Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 4 Mehefin 2024.
Dirprwy Lywydd, mae'r sgandal gwaed heintiedig yn taflu cysgod tywyll ar hanes y GIG a'n sefydliadau cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni fod yn well, ac mae'n rhaid i ni wneud yn well na'r gwadiadau, y sicrwydd di-sail, yr hunanfodlonrwydd, y celu, y cymylu a'r methiannau dro ar ôl tro ar lefel unigolion, sefydliadau a Llywodraeth a fu'n nodweddu a gwaethygu'r drasiedi enbyd hon, a achosodd i gymaint o bobl golli eu bywydau a'u dyfodol.