Addysg Gychwynnol Athrawon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 4 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 2:03, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn siarad llawer am y 14 mlynedd diwethaf. Wel, yn ystod y 14 mlynedd diwethaf yn Lloegr, rydym ni wedi gweld twf enfawr yn y sector addysg yn Lloegr, diolch i ddiwygiadau dan arweiniad y Ceidwadwyr sydd wedi sicrhau'r canlyniadau Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol gorau yn unrhyw le yn y DU yn gyson. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod dilyn yr un trywydd, gan lywyddu dros y sgoriau addysg gwaethaf yn unrhyw le yn y DU ac sy'n gwaethygu.

Nawr, mae'r cynllun cymhelliant pynciau blaenoriaeth addysg gychwynnol athrawon, fel yr amlinellodd y Prif Weinidog, yn cynnwys ffiseg fel proffesiwn y gellir ei addysgu drwyddo. Targedodd Llywodraeth Cymru recriwtio 61 o fyfyrwyr i gwblhau'r rhaglen AGA ar gyfer 2023-24. Hoffech chi wybod faint wnaeth gymhwyso yn 2023-24? Tri. Onid yw'n un wers, Prif Weinidog, y gallwn ni ei dysgu gan Gymru a Llywodraeth Lafur Cymru na allwch chi ymddiried yn Llafur o ran addysg?