl derbyn gwaed heintiedig yn y 1980au yn 15 oed. Cafodd wybod hynny'n 17 oed, heb i'w rieni fod yn bresennol, sef ei fod wedi cael y firysau. Roedd gan Alan anawsterau dysgu ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd yn dair oed, ac fe fu farw yn 1994 yn ddim ond 25 oed o diwmor ar yr ymennydd a achoswyd gan y firws AIDS. Mae rhieni Alan a Susan wedi marw eu hunain bellach yn drist, ac ni welson nhw gyfiawnder erioed.
Cysylltodd yr Athro Nicholas Moran â mi, y cafodd ei ddiweddar frodyr, Peter a Tim, a oedd yn efeilliaid, eu cyd-heintio â HIV a hepatitis C gan gynhyrchion gwaed heintiedig y GIG. Bu'r ddau farw yn ifanc oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â HIV. Dioddefodd iechyd eu mam o ganlyniad, ac roedd ei marwolaeth hi o ganlyniad uniongyrchol i hynny. Mae'r Athro Moran yn uwch lawfeddyg sydd wedi gweithio ar hyd ei yrfa yn y GIG ers dros bedwar degawd, ond fe ddywedodd ef wrthyf ei fod wedi cael ei ysgwyd gymaint o ganlyniad i'r sgandal hon fel bod ei hyder yn y gwasanaeth wedi cael ei chwalu, yn enwedig gan ddatguddiadau dinistriol adroddiad Syr Brian Langstaff. O ganlyniad i hynny, mae wedi penderfynu ymadael â'r GIG. Mae'n dymuno gweld argymhellion adroddiad Syr Brian yn cael eu gweithredu yn eu llawnder ac yn ddiymdroi, ac mae'n pryderu, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd taliadau dros dro yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio, ni chafwyd unrhyw ymrwymiad i gefnogi perthnasau a effeithwyd na chydnabod marwolaethau nad oedden nhw wedi cael eu nodi yn flaenorol.
Rwy'n dod at Kirk Ellis. Kirk a roddodd y tei yma i mi, sydd â lliwiau'r ymgyrch arno, y tu allan i swyddfa Wayne David ym Medwas, rwy'n credu ei bod hi'n dair blynedd oddi ar hynny erbyn hyn. Roeddem ni'n dal i weithio ar gyfraddau iawndal sylfaenol ar yr adeg honno. Bydd ef yn mynychu cyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn rheolaidd, ac, fel y soniais i, mae ef yn yr oriel gyhoeddus. Fe wnes i gyfarfod ag ef ychydig ar ôl cinio heddiw, ac fe ddywedodd fod pryderon gwirioneddol ganddo ynglŷn â chynllun iawndal arfaethedig Llywodraeth y DU. Gallai hwnnw mewn gwirionedd fod yn waeth yn y pen draw er gwaethaf y taliadau pe byddai ef yn cael y cyfandaliad a grybwyllir yn natganiad y cynllun iawndal, oherwydd fe fyddai'r taliadau cymorth y mae'n eu derbyn yn dod i ben wedyn. Fe fyddai ei gyfandaliad ef yn para 20 mlynedd ar y mwyaf iddo ef a'i deulu, ac mae'n nodi bod Llywodraeth yr Alban yn yr Alban wedi gwarantu y bydd y taliadau cymorth cyfredol parhaus yn para am oes, yn ogystal â'r taliadau cyfandaliad iawndal a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i adroddiad Syr Brian. Yr hyn y mae ef yn dymuno i Lywodraeth Cymru ei wneud—mae'n cydnabod mai mater cyn datganoli oedd hwn—yw sicrhau bod y mater hwnnw yn cael ei ddatrys, ac nad yw'n ddibynnol ar ddim ond 20 mlynedd o gyllid o ganlyniad i'r iawndal, ac nad yw'n cael ei ddal yn y fagl o weld yr incwm hwnnw'n lleihau, wedyn, sef incwm y budd-daliadau anabledd yr oedd hawl ganddo i'w cael o'r blaen.
Ac yn olaf, rwy'n dymuno rhoi teyrnged i Wayne David, cyn AS Caerffili erbyn hyn. Gweithiodd Wayne yn galed iawn ar y mater hwn yn Nhŷ'r Cyffredin, ac fe gyflwynodd ddeiseb yn ddiweddar ar yr ymchwiliad gwaed heintiedig yn Siambr Tŷ'r Cyffredin. Roedd y ddeiseb yn galw am roi iawndal ar unwaith i'r rhai a gafodd eu heffeithio gan waed heintiedig, ac ar y cyd ag ef, roedd ein hetholwyr Lee Stay a Kirk Ellis wedi ychwanegu nifer o enwau lleol at y ddeiseb honno. Rwy'n credu y bydd Tŷ'r Cyffredin yn gweld eisiau ysbryd ymgyrchu Wayne ar hyn, ond rwy'n credu ei fod ef wedi gweithio yn galed hefyd i sicrhau ein bod ni'n gweld y canlyniad sydd gennym heddiw, er fy mod i o'r farn o hyd, mai un cam ar y daith o ddarparu cyfiawnder llawn ydyw i'r teuluoedd a'r bobl y mae'r sgandal hon yn effeithio arnyn nhw.
Yn gyntaf i gyd, fe hoffwn i roi teyrnged i bawb sydd wedi ymgyrchu dros y mater hwn ac sy'n parhau i wneud hynny. Mae rhai gyda ni yma heddiw, ac fe gofiwn ni'r rhai nad ydyn nhw. Fel y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dynnu sylw ato, cyn y Cwestiynau i'r Prif Weinidog, roedd yna gyfle i wrando ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan y sgandal hon, ac nid wyf i'n credu y gallai unrhyw un fod wedi gadael yr ystafell honno heb ddealltwriaeth eglur o'r anghyfiawnder y mae teuluoedd wedi ei wynebu. Fe fyddech chi wedi clywed sut y gwnaeth pobl mewn safleoedd o awdurdod ddifenwi'r teuluoedd am godi pryderon, gan eu cyhuddo o ddweud celwydd, eu cyhuddo o godi bwganod. Anonestrwydd, dim llai, onid e—ymgais i arbed arian. Wel am gyhuddiad yn erbyn ein cyfundrefn ni.
Wythnos diwethaf, fe gysylltodd Deborah James, etholwraig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, â mi i adrodd hanes ei brawd. Bu ei brawd, a oedd yn swyddog heddlu gweithredol, farw yn 31 oed yn 1982, o ganlyniad i gael gwaed heintiedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Datgelodd Deborah wrthyf ei fod wedi bod yn brwydro yn erbyn lymffoma Hodgkin, a'i fod wedi cael diagnosis cadarnhaol yn dilyn cemotherapi. Serch hynny, roedd cymhlethdodau yn golygu iddo ddioddef gwaedu mewnol ac fe'i cludwyd i Gaerdydd, lle cafodd sawl peint o waed yn lle'r gwaed yr oedd yn ei golli. Dywedwyd wrthyn nhw ei fod wedi cael yr hyn y cyfeiriwyd ato'n 'beint drwg', a'i fod wedi cael ei heintio â hepatitis C. Oherwydd yr effaith ar ei iau, dioddefodd brawd Deborah glefyd melyn. Roedd yn ei frifo iddo eu cael nhw'n ei gofleidio, ac—rwy'n dyfynnu Deborah nawr—nid ydyn nhw erioed wedi dod dros yr hyn a ddigwyddodd yn ystod wythnosau olaf ei fywyd.
Un o'r pethau allweddol a oedd yn sefyll allan i mi yn y cyfarfod yn gynharach heddiw oedd rhywbeth a gafodd ei ddweud: nid yw ymddiheuriad yn golygu dim os nad oes cydnabyddiaeth o'r hyn y mae pobl wedi bod trwyddo. Mae iawndal yn un ffordd o gydnabod, ac er y bydd yna daliad iawndal dros dro o £210,000 yn cael ei roi i'r rhai a gafodd eu heintio, yn siomedig iawn, ni chafwyd ymrwymiad i sicrhau y bydd y taliad iawndal dros dro yn cael ei wneud pan nad oes cydnabyddiaeth, fel y mynegodd Aelodau eraill. Fe fyddwn i'n gobeithio y gallai'r Gweinidog roi sylw ar hyn, oherwydd mae hwnnw, wrth gwrs, yn ofid i deuluoedd—yn benodol o ran sut y byddwn ni'n cynorthwyo'r teuluoedd hynny a gollodd eu perthnasau ond mai achos arall a roddwyd i'r farwolaeth a dyna'r hyn a gafodd ei gofrestru.
Ni ellir gwadu bod marwolaethau wedi cael eu celu, cafodd dogfennau eu difa—roedd hynny yn yr adroddiad. I deulu Deborah, mae hi wedi cymryd 42 o flynyddoedd i gael gwybod y gwirionedd. Y pryder nawr yw, er gwaethaf y gydnabyddiaeth nad damwain oedd yr hyn a ddigwyddodd, y bydd teuluoedd yn cael eu hamddifadu o iawndal oherwydd y cafodd dogfennau eu difa yn ystod y cyfnod hwnnw o guddio'r gwir. Rwyf i am orffen, Dirprwy Lywydd, drwy gyfeirio yn ôl at eiriau Deborah wrthyf i: "Prin y gellir credu, 42 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, ac yn dilyn adroddiad Syr Brian, bod ansicrwydd yn parhau, a bod brwydrau eto i ddod dros y rhai a heintwyd ac a effeithwyd'.
Rydyn ni eisoes wedi clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llawer o bobl eraill am y degau o filoedd sydd wedi'u heintio a'u heffeithio, yn ogystal â'r 3,000 o bobl a fu farw o waed heintiedig. Ond nid sgandal triniaeth yn unig yw hyn, fel y dywedodd Luke Fletcher eisoes. Mae hyn yn ymwneud â chuddio gweithredoedd troseddol. A dyna yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef yn fy sylwadau heddiw. Mae Syr Brian Langstaff yn catalogio tair set wahanol o ddogfennau a gollwyd, neu a ddifrodwyd yn fwriadol yn y rhan fwyaf o achosion, a'r methiant i ddiogelu'r dogfennau hyn, a oedd i fod i gael eu cadw mewn man diogel, er mwyn i ddioddefwyr allu galw arnyn nhw i atgyfnerthu eu cais am iawndal.
Roedd y set gyntaf yn bapurau yn ymwneud â'r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Feiregol Gwaed. Darganfuwyd yn ôl yng nghanol 1995 fod un o'r cyfrolau wedi ei ddinistrio, ym mis Medi 1994. Ni wnaed unrhyw ymdrech i ddiogelu'r holl gyfrolau o ddogfennau a oedd yn weddill, a gafodd eu dinistrio rhwng Hydref 1997 a Thachwedd 1998. Mae hyn yn wirioneddol, wirioneddol frawychus. Mae'n rhaid i ni ddeall sut y caniatawyd i'r Adran iechyd barhau i geisio cuddio hyn, hyd yn oed ar ôl i Yvette Cooper ofyn am adroddiad, a alwyd yn adroddiad hunangynhaliaeth, pan ddaeth yn Is-ysgrifennydd Gwladol Iechyd y Cyhoedd yn 2002.
Arweiniodd hyn at achos rhyfeddol o geisio cuddio'r hyn ddigwyddodd. Cyflwynwyd adroddiad cychwynnol gan uwch swyddog yn yr Adran iechyd i rywun ar y diwrnod cyn Nadolig 2002, ac ni ddaeth i olau dydd am dair blynedd arall, ac erbyn hynny roedd wedi cael ei ddoctora o gyfrif ffeithiol o'r hyn y dywedodd y ddogfen am hunangynhaliaeth i esgus pam nad oedd wedi bod yn bosibl osgoi'r sgandal ofnadwy hon. Mae'r rhain yn bwyntiau gwirioneddol, gwirioneddol ddinistriol y mae'n rhaid i ni eu cymryd o ddifrif.
Fe ddiflannodd papurau'r Arglwydd Owen, y cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros iechyd, yn llwyr, oherwydd yn amlwg roedden nhw'n datgelu pethau nad oedden nhw am eu cyfaddef. Ac mewn un achos, roedd yr Adran iechyd yn dweud ei bod yn debygol iddyn nhw gael eu dinistrio gan aelod iau o staff. O ddifrif? Dydw i ddim yn gallu gweld hynny. Mae'n ymddygiad cwbl ddigyfiawnhad a dybryd gan ein gweision cyhoeddus.
I'r perwyl hwn, mae'n rhaid i ni wir herio diwylliant amddiffynnol celu a chefnogi galwadau Syr Brian Langstaff i Weinidogion ystyried dyletswyddau statudol gonestrwydd ar gyfer gweision sifil a Gweinidogion yn eu holl waith o ddydd i ddydd.
Rwy'n falch iawn bod Mark Drakeford, o dan ei arweinyddiaeth, wedi cyflwyno'r ddyletswydd gonestrwydd hon y llynedd, ond mae angen i ni sicrhau ei bod yn ymestyn i arweinwyr yn ein gwasanaethau iechyd hefyd. Mae'n amlwg bod llawer mwy i'w ystyried ar hyn. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd arweinwyr y GIG yng Nghymru, gan gynnwys aelodau'r bwrdd, yn dilyn hyn mewn gwirionedd ac nad yw ein gweision sifil ein hunain ychwaith yn parhau i fod yn llai na gonest â'r gwir.
Mi hoffwn i gysylltu fy hun efo nifer o'r sylwadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud. Weithiau, mae yna gysylltiad yn dod gan etholwr sydd jest yn eich taro chi, a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi derbyn e-byst gan deuluoedd a'r rheini sydd wedi dioddef ac yn parhau i ddioddef heddiw sydd wedi cael yr effaith hwnnw. Felly, dwi'n mynd i ddefnyddio fy amser i roi llais a rhannu rhai o'r straeon hynny, yn ôl yr hyn sydd wedi'i ofyn ohonof.
Efallai bod nifer ohonoch chi wedi darllen neu weld ar y teledu stori Owain Harris am ei dad, Norman. Roedd gan Norman haemoffilia, ac yn y 1970au a’r 1980au cynnar fe ddechreuodd ar driniaeth newydd ar gyfer y cyflwr. Yng nghanol yr 1980au, fe gafodd wybod ei fod wedi dal hepatitis C a bod ganddo HIV. Pedair oed oedd ei fab Owain ar y pryd, ac ni wnaeth ei rieni rannu'r diagnosis llawn gydag o tan oedd o’n 26 oed. Bu Norman farw yn 2012. Mae Owain, ei chwaer a’i fam wedi rhoi tystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad, ond dim ond y mis diwethaf y gwnaethon nhw am y tro cyntaf siarad yn gyhoeddus am hyn, gydag Owain yn dweud, 'Roedd hwn yn cover-up llwyr gan y sefydliad.'
Rhannodd David gyda mi yn ei eiriau ei hun, 'Cefais fy heintio â hepatitis C ar ddechrau'r 1980au, yn debygol rhwng naw a 13 oed. Cefais wybod am fy diagnosis yn 23 oed yn 1994, a byth ers y dyddiad hwn rwyf wedi bod mewn cyflwr o bryder parhaol am fy iechyd a fy marwoldeb.' Aeth ymlaen i rannu gyda mi effaith hyn ar ei fywyd, gan gynnwys gorfod ymladd yn galed i gael y cyffuriau retrofirysol newydd a oedd ar gael tua diwedd 2014.
Dywedodd etholwr arall, Paul o Gaerdydd, 'Rwy'n un o'r haemoffiliacs sydd wedi'i heintio yng nghanol y 1970au, dechrau'r 1980au, gyda hep C. Mae hyn wedi gwneud bywyd yn hunllef. Roedd yn rhaid i mi ymgymryd â thriniaethau erchyll. Allwn i ddim parhau i weithio oherwydd fy iechyd meddwl a'r stigma. Rwyf wedi cuddio fy hun i ffwrdd, ddim bellach yn teimlo fy mod yn gallu rhyngweithio ag eraill ac wedi dod yn ynysig. Gwnaeth pobl ymateb i fy nghyflwr ar sawl achlysur gydag ymosodiad geiriol. Mae wedi fy ngadael â chymhlethdodau gydol oes, heb sôn am beidio â gallu cael plant ac achosi llawer o broblemau yn fy mherthnasoedd trwy fy mywyd.' Mae'n ein hannog ni fel Senedd, 'Os gwelwch yn dda, gyda phobl yn marw ar gyfartaledd o bedwar yr wythnos, y cyfan yr ydym ni ei eisiau yw cael rhywfaint o'n bywyd ni sy'n eiddo i ni a heb ei ddwyn oddi wrthym gan y defnydd bwriadol hwn o waed heintiedig, sydd wedi dinistrio fy mywyd i a bywydau llawer o bobl eraill.'
Rhannodd etholwr arall, sydd eisiau aros yn ddienw, stori ei thad, a fu farw 20 mlynedd yn ôl yn ddim ond 38 mlwydd oed. Dywedodd Carol wrthyf am farwolaeth ei thad Ian yn 2004, yn 48 oed.
Ysgrifennodd Rachel ataf gan ddweud,
'Bu farw fy nhad (oedd yn hemoffilig) o AIDS yn 1990 ar ôl salwch chwe mlynedd, lle gwastraffodd ei gorff a'i ymennydd i ddim.'
Fe wnaethoch chi gyfeirio ar y dechrau, Ysgrifennydd Cabinet, at y teulu Sugar. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n adrodd hanes Leigh, mab, gŵr a thad annwyl iawn, a oedd yn haemoffiliag ysgafn, a gafodd ei heintio â'i driniaeth gyntaf a'i unig driniaeth yn 14 oed, yn dilyn cwymp o'i geffyl. 14 mlynedd yn ddiweddarach y cafodd wybod am ei haint am y tro cyntaf, ac erbyn hynny roedd yn briod ac roedd ganddo ferched pump a thair oed. Bu farw yn 44 oed o ganser yr iau, ar ôl cael ei heintio â hepatitis C. Rhannodd ei deulu iddo dreulio blwyddyn olaf ei fywyd mewn poen a dioddefaint dwys, a bod ei dad Graham wedi marw dair blynedd yn ôl, heb weld cyfiawnder. Maen nhw'n dweud bod eu teulu 'wedi ei rwygo ar wahân gan waed heintiedig'.
Hoffwn dalu teyrnged i'r holl ddioddefwyr a'u teuluoedd sydd wedi ymgyrchu dros gyfiawnder ac sydd wedi bod yn ddigon dewr i rannu eu dioddefaint a'u poen parhaus gyda ni. Gallwn ni gydnabod hynny heddiw, ymddiheuro am bopeth y maen nhw wedi bod drwyddo, ond hefyd ddatgan yn unedig y byddwn yn sicrhau y gwneir popeth posibl y gellir ei wneud i unioni'r cam ofnadwy, ofnadwy hwn. Ni ddylai byth fod wedi digwydd ac ni fydd unrhyw beth a wnawn yn unioni hyn, ond gallwn ni geisio cynnig y gefnogaeth honno. Mae hyn yn mynd i gael effaith ar genedlaethau i ddod ar y teuluoedd hyn yr effeithiwyd arnynt. Felly, hoffwn orffen drwy ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i'r rhai sy'n dal i fyw gyda'r haint, sydd mewn poen, sy'n dioddef, ond hefyd eu teuluoedd, sy'n dal i fod mewn poen a dioddefaint? Mae angen i ni allu darparu nid yn unig iawndal, ond cefnogaeth barhaus, a hoffwn wybod sut y byddant yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw. Diolch.
Fel siaradwyr eraill o fy mlaen, hoffwn ddarllen tystiolaeth dau o fy etholwyr y mae eu bywydau wedi eu newid yn anadferadwy gan y sgandal gwaed heintiedig. Ac rwy'n credu ei fod yn dweud y cyfan, o ran y stigma sy'n dal ynghlwm wrth hyn, bod fy etholwyr ill dau wedi gofyn i'w straeon aros yn ddienw. Fe wnaeth un o fy etholwyr ddal hepatitis C o waed heintiedig tra'r oedd yn cael triniaeth am lewcemia rhwng 1985 a 1989. Mae bellach wedi byw gyda hepatitis am 35 mlynedd, gan gael pum cwrs anodd o interfferon, nifer o brofion mewnwthiol ac anfewnwthiol, gobeithion gyrfa is a chyfyngiadau ar faint y teulu. Cyn cael diagnosis, cafodd ei anfon i un o'r wardiau AIDS cyntaf yn Llundain ac yna i sefydliad iechyd meddwl yng Nghaerdydd, oherwydd bod y gweithwyr meddygol proffesiynol yn meddwl ei fod yn dychmygu ei salwch. Yn ffodus, mae fy etholwr yn dweud wrthyf ei fod wedi gweithio'n galed i reoli ei cyflwr a'i fod bellach mewn iechyd da, ond mae'n dweud bod llawer o bobl yn llai ffodus, ac mae'n credu eu bod yn haeddu cymaint yn fwy.
Dim ond 17 oed oedd fy etholwr arall ac yn barod i ddechrau ei fywyd, pan ddywedwyd wrtho gan ei feddyg haemoffilia ei fod wedi dal HIV o waed heintiedig. Dywedwyd wrtho am beidio â dweud wrth neb, dim hyd yn oed ei fam. Dywedodd meddygon y byddai'n byw tua 18 mis. Mae wedi gweld ei ffrindiau haemoffiliag yn marw o AIDS yn yr ysbyty, ac roedd yn meddwl y byddai'n marw yn yr un ffordd. Roedd hon yn ddedfryd o farwolaeth. Cafodd dri chwalfa'r nerfau dros y blynyddoedd, ceisio lladd ei hun dair gwaith, ac am flynyddoedd bu'n treulio cyfnodau i mewn ac allan o'r ysbyty. Mae'r stigma sy'n gysylltiedig ag HIV, meddai, yn annioddefol, ac mae'n gweld hyn ym mhob agwedd ar ei fywyd bob dydd. Yn 1994 dywedwyd wrth yr un etholwr ei fod hefyd wedi'i heintio â hepatitis C. Cafodd dri chwrs o driniaeth gyda sgîl-effeithiau erchyll. Nid yw wedi gallu cael plant, cael sicrwydd bywyd nac amddiffyniad morgais, oherwydd effaith HIV a hepatitis C.
Dywed fy etholwyr eu bod yn gobeithio y bydd argymhellion yr ymchwiliad yn atal pethau fel hyn rhag digwydd eto, na fydd pobl yn cael eu profi heb ganiatâd, na fydd buddiannau masnachol yn cael blaenoriaeth dros ddiogelwch cleifion. Maen nhw'n gobeithio na fydd yn rhaid i genedlaethau'r dyfodol ddioddef y boen a'r stigma y mae'n rhaid iddyn nhw, ac y bydd gweithwyr meddygol proffesiynol yn cael eu haddysgu i sicrhau eu bod yn cael eu trin gyda'r parch y maen nhw'n ei haeddu.
Siân Gwenllian? Na. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl emosiynol iawn, ac mae wedi bod yn eithaf torcalonnus clywed rhai o straeon eich etholwyr. Dim ond ychydig bwyntiau rwyf eisiau mynd i'r afael â nhw. Yn gyntaf oll, un o'r materion y mae pobl wedi gofyn amdano yw'r rhai nad ydyn nhw'n cael eu cydnabod. Rhan o'r broblem yma yw bod angen cofnodion i wneud hawliadau. Nawr, rydym yn ymwybodol bod problemau wedi bod gyda chofnodion y GIG yn y gorffennol. Bydd ein cynllun cymorth gwaed heintiedig yng Nghymru a'r awdurdod iawndal gwaed heintiedig newydd yn gweithio gyda'r rhai sydd wedi'u heintio a'r rhai y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i hawliadau gael eu gwneud. O ran buddiolwyr ifanc, mae hwn yn fater y mae fy swyddogion wedi'i godi gyda Swyddfa'r Cabinet, ac rydym wedi cael sicrwydd bod hyn yn rhywbeth y maen nhw'n edrych arno.
O ran y camau uniongyrchol nesaf, bydd Syr Robert Francis, ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol dros dro yr IBCA, David Foley, yn cwrdd â'r prif grwpiau ymgyrchu, gan gynnwys Lynne Kelly o Haemophilia Wales, i drafod edrych ar y cynigion am iawndal i wirio a ydyn nhw'n deg. Byddan nhw'n gwirio a fydd y cynllun yn gweithio, a byddan nhw'n gwirio a oes unrhyw beth wedi'i fethu. A bydd yr hyn y byddan nhw'n ei ddysgu o'r cyfarfodydd hyn yn helpu i fframio gwaith yr IBCA. O ran cynlluniau cyfredol a chynlluniau yn y dyfodol, mae sylwadau wedi'u gwneud ym mhob un o'r gwledydd i gadw'r cynlluniau cymorth. Megis dechrau mae'r trafodaethau, rwy'n gwybod, a bydd swyddogion yn ystyried y sylwadau a dderbyniwyd.
Hoffwn ei gwneud yn glir y byddwn ni'n derbyn holl welliannau Plaid Cymru.
Dwi hefyd eisiau talu teyrnged i Rhun ap Iorwerth am ei waith e fel arweinydd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed wedi'i heintio. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi bod yn brwydro am flynyddoedd lawer gyda'r rheini sydd wedi bod yn ymladd am gyfiawnder.
Hoffwn i gael amser i fynd drwy'r adroddiad. Mae wedi cymryd blynyddoedd i ysgrifennu'r adroddiad hwn ac mae angen i ni roi'r parch y mae'n ei haeddu iddo, ac felly byddwn ni'n gwneud hynny. Ac rwyf am sicrhau Jenny Rathbone bod yna ddyletswydd gonestrwydd eisoes yn y GIG yng Nghymru, fel y nodwyd gennych, gan gynnwys yr un sy'n berthnasol i arweinwyr yn y gwasanaeth iechyd. Heno rwy'n credu ein bod ni'n uno fel Siambr ac fel Senedd, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi i dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i hyn, y sgandal fwyaf yn hanes y GIG. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig NNDM8595 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod:
a) y niwed a'r dioddefaint a achoswyd i filoedd o bobl yn sgil y sgandal gwaethaf o ran triniaethau yn hanes y GIG;
b) ymgyrchu diflino a gwaith caled pawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef, i geisio'r gwir; ac
c) ymddiheuriad Llywodraeth y DU am y degawdau hir o fethiant moesol wrth galon ein bywyd cenedlaethol.
2. Yn croesawu adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a gyhoeddwyd ar 20 Mai 2024 a'i argymhellion.
3. Yn croesawu gwaith y pedair gwlad i sefydlu Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.
4. Yn nodi y bydd taliadau iawndal pellach yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru yn derbyn eu hail daliad iawndal interim o fewn 90 diwrnod i gyhoeddi adroddiad Langstaff.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu holl argymhellion adroddiad Langstaff sy'n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn llawn ac yn ddi-oed.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i estyn allan yn rhagweithiol at yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru gyda'r cynnig o gefnogaeth a chwnsela perthnasol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig wedi ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig wedi ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.