2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 22 Mai 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. I'r rhai a welodd y sioe hyfryd ar risiau'r Senedd ddoe gan Opera Cenedlaethol Cymru, y gerddorfa a'r corws, yn perfformio Emyn y Pasg, dan arweiniad y Maestro Carlo Rizzi, rwy'n credu ei bod yn amlwg pam mae angen i chi wneud popeth a allwch, Ysgrifennydd y Cabinet, i ddiogelu'r sefydliad hwn sydd o safon fyd-eang.
Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr wythnosau diwethaf, mae amryw o Aelodau, gan fy nghynnwys i, Rhianon Passmore o'ch meinciau eich hun, a llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon, wedi bod yn cyfleu eu pryder a'u dicter am y toriadau i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'r argyfwng, wrth gwrs, yn bygwth dyfodol ein sefydliad celfyddydol blaenllaw a'r unig gwmni opera llawn amser yma yng Nghymru. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn un o drysorau Cymru. Dyma'r cyflogwr mwyaf ym myd y celfyddydau, ac fe'i crëwyd yn y 1940au gan grŵp o feddygon, glowyr ac athrawon a oedd yn dymuno adeiladu ensemble perfformio a fyddai'n gwneud cyfiawnder â'r enw a roddir i ni fel gwlad y gân.
Ar hyn o bryd, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn sefyll ar ymyl y dibyn, ar ôl wynebu toriadau gan gynghorau celfyddydau Cymru a Lloegr sy'n cyfateb i 25 y cant o'i chyllideb flynyddol. Mae hyn yn amlwg yn anghynaliadwy. Oni bai bod modd dod o hyd i gymorth ariannol pellach, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd i gael ei orfodi i wneud y gerddorfa a'r corws—calon eu cwmni—yn rhan-amser. Fel y gwyddoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae eisoes yn torri'n ôl ar ei leoliadau teithio, ac mae eisoes wedi cynnig diswyddo gwirfoddol i weddill y cwmni. Bydd hyn yn arwain at golli sgiliau hanfodol ar draws y sefydliad. Fe fyddwch yn ymwybodol wrth gwrs—
Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol erbyn hyn. A wnewch chi ddod at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda? Rwyf wedi bod yn hael iawn.
Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddeiseb o bron i 10,000 o bobl yn galw am ddiogelu Opera Cenedlaethol Cymru, ac felly roeddwn eisiau gofyn i chi pa drafodaethau a gawsoch yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch Opera Cenedlaethol Cymru. A allwch chi leddfu'r ofnau presennol a'n sicrhau y byddwch chi'n gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau dyfodol Opera Cenedlaethol Cymru?
Yn anarferol iawn, rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn mae Laura Anne Jones wedi'i ddweud. A ydym ni erioed wedi clywed protest fel honno ar risiau'r Senedd? Nid wyf yn credu hynny. Roedd yn wirioneddol anhygoel. Rwy'n deall yn llwyr y pryderon ynghylch Opera Cenedlaethol Cymru. Cyfarfûm â nhw ddoe i drafod beth maent yn ei wneud i liniaru effaith y toriadau ariannol. Pan gefais y portffolio hwn, roedd hi'n anarferol iawn cael sefydliad wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y ffordd y daeth y trefniant hwnnw i fodolaeth.
Yn bersonol, credaf mai Opera Cenedlaethol Cymru yw un o'n llwyddiannau allforio byd-eang mwyaf. Roeddwn i'n ffodus iawn o'u gweld yn Dubai pan oeddwn yno ar gyfer Gulfood yn y portffolio blaenorol, a'r gwaith a wnaethant gyda phobl Cymru a phlant ysgol Cymru allan yn Dubai. Mae cymaint o agweddau ar Opera Cenedlaethol Cymru. Rwyf wedi mynychu grŵp rhyng-weinidogol ar ddiwylliant a chwaraeon gyda Lucy Frazer, Angus Robertson a Gweinidog Gogledd Iwerddon i drafod yr hyn y gallwn ei wneud ar hyn. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud yn y flwyddyn ariannol hon.
Nid wyf am ailadrodd yr anawsterau y mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu gyda'n cyllideb, ond yn amlwg, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y toriad a ddaeth gan Gyngor Celfyddydau Lloegr wedi dod dros nos. Roedd yn arwyddocaol iawn, ac rwy'n credu ei fod yn sioc lwyr. Felly, mae'n debyg y bydd angen imi gael trafodaeth bellach. Er fy mod yn deall bod Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gyrff hyd braich oddi ar y Llywodraeth, ac na fyddem yn ymyrryd â'u penderfyniadau ariannu, rwy'n credu bod angen cael y drafodaeth honno'n uniongyrchol gyda Chyngor Celfyddydau Lloegr nawr, er mwyn imi allu deall y ffordd unigryw hon o ariannu sefydliad.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n wych clywed y byddwch yn edrych ar hynny ac y byddwch yn gwneud gwaith pellach i ddeall hynny ac yn dod i gasgliad cadarnhaol gyda phobl dros y ffin, gobeithio.
Hoffwn ddweud, yn ogystal â'r ffaith, wrth gwrs, fel rydych wedi sôn, fod Opera Cenedlaethol Cymru yn fyd-enwog ar hyd a lled y byd, eu bod hefyd yn gwneud llawer iawn o waith yn ein cymuned ac ar lawr gwlad. Ac mae pryderon y bydd y rhaglen Lles gyda WNO mewn perygl yn dilyn y toriadau hyn hefyd—rhaglen a gafodd ei hymestyn yn 2003 oherwydd ei chanlyniadau cydnabyddedig, fel gwelliannau iechyd meddwl, gwelliannau i hyder, emosiynau cadarnhaol a theimladau ac atal gorbryder, iselder a phanig i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y rhaglen. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom eisiau gweld hyn yn dod i ben, ac rydym eisiau iddo gael ei ddiogelu. Felly, o ran hynny, er bod Cyngor Celfyddydau Cymru, fel y dywedoch chi'n gynharach, yn gorff hyd braich oddi ar Lywodraeth Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru, a wnewch chi ein sicrhau ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch chi'n gwneud popeth yn eich gallu i ddiogelu'r gwasanaeth enwog hwn sydd bellach yn flaenllaw, sef Lles gyda WNO, a diogelu ei ddyfodol? Diolch.
Felly, nid wyf yn credu bod angen i chi gymryd fy ngair i ar hyn. O ran Opera Cenedlaethol Cymru—roedd un o'r bobl y gwneuthum gyfarfod â nhw ddoe, eu cyfarwyddwr cyllid, Stephanie, yn awyddus iawn i ddweud wrthyf am yr holl waith y maent yn ei wneud i gefnogi'r gwasanaeth hwnnw, oherwydd maent yn cydnabod ei bwysigrwydd yn llwyr. Rwyf wedi ymrwymo i ymweld â rhywle lle gallaf weld y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal, yn ystod toriad yr haf yn ôl pob tebyg, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedwch, nad ydym yn canolbwyntio ar eu cynyrchiadau anhygoel yn unig. Mae'n ymwneud â'r holl waith arall: soniais am y gwaith addysg y maent yn ei wneud; rydych newydd sôn am y gwaith a wnânt ym maes iechyd. Felly, rwy'n credu eu bod nhw eu hunain eisiau ei ddiogelu. Ond fy ymrwymiad iddynt ddoe—cyfarfûm â'r cadeirydd a'u prif weithredwr dros dro—oedd y byddwn yn gwneud popeth yn fy ngallu i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Wel, mae'n dda clywed hynny, ond wrth gwrs, mae angen mwy na geiriau arnom—rydym angen camau gweithredu brys nawr mewn perthynas â phopeth sydd mewn perygl, fel y mae'r ddau ohonom wedi eu hamlinellu heddiw. Heb ein celfyddydau a'n diwylliant, nid ydym yn ddim fel cenedl; heb ein celfyddydau a'n diwylliant, rydym yn colli cymaint o'n hanes unigryw yma yng Nghymru a phopeth sy'n ein gwneud yn falch o fod yn Gymry. Heb ein celfyddydau a'n diwylliant, mae Cymru'n colli ei doniau gorau a ni sydd ar ein colled o ganlyniad i hynny.
Mae gennym hanes hirsefydlog o'n celfyddydau'n cyfoethogi ein diwylliant, yn rhoi hwb i'n heconomi ac yn gwneud Cymru'n lle gwell i fyw, perfformio ac ymweld ag ef. Nid nawr yw'r amser, yn amlwg, i roi'r ffidl yn y to mewn perthynas â'r sector—dyma'r amser i ddyblu ein hymdrechion, fel rydych chi newydd ddweud, a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau'r cyfoeth sydd gan ein holl gelfyddydau i'w gynnig a gwneud yn siŵr ei fod ar gyfer pawb, nid dim ond y rhai sy'n gallu ei fforddio—y rhai sydd ag arian.
Yr hyn y mae'r sector yn crefu amdano yw strwythur a chynllun ar waith i sicrhau na fydd toriadau a bygythiadau fel hyn yn digwydd yn y dyfodol, oherwydd pan fydd wedi mynd, fe fydd wedi mynd am byth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i chi eto: a allwch chi leddfu pryderon cyfredol a sicrhau y bydd yna gynlluniau cyllido hirdymor ar waith nawr gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, drwy gyllid cyfalaf, i ddiogelu popeth a garwn yma yng Nghymru?
Wel, fe fydd yr Aelod yn deall na allaf gynnig unrhyw sicrwydd hirdymor, oherwydd nid ydym yn gwybod beth fydd ein cyllideb. Rydym yn tybio y byddwn yn cael setliad amlflwyddyn arall, ond nid ydym yn gwybod. Felly, yn anffodus, ni allaf gynnig y sicrwydd hwnnw. Yr hyn y gallaf ei gynnig yw sicrwydd y byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector.
Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod ar fin lansio ein dogfen ymgynghori ar flaenoriaethau ar gyfer diwylliant. Holwyd i mi pam y dylem fwrw ymlaen â hwnnw, a phan ddeuthum i'r swydd, roeddwn wedi bod yn gweithio gyda Siân Gwenllian ar hwnnw, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, ond fe ofynnais am rywfaint o—nid seibiant, ond amser i wneud yn siŵr mai dyma'r adeg iawn. Ac ar ôl edrych ar y ddogfen ymgynghori gyffrous iawn y byddwn yn ei lansio, rwy'n credu mai dyma'r amser iawn, oherwydd roedd un o'n—. Wel, mae gennym dair blaenoriaeth ac mae'r cyntaf yn cyd-fynd yn llwyr â'ch pwynt chi nad rhywbeth ar gyfer pobl sy'n gallu ei fforddio yn unig ydyw—mae'n ymwneud â hygyrchedd i bawb. Bydd yr ail flaenoriaeth yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â ni fel cenedl ddiwylliant, a bydd y drydedd yn ymwneud â sicrhau bod y sector yn gynaliadwy ac yn wydn. Ac mae'r pwynt a wnewch ynglŷn â cholli talent yn berthnasol iawn, oherwydd nid ydym eisiau i'n cantorion a'n cerddorion, er enghraifft, fynd i rywle arall—rydym eisiau eu cadw yma yng Nghymru.
Felly, yr hyn rwy'n ceisio edrych arno yw—. Ni fydd y cyllidebau'n cynyddu'n sylweddol yn y dyfodol agos iawn, ond mae angen inni edrych ar ffyrdd o weithio, mae angen inni edrych ar sut rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, a bod ychydig yn fwy creadigol yn ein meddylfryd efallai. Felly, rwy'n gwbl ymrwymedig i hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Gaf i groesawu'n fawr y sylwadau dŷch chi newydd eu gwneud fel ymateb i Laura Anne Jones? Mi gawsom ni i gyd ein swyno, ein cyfareddu, ddoe y tu allan i'r Senedd, a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd angen cael ein hatgoffa weithiau o bwysigrwydd y pethau yna, o ran ein hiechyd a'n hiechyd meddwl ni hefyd. Maen nhw'n ysgogi pobl mewn ffyrdd hollol wahanol, fel oedd yn amlwg o'r dorf. Ond yn amlwg, yr wythnos diwethaf, mi wnaethom ni hefyd glywed bod Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn edrych i dorri eu gwersi cerddoriaeth ac actio i blant a phobl ifanc, gan olygu mai dyma fydd yr unig goleg cerdd a drama yn y Deyrnas Unedig heb adran iau. Ar y penwythnos, mi gyhoeddodd y BBC erthygl yn dyfynnu Michael Sheen, sydd ar hyn o bryd wedi bod yn portreadu Aneurin Bevan yn y cynhyrchiad Nye. Disgrifiodd y toriadau i'n cyrff diwylliannol fel
'ymosodiad ar ddiwylliant yng Nghymru'.
Beth ydy eich asesiad chi o effaith y toriadau ar ein sectorau diwylliannol a chelfyddydol yng Nghymru, ac a ydych chi'n deall ac yn rhannu pryderon pobl fel Michael Sheen?
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y pryderon. Byddwch wedi clywed fy atebion i Laura Anne Jones ynglŷn ag edrych i weld beth y gallaf ei wneud i gefnogi'r sector. Ac rwy'n credu mai dyma'r amser iawn i lansio'r ymgynghoriad, a byddwn yn gwneud hynny yr wythnos hon. Oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael yr ymatebion i'r ymgynghoriad, i weld sut y gallwn ei gefnogi; ar wahân i gyllid, beth arall y gallwn ei wneud? Ac fel y dywedais, nid wyf yn tanamcangyfrif difrifoldeb y mater. Mae'n ymwneud â chelfyddydau a diwylliant—rydych wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fy mod i bob amser wedi meddwl mai diwylliant yw achubwr mawr bywyd, ac mae'n cael effaith ar ein hiechyd, ac mae'n cael effaith ar ein llesiant. Felly, byddaf yn parhau i weithio'n agos—. Byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yn enwedig, i weld beth—. Maent wedi cael yr adolygiad buddsoddi, er enghraifft. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dod â'r holl ddarnau ynghyd.
Diolch am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn deall bod nifer o sylwadau wedi'u gwneud sydd wedi bod yn feirniadol yn benodol o ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â diwylliant a'r celfyddydau hyd yma. Mae awdur Cymreig y ddrama Nye, Tim Price, wedi lleisio ei bryder, gan ddatgan
'Mae'r theatr yng Nghymru mewn argyfwng yn sgil y toriadau, ac yn dal i aros am strategaeth theatr gan Gyngor Celfyddydau Cymru.'
Aeth rhagddo i ddweud:
'Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gweld gwerth y celfyddydau yn yr un ffordd ag y mae gwledydd a rhanbarthau eraill yn ei wneud ac rwy'n credu y bydd hynny'n cael effaith enfawr ar lesiant ac ar yr economi.'
Rhaid i mi ddweud, ers i chi ddod i'r swydd, rwyf wedi gwerthfawrogi'r newid cywair ac rwy'n sicr eich bod yn deall, fel Ysgrifennydd y Cabinet. Ond a gaf i ofyn, ai chi yw'r unig lais yn y Llywodraeth, neu a ydych chi'n gweld newid mawr ei angen gan eich cyd-Aelodau, nid yn unig i sicrhau dyfodol y sefydliadau annwyl hyn ond i'w cefnogi i wneud y gorau o'u heffaith? Rydych chi wedi sôn yn y gorffennol eich bod wedi cael gwybod am waith Amgueddfa Cymru mewn addysg ac yn y blaen. Rydym yn gwybod eu bod yn cyfrannu, o ran y cyfraniad a wnânt i iechyd a chyfiawnder cymdeithasol. Felly, sut mae sicrhau nad yw'r buddsoddiad ond yn dod o'r portffolio diwylliant yn unig, ond o bob rhan o'r Llywodraeth?
Na, nid fi yw'r unig lais o gwbl. Cefais drafodaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ynghylch gwerth allforio Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n deall hynny'n iawn. Rwyf wedi cael trafodaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn perthynas ag Amgueddfa Cymru, fel y gwnaethoch chi nodi. Soniais am y gwasanaeth llesiant y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ei ddarparu. Felly, nid fi yw'r unig lais o gwbl, ac rwyf eisiau eich sicrhau o hynny. Nid oes neb eisiau gwneud toriadau i'r gyllideb, neb; nid oes yr un ohonom yn dod i'r byd gwleidyddol i wneud toriadau i'r gyllideb, ond rydym wedi wynebu toriadau gwirioneddol sylweddol. Felly, rwyf eisiau sicrhau pawb fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw'r sector diwylliant, ein sector chwaraeon, a'n sectorau celfyddydol i bob un ohonom.
Fe wnaethoch chi sôn mewn ateb cynharach am Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rwy'n gwybod, unwaith eto, fod hynny wedi creu haen arall o bryder i bobl, ac rwy'n sylweddoli'n iawn y gallai hynny gael effaith ar ddarpariaeth cerddoriaeth, yn enwedig i'n pobl ifanc. Felly, er bod hwnnw'n gorff annibynnol, mae'n haen arall, a maes arall, sy'n peri pryder.
Diolch yn fawr iawn i chi. Yn amlwg, mae yna gysylltiad, onid oes, rhwng yr holl doriadau yma o ran y sector yn gyfan gwbl. Ac, yn amlwg, mae'r strategaeth ddiwylliant yma yn hirddisgwyliedig, ond mi fyddwch chi'n ymwybodol hefyd ein bod ni wedi cytuno bod yr adnoddau oedd ar gael wedi mynd at liniaru'r toriadau mwyaf diweddar.
Felly, un o'r pethau y byddwn i yn hoffi gofyn i chi yw, gyda'r sefyllfa ariannol a'r lefel o doriadau ledled Cymru—a ddim dim ond gan Lywodraeth Cymru—mor ddyrys, oes yna asesiad effaith wedi'i gomisiynu o ran beth ydy'r sefyllfa o ran diwylliant a'r celfyddydau yng Nghymru ar hyn o bryd? Ac os felly, a wnewch chi ymrwymo i'w rannu gyda ni fel Aelodau o'r Senedd? Ond os does yna ddim, a wnewch chi ymrwymo i gomisiynu asesiad effaith fel bod y strategaeth ddiwylliant derfynol yn un a fydd yn sicrhau dyfodol y sectorau hyn a'r gweithlu? Oherwydd mae yna wastad risg, onid oes, y byddwn ni'n gofyn i bobl fod yn cyflawni ar y strategaeth yma, ond efallai na fyddan nhw'n bodoli, a rhai o'r gwasanaethau dŷn ni'n cymryd yn ganiataol rŵan ddim yn bodoli. Felly, mae'n rhaid inni ddeall beth ydy'r sefyllfa, beth fydd y sefyllfa, er mwyn i'r strategaeth honno fod yn un llwyddiannus.
Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn lansio'r ymgynghoriad. Fel y dywedais, rydym yn gwneud hynny yr wythnos hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae Siân Gwenllian wedi'i wneud gyda ni, a Phlaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Ac fel y dywedwch, yn dilyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad rwy'n credu bod yr arian a oedd wedi'i neilltuo ar gyfer cynllun gweithredu wedi ei roi tuag at liniaru colli swyddi. Ac rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Roedd angen inni ddiogelu bywoliaeth pobl.
Felly, rwy'n credu mai'r peth gorau i'w wneud nawr yw cael yr ymgynghoriad allan yno. Rwyf wedi gofyn am ymgynghoriad estynedig, oherwydd, am ei fod dros yr haf, rwyf bob amser yn gweld nad ydych yn cael yr ymatebion yn ôl mor gyflym. Felly, mae'n bwysig iawn—felly rwyf wedi'i ymestyn rywfaint, wythnos neu ddwy—i gael yr ymatebion hynny yn ôl, ac yna mae angen inni gyflwyno cynllun gweithredu. Ac ar yr adeg honno, rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod yna gyllid ar gael ar gyfer y cynllun gweithredu.
Hyd y gwn i, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi'i ystyried hyd yma, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n hapus i'w ystyried.