Sganiau MRI

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 4 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr

8. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i leihau'r angen i anfon cleifion yn allanol i glinigau preifat ar gyfer sganiau MRI ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ61214

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Llafur 2:17, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydyn ni wedi bod yn glir gyda byrddau iechyd y dylen nhw ddefnyddio'r holl gapasiti sydd ar gael, gan gynnwys drwy'r sector annibynnol, i leihau amseroedd aros. Ein nod cyffredinol yw bod â gwasanaeth iechyd cenedlaethol cyhoeddus gwirioneddol gynaliadwy.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, yn ddiddorol, o ran Betsi, maen nhw'n ei alw'n fewnoli triniaethau allanol, wyddoch chi. Nawr, mae 8,568 o lwybrau cleifion yn aros dros 105 wythnos, dwy flynedd, i ddechrau triniaeth, ac mae hynny 3,600 y cant yn fwy na Lloegr gyfan. Nawr, mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn, fe wnaeth y bwrdd iechyd droi at fewnoli, gan ddefnyddio cwmnïau preifat. Maen nhw wedi bod yn ymrwymo i gontractau gyda darparwyr gofal iechyd allanol i ddarparu timau clinigol i fynychu safleoedd byrddau iechyd, gweld cleifion a hefyd ymgymryd â nifer o ganlyniadau o sganiau. Nawr, dim ond newydd ddod at fy sylw i mae hyn, ond, oherwydd pwysau cyllidol, mae'r bwrdd iechyd yn ddiweddar—. Mae gennyf i etholwyr yn aros sawl mis am ganlyniadau sgan. Nawr, mae'n siŵr, Prif Weinidog, y gallwch chi ddeall bod unrhyw un sy'n mynd am sgan, mae'n gyfnod pryderus iddyn nhw; unrhyw un sy'n aros am y canlyniadau hynny, mae hi hyd yn oed yn fwy pryderus iddyn nhw. A phan nad yw'r canlyniadau hynny'n cael eu cyflwyno, mae'n achosi baich ychwanegol o straen a phryder. Nawr, yr hyn sydd wedi digwydd yw, oherwydd pwysau ariannol, gwnaeth y bwrdd iechyd benderfyniad i atal y gwaith mewnoli gwasanaethau allanol ar sganiau o fis Ebrill 2023, flwyddyn yn ôl. Fodd bynnag, yn hytrach na dod â'r cleifion hynny yn ôl o dan ymbarél y GIG

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:18, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Rydw i wedi bod yn amyneddgar iawn. Gofynnwch y cwestiwn, Janet Finch-Saunders.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 2:19, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Iawn. Felly, yn y bôn, cafodd y cleifion hynny eu rhoi o'r neilltu am fisoedd a misoedd a misoedd ar y tro. Nawr, maen nhw wedi ysgrifennu ataf i yn dweud—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn nawr, Janet os gwelwch yn dda.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Ie iawn. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud, gan weithio gyda'r Gweinidog iechyd, Prif Weinidog, i sicrhau eich bod chi'n edrych  ar sut yn union mae mewnoli rhaglenni allanol yn gweithio? Oherwydd, mewn gwirionedd, mae ei atal am flwyddyn a pheidio ag ailgydio ag ef yn warthus. Rwyf i eisiau sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae dwy funud yn ddigon ar gyfer y cwestiwn yno.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Llafur

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu, fel y gwnaeth yr Aelod ei gydnabod, mewnoli yw lle mae pobl yn cael eu dwyn i mewn i'r GIG i ddarparu rhai o'r sganiau sydd eu hangen arnyn nhw, a'n her ni yw, os ydyn ni eisiau cynhyrchu'r capasiti sydd ei angen arnon ni, mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl ac mewn offer i wneud hynny. Ac mae angen i ni ddefnyddio rhannau o'r sector annibynnol i sicrhau nad oes gennym ni amseroedd aros annerbyniol o fewn y system. Ac mewn gwirionedd, o ran sganiau MRI yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd gostyngiad o tua 30 y cant yn nifer y bobl sy'n aros yn hirach na'n disgwyl, felly mae wedi gwneud gwahaniaeth. Ac mae'r gostyngiad hwnnw yn nifer y bobl sy'n aros wedi digwydd mewn gwirionedd er bod cynnydd o 14 y cant yn y galw. Nawr, rwy'n gwybod bod problem wedi bod a chafodd rhai pobl eu methu ar gyfer apwyntiadau dilynol. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol ohono. Mae hefyd yn rhywbeth y mae'r bwrdd iechyd yn ymwybodol ohono. Maen nhw wedi adolygu'r holl achosion hynny i sicrhau bod pobl yn cael eu rhoi yn ôl i mewn i'r system lle dylen nhw fod wedi bod. Rhan o'n her ni yw nid yn unig dweud yr hyn yr ydyn ni eisiau'i wneud i gydnabod bod yna broblem y mae angen i ni ei datrys; mae hefyd, yn ymwneud â phan fo pethau'n mynd o chwith, ynghylch a ydych chi'n barod i'w gywiro. Dyna'n union a ddigwyddodd yn yr achos hwn. A bydd angen i ni fuddsoddi mwy yn y maes hwn i gyrraedd pwynt o fod yn wirioneddol gynaliadwy, ac yna mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i barhau i fuddsoddi mewn gofal iechyd mwy ataliol hefyd. Dyna'r her sy'n ein hwynebu ni. Rwy'n deall hyn yn dda iawn fel cyn weinidog iechyd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn deall hynny'n dda iawn a dyna'n union y mae hi'n ei wneud: mynd i'r afael ag amseroedd aros hir ac yn bwriadu symud ein system i ofal iechyd mwy ataliol.