Part of the debate – Senedd Cymru am 7:11 pm ar 4 Mehefin 2024.
Diolch, Llywydd. Wel, rydyn ni wedi clywed yn y ddadl heno farn gyffredin ar draws y Siambr fod dyfodol hyfyw ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru o fewn y cyfnod pontio hwnnw sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod honno'n neges glir y mae'r Senedd hon yn ei hanfon ar sail drawsbleidiol. Rydyn ni wedi clywed heddiw, yn arbennig, gan David Rees a John Griffiths, ond gan eraill hefyd, am ba mor eithriadol o anodd yw pethau ar hyn o bryd i weithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â'r rhai hynny o fewn cymunedau lleol.
Rwyf eisiau mynd i'r afael â nifer o bwyntiau a wnaed yn y ddadl, yn gryno, wrth gloi. Gwnaeth Sam Kurtz araith yr oeddwn i o'r farn ei bod yn anarferol, os caf ddweud, o amddiffynnol ac yn gamgynrychioliadol o'r sefyllfa. Nid wyf yn credu bod cynulleidfa ar gyfer ymryson gwleidyddol yn gysylltiedig â sefyllfa lle mae 9,000 a mwy o swyddi mewn perygl, a dylai'r drafodaeth fod yn seiliedig ar ffeithiau, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anghytuno. Felly, er mwyn cywiro'r cofnod, gadewch imi egluro beth yw'r ymrwymiadau ariannol y mae pob plaid wedi'u gwneud: y £500 miliwn gan y Blaid Geidwadol, nid wyf yn credu ei fod hyd yn oed wedi'i wario hyd yn hyn; yr £80 miliwn, sydd wedi'i glustnodi ar gyfer y bwrdd pontio, nid yw yr un dimai goch o hwnnw wedi'i wario, mewn gwirionedd. Nid yw yr un dimai goch ohono yn helpu yr un gweithiwr. Dyna'r realiti ar lawr gwlad. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo cyllid. Mae gennym gyllidebau o amgylch ReAct a Cymunedau am Waith, sy'n gyfanswm o tua £25 miliwn ar sail Cymru gyfan. Mae ein cyllideb cyfrifon dysgu personol ar draws Cymru gyfan oddeutu £21 miliwn. Rydym wedi ymestyn cymhwysedd y rheini i weithwyr Tata ac yn y gadwyn gyflenwi. Byddan nhw'n gallu hawlio yn erbyn y cyllidebau hynny. Mae'r cyllid hwnnw eisoes yn cael ei wario. Mae'r cyllid hwnnw'n cael ei wario'n weithredol i gefnogi'r gweithlu yn barod. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael y cyd-destun priodol hwnnw ar gyfer y drafodaeth. Ac mae'n sôn am 'amodau ynghlwm'. Os yw'r amodau y mae Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ynghlwm â'r £500 miliwn yn mynd i arwain at golli 9,000 a mwy o swyddi, rwy'n credu bod hynny'n fargen wael. Rwy'n credu bod honno'n fargen wael ac y gallai Llywodraeth well y DU fod wedi taro bargen well.
Fe wnaf ymdrin â'r pwyntiau a wnaeth Luke Fletcher ac Adam Price, mewn ymdrech—ac rwy'n derbyn yr ymdrech ewyllys da—i geisio dewisiadau amgen i'r cynllun. Nid wyf yn gweld sut y gall prynu gorfodol un ased mewn cyfleuster cynhyrchu dur integredig gan gorff nad oes ganddo ddim gallu i reoli'r asedau hynny fod yn rhan o'r ateb. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaeth David Rees yn y ddadl sy'n archwilio hynny yn bwyntiau da, maen nhw'n bwyntiau dilys, maen nhw'n dangos meddwl agored. Ond rwy'n credu bod cwestiynau pwysig iawn ynglŷn â'r cynnig hwnnw. Yn yr un modd, mewn perthynas â gwladoli Tata, nid wyf yn credu bod hynny'n adlewyrchu—