– Senedd Cymru am ar 22 Mai 2024.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth, a dwi'n galw ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig. Laura Anne Jones.
Cynnig NDM8589 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae’r sector twristiaeth yn ei wneud i Gymru, yn rhoi cyfrif am dros 150,000 o swyddi a 5 y cant o gynnyrch domestig gros.
2. Yn gresynu nad yw sector twristiaeth Cymru wedi adfer o hyd i’r lefelau cyn y pandemig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sector twristiaeth Cymru drwy:
a) rhyddhau twristiaeth Cymru drwy wneud Croeso Cymru yn annibynnol;
b) cael gwared ar y dreth twristiaeth;
c) lleihau’r trothwy deiliadaeth 182 o ddiwrnodau i 105 o ddiwrnodau;
d) cyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwchsgilio’r sector ar gyfer y dyfodol; ac
e) mynd ati i elwa ar ddigwyddiadau mawr.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl hon heddiw lle rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn rhoi ffocws craff ar ddiwydiant sydd mewn trafferth yma yng Nghymru, diwydiant nad yw’n cael ei helpu gan Lywodraeth Lafur Cymru ar hyn o bryd.
Twristiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi yng Nghymru, a dyna mae pwynt 1 ein cynnig yn ei gydnabod. Mae twristiaeth yn digwydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae gwasgariad daearyddol gweithgarwch economaidd a chyflogaeth a gynhyrchir gan dwristiaeth yn un o'i manteision allweddol. Amlygodd ffigurau dros dro ar gyfer 2022 fod 153,500 o bobl yn gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, neu 11 y cant o gyfanswm cyflogaeth cyfartalog Cymru yn 2022.
Cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod sector twristiaeth Cymru yn cyfrannu £2.4 biliwn yn uniongyrchol at gynnyrch domestig gros Cymru, neu oddeutu 5 y cant, ond mae’r sefyllfa'n wahanol iawn bellach. Nid yw’r sector twristiaeth wedi adfer i’r lefelau cyn y pandemig o hyd, fel y mae pwynt 2 ein cynnig yn ei gydnabod. Rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023, fe wnaeth trigolion o bob rhan o Brydain 8.58 miliwn o deithiau dros nos i Gymru. Yn ystod y teithiau hyn hefyd, fe wnaethant wario dros £2 biliwn.
Mae digwyddiadau mawr yn rhan hanfodol o'n twristiaeth. Nid yn unig fod y digwyddiadau eu hunain yn denu twristiaid i Gymru, maent hefyd yn denu mwy o ddigwyddiadau mawr eraill i Gymru. Mae chwaraeon a digwyddiadau mawr eraill yn rheswm arwyddocaol pam fod pobl yn dewis ymweld â Chymru. Ystyriwch Clash at the Castle, y digwyddiad mawr WWE a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, a gyfrannodd dros £2 filiwn i economi Cymru. Denodd y digwyddiad dros 62,000 o bobl i Gaerdydd, sef y gynulleidfa Ewropeaidd fwyaf ar gyfer WWE. Neu ystyriwch, er enghraifft, y 60,000 o bobl a fynychodd gyngerdd Ed Sheeran yn Stadiwm Principality ym mis Mai 2022. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau gwych, ac yn rhoi hwb gwirioneddol i’n heconomi, ond ni ddylem orffwys ar ein bri. Gellir gwneud mwy. Mae angen inni fod yn fwy rhagweithiol fel cenedl. Mae angen cynllun arnom.
Mae gwneud ymdrech i gynnal digwyddiadau mawr ledled Cymru yn hanfodol bwysig gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynnal yn y de ar hyn o bryd. Gellid gwneud hyn, o bosibl, drwy gynnal gemau tîm pêl-droed Cymru ar y Cae Ras yn Wrecsam. Mae angen gwell strategaeth twristiaeth a digwyddiadau mawr sy'n denu ymwelwyr i Gymru. Cyn y pandemig, roedd Cymru'n cael 1 filiwn o ymwelwyr y flwyddyn, tra bo'r Alban yn cael 3.5 miliwn, ac nid yw’r bwlch hwnnw wedi cau. Mae hyn yn dangos bod llawer o waith i’w wneud i sicrhau bod Cymru’n fwy deniadol i dwristiaid rhyngwladol, yn ogystal â sicrhau bod digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal ledled Cymru a fydd yn rhoi hwb i economïau lleol yn ein holl ardaloedd.
Ynghyd â’r manteision economaidd niferus y mae twristiaeth yn eu darparu i Gymru, fe fyddent hefyd wrth gwrs yn arwain at fanteision diwylliannol—ymweliadau â lleoliadau ffilm a theledu Cymru, megis ynys Llanddwyn ac eglwys Llanbadrig yn Ynys Môn, traeth Freshwater West yn sir Benfro, a’r Barri. Mae hyn yn darparu manteision economaidd i gymunedau lleol ac i Gymru, ac mae hefyd yn dangos i gwmnïau ffilmio o bob maint yr ystod eang o leoliadau ffilmio sydd ar gael yn ein gwlad wych. Bydd hyn, yn ei dro, yn annog mwy o gwmnïau i ffilmio yng Nghymru, ac mae'n galluogi Cymru i fanteisio’n llawn ar dwristiaeth ffilm a chyrchfannau ymwelwyr sy’n ymddangos mewn ffilmiau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â sefydliadau marchnata cyrchfannau ac ymgyrchoedd hybu twristiaeth. Mae astudiaethau i dwristiaeth ffilm wedi nodi bod ffilmiau nid yn unig yn dylanwadu ar dwristiaid i ymweld â'r ardal, maent hefyd yn darparu buddion economaidd hirdymor i'r lleoliadau ffilmio o amgylch yr ardaloedd lleol.
Yn anffodus, nid yw’r cyfan yn newydd da ac yn syniadau da i’r sector, gan fod pwynt 3 ein cynnig yn cydnabod mai’r her fwyaf y mae’r diwydiant twristiaeth yn ei hwynebu yw’r ardoll ymwelwyr sydd ar y ffordd, ardoll a elwir hefyd yn dreth dwristiaeth, y gallai ymwelwyr dros nos â Chymru ei hwynebu o 2027. Bydd y polisi hwn yn ei gwneud yn ddrytach i bobl aros dros nos yng Nghymru, ac o bosibl, gallai wneud i bobl feddwl ddwywaith am ddod ar wyliau i'n gwlad, a dewis rhywle arall lle na fydd yn rhaid iddynt dalu’r swm ychwanegol hwnnw. Yn anochel, byddai hyn wedyn yn golygu y byddai busnesau twristiaeth a lletygarwch yn cael eu heffeithio'n sylweddol gan weithrediad y polisi hwn.
Ym mis Chwefror 2024, canfu’r baromedr twristiaeth fod traean o fusnesau twristiaeth wedi cael llai o ymwelwyr yn 2023 o gymharu â 2022. Dywedodd 42 y cant o fusnesau eu bod wedi cael yr un lefel o fusnes, a dim ond 25 y cant a ddywedodd eu bod wedi cael mwy o fusnes. Mae hyn yn barhad o ganfyddiadau haf 2023, a ddangosodd fod nifer yr ymwelwyr yn dal i ostwng. Mae hyn yn dangos nad yw’r sector twristiaeth wedi gallu gwella o’r ergyd sylweddol a gafodd yn sgil y pandemig. O ganlyniad i ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, bu gostyngiad sylweddol hefyd yng ngwariant ymwelwyr rhyngwladol yng Nghymru yn 2022. Gwariodd ymwelwyr rhyngwladol £391 miliwn, i lawr o £515 miliwn yn 2019. Mae hyn yn ergyd sylweddol i economi Cymru, ac mae’n effeithio ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch unigol.
Nid yw cysylltiadau trafnidiaeth Cymru yn ddigon effeithlon ychwaith. Cafodd y Pwyllgor Materion Cymreig wybod gan yr Unol Daleithiau fod cysylltiadau trafnidiaeth gwael i lefydd fel Eryri a sir Benfro yn atal ymwelwyr rhag dod i Gymru. Mae’r rhain yn faterion difrifol nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando arnynt.
Dywedodd dros 30 y cant o’r busnesau a arolygwyd fel rhan o faromedr twristiaeth mai’r rheswm pam eu bod yn pryderu am fusnesau eleni oedd polisïau Llywodraeth Cymru. Un o bolisïau cyntaf Llywodraeth Cymru a gafodd effaith negyddol sylweddol ar y sector twristiaeth oedd cynyddu’r trothwy deiliadaeth o 70 diwrnod i 182 diwrnod. I lawer o fusnesau hunanddarpar, roedd y cynnydd i 182 diwrnod yn llawer rhy uchel iddynt ei gyrraedd. Dywedodd Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU fod y targed hwn bron yn amhosibl, gan adael perchnogion mewn perygl o wynebu premiymau'r dreth gyngor o 300 y cant.
Rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig wedi galw’n barhaus am gynyddu’r trothwy deiliadaeth i 105 diwrnod, sydd hefyd yn unol â’r ffigurau yr oedd y mwyafrif helaeth o fusnesau yn eu cefnogi. Mae gennym gynllun ar gyfer sectorau twristiaeth Cymru, gan ein bod yn cydnabod bod cannoedd o filoedd o swyddi’n dibynnu ar y sector twristiaeth, ac eto mae Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o ymosod ar y sector yn lle ei helpu i ymadfer. Yn hytrach, mae’r Ceidwadwyr Cymreig am gefnogi’r diwydiant i annog ymwelwyr i Gymru, gan ddefnyddio digwyddiadau mawr a ffilm i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd.
Byddai strategaeth dwristiaeth amgen y Ceidwadwyr Cymreig yn rhyddhau twristiaeth Cymru drwy wneud Croeso Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Nid yw system bresennol Croeso Cymru yn gweithio i Gymru ac mae’n ei chael hi'n anodd denu pobl i Gymru. Byddem yn gwneud Croeso Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a fyddai'n ei roi ar sail debyg i'r sefydliadau ymwelwyr eraill ac yn galluogi dull mwy cydweithredol rhwng Croeso Cymru, VisitBritain a VisitScotland, a fydd wedyn o fudd i Gymru ac yn sicrhau bod Cymru'n cael ei hyrwyddo'n well i dwristiaid rhyngwladol.
Byddwn yn creu pasys ymwelwyr rhanbarthol i atyniadau lleol er mwyn hybu economïau lleol. Cyn COVID-19, roedd pás mynediad a oedd yn gadael i bobl ymweld â gwahanol gyrchfannau twristiaeth ledled Cymru, megis ogofâu Dan-yr-Ogof, ffefryn gan deuluoedd. Cafodd y pás hwn ei ddiddymu yn ystod y pandemig, ac nid yw wedi'i ailgyflwyno. Fel rhan o’n strategaeth dwristiaeth amgen, byddai’r pasys ymwelwyr hyn yn cael eu hailgyflwyno, a phás ymwelwyr i’r Cymoedd yn cael ei greu a fyddai'n galluogi mwy o bobl i brofi diwylliant y Cymoedd a rhannau eraill o Gymru. Bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o helpu’r busnesau twristiaeth i adfer ar ôl y pandemig a’r argyfwng costau byw.
Er ei bod yn amlwg fod gennym ni ar y meinciau hyn gynllun a syniadau i gefnogi’r sector twristiaeth, nid oes gan y Llywodraeth gyferbyn â ni unrhyw beth i’w gynnig heblaw geiriau gwag a pholisïau difeddwl. Rwy'n annog pawb yn y Siambr hon heddiw i gefnogi ein cynnig a rhoi eu cefnogaeth i’n diwydiant.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol y sector twristiaeth yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw sector twristiaeth Cymru, hyd yma, wedi cyrraedd ei lefelau cyn y pandemig.
3. Yn nodi cymorth Llywodraeth Cymru i’r sector a’r ymrwymiad i gydweithio â’r sector ac awdurdodau lleol er mwyn:
a) cyflwyno ardoll ymwelwyr os byddant yn dewis gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad;
b) cynnal y pwerau disgresiynol a’r canllawiau ar y dreth gyngor ac ail gartrefi;
c) ystyried academi ar gyfer twristiaeth a lletygarwch er mwyn gwella sgiliau o fewn y sector ar gyfer y dyfodol; a
d) mynd ati mewn modd rhagweithiol i elwa i’r eithaf ar ddigwyddiadau mawr.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliannau 2, 3, a 4, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. A wyddoch chi, nid ydym yn anghytuno o gwbl ynghylch pwysigrwydd y sector twristiaeth, ac mae elfennau o'r cynnig hwn y credaf y gallem eu cefnogi neu y credaf y gellid eu hesbonio neu eu harchwilio ymhellach, fel gwneud Croeso Cymru yn annibynnol—mae cryn ddiddordeb gennym mewn deall sut y gallai hynny weithio; yr academi twristiaeth a lletygarwch—unwaith eto, mae diddordeb mawr gennym yn y ffordd y gallai hynny weithio. Gwyddom fod yna brinder yn y gweithlu.
Ond lle credaf ei fod yn anghywir yw lle rydym wedi awgrymu gwelliannau, gan fod pob un ohonom yn awyddus i weld y sector twristiaeth yn ffynnu, ond yn amlwg, mae gwahaniaethau yn y ffordd o gyrraedd y fan honno. Nawr, y gair pwysig i mi mewn dadl am dwristiaeth yw 'cynaliadwyedd'. Heb amheuaeth, mae angen iddo fod yn air ag iddo'r un statws â 'ffyniannus', gan mai yno y mae'r budd economaidd. Wyddoch chi, y gwir amdani yw nad yw'r ffordd rydym yn gwneud twristiaeth ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Cymunedau sy’n drefi anghyfannedd mewn tymhorau tawel, lle nad oes unrhyw un yn byw mewn gwirionedd ac sydd wedi dod yn ddim byd mwy na chyrchfan haf, gyda gwasanaethau lleol wedi'u hymestyn ar adeg pan fo cyllid llywodraeth leol yn cael ei dorri—mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o ymdrin â hyn yn y pen draw.
Nawr, yn gyffredinol, rwy'n cefnogi'r dreth dwristiaeth, ond mae pethau y byddwn yn edrych amdanynt wrth iddi gael ei chyflwyno i'r Senedd. Yn gyntaf, y gost. Credaf fod angen sicrhau cydbwysedd yma, oherwydd os yw’r gost yn rhy uchel, byddwn yn tueddu i fod yn weddol gefnogol i'r hyn a ddywedwyd eisoes—nid y byddai hynny’n anochel, cofiwch. Cyn hyn, mae’r ffordd y mae’r ardoll wedi’i defnyddio yn Fenis wedi’i chrybwyll fel ffurf negyddol ar yr ardoll dwristiaeth. Ni chredaf fod hyn mor syml â chyfeirio at Fenis yn y ffordd honno. Nawr, nid wyf yn gwybod pwy yn y Siambr hon sydd wedi bod yn Fenis; nid wyf i wedi bod, ond rwy'n gobeithio mynd. Yr un peth a glywais gan bobl yw ei bod yn anghredadwy o brysur yno; mae'n swnio fel fy fersiwn i o hunllef. Ond mae'r ardoll yno rhwng €1 a €5 ar gyfer aros dros nos, yn dibynnu ar rai ffactorau. Ac wrth gwrs, mae gennych y ffi ar gyfer ymwelwyr dydd yn cael ei threialu, sef €5. Nawr, nid yw hynny'n fy rhwystro; nid yw wedi rhwystro'r holl bobl hynny rhag mynd i Fenis. Yr hyn y mae'n ei wneud, fodd bynnag, yw darparu refeniw ychwanegol i'r ardal leol i gynnal atyniadau—[Torri ar draws.]—i gynnal strydoedd ac i gynnal gwasanaethau. Gareth.
Diolch, Luke. Ni chredaf fod cymharu Fenis a Chymru yn gymhariaeth deg o reidrwydd. Yn amlwg, gyda'r hinsawdd wahanol—
Pam ddim?
Wel, fe egluraf pam: oherwydd, yn syml iawn—[Torri ar draws.]—hinsawdd a'r tywydd—[Torri ar draws.]—oherwydd llawer o—
Gadewch i’r Aelod wneud ei ymyriad.
Am fod llawer o'r cymariaethau a wneir yn wledydd egsotig, poeth, sy'n denu pobl o'r hinsawdd hon i deithio yno a gwario arian. Ond yr her sydd gennym ni yw'r tywydd, gan ei fod yn eithaf anrhagweladwy ac yn wahanol ar draws gwahanol ardaloedd o Gymru. Felly, mae gennym hynny i gystadlu ag ef, yn ychwanegol at y problemau hynny.
Rwy'n credu bod hwnnw'n ymyriad go anffodus, yn difrïo Cymru; nid yw'n credu y gall Cymru gystadlu ar lefel ryngwladol. Mae nifer o resymau pam fod pobl yn dod i Gymru, onid oes? Rwy'n mynd i ogledd Cymru yn rheolaidd, gorllewin Cymru i fynd i gerdded, ni waeth beth fo'r tywydd—[Torri ar draws.]—wrth gwrs. Mae ardaloedd eraill yn Ewrop—unwaith eto, edrychwn ar Barcelona. Yn un o gyfarfodydd cyfeillion Catalwnia a gawsom yma yn y Senedd, gofynnodd Cefin Campbell am eu hardoll dwristiaeth a beth oedd pobl yn ei ddweud pan gafodd ei chynnig gyntaf. Wel, roedd rhai pleidiau yn dweud yr un pethau ag y mae'r Ceidwadwyr yn eu dweud heddiw, 'Ni fydd pobl yn dod; fe fydd yn dinistrio'r sector twristiaeth.' Wel, roedd hynny yn ôl yn 2012. Ble mae Barcelona heddiw? Mae'n wythfed yn y byd am y profiadau gorau i ymwelwyr â dinasoedd. Cafodd 9.2 miliwn o ymwelwyr yn 2023, i fyny o’r flwyddyn flaenorol, ac unwaith eto, carwn ofyn y cwestiwn: a oes unrhyw un yn cael eu rhwystro gan yr ardoll dwristiaeth yn Barcelona? Darren.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar ichi am wneud hynny. Rwy'n credu mai'r broblem fawr a'r her fawr sydd gennym yw ein bod yn gwybod mai'r math mwyaf proffidiol o dwristiaeth yw'r twristiaid sy'n aros dros nos ac maent yn gwario mwy yn ein heconomi. Yr hyn rydych chi'n ceisio ei wneud yw trethu'r twristiaid sydd am ddod i aros dros nos, ac a fydd yn gwario mwy; bydd hyn yn rhoi llai o arian iddynt ei wario yn ein heconomi.
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw bod rhannau helaeth o Gymru yn cystadlu â rhannau eraill o'r DU sydd heb ardoll dwristiaeth na threth dwristiaeth, felly mae gan lawer o bobl sy'n dod ar wyliau i ogledd Cymru ddewis a ydynt am ddod i Eryri, a ydynt am ddod i rannau o ogledd Cymru neu fynd i fyny'r arfordir a draw i Ardal y Llynnoedd. Os oes problem gyda sensitifrwydd pris—ac mae yna i lawer o deuluoedd; fe wyddom hynny yn sgil yr heriau costau byw—bydd pobl yn mynd i rywle arall. Bydd hynny'n ddrwg i'r economi, yn ddrwg i swyddi ac yn ddrwg i deuluoedd yng Nghymru. Onid ydych chi'n derbyn hynny?
Wel, dyma pam, er enghraifft, fy mod wedi siarad am yr angen i'r tâl fod ar y lefel gywir, iawn? Rydych chi'n dweud nad oes ardoll dwristiaeth yng ngweddill y DU. Byddwn i'n dweud bod hynny'n wir tan y pwynt lle mae llefydd fel Cernyw, er enghraifft, sy'n sôn am hynny nawr—. Rwy'n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud bod Manceinion yn ei ystyried. Unwaith eto—[Torri ar draws.] Yn union. Felly, mae'r enghraifft a ddefnyddioch chi'n annheg, oherwydd rydym yn mynd i weld ardoll dwristiaeth yn cael ei chyflwyno ar draws gweddill y DU, mae'n ymddangos, mewn llefydd fel Cernyw a Manceinion.
Nawr, ar y pwynt ynghylch trethu pethau, yr ail bwynt y credaf ei fod yn eithaf pwysig yma yw lle mae'r arian a godir yn mynd mewn gwirionedd. Nawr, rwyf wedi dweud yn gyson fy mod yn credu y dylid neilltuo'r arian a godir ar gyfer gwasanaethau sy'n gwella bywydau twristiaid, ie, ond hefyd yn gwella bywydau pobl leol—felly, gwell trafnidiaeth gyhoeddus. Wyddoch chi, fe wnaethoch chi sôn fod y cysylltiadau trafnidiaeth i gyrraedd yr Wyddfa yn wael iawn; wel, dyma un ffordd o ariannu gwell cysylltiadau trafnidiaeth a chynnal a chadw'r strydoedd yn well ac yn y blaen.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod ardoll dwristiaeth, os caiff ei chymeradwyo, yn rhywbeth a fyddai flynyddoedd i ffwrdd o gael ei gweithredu, felly rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod yna faterion mwy dybryd i ni eu trafod os ydym o ddifrif ynglŷn â helpu'r sector twristiaeth yn ei gyfanrwydd. Felly, prisiau nwyddau i ddechrau. Ydy, mae chwyddiant i lawr, ond nid yw hynny'n golygu bod prisiau o reidrwydd yn gostwng. Mae TAW yn rhywbeth y mae'r sector wedi tynnu sylw ato sawl gwaith fel problem ac ardrethi busnes. Nawr, pe bai Llywodraeth Cymru am wneud pethau'n haws i'r sector twristiaeth, byddwn i'n dweud mai adfer rhyddhad ardrethi busnes i'w lefel flaenorol fyddai hynny, neu'n well byth, y llwybr i'w ddilyn fyddai gweithio i amrywio'r lluosydd a defnyddio hyn fel ffordd o dynnu pwysau oddi ar y sector lletygarwch, er enghraifft.
Felly, Ddirprwy Lywydd, mae rhai pethau y gallwn gytuno arnynt gyda'r cynnig gwreiddiol, ond credaf fod yn rhaid inni ystyried o ddifrif sut rydym yn gwneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir. Hyd yn hyn, nid wyf wedi gweld unrhyw awgrymiadau amgen y byddwn yn eu cefnogi i'r hyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, felly rwy'n gobeithio y gellir cefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Diolch yn fawr.
Wel, mae'r sector twristiaeth yn sylfaenol bwysig i economi Cymru, ac mae'r hyn y mae'n ei gynnig yn cyfrannu'n enfawr at bwyntiau gwerthu unigryw Cymru, ac o'r herwydd, fe ddylid gweld ei werth, dylid ei gefnogi a dylid buddsoddi ynddo, ond yn anffodus nid yw'r diwydiant yn teimlo hyn ar hyn o bryd. Cyn i'r pandemig daro, amcangyfrifid bod y sector twristiaeth yn cyfrannu hyd at £2.4 biliwn yn uniongyrchol—tua 5 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru—ac yn cynnal dros 150,000 o swyddi. Dylem ddathlu a hyrwyddo popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, ond heb ddiwydiant twristiaeth bywiog a'r cyfan y mae'n ei gynrychioli, rhaid inni gofio na allwn wneud hynny na medi buddion economaidd popeth sydd gennym i'w gynnig. Daw pobl i ymweld â'n cefn gwlad hardd, profi ein diwylliant, ein hiaith, ein bwydydd a'n diodydd gwych, ond hefyd, fel y dywed Laura, ein lleoliadau ffilm eiconig—unwaith eto, agwedd ragorol arall ar yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, un sy'n hyrwyddo Cymru i'r byd ehangach a chynulleidfa iau, efallai. Fodd bynnag, wedi dweud hyn, mae'r sector yma yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau diweddar Llafur. Rwy'n gwybod am rai busnesau lletygarwch a thwristiaeth yn fy etholaeth sydd ond ychydig filltiroedd oddi wrth fusnesau sy'n cystadlu â nhw yn Lloegr ond sy'n teimlo eu bod dan anfantais fawr o gymharu â busnesau tebyg dros y ffin, ac mae hynny'n ymestyn yr holl ffordd i fyny'r ffin yng Nghymru. Mae busnesau'n wynebu'r dreth dwristiaeth sydd ar y ffordd, costau gwastraff ychwanegol, yr ardrethi busnes uchaf yn y DU, a llai o gymorth ardrethi annomestig Mae'r rhain i gyd yn achosi pryder gwirioneddol i gynifer o fusnesau sydd eisoes yn gweld pethau'n anodd iawn ar hyn o bryd.
Ac os nad yw hyn yn ddigon, mae llawer o fusnesau hunanddarpar yn ystyried cau—rwyf wedi cael dau neu dri llythyr i'r perwyl hwn—oherwydd y trothwy deiliadaeth o 182 diwrnod, disgwyliad afrealistig i lawer o fusnesau. A dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ffigurau deiliadaeth i 105 diwrnod, sy'n fwy realistig.
Peter, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch. Cefais fy nghalonogi, mewn gwirionedd, wrth glywed AS Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, yn siarad am y lefel ddeiliadaeth o 182 noson gan ddweud ei fod yn mynd yn rhy bell gan effeithio ar fusnesau dilys sy'n llety gwyliau â dodrefn. A fyddech chi'n cytuno gydag asesiad yr AS Plaid Cymru?
Yn llwyr. Mae cymaint o fusnesau. Efallai y bydd rhai'n cyflawni'r 182, ond mae'r mwyafrif helaeth yn ei chael hi'n anodd iawn. Wrth gwrs, os na allant elwa mwyach o gydnabyddiaeth fusnes, maent yn wynebu cyfraddau'r dreth gyngor sydd deirgwaith yn uwch, sy'n eu gwthio allan o fusnes. Mae'n broffwydoliaeth sy'n gwireddu ei hun o wthio busnesau twristiaeth allan o fusnes. Felly, yn amlwg, mae'r sector twristiaeth angen ystod o ddarpariaethau llety da er mwyn ffynnu, oherwydd, hebddynt, yn amlwg, mae llai o dwristiaid yn cael cyfle i archwilio ein gwlad hardd a'r cyfan sydd ganddi i'w gynnig. Ond yn anffodus, bydd agenda bolisi bresennol Llywodraeth Cymru yn arwain at fethiant cynyddol lleoliadau twristiaeth.
A gadewch inni fod yn glir, ni fydd y polisïau hyn yn galluogi llawer o leoliadau hunanddarpar gwag i ddod yn ôl yn breswylfeydd lleol os nad ydynt bellach yn hyfyw ar gyfer twristiaeth. Yn ôl Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU, mae busnesau'n amcangyfrif mai dim ond 5 y cant o fusnesau sy'n ystyried mai preswylydd lleol a fyddai'n fwyaf tebygol o brynu eu heiddo. Mewn gwirionedd, mae 39 y cant o fusnesau o'r farn mai perchennog ail gartref a fyddai'n fwyaf tebygol o brynu eu heiddo, ac mae 37 y cant yn credu mai gweithredwr llety gwyliau arall a fyddai'n ei brynu.
Felly, beth y gellir ei wneud? I ddechrau, mae angen i Lywodraeth Cymru asesu'r rheol 182 diwrnod a rhoi'r gorau i'r dreth dwristiaeth arfaethedig. A Luke, fe ddywedaf wrthych lle bydd yr arian yn mynd. Fel arweinydd llywodraeth leol yn y gorffennol, rwy'n gwybod beth fydd yn digwydd. Bydd y cyllidebau datblygu economaidd presennol yn cael eu lleihau a byddant yn cael eu hôl-lenwi â'r ardoll hon, a bydd arian sy'n cael ei ddargyfeirio o'r swyddogaethau datblygu economaidd yn mynd i gefnogi gofal cymdeithasol ac iechyd. Dyna beth fydd yn digwydd, yn sicr. Ac mae angen inni gymryd camau hefyd i gyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwchsgilio'r sector ar gyfer y dyfodol a gwneud y gorau o'r cynnydd mewn ymwybyddiaeth y mae Cymru'n ei weld.
Yn olaf, mae angen inni sicrhau bod unrhyw bolisïau a wneir yma yng Nghymru yn canolbwyntio ar wella'r sector twristiaeth, nid ei ecsbloetio. Mae gan ein gwlad brydferth gyfle i gynnig cymaint i ymwelwyr ar draws y byd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau ei thrin yn gydnaws â hynny. Diolch.
Dwi’n gobeithio fedrwn ni i gyd gytuno fan hyn. Roeddwn i yn siomedig efo cyfraniad Gareth Davies oedd yn awgrymu nad ydym ni i fod yn falch o hyrwyddo Cymru, nad yw pobl eisiau dod i Gymru. Roeddwn i'n disgwyl iddo fo wneud—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Heledd?
Gaf i orffen fy mhwynt yn gyntaf? Wedyn mi wnaf i gymryd. Na, dwi ddim yn ei gymryd o—dwi eisiau gorffen fy mhwynt.
Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n mynd i grybwyll y cysylltiad rhwng Fenis a Rhyl. Dwi'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r holl myths oedd o gwmpas y Little Venice exhibition oedd o dan Queen's Market yn Rhyl. Felly, dwi'n meddwl bod yna bethau y dylen ni fod yn ymfalchïo ynddyn nhw, rhai o’r hanesion hyn, a'u hyrwyddo’n well. Ac mi wnaf i gymryd yr intervention.
Rwy'n falch eich bod chi'n gwybod am Little Venice, oherwydd mae'n stori wych. Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw peidio â difrïo Cymru, fel rydych chi'n ei wneud; dylem ddweud yn hytrach, 'Wel, mae'n rhaid inni wneud rhywbeth yn wahanol', oherwydd mae'r cymariaethau rydych chi'n eu gwneud yn gymariaethau uniongyrchol â gwledydd poeth. Mae Luke yn sôn am Barcelona hefyd. Beth yw tymheredd cyfartalog Barcelona? Gryn dipyn yn uwch mae'n debyg—nid 'mae'n debyg'—fe wyddom ei fod yn sylweddol uwch na thymheredd Cymru a Phrydain yn wir, felly nid yw'n gymhariaeth deg wrth sôn am bethau fel treth dwristiaeth, oherwydd nid yw'n un deg i'w gwneud.
Nid wyf yn cytuno â'ch ymresymiad. Rwy'n credu eich bod wedi methu'r pwynt yma. Rwy'n meddwl eich bod chi'n difrïo Cymru oherwydd rwy'n credu bod gennym bethau sy'n denu pobl. Mae pobl sy'n dod i Gymru wedi eu syfrdanu gan gyfoeth yr hyn sydd gennym i'w gynnig. Felly, nid wyf yn derbyn eich dadl o gwbl.
Lle dwi yn gobeithio y medrwn ni gytuno ydy bod yna fwy y gallwn ni fod ei wneud i gefnogi'r sector twristiaeth a hefyd i hybu'r sector twristiaeth, a dwi yn meddwl bod Llywodraeth Cymru angen perchnogi hwn yn fwy fel pwnc a'n bod ni efallai'n colli cyfleoedd economaidd. Yr hyn dwi'n meddwl yn aml ydy—. Mi wnes i dreulio cyfnod hir yn byw yn Iwerddon, ac rydych chi'n gwybod pa mor wych ydy Iwerddon am hyrwyddo a chael pobl o ledled y byd i ymweld. Yn amlwg, mae hi'n stori wahanol. Ond, yn aml, dwi'n crwydro Cymru, llefydd fel Caernarfon, ac rydych chi'n meddwl, pe byddai fan hyn yn Iwerddon, mi fyddai pobl yn heidio yma, mi fyddai yna fusnesu lu. Mae yno'n barod fusnesau annibynnol gwych, ond mi fyddai fo'n lle oedd yn ffynnu yn economaidd. Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi cweit gallu sicrhau ein bod ni'n cael yr ymwelwyr fyddai'n gallu rhoi'r fantais economaidd i ni.
Dwi'n meddwl hefyd nad ydyn ni'n gwneud digon o ran iaith a diwylliant Cymru o ran y sector twristiaeth. Dwi'n meddwl byddai pobl yn hoffi dod yma a chlywed y Gymraeg fel iaith fyw. Dwi'n meddwl ein bod ni weithiau'n edrych ar bethau fel Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol fel pethau ar gyfer Cymry Cymraeg—efallai rhai o'r Cymry yn yr ardal—ond ddim yn meddwl am y manteision rhyngwladol, oherwydd os ydych chi wedi ymweld efo'r eisteddfodau hyn a gweld ymwelwyr rhyngwladol, maen nhw wedi eu rhyfeddu gan yr hyn sydd wedi'u cynnig yna, a dwi'n meddwl y dylen ni fod yn eu hyrwyddo nhw gymaint yn fwy. Mae yna dueddiad, yn anffodus, i roi'r pwyslais ar Ŵyl y Gelli yn hytrach na'r gwyliau Cymraeg, a dwi'n meddwl bod yna fanteision lu. Mi fyddai Tafwyl yn brofiad anhygoel i bobl, ac mi fyddai Gŵyl Fach y Fro, ac ati.
Mae'n rhaid inni hefyd edrych ar y toriadau ehangach. Mi oeddwn i'n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gynharach heddiw yn sôn am Opera Cenedlaethol Cymru a pha mor bwysig ydy hwnnw fel sefydliad o ran hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol. Wel, mae gennym ni hefyd gasgliadau cenedlaethol gwych, os ydyn ni'n edrych ar effaith economaidd pethau fel ein hamgueddfeydd cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ati. Dwi'n meddwl bod rhaid inni edrych ar yr holl ystod o sefydliadau sydd gennym ni. Yn amlwg, mae yna lawer o drafodaethau wedi bod yn ddiweddar pan oedd yna sôn am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cau eu drysau, er enghraifft. Rydyn ni wedi clywed am y toriadau lu pe byddai'n rhaid lleihau'r oriau o ran rhai o'n hamgueddfeydd cenedlaethol ni. Pam nad ydyn ni'n edrych ar yr holl gyllidebau diwylliant hefyd yng nghyd-destun twristiaeth? Mae'r rhain yn swyddi allweddol.
Mae gennym ni gyfoeth o bethau i'w hyrwyddo. Dwi'n meddwl bod treftadaeth ddiwylliannol—. Os edrychwch chi ar safleoedd treftadaeth y byd—mae'r un mwyaf diweddar sydd gennym ni yn Llanberis, er enghraifft—mae yna straeon gwych gennym ni i'w dweud, straeon sydd yn berthnasol yn rhyngwladol. Felly, yr hyn dwi'n gobeithio'i weld drwy gael y ddadl yma a chyfrannu ati hi heddiw ydy ein bod ni'n gweld ymrwymiad gan y Llywodraeth i ailedrych ar y strategaeth twristiaeth, sicrhau bod y Gymraeg a'n gwyliau cenedlaethol a diwylliannol ni yn rhan fwy blaenllaw o hynny, a'n bod ni o'r diwedd yn uno ac yn hybu Cymru a'r cyfoeth sydd gennym ni yn ei gyfanrwydd.
Gadewch inni ddechrau drwy edrych ar gwmpas a graddfa twristiaeth yng Nghymru fel y gallwn ddeall pa mor bwysig yw hi i'n diwylliant, ein heconomi a'n diwydiant. Mae tua un o bob naw o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y sector hwn, gyda dros 75 y cant o'r rheini sy'n gweithio mewn busnes lletygarwch yn cefnogi eu cymunedau a'u heconomïau lleol. Mae'n amlwg fod cysylltiad annatod rhwng y ddau sector a helpu i gyfrannu £2.5 biliwn i gynnyrch domestig gros Cymru ei hun.
Fodd bynnag, mae polisïau Llywodraeth Cymru a gwaddol y cytundeb cydweithio diweddaraf yn wir, wedi bod yn niweidiol iawn ac mae'n dal i gael effaith niweidiol ar y diwydiant hwn. Ar adeg pan fo hwn yn sector sydd angen cefnogaeth a chymorth anhygoel, mae'n ymddangos bod Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn benderfynol o gyflwyno rheolau a rheoliadau sy'n mygu twristiaeth Cymru a'i gallu i ffynnu, yn hytrach na chefnogi'r sector i gynyddu'r nifer a gyflogir i fwy na 172,000 o bobl a chodi ei werth i'r economi i fwy na £6.5 biliwn bob blwyddyn. Gadewch inni edrych ar ble y gellir cyfiawnhau beio'r cytundeb cydweithio a Llafur a Phlaid Cymru yma: y rheol 182 diwrnod ar gyfer llety hunanddarpar; cynllun cofrestru; cynllun trwyddedu; treth dwristiaeth; nifer y diwrnodau y gall gwersylloedd dros dro fod yn weithredol—28 yma, 60 dros y ffin; ac yn bwysicaf oll, er bod busnesau'n wynebu pwysau gwirioneddol wrth adfer ar ôl COVID, torri'r rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i fusnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Nid yw'n syndod fy mod yn cael dwsinau o e-byst yn dweud, 'Beth ar y ddaear y mae Plaid Cymru yn ei wneud, a Llafur Cymru, yn y cytundeb hwn?' Rwy'n cael negeseuon e-bost o'ch etholaeth, Heledd, yn dweud bod yr hyn a wnewch i'ch diwydiant twristiaeth eich hunain yn frawychus.
Nawr, mae hyn wedi cloffi diwydiant sydd wedi bod yn dioddef ers blynyddoedd. Er gwaethaf enghreifftiau diddiwedd a phwyslais ar y rôl hanfodol y mae busnesau bach yn ei chwarae yn y sector hwn, mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn parhau yn eu penderfyniad i leihau rhyddhad ardrethi busnes bron i hanner. Gadewch inni beidio ag anghofio ychwaith fod yr arian i barhau'r cynllun wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru, fel bob amser, yn meddwl eu bod yn gwybod yn well.
Dangosodd ffigurau brawychus y llynedd fod Cymru wedi colli mwy nag un dafarn yr wythnos yn 2023, gyda 63 yn cau eu drysau. Mae hyn yn fwy na dwbl y gostyngiad o 0.9 y cant yn nifer y tafarndai yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod. Amcangyfrifir bod cau'r rhain wedi costio tua 770 o swyddi, sy'n peri pryder mawr pan ystyriwn fod y rhan fwyaf o'r swyddi hyn yn ein hardaloedd gwledig anghysbell, lle mae'n gallu bod yn amhosibl dod o hyd i waith. Yn ehangach, dros y chwe blynedd diwethaf, mae Cymru wedi colli 272 o dafarndai ac er gwaethaf y sefyllfa enbyd hon, mae'r rhagolygon yn mynd yn fwyfwy tywyll. Dywedodd Kate Nicholls, llais uchel ei barch yn UKHospitality, y prif swyddog gweithredol, ein bod ni
'Eisoes yn gweld cyfradd methiant 10 y cant yn uwch yng Nghymru'.
Nid yw hynny'n ddim byd i fod yn falch ohono fel Llywodraeth. Ond gyda chymorth ardrethi busnes yn cael ei dorri i lai na hanner yr hyn ydoedd, ni fydd hynny ond yn cyflymu'r cau.
Mae Plaid Cymru a Llafur yn anwybyddu'r effaith ar ôl COVID ar ein busnesau twristiaeth. Edrychwch ar y costau ynni uwch, costau bwyd—er bod yn rhaid imi ddweud fy mod i'n falch iawn o glywed cyhoeddiad Llywodraeth Geidwadol y DU heddiw fod chwyddiant bellach wedi gostwng, yn union fel y dywedodd ein Prif Weinidog y byddai'n gweithio'n galed i'w wneud, ac mae wedi llwyddo. Ar adeg pan oedd busnesau'n chwilio am gymorth gan Lywodraeth Cymru, roeddent yn gweithio gyda Phlaid Cymru i gyfyngu ar letygarwch a thwristiaeth Cymru. Mae hyn yn esgeulustod difrifol. Mae'r diwydiant yn galw, yn erfyn, am gymorth, a beth wnewch chi? Rydych chi'n eu taro â—. O, rydych chi wedi ei newid nawr. Nid ydynt yn hoffi'r geiriau, 'treth dwristiaeth'; 'ardoll ymwelwyr' yw hi nawr. Beth bynnag y byddwch yn ei galw, mae'n dreth erchyll ar ein diwydiant twristiaeth, syniad dibwrpas arall yn y cytundeb cydweithio hurt. Syniad arall o'r ochr arall. Treth arall i bawb ohonom ei thalu. A oes unrhyw ben draw i'r trachwant sosialaidd a chenedlaetholgar hwn?
Yn ôl arolwg gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, dywedodd 70 y cant o ymwelwyr y byddent yn ystyried mynd ar wyliau i wlad arall nawr pe bai treth yn cael ei chyflwyno. Ai dyma sydd ei angen ar ein heconomi nawr? Mae Aberconwy yn dibynnu ar dwristiaeth mewn ffordd y mae llawer—
Janet, mae angen ichi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—yn methu ei ddeall. Mae'n anadl einioes iddi. Ac rwy'n falch o bob un o'r busnesau lletygarwch preifat a'r manwerthwyr gweithgar—maent yn gweithio'n llawer caletach na rhai o'r Gweinidogion hyn yma.
Janet, mae angen ichi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Ar adeg pan nad oedd y sector angen dim byd mwy na chymorth a sylw, mae'n ymddangos bod yr ideolegwyr yn meddwl bod angen ysgwyd y system gyfan. Gadewch inni ostwng y trothwy deiliadaeth o 182 diwrnod, cael gwared ar y dreth dwristiaeth a chaniatáu i'r sector anadlu ac ymadfer.
Diolch, Janet.
Rwy'n falch iawn fod y cytundeb cydweithio bellach yn hanes ac y cewch eich cofio am hyn.
Ers blynyddoedd, mae twristiaeth wedi bod yn gonglfaen i economi Cymru. Does dim dwywaith ei bod yn dod â biliynau o bunnoedd i’n heconomi ni, yn creu swyddi ac yn cyflwyno harddwch ein mynyddoedd trawiadol, ein harfordiroedd gogoneddus a’n trefi marchnad unigryw i’r byd. Ac yn ganolog i’r llwyddiant bob tro—bob tro—o Fôn i Fynwy, yw'r croeso cynnes Cymreig rŷn ni'n estyn fel pobl yng Nghymru i bawb. A does neb yn dadlau pwysigrwydd twristiaeth, ond mae'n rhaid iddi fod yn deg i'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan leflau uchel o dwrisiaeth ac mae'n rhaid iddi fod yn gynaliadwy.
Nawr, fel Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mae'n anodd osgoi pwysigrwydd y diwydiant creiddiol hwn i’r ardal, ac, mewn cyfarfod diweddar gyda'r gynghrair twristiaeth, fe welais i beth oedd gwerth economaidd enfawr hyn: dros £200 miliwn y flwyddyn i economi Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, £110 miliwn i Breseli Penfro, a £186 miliwn i Ddwyfor Meirionnydd, i nodi dim ond rhai. Felly, mae’r gwerth hyn i’w weld yn glir yn ein busnesau lletygarwch, ein caffis, tafarndai ac atyniadau arbennig, gan sicrhau swyddi mewn ardaloedd lle gall gwaith fod yn brin. I’r perwyl hwnnw, rwy’n croesawu’n fawr y ddadl hon y prynhawn yma, sy’n cydnabod pwysigrwydd twristiaeth, ac, yn wir, fel mae Luke Fletcher wedi dweud yn barod, mae yna elfennau o’r cynnig hwn rwy'n eu cefnogi, yn enwedig yr angen dirfawr am gyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwch-sgilio’r sector ar gyfer y dyfodol, sydd wedi bod yn rhan o faniffesto Plaid Cymru ers blynyddoedd. Fodd bynnag, rhaid hefyd cydnabod yr heriau sy’n dod yn sgîl y llif o dwristiaid yn ystod y tymhorau prysuraf.
Gyda thwristiaeth dda daw cyfrifoldeb mawr. Felly, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r golygfeydd cyfarwydd yn ystod y tymor brig: y ciwio diddiwedd am hunlun ar yr Wyddfa, y parcio anystyriol ar hyd Pen-y-Pass yn Eryri a Storey Arms ym Mannau Brycheiniog, a'r ymchwydd ym mhoblogaeth ein trefi arfordirol i lefel sydd dair, bedair ac yn aml bum gwaith eu maint arferol yn ystod misoedd yr haf. Y gwir amdani yw bod twristiaeth yn rhy aml yn rhoi straen enfawr ar ein seilwaith lleol: mwy o ddefnydd o doiledau cyhoeddus, cynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed, mwy o sbwriel, galw trymach am wasanaethau iechyd ac achub a gwarchod ein harddwch naturiol. Nawr, mae hyn yn galw am ofal a sylw cyson, ond mae'n costio, a hyn i gyd ar adeg pan fo'r pwysau cyllidebol ar ein hawdurdodau lleol ar lefelau digynsail.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Onid ydych chi'n sylweddoli pa mor ynysig y mae hynny'n swnio? Yn y pen draw, dylech fod yn croesawu twristiaid ac ymwelwyr i Gymru. Mae gennym gymaint i ymfalchïo yn ei gylch, harddwch y wlad fendigedig hon. Dylech fod eisiau gwerthu hynny, nid ar draws y DU yn unig ond ledled y byd.
Janet, nid wyf yn gwybod a wnaethoch chi fethu fy mhwyntiau wrth eu cyfieithu ar y dechrau neu nad oeddech chi'n gwrando, ond yr hyn a ddywedais oedd ein bod yn falch o fod yn gyrchfan i dwristiaid. Rydym yn credu bod twristiaeth yn hynod bwysig i Gymru, ac rydym yn croesawu pobl ac eisiau i bobl ddod i Gymru, ond rydym am gael cydbwysedd rhwng y dwristiaeth honno a'r effaith y mae'n ei chael ar gymunedau lleol a'r gost i awdurdodau lleol o gynnal twristiaeth.
Felly, mae Plaid Cymru wedi cefnogi ardoll dwristiaeth ers amser maith, a fydd yn helpu i greu ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd rhwng—
Cefin. Cefin.
Mae'n ddrwg gennyf.
Hoffwn glywed cyfraniad yr Aelod, felly gofynnaf i bobl gadw'n dawel i ganiatáu iddo gwblhau ei gyfraniad.
Felly, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn hynod o falch o gefnogi gweithrediad ardoll dwristiaeth, sydd—
Cefin, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n siŵr eich bod yn cyfarfod â llawer o fusnesau, fel y gwnaf innau, ar draws y rhanbarth, sy'n bryderus iawn am yr ardoll ymwelwyr a sicrhau, pan ddaw'r dreth honno i rym, os daw, y bydd yn cael ei hailddefnyddio a'i rhoi'n ôl i'r busnesau twristiaeth hynny fel y gallant ddatblygu—blydi pryfyn; cer o 'ma—er mwyn iddynt allu datblygu'r diwydiant. Felly, dyna rywbeth y dylai Plaid Cymru alw amdano, am ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn ein sector twristiaeth i sicrhau bod ganddynt fusnesau ffyniannus yn y dyfodol.
James, rwy'n cytuno, ac fel rhan o'r cytundeb cydweithio, rwyf wedi dadlau'r pwynt y dylid rhoi'r arian a godir yn ôl yng nghynnig twristiaeth yr awdurdodau lleol a gwneud y profiad o dwristiaeth yn well i'r rhai sy'n ymweld â Chymru—cytuno'n llwyr 100 y cant â hynny.
Felly, mae angen cyfrifoldeb ar y cyd arnom rhwng croesawu ymwelwyr a thrigolion lleol sy'n byw yno flwyddyn ar ôl blwyddyn, i ddiogelu a buddsoddi yn ein cymunedau lleol ac fel y dywedais, James, i wella'r cynnig twristiaeth. Ond rydym wedi clywed y dadleuon difrïol a gyflwynwyd gymaint o weithiau o feinciau'r wrthblaid fod treth dwristiaeth rywsut, ac fe'i clywsom eisoes heddiw, yn wrth-Seisnig ac y byddai'n annog pobl rhag ymweld ac y byddai Cymru—[Torri ar draws.] Na, rwy'n golygu annog pobl rhag ymweld; rwyf wedi clywed cymaint o weithiau y byddai Cymru'n dioddef o ganlyniad ac y byddai'n tanseilio economi Cymru. Fe'i clywsom gymaint o weithiau dros y misoedd diwethaf, felly—[Torri ar draws.] Fe dynnaf yn ôl yr un sy'n dweud 'heddiw', ond rydym wedi ei glywed gymaint o weithiau dros y misoedd diwethaf nes ei fod yn dod yn rhan o'ch rhethreg. Ni allai unrhyw beth fod ymhellach o'r gwir. Edrychwch o gwmpas y byd: Croatia, Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Ffrainc, yr Eidal, Sbaen a'r Caribî, i enwi rhai yn unig. Y gwir amdani yw bod ardollau twristiaeth yn gyffredin yn Ewrop a thu hwnt. Nid ydynt wedi cloffi twristiaeth yn unrhyw un o'r gwledydd hyn. Yn hytrach, maent wedi grymuso cyrchfannau i gynnig profiad gwell i ymwelwyr. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i ddangos bod treth dwristiaeth yn cael effaith niweidiol ar y diwydiant twristiaeth.
Hyd yn oed dros Glawdd Offa yn Lloegr, yn Dorset a Manceinion, er enghraifft, mae ardollau twristiaeth yn cael eu trafod a'u defnyddio fwyfwy, fel y clywsom eisoes, yng Nghernyw ac yn Ardal y Llynnoedd. Cododd treth dwristiaeth Manceinion £2.8 miliwn ar ôl y flwyddyn gyntaf yn unig, ac mae wedi cael ei ailfuddsoddi yn y ddinas, gan gynnwys ar gyfer glanhau strydoedd ac ymgyrchoedd marchnata. Nid yw hyn yn wrth-Seisnig, nac yn wir yn wrth-dwristiaeth; mae'r cyfan yn ymwneud â sicrhau ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd—
Cefin, rwyf wedi bod yn eithaf hyblyg. Mae angen ichi ddod i ben nawr.
Mae'n ddrwg gennyf, iawn, fe wnaf orffen, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Felly, nid yw'n faich ychwanegol ar dwristiaeth, mae'n rhywbeth y credwn ei fod yn deg ac y bydd yn arwain at hwb economaidd cynyddol i Gymru wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heno. Un o'r pethau rwyf wrth fy modd yn ei wneud pan fyddaf allan, i ffwrdd o Gymru, yw siarad am ba mor wych yw Cymru i ymweld â hi, gan annog mwy o dwristiaid i ddod i'r wlad wych hon i ymweld â'n hatyniadau a'n cyrchfannau a'n lleoliadau ledled y wlad, gyda'n treftadaeth unigryw a'n tirweddau anhygoel. Dyna pam mae twristiaeth yn rhan enfawr o'n heconomi yng Nghymru, dros 5 y cant o'n cynnyrch domestig gros, am ei fod yn lle mor anhygoel i ymweld ag ef. Nid yw'n rhywbeth y dylem droi ein cefnau arno neu fod yn nerfus yn ei gylch wrth annog pobl i ddod i ymweld a mwynhau eu hamser yma yng Nghymru. Os caf ddefnyddio geiriau Cefin Campbell, gyda thwristiaeth wych daw cyfle gwych, sef yr hyn y dylem fod yn gwneud y mwyaf ohono a bachu'r cyfle sydd o'n blaenau.
Yr hyn sy'n fy mhoeni i yw'r syniad drwy'r amser o wthio pobl i ffwrdd o Gymru ac i ffwrdd o'r swyddi y mae'n eu creu drwy dwristiaeth. Dylem fod yn ei wneud ac yn ei annog mewn ffordd gyfrifol, rwy'n deall yr hyn y mae'r Aelodau'n ceisio ei ddweud am hynny, ond mae'r ffordd y caiff ei gyfleu weithiau i'w weld yn annog pobl rhag ymweld â Chymru, ac yn enwedig yn ystod yr wythnos hon, sef Wythnos Twristiaeth Cymru wrth gwrs, yr wythnos yn y flwyddyn y dylem fod yn dathlu'r busnesau hyn ac yn dathlu'r gwaith y maent yn ei wneud yn ein cymunedau.
Nawr, rwy'n credu bod sector twristiaeth ffyniannus, yn enwedig i wlad fel ein gwlad ni, gwlad gymharol fach ar y llwyfan byd-eang, yn arwydd gwych o hyder cenedlaethol ac atyniad ledled y byd. Cododd Janet Finch-Saunders y mater yn gywir ddigon ynglŷn â sut y gwnaeth y pandemig gymaint o effaith ar y sector yn ystod y cyfnod hwnnw: cafodd bywoliaeth pobl ei ddinistrio a chaewyd busnesau'n barhaol a dyna oedd y realiti llwm i'r busnesau hynny, ac maent yn dal i orfod dod i delerau â hynny. Yr hyn yr oedd ei angen ac sydd ei angen o hyd yn fy marn i, yw dull sensitif o weithredu ar ran Lywodraeth Cymru. Mae'n galw am Lywodraeth a fyddai'n gwneud popeth yn ei gallu i helpu i adeiladu'r sector twristiaeth yn ôl gyda mwy o swyddi a mwy o arian yn llifo i economi Cymru, ac o ganlyniad, yn lleihau tlodi yn ein cymunedau. Yn anffodus, nid dyna a welwn gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn gweld gwaith busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cael ei wneud hyd yn oed yn anos drwy'r cynnydd mympwyol yn y trothwy deiliadaeth ar gyfer eiddo i 182 diwrnod, a'r dreth dwristiaeth gosbol yr ydym eisoes wedi'i grybwyll yn y ddadl hon yma heno. Rwy'n ei hystyried hi'n ffordd ryfedd o drin diwydiant, sector, sy'n cynnal un o bob naw swydd, fel y clywsom, ac un o bob saith swydd yn fy rhanbarth i. Mae'n ffordd ryfedd o drin un o'r diwydiannau pwysicaf sydd gennym yn y wlad. Ni fyddai diwydiannau eraill o faint a phwysigrwydd o'r fath yn cael eu trin fel hyn ar draws yr economi. Mae'n gonglfaen i'n heconomi ac mae'n haeddu cael ei drin felly.
Ac fe glywsom eto heno, ac fe wnaf ailadrodd, mai'r busnesau llety gwyliau sydd bellach yn gorfod talu mwy byth o dreth, yw'r rhai sy'n cynhyrchu refeniw yn ein cymunedau, ac sy'n croesawu pobl i wario arian yn y tafarndai, bwytai ac atyniadau. Byddai eu gwthio allan o fusnes yn niweidio'r cymunedau sy'n dibynnu cymaint arnynt. Yn aml, yn llawer o'n hardaloedd gwledig, mae'r chwistrelliadau hyn o arian parod mor bwysig.
Rwyf am wneud sylw hefyd ar y dreth dwristiaeth, yr ymddengys mai ei nod yn fy marn i yw gwthio ymwelwyr i ffwrdd. Rydym yn dal i ddisgwyl am asesiad terfynol o'r hyn y bydd y dreth yn ei gynnwys, sy'n rhoi'r sector twristiaeth mewn limbo cwbl ddiangen a hwythau'n ceisio cynllunio ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Rwy'n credu mai'r pwyntiau y ceisiwn eu gwneud ar y meinciau hyn yw bod marchnad 'gwyliau gartref' gystadleuol ar draws y DU, ac mae rhoi costau pellach ar bris aros yng Nghymru yn ei gwneud yn llai cystadleuol ac yn llai o atyniad fel cyrchfan twristiaeth. Mae'n anfon neges ddigroeso i ymwelwyr sydd eisiau dod i Gymru.
Felly, fel rhan greiddiol o'n heconomi, mae twristiaeth angen yr holl gymorth y gall ei gael, ac nid yw'n cael hynny gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Rwy'n sicr yn cefnogi ein cynnig yma heddiw, sy'n dweud ein bod am wneud Croeso Cymru yn sefydliad annibynnol, yn unol â sefydliadau eraill o strwythur tebyg ar draws y Deyrnas Unedig. Yr wythnos hon roeddwn i'n siarad â chynrychiolwyr busnesau twristiaeth yng ngogledd Cymru a ddywedodd,
'Nid oes cyfeiriad strategol na chynllun cydlynol i'r fframwaith presennol yng Nghymru, ac mae'n ddiffygiol wrth feithrin cysylltiadau ystyrlon.'
Daeth hynny gan rywun sydd wedi ymrwymo i lwyddiant twristiaeth yng ngogledd Cymru a thu hwnt, a chaiff y farn hon ei hadlewyrchu'n llawer ehangach ar draws y sector. Felly, hoffwn annog pob Aelod ar draws y Siambr i bleidleisio dros gynnig y Ceidwadwyr sydd ger ein bron yma heno.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Aelodau am gyfrannu at y ddadl heddiw. Gadewch i mi ddechrau drwy ailddatgan ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth i dwristiaeth ac i'r economi ymwelwyr ehangach.
Ein huchelgais ni fel Llywodraeth yw tyfu twristiaeth er lles Cymru: twristiaeth sy'n diwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, ond hefyd yr amgylchedd, ac wrth gwrs ein cymunedau lleol—yr union fath o dwristiaeth sydd mor boblogaidd. Rwyf hefyd yn gweld twristiaeth trwy lygaid ein gweledigaeth economaidd ehangach. Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae'n rhaid i ni geisio tyfu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy, sy'n creu mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n talu'n dda a lefelau uwch o ffyniant, ac mae cyfraniad twristiaeth i Gymru yn un sylweddol iawn.
Gwariodd ymwelwyr yng Nghymru £4.7 biliwn yn 2022. Roedd £2.4 biliwn ohono ar ymweliadau dydd, £1.9 biliwn ar deithiau domestig dros nos, a bron i £0.5 biliwn gan ymwelwyr i Gymru. Mae ffigurau arolwg teithwyr rhyngwladol 2023, a gafodd eu rhyddhau wythnos diwethaf, yn dangos, er bod ymweliadau a gwariant yng Nghymru yn is na lefelau 2019, fod gwelliant cryf yn erbyn 2022. Dydyn ni ddim yn cuddio rhag y ffaith bod heriau i'r diwydiant, ond rydyn ni yma i weithio gyda nhw.
Yn wyneb pryderon lleol a byd eang ynghylch gor-dwristiaeth a'r argyfwng hinsawdd, rydyn ni'n wynebu heriau parhaus ar ôl y pandemig i'r diwydiant, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, pwysau ynghylch ynni a chwyddiant, a phrinder recriwtio.
Ond mae ein diwydiant twristiaeth yn aeddfed ac yn brofiadol, ac mae ganddo'r gallu i dyfu o hyd. Mae ein diwydiant yn dweud wrthym fod yn rhaid i dwf gynnal a pheidio â bygwth y pethau sydd bwysicaf i ni ac yn wir, i dwristiaid, ac mae angen inni weithio gyda'n gilydd mewn ffordd sy'n cefnogi'r cryfderau sy'n dod â phobl yma yn y lle cyntaf: ein tirweddau, ein treftadaeth, ein diwylliant a'n pobl. Rwy'n gresynu at y ffordd y clywsom rai siaradwyr ar feinciau'r Ceidwadwyr yn cymharu Cymru'n anffafriol â chyrchfannau twristaidd eraill mewn rhannau eraill o'r byd. Dylem fod yn falch o'n cynnig i ymwelwyr. Dylem fod yn falch o'n cymunedau sy'n denu pobl o bob cwr o'r byd i fwynhau hynny ochr yn ochr â ni.
Ac yn ein strategaeth 'Croeso i Gymru', gallwn weld pedair colofn twf economaidd, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a buddiannau llesiant ac iechyd, a byddwn yn canolbwyntio ar weledigaeth gynaliadwy ar gyfer twristiaeth. Yn sylfaenol, mae'n ymwneud ag archwilio sut y gallwn ddatblygu'r cynnig pob tywydd, gydol y flwyddyn, cynyddu amser aros gyda gwerth dros gyfaint, a lledaenu'r budd daearyddol i ffwrdd o ardaloedd problemus i gyrchfannau llai adnabyddus hefyd. Ac rydym yn bwrw ymlaen â pholisïau arloesol, gyda'r nod o gefnogi twristiaeth yng ngoleuni'r heriau sy'n ein hwynebu—y cyffyrddwyd â rhai ohonynt yn y ddadl hon. Rydym wedi ymrwymo i—[Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Fe'ch clywais yn sôn am ardaloedd problemus, ac rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n sôn am hynny. Fe wyddoch fod y Mwmbwls, yn fy rhanbarth i, yn un o'r mannau problemus hynny lle mae'n teimlo fel pe bai Abertawe gyfan yn disgyn ar y Mwmbwls a thu hwnt, ac mae hynny'n beth da—mae croeso mawr iddynt. Tybed beth mae'r dreth dwristiaeth yn mynd i'w wneud i gyfyngu ar yr ymddygiad hwnnw yn y dyfodol oherwydd, yn eithaf aml, mae'r bobl sy'n ymweld â'r Mwmbwls yn dod am ddiwrnod ac yn dychwelyd, felly oni fyddech yn derbyn na fyddai treth dwristiaeth o fudd i ardal fel y Mwmbwls?
Wel, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Fe af i'r afael â hynny'n benodol mewn munud.
Rydym wedi ymrwymo i weithredu i gefnogi ein cymunedau ac i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys yr ardoll dwristiaeth a'r rheol 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau. Rydym wedi gofyn am farn ac wedi ymgysylltu'n helaeth â'r diwydiant twristiaeth, gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ar yr union gynigion hynny ar gyfer ardoll ymwelwyr. Credwn ei bod yn deg ac yn rhesymol inni ofyn i ymwelwyr wneud cyfraniad cymedrol, fel y maent yn ei wneud mewn sawl rhan o'r byd, tuag at gostau ehangach twristiaeth, gan gynnwys helpu i ddiogelu ein cymunedau ar gyfer dyfodol twristiaeth. [Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch am dderbyn ymyriad, Weinidog. O ran yr ymgysylltiad â'r sector ynghylch yr ardoll ymwelwyr, roeddwn i'n meddwl tybed pa sgyrsiau a gawsoch ynglŷn ag eithriadau priodol ar gyfer pethau fel carafanau teithiol, a charafanau statig hefyd, oherwydd maent yn rhan mor sylweddol o'n cynnig twristiaeth yma yng Nghymru.
Y pwynt wrth ymgysylltu â'r sector yw clywed y pryderon y mae'r sector yn eu dwyn i'n sylw, ac rydym wedi cael trafodaethau adeiladol, gan gynnwys ar rai o'r materion y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, ond gwirionedd y mater yw mai'r ffordd orau o ddiogelu a chefnogi ein cymunedau, i gefnogi'r math o dwristiaeth rydym am ei weld yn y dyfodol, yw gofyn i ymwelwyr wneud yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn gyfraniad cymedrol iawn i gostau twristiaeth.
A phrif nod rhai o'r newidiadau eraill a gyflwynwyd gennym i'r meini prawf gosod ar gyfer eiddo hunanddarpar, y clywsom lawer amdanynt yn y ddadl heddiw, yw sicrhau unwaith eto fod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg, a hefyd i wneud y defnydd gorau o'r eiddo hwnnw, a fydd o fudd i gymunedau lleol, gan gynnwys yn sgil deiliadaeth gynyddol o osod llety tymor byr, neu ryddhau rhai eiddo i'w gwerthu neu eu gosod ar rent fel cartrefi parhaol i bobl leol, gan greu'r cymunedau cynaliadwy y gwyddom eu bod yn cyfrannu at sector twristiaeth ffyniannus. Ni ellir edrych ar dwristiaeth ar ei ben ei hun, ac nid ydym yn gwneud hynny; caiff ei weld ochr yn ochr â meysydd polisi eraill, megis yr amgylchedd, tai, polisi iaith Gymraeg, ac mae cael twristiaeth yn y canol yn y Llywodraeth, ochr yn ochr â meysydd polisi eraill, yn gryfder.
Mae Croeso Cymru yn cefnogi twristiaeth mewn ffordd bwysig iawn, gan gydweithio, ymgysylltu â'r diwydiant, gydag awdurdodau lleol, gyda'n cymunedau, ac mae hynny'n hanfodol. Rydym ni ein hunain yn cefnogi'r diwydiant trwy weithgareddau marchnata a hyrwyddo, trwy weithgareddau graddio, trwy ddatblygu sgiliau ar draws y diwydiant, a thrwy ein rhaglen buddsoddi cyfalaf. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd ar academi sgiliau lletygarwch, y soniodd Cefin Campbell amdani yn ei gyfraniad, a fydd yn cefnogi'r union weledigaeth honno o hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr yn y sector. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda o gydweithredu cryf rhwng addysg bellach ac addysg uwch a mentrau preifat yng Nghymru.
Rydym yn gweithio'n agos o fewn y Llywodraeth gyda Digwyddiadau Cymru i sicrhau dull cydgysylltiedig ledled Cymru. Clywsom am bwysigrwydd digwyddiadau mawr yn y drafodaeth heddiw. Mae gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny'n hollbwysig, ac mae'n rhaid imi ddweud, er gwaethaf popeth y mae'r Blaid Geidwadol wedi bod yn ei ddweud o blaid hynny heddiw, beth yn eu barn nhw fyddai'r effaith ar ddigwyddiadau mawr yn sgil eu polisi nhw o gau maes awyr cenedlaethol Cymru, er enghraifft?
Ddirprwy Lywydd, os caf droi at y cynnig, ni allwn gytuno â'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, ac mae'r Llywodraeth wedi cynnig gwelliant yr anogaf yr Aelodau i'w gefnogi. [Torri ar draws.]
I gloi, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod gan Gymru gynnig aruthrol i ymwelwyr. Rwy'n angerddol am y sector, nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd i'n heconomi—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yr Aelod ar y fainc flaen hefyd yn angerddol, yn ôl ei ebychiadau o'i sedd. Rwy'n angerddol am y sector, Ddirprwy Lywydd, nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd i'n heconomi, ond hefyd oherwydd y ffordd y mae'n codi ymwybyddiaeth o Gymru o fewn y DU ac yn rhyngwladol, fel y gall pobl eraill ddod i ymweld â'r wlad a garwn gymaint ein hunain.
Galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Rwy'n credu bod llawer o'r rhai sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma wedi siarad i ddyrchafu'r sector twristiaeth yng Nghymru ac amlinellu sut mae'r sector twristiaeth yn cyfrannu at wneud Cymru'n lle gwell. Nawr, cyfrannodd sawl un—Janet Finch-Saunders er enghraifft—i ddweud bod un o bob naw gweithiwr yng Nghymru yn rhan o'r sector twristiaeth neu'n gysylltiedig â'r sector, ac fel y dywedodd Laura, mae 11 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio hefyd yn gysylltiedig â'r sector. Roeddwn i'n arbennig o awyddus i wrando ar gyfraniad Laura Anne Jones a chyfraniad Peter Fox ar y manteision y gall twristiaeth ffilm eu gwneud i Gymru, oherwydd nid yw'n gost ychwanegol i ni, ond gallwn wneud yn llawer gwell, rwy'n credu, i fanteisio ar fuddion twristiaeth o'r sector ffilmiau.
Fe amlinellodd Laura Anne Jones ac eraill y prynhawn yma gynllun y Ceidwadwyr ar gyfer twristiaeth, ac fe af drwy rai o'r pwyntiau hynny nawr. Cael gwared ar y dreth dwristiaeth oedd ar frig ein rhestr wrth gwrs. Mae'r dreth dwristiaeth yn wirioneddol—. Mae arnaf ofn fod dim ond siarad am dreth dwristiaeth hyd yn oed eisoes yn cael canlyniadau negyddol i Gymru a'r diwydiant twristiaeth. Nawr, rwy'n clywed beth mae eraill wedi ei ddweud. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedodd Luke Fletcher. Ond fe wnaeth Gareth Davies a Darren Millar ymyriad ar Luke ar y pwynt hwnnw, a'r ffaith amdani yw—ac fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet sylwadau ar hyn hefyd—mae Fenis a Barcelona yn llefydd gwahanol iawn i Gymru. Nid yw dweud hynny'n difrïo Cymru; mae'n dweud bod ganddynt gynnig gwahanol iawn. Ond diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn hynny o beth, a gobeithio y bydd Luke Fletcher yn llwyddo i ymweld â Fenis, rywbryd yn ddiweddarach yr haf hwn efallai—ar ôl 4 Gorffennaf, mae'n siŵr.
Ond hefyd mae gwneud Croeso Cymru'n annibynnol yn bwynt a wnaeth Sam Rowlands y prynhawn yma. Roedd Sam yn tynnu sylw at y ffaith mai dyna'r sylwadau a gafodd gan y diwydiant, a sut y byddai'r diwydiant yn croesawu'r pwynt hwnnw. Roedd cyflwyno academi twristiaeth a lletygarwch i uwchsgilio'r sector a manteisio'n rhagweithiol ar ddigwyddiadau mawr hefyd yn bwynt y gwn fod Aelodau eraill wedi'i wneud y prynhawn yma.
Ond un o brif rannau ein dadl heddiw yw sut mae'r Llywodraeth Lafur yma nid yn unig yn methu cefnogi'r sector twristiaeth drwy eu polisi, ond sut maent hefyd yn mynd ati i gyflwyno polisïau sy'n rhwystro'r diwydiant twristiaeth rhag ffynnu ledled Cymru. Ac fe soniaf am y trothwy deiliadaeth 182 diwrnod y mae nifer wedi sôn amdano, ac a grybwyllwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet hefyd. Nid ydym wedi dweud y dylid ei ddileu. Nid yw'r diwydiant wedi dweud y dylid ei ddileu. Yr hyn a ddywedwn ni, a'r hyn y mae'r diwydiant yn ei ddweud, yw y dylai'r trothwy fod yn 105 diwrnod, sy'n haws ei gyrraedd i lawer o fusnesau, sy'n fusnesau dilys.
Rwyf wedi sôn am hyn, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn y Siambr y prynhawn yma ar gyfer y ddadl, ond rwyf wedi pledio arnoch i edrych ar hyn eto, a'r eithriadau hefyd, oherwydd ar hyn o bryd, mae yna lawer o fusnesau na allant gyrraedd y trothwy 182 diwrnod. Ac nid yw'n briodol cael y trothwy ar gyfer Cymru gyfan, dull cyffredinol ar gyfer Cymru gyfan, lle mae'n rhaid i bob busnes ledled Cymru gyrraedd y trothwy hwnnw, gan fod y tymor gwyliau'n wahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru. Yng Nghaerdydd, lle mae digwyddiadau mawr, gallai fod yn haws cyrraedd neu ragori ar y trothwy hwnnw. Mewn rhai ardaloedd ar yr arfordir, efallai y gallwch gyrraedd neu ragori ar y trothwy, ond ni fyddwch yn gallu gwneud hynny mewn rhannau eraill o Gymru, fel fy etholaeth i.
Pan soniais am hyn wrth Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet dros y 12 mis diwethaf, mae'n rhwystredig mai eu hateb yw, 'Wel, os na allwch gyrraedd y trothwy 182 diwrnod, nid ydych yn fusnes dilys.' Mae hynny mor amharchus i fusnesau dilys sydd o ddifrif yn gweithredu ac yn gwneud popeth yn eu gallu i wneud bywoliaeth. Mae'r farchnad wyliau yn wahanol iawn ar draws gwahanol rannau o'r sector.
Mae angen archwilio'r eithriadau hefyd. Mae'r Llywodraeth wedi annog ffermwyr, yn gywir ddigon, i arallgyfeirio, ac mae llawer wedi gwneud hynny. Maent wedi adeiladu llety hunanddarpar ar eu heiddo, ac erbyn hyn maent yn ddarostyngedig i'r ffigur mympwyol o 182 diwrnod, na allant ei gyrraedd mewn rhai rhannau o Gymru. Ni all yr eiddo fynd i mewn i'r farchnad dai, am fod y cyfleustodau wedi'u cysylltu, maent yn rhan o'r fferm. Mae yna eithriadau a chyfyngiadau cynllunio. Dyna pam mae angen i'r Llywodraeth gyflwyno eithriadau, a sicrhau hefyd fod y gyfradd deiliadaeth 182 diwrnod yn cael ei gostwng i lefel synhwyrol.
Mae eraill wedi cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Cefin Campbell, roeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedoch chi heddiw—yn eich datganiad 90 eiliad yn gynharach. Gadewch inni groesawu pobl o bob cwr o Gymru i Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ym Maldwyn yr wythnos nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at fynychu fel Aelod Senedd yr etholaeth. Mae'r Eisteddfod yn mynd i fod yn hwb enfawr i'r canolbarth wrth gwrs. Ond nid wyf eisiau i bobl o rannau eraill o Gymru orfod talu i ddod i mewn i sir Drefaldwyn. Nid wyf eisiau hynny. Mae'n fudd enfawr i ni yr wythnos nesaf—. Mae pryfyn yn hedfan o fy nghwmpas, Ddirprwy Lywydd.
No flies on you, Russell. [Chwerthin.]
Ond nid wyf eisiau i bobl o bob rhan o Gymru orfod talu treth dwristiaeth i ddod i ymweld ag eisteddfodau yn sir Drefaldwyn yn y dyfodol. A dyna'r pwynt yr oeddwn yn ei ystyried fel—. Mae'n glanio arnaf nawr, y pryfyn. Nid wyf am iddi fod felly.
A gaf i ddweud wrth yr Aelodau y prynhawn yma fy mod yn diolch iddynt am eu cyfraniadau? Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein cynnig heddiw, ond yn anffodus, rwy'n amheus y bydd meinciau'r Llywodraeth yn gwneud hynny. Ond hoffwn ofyn ichi edrych ar yr eithriadau eto, gwrandewch ar y diwydiant mewn perthynas â gostwng y trothwy 182 diwrnod i 105 diwrnod. Mae hwnnw'n gynnig synhwyrol a gyflwynwyd nid yn unig gennym ni ond gan y diwydiant hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar hynny. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Roedd James Evans eisiau gwneud datganiad byr.
Wrth roi swaden i'r pryfyn gythgam hwnnw yn gynharach, fe ddywedais air anseneddol. Hoffwn gywiro'r cofnod ac ymddiheuro.
Nodwyd.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.