3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am ar 22 Mai 2024.
3. Sut mae Comisiwn y Senedd yn sicrhau bod pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw yn gallu cymryd rhan weithredol yng ngwaith y Senedd? OQ61149
Diolch am eich cwestiwn, Julie. Mae Comisiwn y Senedd yn parhau i fod yn ymrwymedig i optimeiddio cyfranogiad pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yng ngwaith y Senedd. Ar ein hystad, gellir defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau, gan gynnwys dehonglwyr BSL, palanteipyddion, siaradwyr gwefusau a systemau dolen glyw, i hwyluso cyfranogiad ar gyfer pobl sy’n fyddar neu sy’n byw â cholled clyw ym musnes y Senedd, a theithiau ac ymweliadau â’r Senedd. Rhoddir is-deitlau ar yr holl gynnwys fideo a ddarperir ar gyfer sianeli'r Senedd ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwneir hyn yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae staff y Comisiwn wrthi'n archwilio sut y gellid gwella'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau dehongli Iaith Arwyddion Prydain yn fyw ac wedi'u recordio ar gyfer eitemau'r Cyfarfod Llawn ar ddyddiau Mawrth a Mercher.
Diolch am yr ateb.
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Bythefnos yn ôl, cefais ddatganiad 90 eiliad yma yn y Siambr i sôn am fywyd Dorothy Miles, a oedd yn fardd iaith arwyddion byddar o ogledd Cymru. Roeddwn yn falch iawn fod y datganiad wedi’i ddehongli’n fyw yma i Iaith Arwyddion Prydain. Roedd aelodau o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn yr oriel, ac nid oedd busnes y Senedd wedi'i ddehongli tan y datganiad, ac ar ôl y datganiad, fe newidiodd yn ôl i ddim dehongliad, a chredaf fod hyn wedi bod yn anodd iawn, gan fod gennym bobl fyddar yma yn y Senedd nad oeddent yn gallu dilyn y trafodion.
Felly, credaf fod angen gwneud llawer mwy o waith, ac rwy'n falch iawn o glywed yr hyn rydych yn ei gynllunio, gan ein bod am wneud y lle hwn yn hygyrch i bawb. Ar hyn o bryd, mae'r trefniadau presennol yn golygu y gall pobl gael eu hallgáu. Tybed a allai fod yn werth ichi edrych ar Senedd yr Alban, lle mae ganddynt dudalen benodol ar y wefan, sy’n helpu pobl i ddod o hyd i'r holl fannau gwahanol ble mae gwasanaethau dehongli ar gael. I ddechrau, gan fy mod yn ymwybodol fod prinder dehonglwyr, mater a godwyd yn y set flaenorol o gwestiynau, tybed a fyddai'r Comisiwn yn ystyried dehongli pob sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog yn fyw i Iaith Arwyddion Prydain fel man cychwyn.
Unwaith eto, mae’r holl bwyntiau a wnewch yn gwbl ddilys, ac roeddwn yn falch iawn o weld, pan oeddech yn gofyn eich cwestiwn, fod y dehongliad ar gael. Ond rydych yn llygad eich lle, yn amlwg, wrth ddweud nad oedd hynny'n wir am y sesiwn gyfan y prynhawn hwnnw, ac na ddarparwyd dehongliad i'r bobl a fyddai wedi gobeithio cael un. Fodd bynnag, ar Senedd.tv, mae gennym is-deitlau ar gyfer y busnes a gyflawnir yma, ac mae gennym y Cofnod, y gall pobl ei ddarllen. Ond credaf ei bod yn deg dweud ein bod wedi cyrraedd pwynt lle rydym ar fin newid y Siambr hon, ac mewn cyfarfod a gawsom yr wythnos diwethaf, codwyd y newidiadau a fydd yn digwydd pan fydd wedi’i had-drefnu. Un o'r materion a godwyd oedd man ar gyfer dehonglwr BSL, felly mae'r bwriad yno, dyna rwy'n ceisio'i ddweud.
Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag Iwerddon a'r Alban eisoes ar yr hyn y maent yn ei wneud, ac mae hynny eisoes wedi digwydd; mae staff y Comisiwn wedi gwneud hynny. Ac rydych yn llygad eich lle fod prinder dehonglwyr BSL ar hyn o bryd. Ond o ran symud ymlaen a gwneud hon yn Senedd gynhwysol—a dyna rydym yn sôn amdano—rydym yn gwneud pethau eraill y tu hwnt i BSL ar gyfer pobl eraill sy'n drwm eu clyw, neu sydd angen cymorth a chefnogaeth gyda chlyw cyfyngedig. Felly, mae’n fater sydd ar y gweill. Rydym yn ceisio gwneud cynnydd arno, ac rydym yn gobeithio gwneud hynny cyn gynted â phosibl, o ystyried y cyfyngiadau rwyf newydd eu crybwyll.
Fel y dywedais yn gynharach, i lawer o bobl fyddar, BSL yw'r dull cyfathrebu a ffafrir ganddynt, ac mae hynny’n golygu y gallant ddeall yr hyn sy’n cael ei ddweud yn llawn. I gael dealltwriaeth lawn, yn bendant, mae angen BSL arnynt. Ni wnaiff darllen gwefusau mo'r tro, byddant yn cael dealltwriaeth weddol—ac rwyf wedi cymharu'r peth â mi a'r Gymraeg—ond nid ydych yn cael y ddealltwriaeth lawn na'r elfennau mwyaf cynnil. Os nad oes BSL ar gael, is-deitlau yw'r opsiwn ail orau, er bod pobl sy'n gwylio is-deitlau ar y teledu yn sylweddoli y gallant gael pethau'n rhyfeddol o anghywir ar y rheini. A yw’r Comisiynydd yn cytuno â mi ei bod yn bwysig inni sicrhau bod pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yn cael yr un mynediad at wybodaeth â phobl sy’n clywed?
Rwy’n cytuno’n llwyr â chi, Mike. Mae’r ddarpariaeth dolen glyw o amgylch yr ystad wedi’i harchwilio a’i gwella, ac mae systemau dolen un-i-un gwell wedi’u gosod yn y dderbynfa ym mhob un o’r tri adeilad. Rydym bellach wedi prynu systemau dolen symudol mwy newydd, mwy datblygedig, y gellir eu defnyddio mewn ystafelloedd cyfarfod a mannau digwyddiadau mwy, oherwydd yn amlwg, nid oedd y rhai a oedd yn bodoli eisoes yn ddigonol.
Mae systemau sain isgoch wedi'u gosod yn y Siambr, yr ystafelloedd pwyllgora a'r orielau cyhoeddus. Yn ogystal â'r system sefydlog yn yr ystafelloedd, mae gennym hefyd fersiwn symudol ar gyfer pwyllgorau a digwyddiadau allanol oddi ar y safle. Mae’r system honno’n darparu cyfieithiad a mwyhad sain gair am air drwy glustffonau neu ddolenni sain personol, sydd ar gael ar gais i Aelodau, tystion a’r cyhoedd sy’n mynychu trafodion.
Gofynnir i bobl sy'n dod i ddigwyddiadau, teithiau, digwyddiadau allgymorth a chyfarfodydd y Senedd a ydynt angen unrhyw addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gynllunio. Yn yr un modd, mae’n rhaid i sefydliadau sy’n cynllunio digwyddiadau ar ystad y Senedd gadw at restr wirio hygyrchedd.
Mae gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar gyfer y cwestiynau i'r Prif Weinidog bob dydd Mawrth ac ym mhob un o gyfarfodydd Senedd Ieuenctid Cymru. Mae staff y Comisiwn yn archwilio sut y gallwn wella hynny, ac rwyf wedi ateb y cwestiynau hynny wrth ymateb i'r cwestiwn blaenorol.
Mae gwasanaeth dehongli ar gael, ar gais, i unrhyw un sy’n dymuno gwylio dadl neu gyfarfod pwyllgor penodol, ar gyfer digwyddiadau ac ar gyfer teithiau’r Senedd. Mae gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain wedi'i ddarparu'n rhagweithiol lle mae'r pwnc hwnnw'n cael ei drafod—ac fe wnaethom ni hynny hefyd.
Mae staff y Comisiwn wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd, gyda dosbarthiadau ymwybyddiaeth o fyddardod a BSL ychwanegol yn cael eu darparu. Mae ein cydweithwyr blaen y tŷ a diogelwch wedi cwblhau hyfforddiant hyder o ran anabledd. Bydd modiwl hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid cynhwysol newydd y Comisiwn yn darparu arferion gorau wrth gysylltu ag aelodau o'r gymuned fyddar. Y gobaith yw y bydd hynny'n codi ymwybyddiaeth a hyder ein staff wrth ymdrin ag ystod amrywiol o gwsmeriaid.
Rwyf eisoes wedi crybwyll y ffaith bod y ddarpariaeth dysgu yn y gweithle ryngseneddol yn cynnwys sesiynau yn yr Oireachtas a Senedd yr Alban ar BSL.