Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 4 Mehefin 2024.
Diolch. Rŷn ni'n gwybod bod yna broblemau mawr gyda ni o ran recriwtio a chadw athrawon ar draws Cymru gyfan. Yn wir, mae negeseuon etholiadol eich plaid eich hun yn cydnabod bod yr argyfwng hwn wedi digwydd o dan eich arweiniad chi, ac mae hyn yn gyfaddefiad sy'n cael ei adlewyrchu yn un o'ch chwe addewid etholiadol. A does dim prinder cyhoeddiadau wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru yn annog pobl ifanc i feddwl am yrfa fel athrawon neu gynorthwywyr dosbarth, ond a ydyn ni'n gwybod a yw'r ymgyrchoedd hyn wedi bod yn llwyddiannus?