Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 4 Mehefin 2024.
Fel rhywun a arferai weithio yn y ganolfan ymchwil ym Mhort Talbot cyn MacGregor, a phan oedd dan berchnogaeth gyhoeddus, mae gen i rai sylwadau yr hoffwn i eu gwneud.
Ar hyn o bryd mae gwaith dur Port Talbot yn waith cynhyrchu dur integredig, sy'n gallu cynhyrchu bron i 5 miliwn tunnell o slabiau dur y flwyddyn o fwyn haearn. Mae 'integredig' yn golygu eich bod yn rhoi'r mwyn haearn a'r golosg i mewn, a'ch bod yn anfon allan y dur wedi'i rolio'n oer. Felly, mae popeth yn cael ei wneud ar yr un safle. Dyma'r mwyaf o'r ddau waith dur mawr yn y DU. Mae dros 4,000 o bobl yn gweithio yn y gwaith ar hyn o bryd, mae'n debyg bod yr un nifer eto yn gweithio i gontractwyr, ac mae'n debyg bod yr un nifer eto yn dibynnu ar y gwaith. Mae'r slab yn cael ei rolio naill ai ar y safle ym Mhort Talbot neu'n cael ei gludo i Lanwern i wneud cynhyrchion o stribedi dur. Mae angen i haearn sy'n dod i mewn i Bort Talbot, haearn ocsid, gael ei echdynnu o'r mwyn mewn ffwrnais chwyth. Rhaid tynnu'r ocsigen o'r ocsid haearn er mwyn gadael yr haearn. Dyna wneud yr haearn; nid gwneud dur—gwneir dur yn ddiweddarach yn y broses, yn y gwaith dur ocsigen sylfaenol. Yna symudir i gynhyrchu dur. Gellir rhannu prosesau gwneud dur modern yn dri cham: sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Mae gwneud dur sylfaenol yn cynnwys mwyndoddi haearn i ffurfio dur. Mae gwneud dur eilaidd yn cynnwys ychwanegu neu dynnu elfennau eraill, megis asiantau aloi a nwyon toddedig. Mae gwneud dur trydyddol yn golygu castio i ddalen, rholiau neu ffurfiau eraill.
Gyda ffwrnais arc drydan, rydych chi i bob pwrpas yn ailgylchu dur a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Ffwrnais sy'n cynhesu dur trwy ddefnyddio arc drydan yw ffwrnais arc drydan, sy'n egluro'r enw. Er mwyn cynhyrchu tunnell o ddur mewn ffwrnais arc drydan mae angen tua 400 kWh y dunnell. Mae dwy brif broblem gyda ffwrneisi arc drydan. Y gyntaf yw cost trydan. Yn 2021, bu i ArcelorMittal roi'r gorau i gynhyrchu dros dro yn rhai o'i ffatrïoedd ar yr oriau brig, wrth i gostau ynni anferthol daro gwneuthurwr dur mwyaf Ewrop. Mae hynny wedi digwydd gyda llawer o bobl eraill sy'n defnyddio ffwrneisi arc drydan, pan fyddan nhw'n darganfod bod y gost o ddefnyddio trydan yn anghystadleuol. Dywedodd y cwmni fod yr oedi yn cyd-fynd â'r newidiadau beunyddiol fesul awr ym mhrisiau trydan, gan ychwanegu eu bod mewn ymateb i'r prisiau ynni uchel, oedd yn ei gwneud hi'n heriol iawn i gynhyrchu dur am bris economaidd.
Yn 2019, yn ôl Cymdeithas Dur y Byd, roedd dros 3,500 o raddau gwahanol o ddur, gan gwmpasu priodweddau ffisegol, cemegol ac amgylcheddol unigryw. Yn llawer rhy aml, rydym ni'n defnyddio'r gair 'dur' yn yr un modd ag yr ydym ni'n defnyddio'r gair 'plastig', fel petai'n un peth. Mae'n gyfres o wahanol eitemau. Mae cynnwys carbon dur yn amrywio o 0.1 y cant i 1.5 y cant, ond mae'r rhan fwyaf yn cynnwys rhwng 0.1 y cant a 0.25 y cant o garbon. Mae pedwar prif fath o ddur, sef dur carbon, dur aloi, dur di-staen, dur offer, ac mae gennym ni ddur trydanol, yr oedd yr hen waith yn arfer gweithio arno cyn iddo gau, yn anffodus. Er bod duroedd carbon yn cynnwys symiau bychain iawn o elfennau aloi, ac yn cyfrif am 90 y cant o gyfanswm y dur a gynhyrchir, gellir eu categoreiddio ymhellach i dduroedd carbon isel, duroedd carbon canolig, a duroedd carbon uchel. O hyn, mae'n amlwg na fydd casglu dur a'i doddi yn gweithio. Bydd angen ei raddio i fathau o ddur.
Er mwyn prynu'r ffwrneisi chwyth yn orfodol, yn gyntaf, mae angen i Lywodraeth Cymru geisio negodi i'w prynu. Pam na fyddai Tata eisiau eu trosglwyddo i rywun arall, oherwydd, pan fydd gwneud haearn a dur yn dod i ben, byddant yn faich? Oni bai bod gennych chi ffatri gwneud dur i anfon y mwyn haearn iddo, yna nid yw ffwrnais chwyth o unrhyw ddefnydd. Ym mis Ionawr eleni, cafodd ffwrnais chwyth Saltzgitter A ei thanio yn dilyn moderneiddio llwyr, a barodd ychydig dros 100 diwrnod. Wrth i'r gwaith o leinio'r ffwrnais chwyth yn llwyr ddod i ben, cymerodd grŵp Saltzgitter gam gweithredol allweddol ymlaen, gan sicrhau ei gyflenwad haearn bwrw wrth iddo drawsnewid tuag at gynhyrchu dur carbon deuocsid isel erbyn 2033. Yn ystod y cyfnod adeiladu, cafodd ffwrnais chwyth A ei hail-leinio'n llwyr. Ymhlith pethau eraill, adnewyddwyd y leinin anhydrin, gyda 3,000 o dunelli o frics carbon a deunydd anhydrin arall. Moderneiddiwyd y broses gymhleth a'r dechnoleg reoli hefyd; buddsoddwyd ychydig dros €100 miliwn yn yr ail-leinio a'r uwchraddio. Pam y gall grŵp Saltzgitter uwchraddio eu ffwrnais chwyth ac na all Tata uwchraddio? Pam, ledled gweddill y byd, fod gan bobl ffwrneisi chwyth sy'n dod yn ffwrneisi chwyth carbon isel? Ac er nad yw'n dechnoleg sydd wedi'i phrofi'n llawn, mae'r defnydd o hydrogen, yn hytrach na charbon, i leihau'r ocsid haearn i haearn yn ymarferol, ac rwy'n credu ei fod yn gyfeiriad yr hoffwn ein gweld yn mynd iddo. Dydw i ddim yn credu bod dyfodol i ffwrneisi arc drydan; rwy'n credu mai dim ond cam 1 o'r broses gau yw hynny. Ac rwy'n credu bod angen i ni gadw'r ffwrnais chwyth, mae angen i ni barhau i wneud haearn a dur, ac rwy'n credu, beth bynnag a wnawn ni, y gallai fod angen i ni, unwaith eto, ddod â'r gwaith yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, fel yr oedd pan oeddwn i'n gweithio yno, er y bydd y bobl a oedd yn gweithio yno bryd hynny yn dweud nad oedd y dyddiau hynny'n fêl i gyd.