Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 4 Mehefin 2024.
Mae canfyddiadau adroddiad Langstaff ar y sgandal gwaed heintiedig yn ddyfarniad llwyr ddamniol yn erbyn diwylliant ymwreiddiedig o gam-drin sefydliadol, esgeulustod llywodraethol a chymylu gwleidyddol a ganiatawyd i gronni yn ein corff gwleidyddol ers degawdau ac a arweiniodd at ganlyniadau trychinebus ar raddfa ddigynsail. Yn gyntaf i gyd, mae hi'n iawn i ni roi teyrnged i ymgyrchu ysbrydoledig yr unigolion a gafodd eu heffeithio sydd wedi brwydro dros gyfiawnder yn ddiflino yn wyneb buddiannau breintiedig grymus a geisiodd roi taw ar eu trafferthion ar bob cam. Dylid diolch hefyd i fy nghydweithiwr Rhun ap Iorwerth am ei gadeiryddiaeth o'r grŵp trawsbleidiol a'i gefnogaeth gyson i bawb a gafodd ei effeithio. Felly hefyd fe hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad aruthrol i'r frwydr hon.
Er na all unrhyw beth lwyr atgyweirio'r difrod a achoswyd i fywydau gan y sgandal hon, rwy'n gobeithio y gall yr adroddiad roi rhywfaint o ddiweddglo ar y mater i'r unigolion hynny a gafodd eu heffeithio a chychwyn y broses atebolrwydd y bu llawer gormod o aros amdani. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd hwn yn drobwynt o ran mynd i'r afael â grym sy'n amlwg yn anghytbwys ac sydd yng nghraidd ein system cyfiawnder troseddol. O drychineb Hillsborough i sgandal Horizon Swyddfa'r Post, yn rhy aml fe all olwynion cyfiawnder droi yn llawer yn rhy araf o ran camymddygiad a methiannau'r cyfoethog, yr elît a'r rhai â chysylltiadau da fel, yn anffodus, y mae'r ffaith i gymaint o ddioddefwyr fynd i'w beddau ymhell cyn i gyfiawnder ddod i'r golwg yn tystio i hynny.
Am y rheswm hwn, rwy'n credu bod cyfrifoldeb arbennig arnom ni'r cynrychiolwyr etholedig, ni waeth beth fo'n cysylltiadau gwleidyddol, i fyfyrio ar yr adroddiad gyda'r gwyleidd-dra mwyaf teilwng ac ymdrechu bob amser i beidio â cholli golwg fyth ar wir ystyr gwasanaeth cyhoeddus. Yn yr ysbryd hwn, rydym ni wedi cyflwyno cyfres o welliannau i gynnig gwreiddiol y Llywodraeth i'r ddadl hon. Fis diwethaf, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei hymateb i fy nghwestiwn amserol ynglŷn â'r mater hwn ei bod hi wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd yr ail daliad iawndal dros dro o £210,000 i unigolion a gafodd eu heffeithio sydd wedi eu cofrestru ar y cynllun cymorth yn cael ei dalu o fewn 90 diwrnod i gyhoeddiad yr adroddiad. Mae ein gwelliant cyntaf ni, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau y bydd yr addewid hwn yn cael ei gadw fel yr addawyd. Mae'n hanfodol nad yw iawndal i unigolion yr effeithir arnynt, waeth pa mor fach y gallai fod yng nghyd-destun eu dioddefaint, yn cael ei ddal yn ôl gan newid yn y Llywodraeth yn San Steffan.
Fe fyddwn i'n croesawu diweddariad hefyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei hymateb ynghylch hyd y cynllun taliadau rheolaidd. Mynegwyd pryder mai dim ond hyd at fis Ebrill 2025 y bwriedir gwneud taliadau rheolaidd, ar hyn o bryd. Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i ymestyn y taliadau hyn y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw?
Rydym ni o'r farn hefyd fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fod yn rhagweithiol wrth estyn allan at y 264 o bobl sydd wedi'u cofrestru ar gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru ar hyn o bryd gyda chynigion o gefnogaeth a chwnsela perthnasol, fel mae ein trydydd gwelliant yn ei nodi. Wrth gwrs, fe gymerodd y sgandal hon gymaint o amser, gwnaeth hi bontio'r cyfnod cyn ac ar ôl datganoli yng Nghymru, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae ystod a chymhlethdod y pwerau a neilltuwyd i'r Senedd wedi esblygu yn sylweddol. Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod anallu Swyddfa Cymru a Llywodraethau cynharaf Cymru i herio neu graffu ar safiad sefydlog gweinyddiaethau olynol y DU ar fater y defnydd o waed heintiedig yn rhoi sylwebaeth ddigalon iawn ar effeithiolrwydd y trefniadau rhynglywodraethol hyn. Yn amlwg, felly, ni ellir caniatáu i'r fframweithiau llywodraethu yma yn y Senedd nac ar lefel y DU gyfan fyth eto â methu mewn ffordd mor eithriadol. Ac o safbwynt Llywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi yn y ffordd fwyaf effeithiol ac eang â phosibl.