4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am ar 22 Mai 2024.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad ar yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig? TQ1093
Diolch yn fawr. Ar ddydd Llun, fe wnes i ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru i bawb yng Nghymru a ddioddefodd ac a effeithiwyd gan y sgandal gwaed wedi'i heintio. Hoffwn i ailadrodd yr ymddiheuriad yma heddiw a chadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cynnal dadl yn y Senedd ar y mater yma ar 4 Mehefin. Byddaf i'n rhoi gwybod i Aelodau bryd hynny sut y byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig i weithredu'r cyfiawnder y mae'r dioddefwyr yn ei haeddu.
Diolch ichi am yr ateb yna. Dwi am ddechrau drwy ychwanegu fy llais at y rhai sydd wedi llongyfarch a diolch i ddioddefwyr a goroeswyr y sgandal yma, eu teuluoedd a’u cefnogwyr, sydd wedi gorfod ymgyrchu am yn llawer rhy hir dros gyfiawnder. Roedd hyn yn sgandal y gellid yn hawdd fod wedi’i osgoi. Fel y dywed yr adroddiad o'r ymchwiliad, nid damwain oedd hyn; nid anffawd oedd o. Roedd pobl yn derbyn gwaed wedi ei heintio gan bobl a oedd yn gwybod bod y gwaed wedi cael ei heintio. Mae'n ganlyniad uniongyrchol i fethiannau systemig yn sgil cynllwynio i gelu'r gwir a chuddio gwybodaeth er mwyn gwarchod enwau da, ac yn ganlyniad i ddiffyg tryloywder a methiant gwleidyddion ac uwch-swyddogion i gydnabod bai. Mae o'n gwbl ddamniol ac mae yna wersi yno i bob un ohonom ni.
Mae adroddiad Langstaff yn rhoi llais iddynt ac yn dangos y methiannau systematig ar bob lefel a greodd yr amgylchedd lle llwyddodd y sgandal hon i bara cyhyd. Mae'r ffaith y bu'n rhaid i ymgyrchwyr ymladd mor galed yn erbyn system a geisiodd ddiogelu ei buddiannau ei hun a blaenoriaethu ei hamddiffyniad ei hun dros gywiro ei chamgymeriadau yn gywilyddus. Mae yna argymhellion yn adroddiad Langstaff sydd o fewn meysydd o gymhwysedd datganoledig, yn cynnwys ar ddiogelwch cleifion a gofal hemoffilig. A all Ysgrifennydd y Cabinet ein sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu? Yn fwy cyffredinol, a yw hi'n cytuno â mi fod gwers bwysig yn hyn am hollbwysigrwydd dyletswydd gonestrwydd a pharodrwydd i fynd i'r afael â materion systemig yn ein gwasanaeth iechyd yn agored, yn onest ac ar y cyd â dioddefwyr a goroeswyr? Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rhain a'u bod yn cael eu gweithredu yma? A yw hi hefyd yn cytuno na ellir oedi cyn talu iawndal i'r rhai y mae'r sgandal hon yn effeithio arnynt, a bod rôl i Weinidogion Cymru yn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif, gan sicrhau bod y gost yn cael ei thalu'n llawn gan Whitehall, a bod y cynllun yn cael ei gyflawni'n gyflym ac mewn ffordd sy'n sicrhau nad oes unrhyw un y mae'r cynllun yn effeithio arno yn colli iawndal y maent wedi aros yn rhy hir amdano?
Diolch yn fawr, Mabon. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir o ran y cywair a ddefnyddiwyd gennych yno. Dyma'r sgandal waethaf yn hanes y GIG. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl bobl hynny, yn enwedig y rhai a ddioddefodd dros gymaint o flynyddoedd ac na chafodd eu lleisiau mo'u clywed. Ond hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r ymgyrchwyr a safodd gyda nhw, ac yn enwedig, yn y Siambr hon, i Julie Morgan, a wnaeth sefyll gyda'r dioddefwyr dros flynyddoedd maith, nid yn unig yn y Siambr hon ond yn San Steffan hefyd. Diolch am eich holl waith, Julie.
Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn yn eich dicter, a hoffwn adleisio'r dicter hwnnw ar ran y dioddefwyr. Cawsant eu trin yn wael iawn, ac o'r diwedd mae'n dda bod eu lleisiau wedi cael eu clywed. Mae llawer iawn o argymhellion yn yr adroddiad; mae'n adroddiad hir iawn. Mae yna 12 o argymhellion, ar draws pob maes gofal iechyd, a byddwn yn rhoi amser i fynd i'r afael â nhw. Ar y camau nesaf, fe sefydlir grŵp y camau nesaf i Gymru ar adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig. Bydd yn ystyried yr argymhellion ac yn llunio ein hymateb iddynt. Bydd y grŵp hwnnw'n cael ei gadeirio gan ein dirprwy brif swyddog meddygol newydd, Push Mangat.
Mae swyddogion eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y camau nesaf mewn perthynas ag iawndal, drwy'r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig sydd newydd ei ffurfio. Rwyf eisoes wedi cael llythyr gan Weinidog Llywodraeth y DU, sy'n awyddus iawn i weld nad oes unrhyw oedi. Mae wedi awgrymu y bydd yr ail daliad dros dro, a gyhoeddwyd yr wythnos hon—£210,000 i fuddiolwyr byw sydd wedi'u cofrestru ar gynllun cymorth—yn cael ei dalu o fewn 90 diwrnod. Byddwn yn sianelu hynny drwy gynllun Cymru am y tro, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu talu. Rydym wedi cael cadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn talu'r gost yn llawn ac y bydd yn talu am hyn.
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb ac am ei hymddiheuriad ar ran Llywodraeth Cymru, a diolch i Mabon am ofyn y cwestiwn amserol.
Fel y dywedais yn ystod y datganiad busnes ddoe, roeddwn i fyny yn Neuadd Ganolog San Steffan pan gafodd y datganiad pwysig hwn ei wneud, ac roeddwn gyda phobl o dde Cymru sydd wedi dioddef ac wedi cael eu heffeithio. Roeddwn eisiau defnyddio'r cyfle hwn i dalu teyrnged i Lynne Kelly, sy'n etholwr i mi yng Ngogledd Caerdydd, ac sydd wedi bod yn sbardun i'n hymateb yng Nghymru. Yn wir, cysylltodd â mi gyntaf pan oeddwn yn Aelod Seneddol iddi nôl ym 1997, i roi gwybod i mi am y sgandal ac am yr angen am ymchwiliad. Roedd hi yno ar y bws i Lundain ddoe, yn gofalu am, ac yn rhoi sylw i'r holl bobl a fu'n brwydro cyhyd. Felly, roeddwn eisiau cofnodi fy niolch a fy edmygedd o bopeth y mae hi wedi'i wneud.
Roedd neges Syr Brian Langstaff yn glir: nid camgymeriad ydoedd, ond ymgais i gelu, ac fe ddigwyddodd ar raddfa anferthol. Yn amlwg, mater i Lywodraeth y DU ydyw nawr, ond mae dyletswydd arnom ninnau hefyd i sicrhau bod pob un o'r argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu cyflawni. Rwy'n credu bod ddoe yn bwysig iawn i'r bobl a oedd yno i'w glywed, a'r rhai a'i gwyliodd ar y teledu gartref, a gafodd eu heintio neu eu heffeithio. Ond roedd yna ofn hefyd, 'A ydynt yn mynd i'w wneud?', oherwydd maent wedi cael 40 mlynedd o aros i rywbeth ddigwydd ac nid oes unrhyw beth wedi digwydd.
Hefyd, roedd y cyhoeddiad ddoe ynghylch iawndal i'w groesawu'n fawr, ond dylai fod wedi cael ei wneud o leiaf flwyddyn yn ôl, pan ryddhaodd Syr Brian ei argymhelliad brys cyntaf ar iawndal. Ers hynny, mae dros 80 o bobl wedi marw, felly mae pobl wedi colli cyfle i gael rhywfaint o gymorth ariannol o leiaf, a hefyd i deimlo rhyddhad y bydd eu teuluoedd yn cael eu cefnogi.
Rwy'n credu bod y tactegau oedi sydd eisoes wedi'u gweld gan Lywodraeth y DU yn gwneud i ymgyrchwyr boeni na chânt yr iawndal, ac y bydd llusgo traed ar yr holl argymhellion. Rwy'n credu bod dyletswydd arnom, yma yng Nghymru, i wneud yn siŵr fod hyn yn digwydd. Pa bwysau y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl argymhellion hyn yn cael eu cyflawni?
Diolch yn fawr, Julie. A gaf i ddweud pa mor ostyngedig y teimlaf wrth feddwl am y gwaith a wnaethoch chi ar hyn dros gymaint o flynyddoedd? Rwy'n gwybod faint o effaith a gafodd straeon y dioddefwyr hynny arnoch. Diolch i chi am sefyll gyda nhw. Fe wnaethoch chi glywed eu lleisiau. Fe wnaethoch chi wrando arnynt. Mae'n wers i bawb ohonom—fod angen i fwy ohonom wrando a chlywed yr hyn y mae ein hetholwyr yn ei ddweud wrthym. Rwy'n gobeithio eich bod chi a hwythau'n teimlo eich bod wedi cael cyfiawnder wedi'r blynyddoedd maith o ymgyrchu pan na chaent eu clywed.
Rwyf am i fy swyddogion roi amser i ystyried yr adroddiad hwn. Mae wedi cymryd amser hir. Nid wyf am roi ateb sydyn, oherwydd rwyf am roi'r parch y mae'n ei haeddu iddo. Ond yn sicr, byddwn yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo. Yn amlwg, bydd llawer o'r argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU, ond rwy'n ymrwymo i chi y byddwn o ddifrif ynglŷn ag unrhyw beth mewn perthynas â Chymru.
Rwy'n eich clywed yn llwyr o ran y brys am y taliadau hynny. Cafwyd ymrwymiad i dalu'r taliad interim ychwanegol o £210,000 o fewn 90 diwrnod. Byddwn yn chwarae ein rhan fel Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn talu o fewn yr amserlen honno. Gwelwyd tactegau oedi dros y blynyddoedd. Rwyf am wneud ymrwymiad i chi y byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y gallwn wneud y taliadau o fewn 90 diwrnod i'r bobl a fu'n aros cyhyd.
Gadewch imi ymuno â chyd-Aelodau a diolch i Mabon ap Gwynfor am godi hyn yma heddiw, ac ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet hefyd i roi clod i bawb sydd wedi ymgyrchu ar y mater hwn dros y blynyddoedd. Rwyf hefyd yn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ei geiriau o eglurhad, drwy nodi bod y sgandal hon yn un o fethiannau mwyaf y wladwriaeth Brydeinig, a myfyrio hefyd ar eiriau Syr Brian Langstaff, a ysgrifennodd yr adroddiad. Dewisodd ddefnyddio'r gair 'calamity'—trychineb—ond, mewn gwirionedd, nid oes unrhyw eiriau a all grynhoi'n llwyr y drasiedi sydd wedi digwydd dros ddegawdau, gan gynnwys y celu gwarthus gan uwchreolwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol, gweinidogaethau Llywodraeth a'r gwasanaeth sifil. Mae'r ymagwedd ofnadwy tuag at ddioddefwyr, creulondeb y ffordd y cawsant eu trin, yn sicr y tu hwnt i drychineb yn fy marn i.
Fel y gwyddom, cawsant eu heintio â gwaed halogedig, ac yna eu dibwyllo i bob pwrpas gan yr awdurdodau a wnaeth gelu'r cyfan bob cam o'r ffordd. Mae cymaint o bobl ddiniwed wedi dioddef yn ddiangen. Yn sicr, mae ein meddyliau gyda nhw a'u hanwyliaid. Gwyddom fod tua 400 o bobl wedi'u heintio yng Nghymru, ond gwyddom hefyd ei bod yn debygol nad dyma'r nifer llawn. Roedd yr adroddiad a drafodir gennym heddiw yn glir yn ei feirniadaeth o Lywodraethau'r DU a Chymru, felly rwy'n sicr yn croesawu'r ymddiheuriadau ffurfiol gan y ddwy Lywodraeth i'r dioddefwyr. Rhaid inni sicrhau na chaniateir i sefyllfaoedd fel hyn ddigwydd eto, a bod y meddwl grŵp a'r cyfrinachedd sy'n annog celu—y pwyntiau a grybwyllodd Mabon ap Gwynfor—yn cael eu dileu unwaith ac am byth.
Mae nifer ohonom yma heddiw wedi sôn am ymrwymiad y Prif Weinidog i becyn iawndal cynhwysfawr. Felly, cwestiwn ar y pwynt hwnnw yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf ategu cyd-Aelodau ynghylch yr amseriad. Tybed a oes gennych unrhyw bryderon, i ddechrau, am y cyflymder. Fe wnaethoch chi ddweud 90 diwrnod, ond a oes gennych unrhyw bryderon na fydd hynny'n cael ei gyflawni? A oes unrhyw broblemau neu rwystrau a allai atal hynny rhag digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach? Ac unwaith eto, os caf wneud y pwynt ar y cyfrinachedd a'r diwylliant o gelu a oedd fel pe bai'n dod drwodd yn yr adroddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw fesurau rhagweithiol y byddwch yn eu hystyried i sicrhau na cheir diwylliant o gyfrinachedd a chelu o'r fath yng nghyrff cyhoeddus Cymru, fel nad yw'r trasiedïau hyn yn digwydd eto?
Diolch yn fawr, Sam. Yn sicr, mae hon yn bennod gywilyddus yn hanes gwleidyddol y DU, ac mae'n bwysig ein bod i gyd yn myfyrio ar hynny. Mae tua 264 o bobl yn fuddiolwyr o gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru. Nid yw'r gair 'buddiolwr' yn teimlo'n iawn i mi. Mae'r rhain yn bobl sy'n ddioddefwyr, sydd wedi talu pris enfawr, ac nid oes unrhyw arian yn mynd i wneud iawn am y dioddefaint y maent wedi'i wynebu, yn enwedig y rhai sydd wedi colli anwyliaid ac sydd wedi dioddef mewn poen aruthrol yn aml.
Ar y 90 diwrnod, beth yw'r rhwystrau? Wel, mae'n debyg fod angen i'r arian ddod i mewn i'n cyfrif fel y gallwn ei wario. Mae llawer o sibrydion yn chwyrlio o gwmpas y prynhawn yma am etholiad cyffredinol—mae angen inni wneud yn siŵr nad yw hynny'n mynd yn y ffordd. Ond hefyd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn pwysleisio'r ffaith, yng Nghymru nawr, mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd gwladol, fod yna ddyletswydd gonestrwydd gyfreithiol—dyletswydd gyfreithiol. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso a'i gymryd o ddifrif. Rwy'n gwybod bod llawer o hyfforddiant yn digwydd yn ein gwasanaeth iechyd i sicrhau bod pobl yn deall beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd y cwestiwn amserol nesaf gan Andrew R.T. Davies.