Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 4 Mehefin 2024.
Mi oedd hi'n anrhydedd go iawn i fod yn Llundain ychydig wythnosau'n ôl i wrando ar Syr Brian Langstaff yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol. Mi oedd Julie Morgan yno hefyd, a chymaint o'r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd yma yng Nghymru. Mi oedd o'n ddigwyddiad emosiynol iawn, iawn, efo llawer iawn yn eu dagrau, wrth gwrs, ac yn cofio am y rheini oedd yn methu bod yno—y rhai oedd wedi gorfod talu efo'u bywydau am y sgandal yma ddylai fod erioed wedi digwydd ac, ie, oedd ddim o gwbl yn ddamwain. Ac yno oedden nhw i glywed y canfyddiadau ac i dderbyn y cyfiawnder roedden nhw'n ei haeddu, ac i glywed y gwir, wrth gwrs, dŷn ni i gyd yn gwybod oedd yn wirionedd drwy'r cyfan.
Etholwyr i mi, Mr a Mrs Hutchinson, wnaeth fy nghyflwyno i i fawredd y sgandal yma, a dwi wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd efo nhw dros y blynyddoedd. Drwyddyn nhw y dysgais i am yr anghyfiawnder. Drwyddyn nhw y des i'n rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar waed wedi'i heintio, yn cael ei gadeirio gan Julie Morgan ar y pryd. A phan ddaeth Julie Morgan yn Weinidog yn y Llywodraeth, fy mraint i oedd cael cymryd drosodd fel cadeirydd, a gweithio'n agos efo Lynne Kelly a'r holl unigolion a theuluoedd hynny sydd wedi rhoi eu bywydau yn llythrennol, neu eu hamser, eu hegni a'u holl angerdd i frwydro am y cyfiawnder dydyn ni ddim wedi'i gael eto, ond o leiaf rydyn ni'n agos at ei gael. Mi oedd gwrando arnyn nhw unwaith eto amser cinio heddiw—y brodyr wedi colli eu chwiorydd, y chwiorydd wedi colli eu brodyr, pobl wedi colli eu rhieni, rhieni wedi colli eu plant; y stigma, y galw enwau, y cywilydd sydd wedi bod yn gysgod dros gymaint o fywydau.
Dwi ddim yn mynd i wneud pwyntiau ychwanegol o ran yr hyn dŷn ni angen ei weld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain, fwy na sydd wedi cael ei ddweud gan Mabon ap Gwynfor ar ran y meinciau Plaid Cymru yma'n barod, ond i ategu y geiriau hynny a gwneud y pwynt na allwn ni ildio eiliad yn ein penderfynoldeb i gyrraedd at ben draw hyn a chael y cyfiawnder gwirioneddol, oherwydd mae yna garreg filltir bwysig wedi'i chyrraedd yn y datganiad hwnnw gan Syr Brian Langstaff a gwaith yr ymchwiliad, ond dim ond carreg filltir ydy hi ar hyn o bryd.
Mi ddaeth yr ymddiheuriadau a'r ymateb taer gan Weinidogion yn San Steffan oriau, mewn difri, cyn i etholiad cyffredinol gael ei alw, felly mae pethau ar stop, ond mae'n rhaid inni rŵan, dan y Llywodraeth nesaf, o ba bynnag liw fydd honno, fod mor benderfynol ag erioed o fwrw'r maen i'r wal, er mwyn y rheini sy'n dal i ymgyrchu, a'r rheini sydd, oherwydd eu bod nhw wedi talu i'r eithaf am hyn, yn methu â gwneud hynny bellach. Mae'n ddyletswydd arnom ni, a'n dyled ni iddyn nhw ydy gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y cyfiawnder yna'n dod.