3. Dadl: Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 4 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:00, 4 Mehefin 2024

Felly, am y rheswm hwn, mae ein gwelliant terfynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig yn llawn ac yn ddi-oed. Mae'r penodau tywyllaf yma yn hanes y gwasanaeth iechyd, a'r sefydliad gwleidyddol yn ehangach, yn wers hollbwysig yn y modd y mae sefydliadau sydd i fod i ymgorffori'r egwyddor o wneud dim niwed yn gallu cael eu hecsbloetio, gan arwain at fwy o niwed yn y pen draw. Mae'n ddyletswydd, felly, arnom i ddioddefwyr y sgandal hwn, i gynnal y tryloywder a'r atebolrwydd mwyaf mewn bywyd cyhoeddus, a ddylai cynnwys mesurau diogelu cadarn ar gyfer chwythwyr chwiban a grymuso lleisiau'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Hyderaf, felly, y byddwch yn cefnogi ein gwelliannau heddiw. Diolch.