– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 22 Mai 2024.
Eitem 6 yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil addysg wleidyddol. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8580 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil addysg wleidyddol.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn cael addysg benodol yn ymwneud â gwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru;
b) ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a choleg sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu dinesig ym mhroses ddemocrataidd Cymru; ac
c) sicrhau bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo'n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a phwrpas a phroses bwrw eu pleidlais.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, mae'n gyfnod o ddiwygio etholiadol. Rŷn ni newydd basio darn hanesyddol o ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod y Senedd, o'r diwedd, yn ffit i bwrpas ac yn gwasanaethu pobl Cymru yn well. Mae Cymru wedi dangos ei bod yn medru arwain y gad o ran democratiaeth. Ni fydd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i symud yn gyfan gwbl at ddefnyddio dull cyfrannol i ethol Aelodau i’n Senedd, ac rŷn ni eisoes, wrth gwrs, wedi sicrhau pleidleisiau i bobl ifanc 16 a 17 oed mewn etholiadau Cymreig.
Ond mae creu'r systemau a'r strwythurau i sicrhau democratiaeth effeithiol dim ond yn un rhan o'r broses o ddiwygio, achos, yn ystod yr holl ddadleuon rŷn ni wedi'u cynnal ar unrhyw agwedd o ddiwygio etholiadol, mae un mater allweddol, a'r hyn mae'n ei gynrychioli, yn cadw i godi ei ben: turnout. Os ŷn ni'n credu mewn sicrhau y ddemocratiaeth orau i Gymru, allwn ni ddim eistedd nôl a derbyn bod y nifer o bobl sy'n pleidleisio i ddewis eu cynrychiolwyr yn y Senedd hon yn gyson llai na hanner cyfanswm etholwyr Cymru. Rhaid i ni gymryd camau i newid hynny, a dyna sydd wedi fy nghymell i gyflwyno'r cynnig hwn ger eich bron chi heddiw, yn un modd o geisio gwneud hynny.
Dyw'r alwad am well addysg wleidyddol ddim yn un newydd. Bu deiseb yn galw am hyn yn y bumed Senedd. Mae'r Senedd Ieuenctid flaenorol wedi trafod a mynegi pryder ar y mater, ac mae adroddiadau ac ymchwil lu wedi canfod bod diffyg ymwybyddiaeth o a diffyg cyfleon gan bobl ifanc i ddysgu am wleidyddiaeth. Ac mae hyn yn eu hatal nhw rhag cael llais yn hynt eu cenedl. Fe wnes i fy hunan gyflwyno dadl fer ar y pwnc ddwy flynedd yn ôl. Ond er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth ac eraill, dyw'r broblem heb ei datrys. Felly, dwi'n teimlo ei bod hi'n hen bryd, yn amserol ac yn hanfodol yn wir nawr i'r Llywodraeth weithredu ar hyn, ac addysg yw'r ffordd fwyaf effeithiol i wneud hynny.
Mae'r hyn mae fy nghynnig eisiau ei gyflawni, wrth gwrs, ymhlyg yn fframwaith y cwricwlwm newydd i Gymru, a dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn tanlinellu hynny wrth ymateb i'r ddadl. Mae hyn yn sicr yn gam ymlaen o'r drefn flaenorol a oedd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr archwilio gwleidyddiaeth drwy'r fagloriaeth Gymreig ac addysg bersonol a chymdeithasol—cynnig cyfleoedd, nid yn sicrhau hynny, na chysondeb ychwaith o ran yr hyn oedd yn cael ei gynnig ymhob ysgol. Rwy'n croesawu felly fod dysgu am ddinasyddiaeth a systemau llywodraethu yn elfen ym maes dysgu a phrofiad mandadol y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd. Ond mae angen mynd ymhellach, achos mae'r broblem, fel gyda chymaint o bolisïau’r Llywodraeth, yn gorwedd yn y bwlch gweithredu.
Allwn ni ddim anwybyddu'r galwadau sy'n cael eu gwneud gan bobl ifanc eu hunain, yn ogystal ag argymhellion adroddiadau, fel un y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sydd yn canfod bod angen i ddarpariaeth addysg wleidyddol fod yn fwy cyson a chyflawn i alluogi ein dinasyddion i ddeall y ffordd y mae syniadau polisi, ideoleg a systemau llywodraethu yn creu'r gymdeithas a'r byd maen nhw’n rhan ohonyn nhw.
Felly, un peth hoffwn ei weld yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn cael ei gwella i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu’n benodol ar gyfer addysg wleidyddol. Mae modd cynnig eglurder ar feysydd profiad a dysgu presennol y Ddeddf, wrth gwrs, drwy newid y cod datganiadau o'r hyn sy’n bwysig neu'r canllawiau statudol, drwy reoliadau, fel a ddigwyddodd ym Mehefin y llynedd, wrth gwrs, yn achos hanes Cymru a'i lle yn y byd. Nod Bil addysg wleidyddol, felly, fyddai sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cymryd camau o'r fath.
Gallai'r camau hyn gynnwys gwneud addysg wleidyddol benodol yn gysyniad allweddol o fewn maes dysgu a phrofiad y dyniaethau—yn ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig. Gallai hefyd gael ei wneud yn eglur yn y canllawiau statudol pa bethau yn union y dylai dysgwyr gael y cyfle i'w dysgu a sut. Neu, wrth gwrs, gallai addysg wleidyddol gael ei gwneud yn elfen fandadol o'r cwricwlwm ar wyneb y Ddeddf, fel y mae addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg.
Byddai Bil hefyd yn creu cyfle i fynd i'r afael â'r diffyg hyder ymhlith addysgwyr o ran cyflwyno addysg wleidyddol, gan nad yw mwyafrif helaeth ein haddysgwyr, wrth gwrs, wedi derbyn unrhyw addysg wleidyddol eu hunain. Gallai'r Bil hefyd sicrhau bod dysgwyr yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth drwy'r cwricwlwm ôl 16, ac yn wir i bobl o bob oed, drwy addysg gymunedol ac yn y gweithle.
Felly, nid y cwricwlwm yn unig yw'r unig fodd o gyflwyno addysg wleidyddol. Mewn ymateb i'm dadl fer, fe soniodd y Cwnsler Cyffredinol am y buddsoddiad drwy'r grant ymgysylltu â democratiaeth mewn prosiectau fel y Politics Project, er enghraifft, sydd ar waith mewn nifer o'n lleoliadau addysg. Ond mae prosiectau fel hyn, er yn effeithiol wrth ymgrymuso rhai grwpiau o bobl ifanc, yn dipyn o loteri cod post yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Ac mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig, fe nododd y Gweinidog addysg blaenorol fod y Politics Project yn gobeithio ymgysylltu â 4,000 o bobl ifanc. Rhaid cofio bod bron i 470,000 o ddysgwyr yn ein hysgolion.
Doeddwn i ddim ychwaith yn gallu canfod unrhyw werthusiad o'r grant ymgysylltu â democratiaeth. Er dywed gwefan y grant y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â phartneriaeth ymgysylltu democrataidd Cymru, dwi ddim wedi medru canfod unrhyw wybodaeth am aelodaeth y bartneriaeth, am eu cyfarfodydd na'u gwaith, a does dim rhestr gyflawn ar gael o'r prosiectau sydd wedi elwa. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad gan y Gweinidog ar hynny yn ei hymateb.
Meddai Aristotle:
'Os yw rhyddid a chydraddoldeb, fel y credir gan rai, i'w cael yn bennaf mewn democratiaeth, fe'u cyflawnir orau pan fydd pawb fel ei gilydd yn rhannu i'r eithaf mewn llywodraeth.'
Os bydd modd i bobl ddeall yn well sut y gallant gael dylanwad—nid yn unig sut mae cyfreithiau yn cael eu gwneud, ond hefyd sut i'w newid—gallai fod yn drawsnewidiol i'n cymdeithas ac i'n cenedl. Rhaid sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn medru cyfranogi'n llawn yng Nghymru'r dyfodol. Mae llawer modd i sicrhau yr addysg sydd ei hangen i sicrhau hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau gan eraill ar sut y gallai hynny ddigwydd. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Sioned Williams am ddod â'r cynnig deddfwriaethol hwn i'r Senedd? Credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod gan y Senedd hon swyddogaeth lle gall Aelodau o bob rhan o'r Siambr gyflwyno cynigion deddfwriaethol unigol. Efallai y bydd cynnig deddfwriaethol ar addysg wleidyddol a diddordeb mewn etholiadau yn fwy amserol nag y sylweddolech chi, rwy'n siŵr, pan wnaethoch chi gyflwyno'r ddadl, o ystyried rhai o'r pethau a welwn yn y newyddion heddiw. Ond yn ei dro hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch cynigion deddfwriaethol gan Aelodau ac yn ystyried sut y gellir gweithredu eu gofynion. Dyna rydym ni wedi'i wneud fel Ceidwadwyr Cymreig, gan edrych ar y ddadl hon heddiw a chynnig yr Aelod, a chredaf fod nifer o nodau y gallwn eu cefnogi.
Felly, er enghraifft, rydym yn cytuno nad oes digon o bobl yng Nghymru yn deall pa faterion sydd wedi'u datganoli i'r Senedd hon a pha faterion sydd wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Ond nid mater i'n pobl ifanc yn unig yw hynny; mae'n broblem ar draws ein cymdeithas yng Nghymru. Ond weithiau rwy'n gweld mai ein pobl ifanc yw rhai o'r dinasyddion mwyaf gwybodus yn wleidyddol yn ein democratiaeth. Pan fyddaf yn ymweld ag ysgol yng Nghymru, yn aml mae ganddynt safbwyntiau, awgrymiadau a gwybodaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gallech ei glywed ar y stryd mewn perthynas â materion gwleidyddol. Felly, nid wyf yn argyhoeddedig mai ein hysgolion sydd yn y sefyllfa orau i gyfleu'r neges honno.
Rwy'n anghyfforddus gyda'r sefyllfa y gallem roi ein hathrawon ynddi, lle efallai y bydd yn rhaid iddynt gerdded rhaff wleidyddol, gan sicrhau cydbwysedd cyfartal i safbwyntiau—i'w safbwyntiau eu hunain a rhai na fyddent yn eu rhannu'n bersonol o bosibl. A beth fydd yn digwydd pan fydd ein hathrawon yn dweud rhywbeth a allai fod yn gwbl ddiniwed er mwyn ysgogi trafodaeth wleidyddol yn yr ystafell ddosbarth a rhiant yn gwneud cwyn? A beth fydd yn digwydd, yn ystod dadl wleidyddol arferol, pan fydd disgybl yn y dosbarth yn rhannu safbwynt sy'n cael ei ystyried yn annerbyniol gan rai o'u cyfoedion? Gallem wynebu sefyllfa anffodus o weld ein staff addysgu yn cael eu cyhuddo o ragfarn wleidyddol, er enghraifft, ac mewn awyrgylch gwleidyddol dwys, lle mae hyd yn oed rhai ffeithiau'n cael eu herio y dyddiau hyn, rwy'n ansicr pa mor gyfforddus wyf i gyda'r syniad o roi ein hathrawon yn y sefyllfa honno. Ac a fyddai gan rieni hawl i gadw eu plant rhag addysg o'r fath pe baent yn anghyfforddus ynglŷn â'r ffordd y câi ei addysgu? Mae'r rhain i gyd yn faterion perthnasol, ac rwy'n gobeithio clywed yr Aelod yn ystyried y rhain wrth ymateb i'r ddadl.
Yn fy marn i, mae'n well gadael gwleidyddiaeth i'r gwleidyddion, ac mae ymgysylltiad ehangach gan bob un ohonom yn ein hysgolion, i helpu i hwyluso dadleuon a thrafodaethau ar sail drawsbleidiol wirioneddol yn allweddol os ydym am wneud hyn yn iawn. Fodd bynnag, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r cynnig gan yr Aelod yn yr ystyr fy mod yn gynyddol bryderus ynghylch y lefel o gamwybodaeth y mae ein pobl ifanc yn dod i gysylltiad â hi drwy'r ffynonellau y maent yn eu cyrchu'n anghymesur yn y byd modern. Rwy'n rhywun—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Maddeuwch imi, mae'n ddrwg gennyf, hoffwn wirio'r etymoleg ar hynny; rwy'n ei gofio'n iawn. A ydych chi'n ymwybodol fod ystyr 'politic', y syniad o wleidyddiaeth, yn dod o'r syniad o 'ddinesydd'? Felly, mae'n ymwneud â phobl. Os caf herio'r sylw a wnaethoch nawr fod gwleidyddiaeth yn rhywbeth i wleidyddion.
Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n tybio mai'r sylw y cyfeiriwch ato yw pan ddywedais ei bod yn well gadael gwleidyddiaeth i'r gwleidyddion.
Ie.
Ie, felly mewn ymateb i hynny, yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych chi, Delyth, yw nad oeddwn yn golygu, yn amlwg, mai gwleidyddion yw'r unig rai sy'n gallu cael barn ar wleidyddiaeth—wrth gwrs nad oeddwn yn golygu hynny—ond lle caiff y safbwyntiau hynny eu cyflwyno, mae'n well iddynt gael eu cyflwyno gan wleidyddion, yn hytrach na chan athrawon sy'n ceisio siarad ar ran eraill.
Felly, hoffwn droi'n ôl yn gyflym iawn, oherwydd rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, at fater camwybodaeth, sy'n bwysig yn fy marn i, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da o ran y cynnig deddfwriaethol y mae'n ei gyflwyno. Rwy'n defnyddio TikTok. Rwy'n ei ddefnyddio'n weddol rheolaidd, ac rwy'n credu bod angen i ni droi yn yr un cylchoedd â phobl ifanc. Os ydym yn siarad am ymgysylltu â phobl ifanc, nid yw siarad mewn gwactod yn gwneud ffafr â neb. Y broblem yw bod rhai o'r platfformau hyn, ac mae TikTok yn un ohonynt, yn defnyddio algorithmau i deilwra cynnwys sydd wedi'i anelu at eu defnyddwyr. Mae hynny, yn ei dro, yn sicr yn creu siambrau adlais a swigod hidlydd, nad ydynt ond yn atgyfnerthu credoau gwleidyddol presennol, ac mae safbwyntiau eraill yn cael eu lleihau, gyda defnyddwyr yn credu bod pawb yn rhannu eu safbwyntiau cyfyng nhw oherwydd mai rheini yw'r unig safbwyntiau y deuant ar eu traws yn aml. Ac rydym yn gwybod y gall camwybodaeth a thwyllwybodaeth fod yn rhemp ar y llwyfannau hyn, felly mae angen inni ystyried yn gryf—rwy'n dirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd—sut y defnyddiwn ein system addysg i annog ein pobl ifanc i ddefnyddio ffynonellau'n gywir a gallu gwahaniaethu rhwng ffaith a barn, a pheidio â drysu rhwng y naill a'r llall, ac mae hwnnw'n faes y credaf y gall pob un ohonom gytuno ei fod angen sylw priodol gan Lywodraeth Cymru. Diolch.
Dwi'n falch eithriadol fod Sioned wedi dod â'r cynnig hwn gerbron, a dwi'n meddwl ei fod o'n ofnadwy o bwysig. Mae o y peth pwysicaf y dylem ni fod yn ei wneud, dwi'n credu. Un o'r elfennau o'r swydd yma dwi'n ei mwynhau fwyaf ydy mynd i ysgolion a cholegau addysg bellach ac addysg uwch neu groesawu dysgwyr yma i'r Senedd a thrafod gwleidyddiaeth. Ac i unrhyw un sy'n meddwl bod gan bobl ifanc ddim diddordeb mewn gwleidyddiaeth, wel, dewch i un o'r sesiynau yma. Mae'r cwestiynau maen nhw'n eu gofyn i ni yn rhai heriol dros ben a niferus, ac mae chwilfrydedd naturiol plant a phobl ifanc a'u gonestrwydd yn rhywbeth dwi'n ei werthfawrogi yn y sesiynau hyn.
Mi oeddwn i'n gefnogwraig frwd o roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, ac mi oeddwn i'n siomedig bod yna ddim canran uwch wedi cymryd y cyfle i ddefnyddio'r bleidlais honno. Ond mae'n bwysig nad ydyn ni'n camgymryd diffyg cyfranogi gyda diffyg diddordeb. Dwi wedi siarad â nifer o bobl wnaeth ddim pleidleisio, ac mae'r rhesymau dros beidio â gwneud yn amrywiol dros ben. Roedd rhai wedi methu'r terfyn cofrestru, sydd yn rhwystr ymarferol. Nid bob ysgol oedd wedi bod yn proactive. Mae rhai o deuluoedd lle nad oedd neb yn pleidleisio; does yna neb yn eu teulu nhw erioed wedi, felly dydyn nhw ddim yn cael cefnogaeth i wneud. Ond y peth mwyaf cyffredin roeddwn i'n ei glywed oedd eu bod nhw ddim yn gwybod digon am y pleidiau i wneud penderfyniad ac felly eu bod nhw ofn gwneud y dewis anghywir. Ac roeddwn i'n trio dweud, 'Ydych chi'n gwybod faint o bobl hŷn sydd ddim yn meddwl dim cyn rhoi pleidlais? Rydych chi'n meddwl am y peth ac yn ei gymryd o o ddifrif.' Ond maen nhw eisiau'r wybodaeth yna.
A dyna un o'r pethau dwi'n meddwl sy'n eithriadol o bwysig yn y cynnig hwn ydy sicrhau'r cysondeb yna, oherwydd mewn rhai ysgolion mae hyn yn cael ei wneud yn wych, ac rydych chi'n gweld hynny wedyn yn y bobl sy'n rhoi eu hunain gerbron i fod yn Aelodau o'r Senedd Ieuenctid neu rhai sy'n ymgyrchu ar wahanol faterion. Mewn ysgolion eraill, dydy athrawon ddim yn teimlo'n hyderus ac felly maen nhw'n ofni mynd ar gyfyl y pwnc yn iawn. Maen nhw'n rhyw fath o gyfeirio, ond dydy'r cysondeb ddim yno.
Dwi'n meddwl ei bod hi'n ofnadwy o bwysig ein bod ni'n rhoi'r arfau i’n hathrawon i allu gwneud hyn yn effeithiol. Maen nhw mor brysur; rydym ni'n gwybod am lwyth gwaith athrawon. Dydy hi ddim yn deg i ofyn iddyn nhw ymchwilio i bob plaid ac ati. Mae angen y math yma o gysondeb. Dwi'n meddwl mai nid dim ond nhw fel unigolion fydd yn elwa, ond bydd y Senedd hon yn y dyfodol. Rydym ni eisiau Senedd fwy cynrychioliadol. Rydym ni angen i bawb deimlo’n rhan o’n democratiaeth ni. Rydyn ni eisiau i bawb deimlo bod eu llais nhw'n cyfrif a bod gwerth i’w barn nhw. Dyna lle mae'r cysondeb yn bwysig.
Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i yna yn ystod refferendwm 1997, ac yn lle ein hannog ni i drafod, mi stopiodd un o’r athrawon ni rhag trafod gwleidyddiaeth yn y chweched dosbarth, gan ddweud ei fod o'n bwnc rhy ddadleuol. Mae hynny'n dal i ddigwydd weithiau efo rhai pynciau. Rydym ni eisiau Cymru fodern. Mae angen llais i’n pobl ifanc ni. Mae hyn yn ffordd o wneud hynny, a dwi'n llwyr gefnogi dy gynnig di.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno’r ddadl hon ar addysg wleidyddol? Mae paratoi ein plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan weithredol mewn cymdeithas yn hynod bwysig i iechyd ein democratiaeth. Hoffwn weld ein holl blant a phobl ifanc yn datblygu fel dinasyddion moesegol, gwybodus sy’n deall ac sy'n arfer eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd.
Nawr ein bod wedi ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol, mae’r gwaith hwn yn bwysicach nag erioed. Mae ganddynt lais yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, eu cymunedau a'u dyfodol. Ein cyfrifoldeb ni yw eu helpu i ddod o hyd i'r llais hwnnw a'i ddefnyddio. Dyma pam fod dysgu am ddinasyddiaeth a gwleidyddiaeth yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Un o bedwar diben ein cwricwlwm yw datblygu dysgwyr yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd, sy’n hyderus i drafod materion a heriau cyfoes.
Ym maes dysgu’r dyniaethau, mae’r datganiadau gorfodol o’r hyn sy’n bwysig yn eglur ynghylch dysgu bod yn ddinasyddion gweithredol, gwybodus a chyfrifol, am gyfranogiad, llywodraethu a phrosesau gwleidyddol, a dysgu cyfiawnhau penderfyniadau wrth weithredu’n wleidyddol. Mae disgwyl i ysgolion ddatblygu addysgu am ymwybyddiaeth wleidyddol fel rhan o’u cwricwlwm o’r blynyddoedd cynnar hyd at 16.
Ers cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu ystod o ddeunyddiau i gefnogi athrawon i gyflawni hyn. Mae’r adnoddau a ddatblygwyd gan y Prosiect Gwleidyddiaeth ar gyfer dysgwyr cynradd, uwchradd a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn galluogi dysgwyr i ddeall ystod o systemau llywodraethu a sut y caiff pobl eu cynrychioli ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o raglen ddeialog ddigidol y Prosiect Gwleidyddiaeth, fel y gwn y bu'r Aelod sy’n cyflwyno’r ddadl hon. Drwy’r sesiynau hyn, deuir â dysgwyr ynghyd â’u cynghorwyr lleol ac Aelodau’r Senedd i gael sgyrsiau agored, ystyrlon am y materion sydd o bwys iddynt hwy. Roeddwn yn falch iawn o gael trafod ystod eang o faterion gyda myfyrwyr o Ysgol Gorllewin Mynwy a chlywed eu barn a’u safbwyntiau unigryw. Roeddent yn hynod o frwd a gwybodus.
Fe wnaethom hefyd gomisiynu’r Gymdeithas Addysgu Dinasyddiaeth i feithrin hyder addysgwyr i gael trafodaethau diduedd gyda dysgwyr 14 i 16 oed ynglŷn â pham y dylent gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol. Mae'r deunyddiau hyn bellach ar gael i helpu pob athro i ddeall y broses ddeddfwriaethol a strwythurau llywodraethol ac i ymdrin â phynciau dadleuol yn ddiduedd ac yn sensitif. Mae CBAC hefyd wedi cynhyrchu pecyn adnoddau ar lythrennedd gwleidyddol fel rhan o'r her dinasyddiaeth fyd-eang. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o systemau gwleidyddol yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
I gefnogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad diwethaf y Senedd, rydym wedi cynhyrchu adnodd PleidLAIS i helpu ysgolion a lleoliadau ehangach fel clybiau ieuenctid i addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd pleidleisio. Mae PleidLAIS yn cyflwyno pynciau fel cofrestru a phleidleisio drwy gemau a deunyddiau sy'n ysbrydoli pobl ifanc i drafod y materion sy'n bwysig iddynt a pham y dylent gofrestru i bleidleisio. Mae cefnogi ein plant a’n pobl ifanc i ddysgu am y prosesau gwleidyddol, dod yn ddinasyddion gweithredol a chanfod eu llais yn hollbwysig i mi ac i’r Llywodraeth hon.
Tynnodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru sylw at bwysigrwydd addysg ddinesig i iechyd ein democratiaeth. Mae’r Llywodraeth hon a’r Senedd wedi cymeradwyo argymhellion y comisiwn yn llawn, ac mae gwaith ar y gweill i gyflawni ar yr agenda bwysig hon. Mae gennym eisoes y ddeddfwriaeth ar waith drwy Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg wleidyddol, a bydd yr Aelodau’n ymwybodol o Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a fydd yn sicrhau bod platfform gwybodaeth am etholiadau Cymru yn cael ei greu i roi gwybodaeth i bobl ifanc a'u hathrawon am etholiadau a phrosesau etholiadol, gan ddileu rhagor o rwystrau rhag cyfranogiad. Am y rhesymau hyn, nid ydym yn credu bod angen Bil pellach. Diolch.
Galwaf ar Sioned Williams i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
Dechreuaf gyda Tom.
'Mae'n well gadael gwleidyddiaeth i'r gwleidyddion.'
O, Tom. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen gwell cymorth ar staff addysgu. Mae angen inni eu grymuso i deimlo’n hyderus, a nodais hynny yn fy nghyfraniad cychwynnol. Ond fel y nododd Delyth, yn gywir ddigon—. Fe roddaf innau rywfaint o etymoleg i chi hefyd: democratiaeth. Daw'r gair democratiaeth, wrth gwrs, o'r geiriau Groeg, demos, sy'n golygu 'pobl', a kratos, sy'n golygu 'pŵer'. Os ydym am gael y ddemocratiaeth orau bosibl i Gymru, mae'n rhaid iddi fod y ddemocratiaeth fwyaf cynhwysol, fwyaf adlewyrchol, fwyaf ymatebol i'r nifer mwyaf o bobl, ac mae hyn yn digwydd drwy gynnwys cymaint o bobl â phosibl yn ein system wleidyddol ac etholiadol.
Diolch, Heledd. Dwi'n cytuno'n llwyr ynglŷn â'r sesiynau ymgysylltu. Maen nhw'n ysbrydoledig. Ro'n i gydag Ysgol Gynradd Cwmfelin o Faesteg, blwyddyn 6, y bore yma. Roedd y cwestiynau ro'n i'n eu cael yn wych, ond rwy'n cytuno'n llwyr hefyd rŷn ni yn dueddol o weld yr un ysgolion. Mae'r un athrawon yn trefnu hustings adeg etholiad. Efallai cawn ni rai nawr cyn bo hir yn ein hysgolion lleol ar gyfer ymgeiswyr San Steffan. Mae e yn dibynnu'n llwyr ar ddiddordeb, ar hyder yr athrawon yn yr ysgolion hynny, ac ar ddiwylliant.
Diolch yn fawr iawn iti. Fyddet ti'n derbyn hefyd mai un o'r heriau mawr ydy cost dod i'r Senedd? Rydyn ni'n gweld toriadau a heriau efo ysgolion rŵan, ac mae'n rhaid inni edrych ar sut rydyn ni'n galluogi bod cost, yn enwedig efo bysys ac ati, ddim yn rhwystr i unrhyw ysgol ddod i'r Senedd hon.
Dwi'n cytuno'n llwyr ar hynny. Ac i'r Gweinidog, byddwn i'n dweud hyn:
Mae'r cyfan yn dda, a soniais am lawer o'r pethau y dywedais fy mod yn eu canmol yn y cwricwlwm a'r Prosiect Gwleidyddiaeth, er efallai y gallaf ysgrifennu atoch chi neu'r Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â chael gwerthusiad o rywfaint o hynny, gan y gwn bu tanwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac nid yw'n glir i mi pa werth yn union rydym yn ei gael. Gydag etholiad cyntaf pobl 16 a 17 oed yn 2021—wrth gwrs, roedd hynny yn ystod COVID, ac fe wnaeth hynny darfu ar lawer o gynlluniau—cafwyd gwerthusiad o hynny, ac ymchwil i ddangos nad oedd hwnnw'n sgaffaldwaith digon cryf i gefnogi’r diwygio hwnnw. Felly, fy nadl i yw nad ydym am golli'r pethau da wrth gael gwared ar y pethau gwael, ond mae angen rhywbeth mwy diffiniedig, mwy pendant, os ydym am fynd i’r afael â’r pwnc hwn o ddifrif.
Rwyf am eich gadael gyda hyn. Gwnaeth dau gyn-Aelod o’r Senedd Ieuenctid sylwadau ar fy nghynnig heddiw, felly, yn gyflym iawn, os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddyfynnu’r hyn a ddywedodd y ddau wrthyf. Dywedodd Leaola Roberts-Biggs:
'Ni ddylai pobl ifanc gael eu gadael yn anwybodus am wleidyddiaeth a democratiaeth Gymreig. Ni fyddai disgwyl i unigolyn ifanc ddewis cymhwyster... swydd neu brentisiaeth heb wybodaeth gefndir ac ymchwil, felly pam y dylid disgwyl iddynt bleidleisio ar rywbeth a fyddai hefyd yn effeithio ar eu dyfodol heb ddarparu lefel sylfaenol o wybodaeth a dealltwriaeth yn gyntaf?'
Mae hyn yn rhywbeth y cyfeirioch chi ato, Heledd.
Ac yna, dywedodd Rhys Rowlandson:
'Credaf fod y bil hwn yn hollbwysig, gan ei fod yn ymwneud â phontio rhwng yr ysgol a'r byd go iawn.'
Ac rydym yn sôn llawer am hynny yma, onid ydym?
'Mae'n barhad rhesymegol o ganiatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael y bleidlais yng Nghymru.'
Rwyf am gloi drwy ddweud mai addysg yw’r sylfaen ar gyfer y math o sgiliau a gwybodaeth rydym yn eu hystyried yn hanfodol i’r gymdeithas rydym am ei gweld a’r Gymru rydym am ei chreu. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi fy ngalwad am well fframwaith, darpariaeth fwy cyson a chyflawn i sicrhau addysg wleidyddol safonol, ystyrlon i bawb, gan ddechrau gyda’n rhai ieuengaf, ond ie, fel y dywedais, drwy gymdeithas, fel sail i sicrhau democratiaeth Gymreig y gallwn ddweud yn diffuant ei bod o'r bobl, gan y bobl ac ar gyfer y bobl. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pledleisio.