Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 4 Mehefin 2024.
Mae angen i ni droi 'achub ein dur' o fod yn slogan i fod yn gynllun, onid oes, a dim ond dyddiau, wythnosau o bosib, sydd gennym ni i wneud hynny. Felly, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd, ac mae'n rhaid defnyddio adnoddau'r Llywodraeth nawr, oherwydd dim ond Llywodraeth, yn y pen draw, sydd â'r gallu, gan weithio gyda'r undebau, i gyflwyno cynllun mewn gwirionedd. Ac rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, yn y datganiadau yn ystod y dyddiau diwethaf, yr haerllugrwydd llwyr gan Tata. Nawr mae'n rhaid i ni ymateb i'r haerllugrwydd hwnnw gyda phendantrwydd cadarn. Edrychwch ar yr hyn y mae'r Prif Swyddog Gweithredol, Rajesh Nair, wedi'i ddweud yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf: (a) eu bod wedi tynnu'r cynnig oddi ar y bwrdd nawr, o ran y taliadau diswyddo i'r gweithwyr, oherwydd bod y gweithwyr wedi bod mor hy â defnyddio eu pleidlais ddemocrataidd drwy undeb llafur i bleidleisio mewn gwirionedd i amddiffyn eu cymunedau a'u swyddi. Ac felly mae Tata wedi dweud, 'Wel, dydyn ni ddim yn rhoi hynny i chi mwyach.' Ond nid yn unig hynny, maen nhw wedi dweud eu bod nhw bellach yn
'adolygu a ddylem ni nawr gynllunio i gau ffwrnais chwyth 5 ynghynt', sydd eisoes i fod i gau y mis hwn. A'r hyn maen nhw'n ei ddweud yw, 'Edrychwch, rydym ni'n mynd i wneud pethau yn gyflymach, yn ystod y dyddiau nesaf.' Felly, mae angen i ni weithredu. Mae angen i ni weithredu nawr. Nawr, mae'n debyg, y bydd gennym ni, bron yn sicr—newid Llywodraeth yn San Steffan ymhen pedair wythnos, felly dyna'r bwlch, iawn, ac mae'n rhaid i ni lenwi'r bwlch hwnnw. Mae'n rhaid i ni amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru am y pedair wythnos nesaf. Dydyn ni ddim yn mynd i gael unrhyw help gan San Steffan yn y cyfamser; mae'r Senedd yno wedi ei diddymu. Dyma'r unig Senedd i Gymru ar hyn o bryd, a dyma'r unig un sy'n gallu gweithredu. Ac mae gennym ni'r pwerau. Mae gennym ni'r pwerau. Rydym ni wedi gwirio. Bydd cyfreithwyr y Llywodraeth yn dweud yr un peth, heb os, â chyfreithwyr y Senedd: mae gennym ni'r pwerau i gyflwyno deddfwriaeth frys, gan ddefnyddio ein Rheolau Sefydlog—bydd y Dirprwy Lywydd yn gwybod y dull. Gellir ei wneud mewn dyddiau. Gellid ei wneud mewn dyddiau i gyflwyno Bil byr a fydd yn gosod gorchymyn prynu gorfodol ar y ffwrneisi chwyth hynny a'r agweddau gwaith trwm.
Nawr, Dai Rees, rydych chi'n hollol gywir. Y peth tyngedfennol yma yw dull y digomisiynu a, wyddoch chi, mae yna ddwsinau o wahanol ffyrdd y gellir digomisiynu ffwrnais chwyth, gellir ei diffodd, ac mae rhai ohonyn nhw'n caniatáu i chi—. Oherwydd weithiau does dim o'u hangen, o ran weithiau rydych chi'n rheoli'r galw, ac ati, felly mae hyn yn digwydd. Weithiau rydych chi'n gwneud hynny er mwyn ail-leinio. Weithiau mae yna ffyrdd rydych chi'n diffodd y ffwrnais er mwyn ei hailgychwyn, ac mae hynny wedi digwydd, yn wir, ym Mhort Talbot, onid ydyw? Mae wedi digwydd mewn llawer o weithfeydd dur ledled y byd. Ond mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi ddigomisiynu ffwrnais chwyth, oherwydd rydych chi'n hollol glir bod cyfeiriad y teithio i un cyfeiriad yn unig, ac nid oes unrhyw ffordd yn ôl yn economaidd o hynny. A dyna beth sy'n rhaid i ni ei atal. Dyna'r cynllun sydd ei angen arnom ni, a'r hyn rwy'n ei awgrymu yw: gadewch i ni weithio gyda'r ymgynghorwyr a weithiodd gyda'r undebau, Syndex, i lunio cynllun sydd mewn gwirionedd yn pontio'r wythnosau nesaf. Rwy'n ildio.