8. Dadl: Y Diwydiant Dur yng Nghymru

– Senedd Cymru am ar 4 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn enw Heledd Fychan.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:20, 4 Mehefin 2024

Mae hynny'n ein caniatáu ni i glywed y ddadl ar y diwydiant dur. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi i wneud y cynnig—Jeremy Miles.

Cynnig NNDM8597 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gan gynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru o fewn proses bontio sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru.

2. Yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru ac i'r llwybr at sero-net.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 6:20, 4 Mehefin 2024

Diolch, Llywydd. Mae dur yn rhan bwysig o'n bywyd ni, ac rŷn ni'n ffodus bod gyda ni'r gallu i wneud dur sylfaenol a dur arc trydan yng Nghymru ar hyn o bryd. Dur yw sylfaen ein diwydiant gweithgynhyrchu ehangach ac mae'n cynhyrchu deunyddiau sy'n gwbl hanfodol os rŷn ni am newid i sero net. Yn yr un modd ag ym mhob sector o'n heconomi, mae cwmnïau yn y sector dur wedi bod yn canolbwyntio ar sut y gallan nhw hefyd, er mwyn i ni fedru gwireddu'n hymrwymiadau o ran y newidiadau i'r hinsawdd sydd i'w gweld ymhob cwr o'r byd. Mae'n hanfodol bod y sector yn parhau'n gonglfaen i'n heconomi ni ac yn dal i fod wrth galon ein cymunedau. Mae newid i wneud dur mewn ffordd carbon isel yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y nod hwnnw.

Dwi o'r farn bod gan y diwydiant cynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru os awn ni ati i newid mewn ffordd a fydd yn helpu i greu dyfodol cryfach a gwyrddach i economi Cymru. Er efallai bod y newid ym Mhort Talbot yn golygu y bydd y gwaith cynhyrchu dur yn cael ei ddiogelu yng Nghymru at y dyfodol, dwi, fel chithau, yn poeni'n fawr iawn am raddfa'r newidiadau yn Tata, am ba mor gyflym maen nhw'n digwydd, ac am golli capasiti i wneud dur sylfaenol yn y tymor byr a'r tymor canolig.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 6:21, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Rydym yn cydnabod, Llywydd, bod ymchwil a datblygu yn mynd rhagddo i archwilio sut y gall dur o ffwrneisi arc drydan gynhyrchu ystod ehangach o gynhyrchion, ond mae sectorau allweddol yn y DU—modurol a phecynnu, er enghraifft—dal angen cynhyrchion sydd wedi'u gwneud o ddur crai. Mae Tata yn gorfod mewnforio'r slab a'r swbstrad coiliau rholio poeth sydd eu hangen yn ystod y cyfnod pontio ar gyfer y busnesau y mae'n eu cyflenwi.

Fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddodd Tata Steel ar 25 Ebrill ei benderfyniad i wrthod y cynnig a gyflwynwyd gan sawl undeb. Doedd arnom ni ddim eisiau gweld y penderfyniad hwn. Bydd nawr yn mynd ymlaen i gau ffwrnais chwyth 5 ym mis Mehefin a ffwrnais chwyth 4 ym mis Medi, ynghyd â dirwyn gwaith trwm Port Talbot i ben. Bydd y llinell brosesu anelio barhaus yn cau ym mis Mawrth 2025. Credwn fod cynllun gwell ar gael. Pe bai Tata wedi derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan yr undebau a gomisiynwyd gan bwyllgor dur y DU, byddai hyn wedi golygu cyfnod pontio hirach, arafach a thecach. Mae'n rhwystredig iawn na chyrhaeddwyd cytundeb yn gynharach yn y trafodaethau rhwng Tata Steel a Llywodraeth y DU. Gallai cytundeb cynharach hefyd fod wedi arwain at drawsnewidiad hirach a thecach. Mae hefyd yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi'i heithrio o drafodaethau, gan ein gadael yn y niwl braidd ar agweddau sy'n ymwneud â chymhwysedd datganoledig.

Ers misoedd lawer bellach, mae gweithwyr dur a'u teuluoedd, busnesau a chymunedau wedi bod yn paratoi am y swyddi a fyddai'n cael eu colli o ganlyniad i drosglwyddo cynnar i gynhyrchu dur arc drydan ym Mhort Talbot. Mae lefel y swyddi rydym yn wynebu eu colli yn ofnadwy. Mae Tata Steel wedi cyhoeddi y bydd disgwyl i hyd at 2,800 o swyddi gael eu colli fel rhan o'i gynllun pontio, ac y cai tua 2,500 o'r rhain eu heffeithio bob yn dipyn dros y 18 mis nesaf, gyda'r disgwyl y bydd y gyfran gyntaf o swyddi'n cael eu colli ym mis Medi nawr. Mae'r cwmni'n disgwyl y cai 300 o swyddi pellach eu colli ymhen tua thair blynedd ar safle Llanwern. Ni wyddir yn iawn faint yn union o swyddi a fydd yn cael eu colli, gan gynnwys y rhai yn yr economi ehangach, ond gallai fod hyd at 9,500.

Er mwyn sicrhau cefnogaeth ar unwaith i'r rhai yr effeithir arnyn nhw, rydym yn gweithio gyda bwrdd pontio Tata i'w gwneud yn ymwybodol o'r holl gefnogaeth sydd ar gael i'r gweithlu fel y gallan nhw elwa ar hynny nawr. Rydw i, ac eraill ar y bwrdd pontio, wedi ei gwneud hi'n glir fod arnom ni eisiau iddo fod mor hawdd â phosibl i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac i hynny ddigwydd yn gyflym. Mae porth gwybodaeth cynhwysfawr wedi ei sefydlu ar wefan Castell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth am yr holl gymorth sydd ar gael i bobl a busnesau a byddwn yn gofyn i'r Aelodau am eich help i'w hyrwyddo i'ch etholwyr.

Mae'r bwrdd pontio wedi cytuno ar bum maes eang ar gyfer cefnogaeth. Mae'r rhain yn cynnwys paru swyddi, sgiliau a chyflogadwyedd, sefydlu cronfa bontio'r gadwyn gyflenwi, sefydlu cronfa twf busnes a dechrau busnes, cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, a phrosiectau adfywio a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol i'r economi ym Mhort Talbot. Mae gan Lywodraeth Cymru raglenni eisoes ar waith i gynorthwyo gweithwyr sydd wedi cael eu diswyddo i ddychwelyd i'r gwaith. Gall ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy ddarparu cymorth hyfforddiant a mentora i'r rhai sy'n dymuno aros yn y farchnad lafur. Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth i unigolion sy'n wynebu colli eu swyddi os ydyn nhw'n dymuno ystyried dechrau eu busnes eu hunain, yn ogystal â chael gafael ar gyllid busnes.

Ochr yn ochr â blaenoriaeth cymorth brys i weithwyr, rhaid i ni edrych ar y cyfleoedd i ddatblygu economïau lleol a chyflogaeth gynaliadwy, yn enwedig ym Mhort Talbot a'r ardal gyfagos. Mae angen i ni gadw cynifer o weithwyr Tata ag y gallwn ni. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn, ac mae angen eu doniau a'u hymrwymiad i aros yng Nghymru. Mae'r bwrdd pontio wedi comisiynu cynllun gweithredu economaidd lleol sy'n nodi cynigion a allai, o bosibl, gyfyngu ar yr effeithiau tymor byr a darparu ar gyfer dyfodol cadarnhaol i'r rhanbarth yn y tymor hwy. Bydd y bwrdd pontio yn defnyddio'r cynllun gweithredu fel canllaw wrth ystyried dyrannu cyllid.

Mae llawer o'r cyfleoedd economaidd yn y dyfodol yn gysylltiedig â'n hymdrech ehangach i bontio i sero net yn ne Cymru. Mae gan y porthladd rhydd Celtaidd bwyslais clir iawn ar weithgynhyrchu a seilwaith porthladdoedd i gefnogi ffermydd gwynt arnofiol ar y môr Celtaidd, gan adeiladu ar eu cysylltiadau â dau borthladd dwfn. Mae'r Porthladd Celtaidd hefyd wedi nodi cyfleoedd penodol ar gyfer ynni glân sy'n gysylltiedig â hydrogen, tanwydd cynaliadwy, dal a storio carbon, dur glanach a logisteg carbon isel. O safbwynt gweithgynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi, mae cyfleoedd i gwmnïau yng Nghymru mewn meysydd fel datblygu gwynt arnofiol a sefydlog ar y môr, gwneud ein stoc dai yn fwy ynni-effeithlon trwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, adeiladu ein gallu i bweru cerbydau yn y dyfodol trwy seilwaith gwefru cerbydau trydan, a gweithgynhyrchu cydrannau ar gyfer cerbydau trydan. Rydym yn adeiladu mapiau cadwyni cyflenwi i helpu cwmnïau sy'n gwneud cais am drwyddedau gwynt ar y môr i allu dod o hyd i gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Bydd cynnydd sylweddol yn yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir i ateb y galw cynyddol yn gofyn am seilwaith rhwydwaith trosglwyddo trydan newydd. Mae dadansoddiad o'n hadroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' yn dangos y gallai ein galw am drydan dreblu bron iawn erbyn 2050. Bydd hyn yn dod â chyfleoedd sylweddol i'r gadwyn gyflenwi. Trwy'r gwaith a wnaed gan glwstwr diwydiannol de Cymru, sydd bellach yn cael ei ddatblygu gyda Diwydiant Sero Net Cymru, mae gweledigaeth o ran sut y gellir datgarboneiddio diwydiant ledled de Cymru. Mae datblygu ffyrdd posib o ddal a storio carbon yn edrych ar fuddsoddiadau sylweddol ar gyfer eu camau nesaf. Gallai'r rhain fod yn hanfodol wrth alluogi datgarboneiddio asedau diwydiannol a chyflymu datrysiadau datgarboneiddio ar draws de Cymru, gan gynnwys cyflenwi hydrogen.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd mwy na £13 miliwn i Celsa o'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol ar gyfer ffwrnais newydd gyda'r holl seilwaith ar y safle i weithredu gyda hyd at 100 y cant o danwydd hydrogen. Bydd y prosiect yn gam sylweddol yn llwybr datgarboneiddio Celsa. Rwy'n croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i gynnwys Associated British Ports Port Talbot ar y rhestr fer am gyfran o'i chynllun gweithgynhyrchu a seilwaith ffermydd gwynt arnofiol ar y môr gwerth £160 miliwn. Fodd bynnag, cydnabyddir ledled y sector bod angen mwy nag un porthladd ar y môr Celtaidd i ddarparu ateb integredig i sicrhau'r buddion economaidd mwyaf posibl i'r DU, ac felly, rwy'n awyddus i archwilio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer porthladd Penfro.

Llywydd, mae colli swyddi oherwydd cyflymder y trawsnewid o wneud dur mewn ffwrneisi chwyth yn dorcalonnus. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gweithwyr sy'n wynebu colli swyddi, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Mae colli'r gallu y mae technoleg ffwrneisi chwyth yn ei ddarparu yn bryder enfawr i'r economi, ac rwy'n annog Tata Steel i ystyried dewisiadau nawr yng ngoleuni'r penderfyniad i gynnal etholiad cyffredinol cynnar a'r posibilrwydd gwych iawn y bydd Llywodraeth Lafur. Gall colli swyddi yn yr economi ehangach hefyd fod yn ddinistriol, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU yn y dyfodol, i nodi a chefnogi cyfleoedd yn y dyfodol mewn marchnadoedd newydd. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:29, 4 Mehefin 2024

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Samuel Kurtz i gynnig gwelliannau 1 a 2.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw gefnogaeth ariannol i Tata Steel ers 2019.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu grant £500 miliwn Llywodraeth y DU i Tata Steel i gefnogi cadw swyddi gweithwyr dur ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn ar gyfer ailhyfforddi a sgiliau.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr 6:29, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon, ar bwnc y mae'r Senedd hon wedi treulio llawer o'i hamser dros y misoedd diwethaf yn ei drafod, a hynny'n gwbl briodol. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar, ac rwy'n cadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliannau 3 a 4, ond nid 5 a 6.

Mae gwneud dur fel diwydiant yn un sy'n cyfrannu at bob agwedd ar y wlad. Rydym ni wedi bod yn glir ar yr ochr yma i'r Siambr yr hoffem ni weld un ffwrnais chwyth yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod pontio o ffwrneisi chwyth i ffwrneisi arc drydan. Rydym ni'n siomedig na fu i Tata wneud hyn.

Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn yn ddiolchgar eich bod chi wedi sôn wrth agor y ddadl hon am y cyfleoedd posibl wrth inni symud ymlaen yn y cyfnod pontio hwnnw. Sylwais eich bod chi wedi sôn am y porthladd rhydd Celtaidd, ffermydd gwynt arnofiol ar y môr—dwy elfen yr ydw i wedi bod yn eiriolwr mawr drostyn nhw. Ac o wybod cyfraniadau Aelodau eraill yn y Siambr hon, a fydd, rwy'n siŵr, yn siarad yn nes ymlaen—yr Aelod dros Aberafan, er enghraifft—mae'r angen am y trosglwyddiad cyfiawn hwnnw yn yr achos hwn yn bwysig iawn. Bydd y porthladd rhydd Celtaidd yn gyfle am swyddi newydd yn ardal Port Talbot a'r cymunedau ehangach, ond mae a wnelo hyn â'r newid hwnnw o'r fan hon nawr i'r adeg yna yn y dyfodol a sut rydym ni'n cefnogi gweithwyr yn yr ardal honno.

Fe hoffwn i hefyd ganmol yn y fan yma waith pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar eu hymchwiliad i wneud dur yn dilyn cyhoeddiad Tata y llynedd, dan gadeiryddiaeth gref Paul Davies, a Luke Fletcher ar y pwyllgor hefyd, a fydd, rwy'n siŵr, yn fy nilyn i wrth siarad yn y ddadl hon. Rwy'n credu bod rhywfaint o waith da wedi'i wneud yn y pwyllgor hwnnw wrth archwilio cynhyrchu dur yng Nghymru. Rhai cyfleoedd, ie, ond hefyd o ran gweld yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi grybwyll rhai o'r rheini ynghylch capasiti'r grid, fel un enghraifft. Ond rwy'n credu bod angen ystyried adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wrth drafod dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu bod ansawdd y gwaith hwnnw wir yn siarad drosto'i hun.

Ond tra bod y newidiadau hyn yn mynd rhagddyn nhw a'r gweithlu'n delio â phryder diswyddiadau, gadewch i ni ofyn i ni'n hunain beth mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi'i wneud i'w cefnogi. Dim. Pa gyllid y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i ddarparu i'r gweithwyr ym Mhort Talbot ers 2019? Dim. Beth mae'r Llywodraeth Lafur wedi cyfrannu at y bwrdd pontio a grëwyd i gefnogi gweithwyr a'r gymuned ehangach? Dim. A thra rydw i'n sôn am y pwnc hwn, dywedodd Prif Weinidog blaenorol Cymru ym mis Mawrth eleni fod yr Ysgrifennydd Gwladol, ac rwy'n dyfynnu,

'erioed wedi ymweld â Phort Talbot.'

Wel, dydy hynny ddim yn wir, mae arna i ofn. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymweld â Phort Talbot ddwywaith, ym mis Ebrill a mis Medi'r llynedd. A phan gynigiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru siarad â Phrif Weinidog Cymru, ni chafodd yr alwad honno ei hateb.

Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen am y pryderon na fydd gweithwyr sydd â sgiliau penodol yn gallu trosglwyddo'r sgiliau hynny i swyddi eraill heb ymgymryd â mwy o gymwysterau, oherwydd bod yr achrediad sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ar gyfer Tata yn unig. Nawr, mae'r Llywodraeth Lafur yn y fan yma yn aml wedi codi hynny, pan fo wedi cefnogi gweithwyr Tata—roedd hynny cyn 2019, fel rydw i wedi nodi—roedd hynny o ran hyfforddiant a datblygu sgiliau. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw pa sicrwydd a oedd yno fod gan y gefnogaeth, a roddwyd unwaith gan Lywodraeth Cymru, amodau penodol ynghlwm wrtho, gan olygu y byddai gan weithwyr gymwysterau cwbl drosglwyddadwy, neu a roddwyd cymorth blaenorol gan Lywodraeth Cymru heb unrhyw amodau?

Rydym ni'n croesawu'r £500 miliwn o gymorth gan Lywodraeth y DU, y byddai Tata wedi cau Port Talbot yn llwyr hebddo. Bydd gweithwyr dur yn cael eu cadw, ni fydd sgiliau'n cael eu colli, a bydd dur yn parhau i gael ei wneud yng Nghymru, ond nid fel y byddem wedi hoffi iddo fod o ran y cyfnod pontio hwnnw a gaiff ei grybwyll, rwy'n siŵr, yn nes ymlaen.

Rydym ni hefyd yn croesawu'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn, y daw 80 y cant ohoni o Lywodraeth y DU, 20 y cant o Tata, a fydd yn mynd tuag at, fel y nododd yr Ysgrifennydd Cabinet, sgiliau a chyflogadwyedd, y gadwyn gyflenwi, twf busnes a busnesau newydd, cymorth iechyd meddwl a lles, ac adfywiad ehangach Port Talbot. Fe ddylem ni wir fanteisio ar y gronfa hon a'r gwaith y gallai ei gwneud, nid yn unig i'r rhai a ddiswyddwyd ond i'r gymuned ehangach hefyd. Felly, mae'n drueni, mae'n drueni mawr, rwy'n credu, bod y Llywodraeth Lafur hon wedi penderfynu peidio â chyfrannu'n ariannol i'r gronfa hon.

Ac mae Llafur yn honni—

Photo of David Rees David Rees Llafur 6:34, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of David Rees David Rees Llafur 6:34, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Bydd yn rhan o fy nghyfraniad i, ond a ydych chi'n derbyn y ffaith fod—? Rydych chi wedi defnyddio 2019, fe af i yn ôl i 2016, os hoffech chi, a dweud wrthych chi fod Llywodraeth y DU wedi methu â gwneud unrhyw beth yn 2016 ar gyfer gweithwyr dur Cymru. Ond gadewch i ni siarad am y sefyllfa bresennol—. A ydych chi'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian mewn gwirionedd nawr? Mae arian ar gael, mae pobl yn ei ddefnyddio, o dan y cyfrifon ar gyfer manteisio ar ddysgu—y cyfrifon dysgu personol—oherwydd maen nhw wedi newid y meini prawf trothwy i weithwyr Tata a'r contractwyr er mwyn caniatáu iddyn nhw fanteisio ar hynny. Felly, mae arian ar gael heddiw i bobl ailhyfforddi, ailddatblygu, o dan y cyfrifon dysgu personol.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Fe allem ni fynd yn ôl i'r flwyddyn 2000 a chyn lleied a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn y flwyddyn 2000. Ond mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Aberafan yn ei wneud yn ddilys, ac fe wnaf i ystyried y sylw bod newidiadau wedi'u gwneud. Ond o ran y bwrdd pontio ei hun, a'r manylion penodol sy'n cyd-fynd â'r bwrdd pontio, faint o brofiad ac arbenigedd sydd ar y bwrdd pontio hwnnw—rwy'n credu mai dyna lle mae tristwch nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan fwy rhagweithiol o ran cyllid yn y bwrdd pontio hwnnw. Rwy'n ymwybodol iawn o'r amser, felly fe wnaf i, os caf i, barhau am ychydig, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am yr ymyrraeth gan yr Aelod dros Aberafan.

O ran beth fydd dewisiadau Llafur—a buom yn siarad am hyn, ac mae Aelodau blaenorol wedi siarad o'r blaen; gadewch i ni aros i weld beth ddaw yn sgil Llywodraeth Lafur y DU—beth fydd gan Lywodraeth Lafur i'w gynnig? Mae ganddyn nhw £3 biliwn ar gyfer rhaglen dur gwyrdd, ond mae hynny eisoes yn cyfateb ac yn cynnwys y £500 miliwn y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi'i ddyrannu i Bort Talbot. Felly, a oes mwy o arian yn dod o'r cynllun dur gwyrdd hwnnw gan Lafur? Efallai y clywn ni fwy am hynny gan Aelodau yma heddiw. Ond beth arall sy'n digwydd? Oherwydd does dim sicrwydd o gwbl y byddai Llywodraeth Lafur y DU—Llywodraeth Lafur arfaethedig, o bosib, gobeithio ddim, i'r DU—yn gwneud unrhyw beth gwahanol i'r hyn sydd wedi digwydd ar hyn o bryd. Ac efallai y bydd Aelodau yma y gall fod angen iddyn nhw dynnu eu geiriau'n ôl—efallai fy mod yn un ohonyn nhw—ond rwy'n hapus i gael fy nghywiro. Nid wyf yn gweld unrhyw gysylltiad yn y fan yna yn hynny o beth.

Rydw i yn credu bod dyfodol cadarnhaol i greu dur yng Nghymru. Rwy'n credu bod cyfle i wneud dur yng Nghymru. Rydym ni wedi crybwyll y porthladd rhydd Celtaidd, rydym ni wedi crybwyll y cyfleoedd ynghylch seilwaith. Rwy'n credu bod caffael hefyd yn rhywbeth y gallwn ni geisio ei archwilio, ac, yn amlwg, y cyfleoedd o ran ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Ond o ran y penderfyniadau a wneir gan y Senedd hon, a'r Llywodraeth hon yn benodol, rwy'n credu y bydd Aelodau clwstwr diwydiannol de Cymru, ac ardaloedd ar hyd coridor de Cymru, yn deall bod y Llywodraeth Geidwadol wedi rhoi eu llaw yn eu poced, ac nid yw Llafur Cymru yma yn y Senedd wedi gwneud hynny. Diolch, Llywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:36, 4 Mehefin 2024

Galwaf ar Luke Fletcher nawr i gynnig gwelliannau 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Luke Fletcher.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Tata wedi gwrthod cynllun aml-undeb a fyddai wedi diogelu swyddi ac wedi cadw un o'r ffwrneisi chwyth ar agor yng ngwaith dur Port Talbot.

Gwelliant 4—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch sut y byddai'r cynllun gwerth £3 biliwn gan Lafur y DU ar gyfer dur yn amddiffyn swyddi ac yn cefnogi datgarboneiddio yng ngwaith dur Port Talbot.

Gwelliant 5—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i gymryd y camau angenrheidiol i ddod â gwaith dur Port Talbot i berchnogaeth gyhoeddus.

Gwelliant 6—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn absenoldeb cynllun gan Lywodraeth y DU, i archwilio opsiynau deddfwriaethol ar gyfer prynu'r ffwrneisi chwyth yn orfodol ym Mhort Talbot, ynghyd â'r potensial o greu cwmni dur cydweithredol Cymreig.

Cynigiwyd gwelliannau 3, 4, 5 a 6.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 6:36, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Dechreuaf drwy ddweud bod Plaid Cymru yn cefnogi'r hyn a nodir yn y cynnig gwreiddiol. Yn hyn o beth, rydym ni'n glir bod dyfodol ar gyfer gwneud dur sylfaenol yng Nghymru ac y dylid cefnogi ein gweithwyr dur, ond mae hyn, a dweud y gwir, yn datgan yr amlwg. Nid yw'r cynnig gwreiddiol yn ein galluogi i gymryd y camau y mae angen i ni eu cymryd i sicrhau bod dyfodol i ddur yng Nghymru. Heb amlinellu'r rhain, ni fyddai fawr ddiben pasio'r cynnig.

Daw'r ddadl hon ar yr unfed awr ar ddeg, gyda'r disgwyl y bydd y ffwrnais chwyth gyntaf yn cael ei chau y mis yma. Er gwaethaf hyn, mae testun gwreiddiol y cynnig bron yn union yr un fath â'r un a drafodwyd gennym ni yn ôl ym mis Chwefror. Nid yw'r cynnig fel y'i cyflwynwyd yn condemnio penderfyniad Tata, ac nid yw'n nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy disglair. Mae'n dweud yn syml ein bod yn credu y dylai fod dyfodol, heb unrhyw gamau penodol wedi'u hamlinellu ar y llwybr tuag ato. Ar adeg pan fo gweithwyr yn y cymunedau yn ysu am weithredu, mae angen i ni wneud mwy nag ailddatgan yr hyn a ddywedwyd eisoes. Mae angen i ni symud y ddadl hon ymlaen oherwydd fel, y mae'n rhaid i mi ddweud, yr ydw i a fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi bod yn ceisio ei wneud ers misoedd.

Byddaf yn dweud fy mod yn anghytuno â'r ffordd y mae'r holl ddadl wedi'i nodweddu gan y Torïaid. Mae'r un hen gân nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu'n ariannol at Tata yn ddim ond yn rhan o'r darlun, onid ydyw? Er tegwch i'r Llywodraeth Lafur, yn ôl yn 2016, fel y nododd Dai Rees, ac er tegwch, mewn gwirionedd, i Carwyn Jones—rydym ni i gyd wedi clywed y straeon amdano yn gwersylla y tu allan i'r swyddfeydd ym Mumbai—ni fyddai Tata yma oni bai am yr hyn a wnaed yn ôl bryd hynny. Byddwn hefyd yn dweud ei bod hi'n anodd gwybod ble y gallwch chi wneud lle i gefnogaeth os nad ydych chi'n rhan o'r sgyrsiau cychwynnol ynghylch sefydlu'r bwrdd pontio, ac nad ydych chi'n derbyn y data cywir chwaith gan Tata.

Mae Llywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan yn rhannu cyfran enfawr o'r bai ynghylch pam fod pethau fel y maen nhw. Dydyn nhw ddim wedi dangos gweledigaeth wrth amlinellu sut ddyfodol allai fod i ddur ac, yn ehangach, i'r sector diwydiannol, a gyda wynebau syth, mae Gweinidogion Ceidwadol wedi sefyll i ddweud bod pecyn gwerth £500 miliwn i Tata yn gyfnewid am golli 9,500 o swyddi yn drafodiad teg. Fuon nhw ddim yn ddigon dewr i gymryd rheolaeth o'r sefyllfa a chreu llwybr newydd—llwybr sy'n annibynnol ar sefydliad rhyngwladol sy'n hidio dim am y cymunedau sy'n dibynnu arno.

Rydym ni wedi clywed gan y Ceidwadwyr nad dyma beth fydden nhw wedi hoffi digwydd, felly pam derbyn mai dyma ddiwedd y gân? Yn anffodus, mae'n ymwneud â'r diffyg dewrder y mae Llafur a'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi bod mewn perygl o'i adlewyrchu. Dyma gyfle i nodi beth yn union a olygir gan y £3 biliwn ar gyfer dur. Hyd yn hyn, does neb wedi gallu dweud wrtha i'n union faint o hynny fydd yn mynd i Bort Talbot yn uniongyrchol. Dyma gyfle i ddangos ffordd ymlaen, sut y gall y Senedd hon ymyrryd yn ystyrlon. Dyma gyfle i fyw'r broffes ein bod ni'n gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Rwy'n glynu wrth yr hyn yr ydw i wedi'i ddweud erioed. Pam ddylen ni ganiatáu i gwmni rhyngwladol hanner ffordd rownd y byd bennu dyfodol ein cymunedau? Fydd Tata ddim yn newid eu meddwl, maen nhw wedi gwneud hynny'n glir—hyd yn oed os oes newid yn y Llywodraeth. Felly, pam ddylem ni barhau i syllu i waelod pydew amddifadedd ôl-ddiwydiannol sy'n bygwth ein llyncu ni eto?

Cymerwch reolaeth. Cenedlaetholwch y safle ym Mhort Talbot. Gadewch i ni wneud y buddsoddiadau ein hunain, gadewch i ni osod y cyfeiriad strategol ein hunain a gadewch i ni adennill rhywfaint o urddas. Oherwydd ar hyn o bryd, mae ein cymunedau'n edrych atom ni am arweinyddiaeth, ac rwy'n ofni y byddwn ni wedi eu methu os bydd y cynnig hwn yn pasio heb unrhyw welliannau. Dyw e ddim fel pe na bai cynllun yn barod i fynd, mae'r undebau eisoes wedi gwneud y gwaith.

Dydw i ddim yn credu y byddai unrhyw un ohonom ni yma eisiau edrych yn ôl ar yr adeg yma a meddwl tybed a allai un peth neu'r llall fod wedi gweithio. Nawr, y sawl sy'n mentro sy'n ennill. Wel, dylai'r Llywodraeth fentro. Gadewch i ni wthio am wladoli safle Tata. Os na lwyddwn ni â hynny, gadewch i ni edrych ar sut y gallwn ni warchod ei asedau yno, er mwyn sicrhau dyfodol ar gyfer gwneud dur sylfaenol yng Nghymru. A gadewch i ni greu llwybr at ddyfodol newydd i'n gweithwyr a'u cymunedau.

Photo of David Rees David Rees Llafur 6:41, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno hyn? Mae'n ddadl bwysig yr ydym ni wedi ei thrafod. Oherwydd fel rydych chi eisoes wedi nodi—mae tri pherson eisoes wedi dweud—bydd ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cau y mis hwn, ffwrnais chwyth Rhif 4 ym mis Medi. Nawr, rwy'n cofio, mewn gwirionedd, y ffrwydrad yn Rhif 5, lle collodd tri dyn eu bywydau. Roedd hynny 20 mlynedd yn ôl, ac mae wedi cael ei hailadeiladu. Felly, rydym ni'n deall yr amserlen ar gyfer Rhif 5.

Mae'n ymwneud â chreu dur. Mae'n ymwneud â'r diwydiant. Mae'r DU wedi bod yn cynhyrchu dur mewn gwirionedd, ac mae'n un o'n hasedau sofran. Mae'n ddiwydiant sylfaenol. Mae'n gwneud dur ym mhopeth rydym ni'n ei ddefnyddio. Sawl un ohonom ni gododd y bore yma a defnyddio'r microdon ar gyfer ein brecwast, neu'r tostiwr? Gyrrodd yma yn ein car? Daeth yma ar y trên? Daeth ar gefn beic, o bosib? Agorodd yr oergell, estynnodd y llaeth ar gyfer eu Weetabix y bore yma. Mae'r dur rydym ni'n ei ddefnyddio bob dydd yma. Fe wnaed rhywfaint o hynny, mewn gwirionedd, ym Mhort Talbot. P'un a oes gennych chi duniau o ffa pôb, neu fe wnes i fwydo fy nghi y bore yma gyda thun. Oedd hynny'n dod o Bort Talbot? Dydyn ni ddim yn gwybod, ond dyma'r dur rydym ni'n ei ddefnyddio.

Mae'n ddiwydiant sylfaenol. Mae'n adeiladu ein sylfaen gweithgynhyrchu. Ac eto rydym ni yma yn trafod beth sy'n digwydd i'r diwydiant hwnnw. Ei fod yn mynd i ddiflannu. Ni fyddwn yn gwneud dur sylfaenol yma. Byddwn yn cael gwared ohono, neu bydd Tata yn cael gwared ohono, ac yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi eu cefnogi i wneud hynny drwy roi £500 miliwn heb unrhyw amodau arno i sicrhau bod trosglwyddo i fathau eraill o wneud dur sylfaenol.

Fe allwch chi ddefnyddio dulliau gwyrdd i wneud dur sylfaenol. Mae'n siom nad oedd llywodraeth y DU hyd yn oed wedi meddwl am y peth. Ac fe gymerodd hi iddyn nhw—beth? Fe wnaethon ni blagio a phwyso am sawl blwyddyn i gael rhyw fath o fargen i'r sector dur, neu hyd yn oed strategaeth ar ddur? A phan wnaethan nhw'n cyflwyno hynny, eu strategaeth yw £500 miliwn, cael gwared ar y ffwrneisi chwyth. Dyna ni.

Felly, p'un a ydym ni'n byw mewn byd geowleidyddol ai peidio, rydym ni'n agored i niwed os nad yw dur sylfaenol yn cael ei wneud yn y wlad hon. Ac felly mae Port Talbot yn dod yn gyfrannwr hanfodol i'r sector hwnnw. Ond nid dim ond dur ar gyfer ein dinas. Mae'n fwy na hynny, oherwydd bu'n rhan o deuluoedd yn ein tref ers cenedlaethau. Ac rwy'n mynd i ysgolion ac rwy'n gweld plant sydd eisiau ymgyrraedd at yr hyn y mae eu rhieni'n ei wneud yn eu bywydau gwaith, neu'r hyn a wnaeth eu neiniau a theidiau, boed hynny yng ngwaith dur Port Talbot neu yn y diwydiannau sy'n gwasanaethu gwaith dur Port Talbot. Maen nhw'n ei weld. Ac fel y dywedodd un o'n swyddogion undeb cymunedol yn y gynhadledd ychydig flynyddoedd yn ôl, mae dur yn ein DNA. Mae'n rhan ohonom ni.

Nawr, mae yna ddewis arall. Rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen. Mae'r undebau llafur dur, fel yr amlygwyd, wedi cyflwyno'r cynllun Syndex hwn. Nid eu cynllun nhw, gyda llaw—cynllun arbenigwyr yw e. Fe wnaethon nhw ei gyflwyno ac mae wedi cael ei wrthod, ac mae'n drueni bod Tata wedi ei wrthod felly, oherwydd fe weithiodd. Goroesodd y ffwrneisi chwyth; byddai rhif 4 yn parhau i weithio wrth iddyn nhw adeiladu ffwrnais arc drydan. Gyda llaw, y ffwrnais arc drydan maen nhw'n sôn amdani fyddai'r un fwyaf a adeiladwyd erioed. Nid yw'r rhan fwyaf o leoedd eraill yn adeiladu ffwrneisi arc drydan 3 miliwn tunnell, maen nhw'n adeiladu ffwrneisi arc drydan 1.5 miliwn tunnell, i weithio gyda ffwrneisi chwyth. Ac mae Tata yn adeiladu ffwrneisi chwyth yn India. Mae'r Almaen yn adeiladu ffwrneisi chwyth. Mae'n ymddangos yn rhyfedd nad ydym ni'n gwneud hynny, ein bod ni'n cael gwared arnyn nhw, a byddwn yn dibynnu ar ddur wedi'i fewnforio ar gyfer ein tuniau a'n ceir a'n microdonnau.

Ond ynghyd â gweithwyr dur, mae angen i ni dderbyn newid. Mae'n dod. Dydym ni ddim yn gwadu hynny. Ond mae'n ymwneud â sut rydym ni'n sicrhau bod y newid hwnnw'n digwydd, sut rydym ni'n trosglwyddo i broses y cyfeiriad gwyrdd. A dyna beth y dylid ei gofleidio. A gobeithiaf y bydd unrhyw lywodraeth newydd—ac rwy'n gobeithio mai llywodraeth goch fydd hi, ond gallai fod yn unrhyw lywodraeth newydd—yn achub ar y cyfle i ddweud, 'I ddweud y gwir, gadewch i ni ei newid'. Gadewch i ni weithio gyda'n cymunedau. Gadewch i ni gael y bobl rydym ni'n eu rhoi ar y clwt, rydym ni'n eu hamddifadu o gyfleoedd, plant sy'n gweld eu gobaith yn diflannu—gadewch i ni roi rhywbeth yno iddyn nhw, gadewch i ni achub ar y cyfleoedd hynny i wneud hynny. Ac rwy'n gobeithiaf y bydd Llywodraeth newydd y DU yn gwneud hynny mewn gwirionedd.

Nawr, y cwestiwn ynghylch £3 biliwn. Gadewch i ni fod yn onest am hynny. Dydym ni ddim yn gwybod ble y caiff ei wario, ond rydym ni yn gwybod bod yna ffigwr yna. Ni fu erioed ffigwr gyda'r Llywodraethau blaenorol. Ac mae'n rhaid i chi hefyd drafod ble mae'r ffigwr hwnnw'n cael ei wario a sut mae'n cael ei ddefnyddio i adeiladu economi dur gwyrdd mewn gwirionedd. Pa elfennau mae arnoch chi eisiau canolbwyntio arnyn nhw? Pa elfennau allwch chi annog diwydiannau eraill i ymrwymo a chyfrannu eu refeniw atyn nhw? Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod bod yna arian, ac rydym ni'n gwybod y bydd trafodaeth o ran sut i wario'r arian yna.

Yr agwedd arall rydym ni wedi sôn amdani—rwy'n mynd i barhau; mae gen i ychydig o amser. Ynglŷn â'r gwelliannau a gafodd eu cyflwyno—. Gwelliannau'r Ceidwadwyr. Mae'n ddrwg gen i, ond, cyn yr hyn rydym ni wedi'i weld mewn blynyddoedd blaenorol, dyweder MacGregor, 2016, pan wnaethoch chi ddim—mae'n ddrwg gen i, alla i ddim gwrando ar y trafodaethau hynny. Ac rwy'n derbyn yr hyn rydych chi'n ei ddweud—. Rhif 3, rwy'n derbyn gwelliant 3 yn llwyr. Rhif 4, mae eglurder yn iawn, mae angen i ni ei gael, ond Rhif 5 a Rhif 6, rwy'n gwrando. Rwy'n awyddus i wrando, ond mae cymaint o bethau ymarferol. Prynu ffwrneisi chwyth yn orfodol—beth mae hynny'n ei olygu? Pwy fydd yn cael ei gyflogi i wneud hynny? Ydych chi'n mynd i gyflogi pobl? Sut mae'n mynd i drosglwyddo deunyddiau crai mewn gwirionedd os ydych chi'n mynd i'w gadw i fynd? Lle mae'r dur yn mynd i fynd os ydych chi'n ei gadw i fynd? Os ydych chi'n ei gau, sut y caiff ei reoli? Lle bydd yn aros? Sut fyddwch chi'n ei weithredu? Sut ydych chi'n cael mynediad iddo, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw'r tir o'i gwmpas yn hygyrch?

Felly, mae llawer o bethau ymarferol yma. Penawdau gwych, ond beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i bobl y dref, i'r bobl yn y gwaith i weld mewn gwirionedd sut y gall weithio? Ac os oes arnoch chi eisiau rhoi'r gorau i'w ddefnyddio, dyna maen nhw'n ei wneud nawr. Felly, nid yw'n wahanol i'r hyn y mae Tata yn ei gynnig, dim ond ei gau a rhoi'r gorau i'w ddefnyddio. Felly, mae hi yn bwysig, beth yw'r bargeinion yno, a chyda'r—. Cenedlaetholi, fe aethoch chi a fi ein dau, Luke, i'r sgwrs ar wladoli. Fe gyflwynodd wladoli dros dro dim ond i'w gadw i fynd dros dro nes ein bod ni mewn gwirionedd yn cael rhywun i'w gefnogi, ond, y buddsoddiad sydd ei angen i wneud hynny i gyd, o ble y daw hynny? Oherwydd, gadewch i ni fod yn onest, does gennym ni ddim hynny yn y Llywodraeth hon, yn y Senedd hon. Nid dim ond y £3 biliwn rydym ni'n sôn amdano; mae angen buddsoddiad ar y cyd arnom ni yn yr achos hwnnw, felly os ydych chi'n mynd i siarad am wladoli, sut ydych chi'n mynd i ariannu'r gwladoli? Sut fyddwch chi'n cael y marchnadoedd? Pwy sy'n mynd i'w reoli? Sut y bydd yn cael ei gyflawni? Oherwydd rydych chi ym myd busnes, nid byd gwasanaeth cyhoeddus. Felly, mae llawer o gwestiynau yr hoffwn i glywed atebion iddyn nhw ynghylch y pwyntiau hynny nad ydw i wedi'u clywed eto.

Mae amser wedi mynd yn drech na fi, Llywydd; rydw i'n mynd i dewi. Ond un peth. Mae pobl Port Talbot eisiau gweld y Llywodraeth hon yn ymladd drostyn nhw. Maen nhw eisiau ein gweld ni'n gweithio iddyn nhw. Maen nhw eisiau gweld Llywodraeth y DU yn gwneud hynny. A dyna pam, yn fy marn i, mae'n rhaid i ni newid y Llywodraeth, oherwydd nid yw'r Llywodraethau blaenorol wedi gwneud hynny. 

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:47, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Ym mhob datganiad a dadl a gawn ni ynghylch Tata—ac rydym ni wedi cael cryn dipyn ohonyn nhw, fel y crybwyllodd yr Aelodau—rydym ni bob amser yn clywed Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y gwahaniaeth y gallai Llywodraeth Lafur San Steffan ei wneud i ddyfodol y ffatri ym Mhort Talbot a thynged y miloedd o'i gweithwyr, ac nid oedd heddiw yn eithriad. Ac, wrth gwrs, fe glywsom ni Keir Starmer yn dweud pan oedd yng Nghymru yr wythnos diwethaf y byddai'n ymladd dros bob un swydd ac am ddyfodol dur yng Nghymru. Ond doedd dim manylion ynghylch beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, ac fe wnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau, David Rees. Wel, mi fuaswn i'n dweud mai Llywodraeth Cymru a Keir Starmer yw'r bobl sydd angen gweithio ac a ddylai fod wedi bod yn gweithio ar yr atebion i'r cwestiynau hynny, oherwydd tynnodd y gohebwyr gwleidyddol a oedd yn adrodd ar ymweliad Keir Starmer sylw at hyn. Roedd Gareth Lewis o BBC Cymru ymhlith y rhai a ddywedodd am y datganiad nad oes neb yn hollol siŵr beth mae'n ei olygu, ac o'r gronfa ddur hon gwerth £3 biliwn, beth yn union maen nhw'n mynd i'w wneud â hi, gofynnodd Gareth Lewis. Ac felly, i mi, y cwestiwn sydd wir angen ei ateb heddiw, er y dylid bod wedi ei ateb, efallai, fisoedd yn ôl, yw: beth yw'r cynllun?

Nid yw Tata wedi nodi bod ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb mewn cadw'r ffwrneisi chwyth ar agor, hyd yn oed os bydd Llafur yn ennill yr etholiad hwn ac mewn Llywodraeth erbyn mis Gorffennaf. Felly, beth yn union fydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ei wneud i argyhoeddi Tata i newid eu meddyliau? Beth yw'r fargen a fydd yn cadw'r ffwrneisi chwyth ynghyn? Neu oes yna gynllun arall, fel y mae ein gwelliannau'n ei wneud yn glir ac yn ei amlinellu? A wnaiff Keir Starmer weithredu ar y galwadau hyn i wladoli gwaith dur Port Talbot dros dro? Yr holl syniadau y mae Adam Price a Luke Fletcher wedi cyfrannu at y ddadl hon dros fisoedd lawer.

Beth fydd yn newid? Oherwydd mae'r gweithwyr, eu teuluoedd, eu cymunedau a'r holl fusnesau sy'n eu gwasanaethu, y clybiau a'r grwpiau sy'n dibynnu ar gymdeithas a bywyd cymdeithasol yn yr ardal hon, maen nhw wir yn haeddu mwy na sylwadau bachog. Mae angen mwy na geiriau cysurus arnyn nhw. Rydym ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn hynny o beth. Fel y dywedais, rydym ni wedi nodi ffyrdd y gellid diogelu swyddi a dur Cymru yng Nghymru, ond gallai'r camau hynny gael eu cefnogi a'u hyrwyddo gan Lywodraeth Lafur yn San Steffan yn gynharach na'r disgwyl. Felly, mae angen cynllunio, gweithredu a manylion arnom ni—oes, yn wir. Pa drafod sy'n digwydd gyda Tata? Gwaith y Llywodraeth yw trafod y pethau hyn, edrych ar y posibiliadau, ateb y cwestiynau, gwneud y modelu. Mae'n siomedig bod Tata wedi gwrthod cynllun yr undebau, ond allwn ni ddim anobeithio, allwn ni ddim dweud, 'Dyna drueni.' Mae cwestiynau yma y mae angen i'r Llywodraeth hon a'r Llywodraeth Lafur newydd a ddaw i San Steffan eu hateb.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 6:50, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Fel rhywun a arferai weithio yn y ganolfan ymchwil ym Mhort Talbot cyn MacGregor, a phan oedd dan berchnogaeth gyhoeddus, mae gen i rai sylwadau yr hoffwn i eu gwneud.

Ar hyn o bryd mae gwaith dur Port Talbot yn waith cynhyrchu dur integredig, sy'n gallu cynhyrchu bron i 5 miliwn tunnell o slabiau dur y flwyddyn o fwyn haearn. Mae 'integredig' yn golygu eich bod yn rhoi'r mwyn haearn a'r golosg i mewn, a'ch bod yn anfon allan y dur wedi'i rolio'n oer. Felly, mae popeth yn cael ei wneud ar yr un safle. Dyma'r mwyaf o'r ddau waith dur mawr yn y DU. Mae dros 4,000 o bobl yn gweithio yn y gwaith ar hyn o bryd, mae'n debyg bod yr un nifer eto yn gweithio i gontractwyr, ac mae'n debyg bod yr un nifer eto yn dibynnu ar y gwaith. Mae'r slab yn cael ei rolio naill ai ar y safle ym Mhort Talbot neu'n cael ei gludo i Lanwern i wneud cynhyrchion o stribedi dur. Mae angen i haearn sy'n dod i mewn i Bort Talbot, haearn ocsid, gael ei echdynnu o'r mwyn mewn ffwrnais chwyth. Rhaid tynnu'r ocsigen o'r ocsid haearn er mwyn gadael yr haearn. Dyna wneud yr haearn; nid gwneud dur—gwneir dur yn ddiweddarach yn y broses, yn y gwaith dur ocsigen sylfaenol. Yna symudir i gynhyrchu dur. Gellir rhannu prosesau gwneud dur modern yn dri cham: sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Mae gwneud dur sylfaenol yn cynnwys mwyndoddi haearn i ffurfio dur. Mae gwneud dur eilaidd yn cynnwys ychwanegu neu dynnu elfennau eraill, megis asiantau aloi a nwyon toddedig. Mae gwneud dur trydyddol yn golygu castio i ddalen, rholiau neu ffurfiau eraill.

Gyda ffwrnais arc drydan, rydych chi i bob pwrpas yn ailgylchu dur a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Ffwrnais sy'n cynhesu dur trwy ddefnyddio arc drydan yw ffwrnais arc drydan, sy'n egluro'r enw. Er mwyn cynhyrchu tunnell o ddur mewn ffwrnais arc drydan mae angen tua 400 kWh y dunnell. Mae dwy brif broblem gyda ffwrneisi arc drydan. Y gyntaf yw cost trydan. Yn 2021, bu i ArcelorMittal roi'r gorau i gynhyrchu dros dro yn rhai o'i ffatrïoedd ar yr oriau brig, wrth i gostau ynni anferthol daro gwneuthurwr dur mwyaf Ewrop. Mae hynny wedi digwydd gyda llawer o bobl eraill sy'n defnyddio ffwrneisi arc drydan, pan fyddan nhw'n darganfod bod y gost o ddefnyddio trydan yn anghystadleuol. Dywedodd y cwmni fod yr oedi yn cyd-fynd â'r newidiadau beunyddiol fesul awr ym mhrisiau trydan, gan ychwanegu eu bod mewn ymateb i'r prisiau ynni uchel, oedd yn ei gwneud hi'n heriol iawn i gynhyrchu dur am bris economaidd.

Yn 2019, yn ôl Cymdeithas Dur y Byd, roedd dros 3,500 o raddau gwahanol o ddur, gan gwmpasu priodweddau ffisegol, cemegol ac amgylcheddol unigryw. Yn llawer rhy aml, rydym ni'n defnyddio'r gair 'dur' yn yr un modd ag yr ydym ni'n defnyddio'r gair 'plastig', fel petai'n un peth. Mae'n gyfres o wahanol eitemau. Mae cynnwys carbon dur yn amrywio o 0.1 y cant i 1.5 y cant, ond mae'r rhan fwyaf yn cynnwys rhwng 0.1 y cant a 0.25 y cant o garbon. Mae pedwar prif fath o ddur, sef dur carbon, dur aloi, dur di-staen, dur offer, ac mae gennym ni ddur trydanol, yr oedd yr hen waith yn arfer gweithio arno cyn iddo gau, yn anffodus. Er bod duroedd carbon yn cynnwys symiau bychain iawn o elfennau aloi, ac yn cyfrif am 90 y cant o gyfanswm y dur a gynhyrchir, gellir eu categoreiddio ymhellach i dduroedd carbon isel, duroedd carbon canolig, a duroedd carbon uchel. O hyn, mae'n amlwg na fydd casglu dur a'i doddi yn gweithio. Bydd angen ei raddio i fathau o ddur.

Er mwyn prynu'r ffwrneisi chwyth yn orfodol, yn gyntaf, mae angen i Lywodraeth Cymru geisio negodi i'w prynu. Pam na fyddai Tata eisiau eu trosglwyddo i rywun arall, oherwydd, pan fydd gwneud haearn a dur yn dod i ben, byddant yn faich? Oni bai bod gennych chi ffatri gwneud dur i anfon y mwyn haearn iddo, yna nid yw ffwrnais chwyth o unrhyw ddefnydd. Ym mis Ionawr eleni, cafodd ffwrnais chwyth Saltzgitter A ei thanio yn dilyn moderneiddio llwyr, a barodd ychydig dros 100 diwrnod. Wrth i'r gwaith o leinio'r ffwrnais chwyth yn llwyr ddod i ben, cymerodd grŵp Saltzgitter gam gweithredol allweddol ymlaen, gan sicrhau ei gyflenwad haearn bwrw wrth iddo drawsnewid tuag at gynhyrchu dur carbon deuocsid isel erbyn 2033. Yn ystod y cyfnod adeiladu, cafodd ffwrnais chwyth A ei hail-leinio'n llwyr. Ymhlith pethau eraill, adnewyddwyd y leinin anhydrin, gyda 3,000 o dunelli o frics carbon a deunydd anhydrin arall. Moderneiddiwyd y broses gymhleth a'r dechnoleg reoli hefyd; buddsoddwyd ychydig dros €100 miliwn yn yr ail-leinio a'r uwchraddio. Pam y gall grŵp Saltzgitter uwchraddio eu ffwrnais chwyth ac na all Tata uwchraddio? Pam, ledled gweddill y byd, fod gan bobl ffwrneisi chwyth sy'n dod yn ffwrneisi chwyth carbon isel? Ac er nad yw'n dechnoleg sydd wedi'i phrofi'n llawn, mae'r defnydd o hydrogen, yn hytrach na charbon, i leihau'r ocsid haearn i haearn yn ymarferol, ac rwy'n credu ei fod yn gyfeiriad yr hoffwn ein gweld yn mynd iddo. Dydw i ddim yn credu bod dyfodol i ffwrneisi arc drydan; rwy'n credu mai dim ond cam 1 o'r broses gau yw hynny. Ac rwy'n credu bod angen i ni gadw'r ffwrnais chwyth, mae angen i ni barhau i wneud haearn a dur, ac rwy'n credu, beth bynnag a wnawn ni, y gallai fod angen i ni, unwaith eto, ddod â'r gwaith yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, fel yr oedd pan oeddwn i'n gweithio yno, er y bydd y bobl a oedd yn gweithio yno bryd hynny yn dweud nad oedd y dyddiau hynny'n fêl i gyd.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 6:55, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae angen i ni droi 'achub ein dur' o fod yn slogan i fod yn gynllun, onid oes, a dim ond dyddiau, wythnosau o bosib, sydd gennym ni i wneud hynny. Felly, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd, ac mae'n rhaid defnyddio adnoddau'r Llywodraeth nawr, oherwydd dim ond Llywodraeth, yn y pen draw, sydd â'r gallu, gan weithio gyda'r undebau, i gyflwyno cynllun mewn gwirionedd. Ac rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, yn y datganiadau yn ystod y dyddiau diwethaf, yr haerllugrwydd llwyr gan Tata. Nawr mae'n rhaid i ni ymateb i'r haerllugrwydd hwnnw gyda phendantrwydd cadarn. Edrychwch ar yr hyn y mae'r Prif Swyddog Gweithredol, Rajesh Nair, wedi'i ddweud yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf: (a) eu bod wedi tynnu'r cynnig oddi ar y bwrdd nawr, o ran y taliadau diswyddo i'r gweithwyr, oherwydd bod y gweithwyr wedi bod mor hy â defnyddio eu pleidlais ddemocrataidd drwy undeb llafur i bleidleisio mewn gwirionedd i amddiffyn eu cymunedau a'u swyddi. Ac felly mae Tata wedi dweud, 'Wel, dydym ni ddim yn rhoi hynny i chi mwyach.' Ond nid yn unig hynny, maen nhw wedi dweud eu bod nhw bellach yn

'adolygu a ddylem ni nawr gynllunio i gau ffwrnais chwyth 5 ynghynt', sydd eisoes i fod i gau y mis hwn. A'r hyn maen nhw'n ei ddweud yw, 'Edrychwch, rydym ni'n mynd i wneud pethau yn gyflymach, yn ystod y dyddiau nesaf.' Felly, mae angen i ni weithredu. Mae angen i ni weithredu nawr. Nawr, mae'n debyg, y bydd gennym ni, bron yn sicr—newid Llywodraeth yn San Steffan ymhen pedair wythnos, felly dyna'r bwlch, iawn, ac mae'n rhaid i ni lenwi'r bwlch hwnnw. Mae'n rhaid i ni amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru am y pedair wythnos nesaf. Dydym ni ddim yn mynd i gael unrhyw help gan San Steffan yn y cyfamser; mae'r Senedd yno wedi ei diddymu. Dyma'r unig Senedd i Gymru ar hyn o bryd, a dyma'r unig un sy'n gallu gweithredu. Ac mae gennym ni'r pwerau. Mae gennym ni'r pwerau. Rydym ni wedi gwirio. Bydd cyfreithwyr y Llywodraeth yn dweud yr un peth, heb os, â chyfreithwyr y Senedd: mae gennym ni'r pwerau i gyflwyno deddfwriaeth frys, gan ddefnyddio ein Rheolau Sefydlog—bydd y Dirprwy Lywydd yn gwybod y dull. Gellir ei wneud mewn dyddiau. Gellid ei wneud mewn dyddiau i gyflwyno Bil byr a fydd yn gosod gorchymyn prynu gorfodol ar y ffwrneisi chwyth hynny a'r agweddau gwaith trwm.

Nawr, Dai Rees, rydych chi'n hollol gywir. Y peth tyngedfennol yma yw dull y datgomisiynu a, wyddoch chi, mae yna ddwsinau o wahanol ffyrdd y gellir datgomisiynu ffwrnais chwyth, gellir ei diffodd, ac mae rhai ohonyn nhw'n caniatáu i chi—. Oherwydd weithiau does dim o'u hangen, o ran weithiau rydych chi'n rheoli'r galw, ac ati, felly mae hyn yn digwydd. Weithiau rydych chi'n gwneud hynny er mwyn ail-leinio. Weithiau mae yna ffyrdd rydych chi'n diffodd y ffwrnais er mwyn ei hailgychwyn, ac mae hynny wedi digwydd, yn wir, ym Mhort Talbot, onid ydyw? Mae wedi digwydd mewn llawer o weithfeydd dur ledled y byd. Ond mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi ddatgomisiynu ffwrnais chwyth, oherwydd rydych chi'n hollol glir bod cyfeiriad y teithio i un cyfeiriad yn unig, ac nid oes unrhyw ffordd yn ôl yn economaidd o hynny. A dyna beth sy'n rhaid i ni ei atal. Dyna'r cynllun sydd ei angen arnom ni, a'r hyn rwy'n ei awgrymu yw: gadewch i ni weithio gyda'r ymgynghorwyr a weithiodd gyda'r undebau, Syndex, i lunio cynllun sydd mewn gwirionedd yn pontio'r wythnosau nesaf. Rwy'n ildio.

Photo of David Rees David Rees Llafur 6:59, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ildio, ac rwy'n deall yn iawn beth rydych chi'n ei ddweud, y cynllun ynglŷn â datgomisiynu. Rydych chi'n llygad eich lle: gall datgomisiynu naill ai ei datgomisiynu i gael ei hailddefnyddio neu ei datgomisiynu i'w chau, i bob diben. Ond rwy'n dal i ofyn y cwestiwn—gorchymyn prynu gorfodol ar ffwrnais chwyth; rwy'n deall beth rydych chi'n ei ddweud—beth ydych chi'n ei wneud gyda'r ffwrnais chwyth? Pwy ydych chi'n ei gyflogi? Sut ydych chi'n cyflogi? Beth yw'r holl agweddau eraill hynny y mae angen i mi wybod amdanyn nhw? Rwy'n ceisio cael atebion ar gyfer yr agweddau hynny: sut y byddai'n gweithio ac yn cyflawni i'r bobl i sicrhau y gallwn ni ei diffodd ac felly bod mewn sefyllfa lle gellir ei hail-danio.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 7:00, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Bydd yn rhaid i ni greu cwmni, cwmni daliannol, a fydd yn rhedeg y ffwrnais chwyth a'r agweddau gwaith trwm cysylltiedig ar gyfer y cyfnod hwnnw ar yr isafswm sy'n angenrheidiol i gynnal yr ased, ac mae angen i ni weithio'n gyflym iawn, iawn—dros y dyddiau nesaf, yn ddelfrydol—i gyfrifo beth yw cost hynny, beth yn union—. Yr arbenigwyr gorau yw'r rhai rydych chi'n eu hadnabod, Dai—y bobl sy'n gweithio yno. Felly, mae atebion i'r holl gwestiynau hyn i'w cael o weithio gyda'r undebau a hefyd gyda chynghorwyr yr undebau, ymgynghorwyr Syndex sy'n arbenigwyr yn y diwydiant dur, i lunio cynllun ar gyfer cwmni daliannol dur o Gymru, o leiaf, wrth i ni ystyried sut olwg allai fod ar y dyfodol. Fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, credaf fod y dyfodol hirdymor mewn perchnogaeth gyhoeddus, er y dylid ystyried y syniad o gydweithfa ddur i Gymru hefyd yn rhan o hyn. Ond mae'n rhaid i'n cynllun uniongyrchol amddiffyn y safle rhag bwriad datganedig Tata, sef cael gwared arno, ei ddiffodd mewn ffordd na ellir byth ei hadfer. Mae gennym y pŵer cyfreithiol i atal hynny; gadewch i ni baratoi'r cynllun a chyflwyno'r ddeddfwriaeth honno ar lawr y Senedd.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 7:01, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Fel y soniodd David Rees gyda Phort Talbot, felly hefyd gyda Llanwern yng Nghasnewydd: mae hanes aruthrol o wneud dur sy'n atseinio heddiw, ac mae llawer o bobl yn dal i feddwl am Gasnewydd, i ryw raddau, fel tref ddur, neu ddinas, bellach.

Ar ddechrau'r 1960au, pan agorwyd Llanwern, roedd tua 13,000 o weithwyr a chontractwyr ar y safle a chrëwyd llawer iawn o gyfleusterau llety yn lleol i gartrefu'r gweithwyr hynny, ac adeiladwyd llawer o'r ystadau tai o amgylch Casnewydd o leiaf yn rhannol ar gyfer gweithwyr dur Llanwern. Roedd yn fodern iawn ac o'r radd flaenaf pan gafodd ei agor gyntaf ac yn integredig iawn, ac wrth gwrs mae wedi mynd trwy gyfres o newidiadau llym iawn ers hynny, gyda diwedd gwneud dur a chau agweddau eraill ar y gwaith yn rhannol ac ailddatblygu rhan o'r safle. Ond mae'n dal i fod yn gyflogwr mawr yn lleol yng Nghasnewydd, ac wrth gwrs yn arwyddocaol iawn ar gyfer cyflogaeth yn ardal ehangach de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd.

Felly, mae'r syniad y bydd tua 300 o swyddi yn mynd yn Llanwern ymhen ychydig flynyddoedd, fel y cynigiwyd o dan y cynlluniau presennol, yn amlwg yn newyddion drwg iawn, iawn yng Nghasnewydd a'r ardal ehangach. Mae gennym ni ran, y rhai ohonom ni sy'n wleidyddion lleol, i sicrhau bod Llanwern yn cael ei ystyried yn y darlun dur cyffredinol hwnnw yng Nghymru, oherwydd yn ddealladwy, wrth gwrs, mae yna ganolbwyntio enfawr ar Bort Talbot oherwydd nifer y swyddi yno, y capasiti yno, ac wrth gwrs sut mae Port Talbot wedi ei integreiddio â'r gweithfeydd dur eraill yng Nghymru, ond mae Llanwern, fel y dywedais, yn arwyddocaol iawn fel cyflogwr hefyd, ac fel gyda'r gweithfeydd dur eraill, nid yw'n ymwneud â'r rhai sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol yno yn unig; mae'r contractwyr, y gwariant yn yr economi leol, y cyflenwyr, yr holl faterion ehangach hynny. Ac mae oedran cyfartalog y gweithlu yn Llanwern yn llawer iau nag y mae pobl yn ei feddwl, yn y 30au cynnar, ac mae gennym ni gryn nifer o brentisiaid sydd wir eisiau dyfodol yn y diwydiant.

Pan fyddwch chi'n siarad â phobl—dim ond i adleisio eto beth mae David Rees ac eraill wedi'i ddweud—maen nhw wir yn dweud eu bod wedi'u syfrdanu gan agwedd Llywodraeth Lafur bresennol y DU wrth beidio â sylweddoli pwysigrwydd sylfaenol y diwydiant dur, o ran amddiffyn, er enghraifft, yn yr hyn rydym ni'n ei wybod sy'n fyd mor beryglus ac ansicr ar hyn o bryd; y pwysigrwydd ar gyfer seilwaith, yr ydym ni yn daer ei angen; ar gyfer ynni adnewyddadwy, gyda'i arwyddocâd ar gyfer y dyfodol; ar gyfer adeiladu ac ar gyfer gweithgynhyrchu. Mae pobl yn synnu'n fawr nad yw'n ymddangos bod digon o werthfawrogiad yn Llywodraeth y DU o bwysigrwydd strategol a sylfaenol ein diwydiant dur. Felly, wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni'n gobeithio amdano yn y mudiad Llafur, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur a'r gweithlu, yw y bydd gennym ni'r Llywodraeth Lafur newydd honno yn y DU yn fuan, gyda'r £3 biliwn hwnnw ar y bwrdd i'w ddefnyddio, gyda dull newydd iawn, agwedd wahanol iawn at bwysigrwydd gwneud dur a phwysigrwydd ein cymunedau dur.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn yn y digwyddiad yn y Fenni, siaradodd Keir Starmer yn gryf iawn, iawn ac yn angerddol iawn am y diwydiant dur a'r angen i ddiogelu'r swyddi hynny, yr angen i symud y diwydiant hwnnw ymlaen. Roedd ymrwymiad cryf iawn ac ymdeimlad cryf iawn o flaenoriaethu, ac roedd yn un o'r materion a bwysleisiodd yn fawr y tro hwnnw, ac rwy'n credu bod hynny'n argoeli'n dda i'r bartneriaeth y gallwn ni ei chael rhwng Llywodraeth Lafur yng Nghymru a Llywodraeth Lafur newydd yn y DU.

Mae'r undebau wedi gwneud llawer o waith gyda Syndex. Mae llawer iawn o fanylion. Mae yno ar y bwrdd i'w ddefnyddio. Oes, mae penderfyniadau wedi eu gwneud, ond mae amseru'r etholiad bellach wedi newid hyn, fel y mae eraill wedi sôn. Mae'n llawer cynt nag yr oedd bron pawb yn ei ddisgwyl, ac mae hynny'n rhoi cyfleoedd newydd i ni. Y cwestiwn yw: a fydd Tata, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd, yn manteisio ar y cyfleoedd hynny i ddeall gwahaniaeth dyddiad yr etholiad hwn ac ymrwymiad Llywodraeth Lafur newydd yn y DU? Nid yw'n rhy hwyr. Gobeithio y bydd synnwyr yn ennill y dydd.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur 7:07, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Felly, rwy'n codi i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan Jane Hutt, ac yn sylfaenol, rwyf o'r farn bod y cynnig o bwysigrwydd dwys i'r DU a Chymru ccc, sef bod y Senedd hon yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru a'r llwybr at sero net. Ac rwy'n pwysleisio eto, nid yn unig i Gymru, ond i'r Deyrnas Unedig. A 'gweinyddiaeth ddatganoledig', 'DA', yw sut mae Cabinet y DU yn cyfeirio at Gymru, a gallaf ond dweud mor fychan, cyfyngedig a myopig yw safbwynt y Torïaid o Gymru a'r Deyrnas Unedig os nad ydynt am weld Cymru a'r DU yn cadw ei gallu craidd i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Lafur y DU yn buddsoddi yn ein diwydiant dur. Bydd yn sicrhau'r pontio teg i ddur gwyrdd, sy'n cael ei ysgogi gan sgiliau cryf a gwir dalent ac uchelgais anhygoel ein gweithwyr dur yng Nghymru. Yn wir, fel y dywedwyd, mae Llafur wedi clustnodi cyfanswm o £3 biliwn o fuddsoddiad dros bum mlynedd ar draws diwydiant dur y DU os cawn ein hethol. Bydd cronfa cyfoeth cenedlaethol Llafur y DU yn buddsoddi £2.5 biliwn ar ben y £500 miliwn pitw sydd wedi'i gynllunio gan y Llywodraeth mewn dur y DU yn ystod Senedd nesaf y DU, ac mae hynny'n sylweddol. Yn wir, mae buddsoddiadau hanesyddol bellach yn cael eu gwneud gan ein cystadleuwyr gwneud dur Ewropeaidd mewn dur gwyrdd, ond mae diffyg uchelgais cronig y Llywodraeth Dorïaidd i Brydain a'i diffyg affwysol o unrhyw strategaeth hirdymor wedi siomi miloedd o weithwyr medrus. Mae hefyd wedi siomi eu teuluoedd, ac yn y pen draw bydd yn arwain, os bydd hyn yn parhau, at Deyrnas Unedig llai diogel.

Mae cyflogaeth yn y diwydiant dur wedi bod yn hanfodol bwysig i gymunedau Islwyn dros y degawdau diwethaf, ac mae wedi chwarae rhan ganolog wrth dyfu economi Cymru a chodi safonau byw. Yn wir, yn Islwyn mae Tŷ Sign, a dyna'r ystad dai fwyaf yng nghyngor bwrdeistref Caerffili, a adeiladwyd ar ddechrau'r 1960au fel pentref o dai ar gyfer gwaith dur Llanwern. Mae'n gymuned balch a chryf, a dyma lle ganwyd tri o fy mhlant a lle y codais fy nheulu, ac rwy'n gwybod yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r diwydiant dur i gymunedau fel fy un i. Ac yn wir, mae safle Zodiac yn hanfodol i'r sector modurol hefyd.

Ond mae Llywodraeth Cymru, ar sawl achlysur, wedi egluro wrth y Ceidwadwyr Cymreig nad yw Tata wedi gofyn am unrhyw arian yn ffurfiol ers 2019. Dros gyfnod o flynyddoedd lawer, pan fo Tata wedi gwneud cais am gyllid, boed hynny ar gyfer sgiliau, ymchwil a datblygu, neu brosiectau amgylcheddol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol, sy'n cyfateb i fwy na £17.5 miliwn ers 2009, ac mae'n cael ei gydnabod gan y busnes, gan yr undebau llafur dur a Llywodraeth y DU, fel mater o ffaith a synnwyr cyffredin, nad oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau na'r pwerau angenrheidiol a fyddai'n caniatáu iddi ymyrryd ar y raddfa sydd ei hangen ar gyfer y cyfnod pontio angenrheidiol. Ac mae hynny'n fater sylfaenol. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig y pot gwerth £500 miliwn i sicrhau'r cytundeb presennol gyda Tata Steel UK, ond mae'r swm hwn yn cyfateb i ddim ond 2.2 y cant o'r gyllideb flynyddol y gall Gweinidogion Cymru ei dyrannu'n uniongyrchol. Ac ar gyfer cyd-destun, nid yw 2.2 y cant o'r gyllideb flynyddol gyfatebol ar gyfer y DU y gall Gweinidogion alw arni werth hynny; mae'n werth £11 biliwn. Y cyd-destun hwnnw yw popeth.

Felly, o ystyried y rôl uchel ond anghymesur y mae diwydiant dur Cymru yn ei chwarae yn sector ehangach y DU, deallir yn dda, heblaw am sgorio pwyntiau gwleidyddol, fod y DU yn ei chyfanrwydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am yr ased sofran. Dyna pam mae'r etholiad cyffredinol sydd i ddod mor hanfodol i Gymru a'r Deyrnas Unedig. A bydd Llafur yn blaenoriaethu amddiffyn ein diwydiant dur ac ni fydd y Torïaid.   

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Wel, rydyn ni wedi clywed yn y ddadl heno farn gyffredin ar draws y Siambr fod dyfodol hyfyw ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru o fewn y cyfnod pontio hwnnw sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod honno'n neges glir y mae'r Senedd hon yn ei hanfon ar sail drawsbleidiol. Rydyn ni wedi clywed heddiw, yn arbennig, gan David Rees a John Griffiths, ond gan eraill hefyd, am ba mor eithriadol o anodd yw pethau ar hyn o bryd i weithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â'r rhai hynny o fewn cymunedau lleol.

Rwyf eisiau mynd i'r afael â nifer o bwyntiau a wnaed yn y ddadl, yn gryno, wrth gloi. Gwnaeth Sam Kurtz araith, yr oeddwn i o'r farn ei bod yn anarferol, os caf ddweud, o amddiffynnol ac yn gamgynrychioliadol o'r sefyllfa. Nid wyf yn credu bod cynulleidfa ar gyfer ymryson gwleidyddol yn gysylltiedig â sefyllfa lle mae 9,000 a mwy o swyddi mewn perygl, a dylai'r drafodaeth fod yn seiliedig ar ffeithiau, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anghytuno. Felly, er mwyn cywiro'r Cofnod, gadewch imi egluro beth yw'r ymrwymiadau ariannol y mae pob plaid wedi'u gwneud: y £500 miliwn gan y Blaid Geidwadol, nid wyf yn credu ei fod hyd yn oed wedi'i wario hyd yn hyn; yr £80 miliwn, sydd wedi'i glustnodi ar gyfer y bwrdd pontio, nid yw yr un dimai goch o hwnnw wedi'i wario, mewn gwirionedd. Nid yw yr un dimai goch ohono yn helpu yr un gweithiwr. Dyna'r realiti ar lawr gwlad. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo cyllid. Mae gennym gyllidebau o amgylch ReAct a Cymunedau am Waith, sy'n gyfanswm o tua £25 miliwn ar sail Cymru gyfan. Mae ein cyllideb cyfrifon dysgu personol ar draws Cymru gyfan oddeutu £21 miliwn. Rydym wedi ymestyn cymhwysedd y rheini i weithwyr Tata ac yn y gadwyn gyflenwi. Byddan nhw'n gallu hawlio yn erbyn y cyllidebau hynny. Mae'r cyllid hwnnw eisoes yn cael ei wario. Mae'r cyllid hwnnw'n cael ei wario'n weithredol i gefnogi'r gweithlu yn barod. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael y cyd-destun priodol hwnnw ar gyfer y drafodaeth. Ac mae'n sôn am 'amodau ynghlwm'. Os yw'r amodau y mae Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ynghlwm â'r £500 miliwn yn mynd i arwain at golli 9,000 a mwy o swyddi, rwy'n credu bod hynny'n fargen wael. Rwy'n credu bod honno'n fargen wael ac y gallai Llywodraeth well y DU fod wedi taro bargen well.

Fe wnaf ymdrin â'r pwyntiau a wnaeth Luke Fletcher ac Adam Price, mewn ymdrech—ac rwy'n derbyn yr ymdrech ewyllys da—i geisio dewisiadau amgen i'r cynllun. Nid wyf yn gweld sut y gall prynu gorfodol un ased mewn cyfleuster cynhyrchu dur integredig gan gorff nad oes ganddo ddim gallu i reoli'r asedau hynny fod yn rhan o'r ateb. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaeth David Rees yn y ddadl sy'n archwilio hynny yn bwyntiau da, maen nhw'n bwyntiau dilys, maen nhw'n dangos meddwl agored. Ond rwy'n credu bod cwestiynau pwysig iawn ynglŷn â'r cynnig hwnnw. Yn yr un modd, mewn perthynas â gwladoli Tata, nid wyf yn credu bod hynny'n adlewyrchu—

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn sicr.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae pawb yn derbyn bod cwestiynau pwysig i'w hateb. Y broblem yw mai dim ond chi, fel y Llywodraeth, sydd â'r adnoddau i allu darparu'r atebion hynny. Felly, a fyddwch chi'n pleidleisio, a fyddwch chi'n derbyn y gwelliant sy'n cyfeirio at yr opsiwn hwn? Ac a fyddwch chi wedyn yn comisiynu'r gwaith hwnnw gan eich swyddogion, gan weithio gyda'r undebau llafur a'u cynghorwyr? 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur

(Cyfieithwyd)

Mae'n bwysig i'r Llywodraeth ymgysylltu â'r realiti ar lawr gwlad. Ac er bod y pwyntiau y mae Adam Price a Luke Fletcher yn eu gwneud yn gyfraniadau pwysig i'r ddadl, dydw i ddim yn credu eu bod yn adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad yn Tata. Ac rwy'n credu ar hyn o bryd, mae'n bwysig ein bod yn ymgysylltu â hynny.

Mae'n hanfodol bod y cwmni'n gwneud popeth o fewn ei allu i osgoi diswyddiadau gorfodol o fewn gweithlu sydd wedi bod yn arbennig o ffyddlon. Mae'n hanfodol ei fod yn gweithio gyda'r bwrdd pontio i sicrhau bod gweithwyr yn cael y cymorth a'r gefnogaeth i ailsgilio sydd eu hangen arnyn nhw, ac mae'n hanfodol bod y bwrdd pontio'n gweithio'n gyflymach i ddarparu'r cymorth hwnnw. [Torri ar draws.]

Photo of David Rees David Rees Llafur 7:15, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am gymryd yr ymyriad. Ydych chi'n cytuno—rwy'n credu bod Adam Price wedi tynnu sylw at y pwynt—bod angen i ni siarad â Tata, oherwydd mae'r bygythiad y mae Tata yn ei roi ar eu gweithlu yn gwbl annerbyniol? Maen nhw wedi dod i gytundeb, a nawr, oherwydd bod y gweithwyr wedi dod i farn, maen nhw eisiau mynegi eu barn am ba mor wael yw'r fargen, ac maen nhw'n dymuno gweithredu. Gyda llaw, nid gweithredu drwy streicio mohono; gweithio yn ôl y rheolau yn unig yw hwn sef, yn syml, stopio goramser. Felly, nid, mewn gwirionedd, eu bod nhw'n mynd ar streic, ond mae'n rhaid diddymu'r bygythiad o dynnu'r cynnig i'r gweithwyr yn ôl, ac a wnewch chi siarad â Tata i sicrhau eu bod nhw hefyd yn deall bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud, mewn gwirionedd, yn gwneud y sefyllfa'n llawer gwaeth nag y gallai fod?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 7:16, 4 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, ac rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu bod David Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn, iawn. Bu trafodaethau ynghylch telerau cymorth i weithwyr, a chafwyd pecyn gwell, fel y disgrifiwyd ef, ac mae'n bwysig bod hynny'n parhau i fod ar gael i weithwyr fel bod ganddyn nhw'r cymorth gorau sydd ar gael y gall Tata ei ddarparu. Felly, byddwn i yn cymeradwyo'n llwyr y pwynt y mae David Rees wedi'i wneud. 

Yr hyn rydyn ni'n ei weld yw cyflymder y trawsnewid i ddur ffwrnais arc drydan yn cael effaith eisoes heddiw. Mae colli'r gallu y mae technoleg ffwrnais chwyth yn ei ddarparu yn bryder enfawr i'n heconomi ni ac yn ein gwneud yn ddibynnol i bob pwrpas ar fewnforion. Bellach mae gennym benderfyniad i alw etholiad cyffredinol cynnar. Mae hynny'n newid y dirwedd y mae Tata wedi gwneud ei benderfyniad oddi mewn iddi, a byddwn yn eu hannog nhw i beidio â gwneud penderfyniadau na ellir eu gwrthdroi yn erbyn cyd-destun y dirwedd newydd honno, pan fo gennym y posibilrwydd o Lywodraeth newydd gydag ymrwymiad newydd i strategaeth ddiwydiannol, ymrwymiad newydd i seilwaith ynni adnewyddadwy ac ymrwymiad newydd i gynhyrchu dur. Dyna'r realiti newydd, ac rwy'n credu bod angen i Tata fyfyrio ar hynny ac edrych eto ar y penderfyniadau y mae wedi'u gwneud. Bydd gennym wedyn bartner yn gweithio gyda ni fel Llywodraeth Lafur Cymru i amddiffyn cynhyrchu dur yng Nghymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:17, 4 Mehefin 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma, a gweddill y gwelliannau a'r cynnig, tan y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn gwrthwynebu, fe fyddwn ni'n symud nawr i'r cyfnod pleidleisio. Does yna ddim gwrthwynebiad.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.