3. Dadl: Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 4 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Llafur 3:05, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn fod grŵp mawr o'r rhai sydd wedi eu heintio a'u heffeithio yma yng Nghymru yn ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus, gan gynnwys fy etholwyr, Sybil a Bev, a chadeirydd Haemophilia Wales, Lynne Kelly. Fe hoffwn i roi teyrnged arbennig i Lynne Kelly i ddiolch iddi hi am y ffordd deimladwy a phenderfynol y mae hi wedi arwain y grŵp hwn. Oherwydd mae'n rhaid i'r rhai y mae eu bywydau wedi cael eu troi yn gwbl wyneb i waered fod yn flaenllaw yn y ddadl hon heddiw. Fe hoffwn, felly, roi profiadau dau o fy etholwyr, Sybil a Bev, sy'n dangos profiad llawer o rai eraill, wrth gwrs, ar y cofnod heddiw.

Cafodd Sybil lawdriniaeth ar ei chalon yn 1989. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd lythyr gan bennaeth gwasanaeth trallwyso gwaed Cymru a chafodd y newyddion ei bod wedi cael gwaed a oedd wedi'i heintio â hepatitis C. Dywedwyd wrthi am beidio â defnyddio'r un llestri na'r un cyllyll a ffyrc â'i gŵr, a pheidio â chael cyfathrach agos. Ni chafodd Sybil unrhyw gwnsela. Bu'n rhaid iddi fynychu'r clinig clefydau heintus yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac fe ddisgrifiodd sut y byddai hi'n teimlo yn aflan oherwydd bod ganddi hepatitis C. Roedd sgil effeithiau ei thriniaeth yn waeth na chael cemotherapi. Roedd cyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig ar 20 Mai yn garreg filltir yn yr ymgyrch dros gyfiawnder. Yng ngeiriau Sybil ei hun, 'Ni all neb ddechrau amgyffred sut rwy'n teimlo ar hyn o bryd wrth glywed sylwadau agoriadol Syr Brian Langstaff pan ddywedodd, "Nid damwain oedd hon"'.

Rwyf i am droi nawr at Bev, y bu farw ei dau frawd, Gareth a Haydn, mewn 10 mis o'i gilydd yn 2010 ar ôl cael gwaed heintiedig a oedd wedi'i heintio â HIV a hepatitis C. Roedd Gareth a Haydn yn ffigurau allweddol yn yr ymgyrch i ddarparu cefnogaeth a chyfiawnder i bobl â hemoffilia a'u teuluoedd trwy Birchgrove Cymru, Haemophilia Wales, Grŵp Cenedlaethol Birchgrove a grŵp ymgyrchu Tainted Blood, ac, mewn gwirionedd, fe ddechreuon nhw drwy gyfarfod fel grŵp yn nhafarn y Birchgrove yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, ond erbyn hyn, wrth gwrs, mae wedi dod yn Birchgrove Cymru.

Pan ddywedwyd wrth gleifion hemoffilia am eu diagnosis o HIV, roedd yn brofiad arswydus—dedfryd o farwolaeth, gydag amcangyfrifon disgwyliad oes o rhwng dwy a phum mlynedd. Roedd y gwarthnod yn erchyll ac roedd y mwyafrif o gleifion yn cadw eu cyflwr yn gyfrinachol. Roedd y grwpiau a sefydlodd Gareth a Haydn i gefnogi'r rhai a oedd wedi eu heintio yn achubiaeth i'r bobl hyn. Dywedodd Bev wrthyf fod Gareth yn ddig, yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn benderfynol, tra bod Haydn yn llawer tawelach ac yn bwyllog yn ei ddull o weithio, gan weithio i ffwrdd ac ymchwilio yn dawel.

Gyda datganoli yn 1999, aeth yr ymgyrchu i fynd at y gwir o nerth i nerth, ac fe gyflwynodd Gareth, fel cadeirydd Haemophilia Wales a oedd newydd gael ei sefydlu, yr achos dros ymchwiliad cyhoeddus yn y grŵp trawsbleidiol cyntaf a gynhaliwyd yn y Cynulliad a oedd newydd ei ffurfio. Pan deithiodd Bev i Lundain ar 20 Mai, roedd hi'n ei ddisgrifio fel 'profiad emosiynol, dyrchafol' wrth glywed y canlyniad a gweld goroeswyr o bob rhan o'r DU, ond llanwyd hi â thristwch enfawr o ystyried nad oedd ei brodyr hi, Gareth a Haydn, gyda'u cyfraniad enfawr tuag at yr ymchwiliad, yno i'w glywed. Roedd hi'n dymuno y bydden nhw wedi gallu bod yno gyda hi.

Ond nid yw'r frwydr wedi ei hennill eto. Mae Brian Langstaff wedi dweud nad damwain oedd hon, ac mae hynny wedi bod o gysur mawr, rwy'n credu, i lawer o'r bobl sydd wedi eu heintio a'u heffeithio. Ond mae pryderon eang o ran a fydd rhestr lawn argymhellion Brian Langstaff yn cael ei gweithredu. Mae pryderon ynglŷn â'r cynllun cymorth misol, ac mae llawer o bobl yn poeni y gallen nhw fod yn dlotach yn ariannol os na weithredir ar argymhellion Syr Brian. Rwy'n credu bod llawer o bobl yn credu mai gobaith di-sail a roddwyd. Ac rwy'n credu, os edrychwch chi ar hanes yr hyn sydd wedi digwydd i'r grŵp hwn, fe allwch chi ddeall yn iawn pam mae pobl yn teimlo felly. Mae hwn yn adroddiad gwych, roedd Brian Langstaff yn hollol wych ym mhopeth a ddywedodd, ond nawr mae'n rhaid i ni sicrhau bod hynny'n cael ei roi ar waith, ac fe wn i y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud popeth yn ei gallu gyda'r pwerau sydd gennym ni yma i sicrhau bod yr argymhellion hynny i gyd yn cael eu gweithredu. Mae hi wedi cymryd 40 mlynedd i gyrraedd y sefyllfa hon, ac mae angen i ni ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a gwneud yr hyn sy'n iawn o'r dechrau'n deg.