Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 22 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:35, 22 Mai 2024

Diolch, Llywydd. Gaf i groesawu'n fawr y sylwadau dŷch chi newydd eu gwneud fel ymateb i Laura Anne Jones? Mi gawsom ni i gyd ein swyno, ein cyfareddu, ddoe y tu allan i'r Senedd, a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd angen cael ein hatgoffa weithiau o bwysigrwydd y pethau yna, o ran ein hiechyd a'n hiechyd meddwl ni hefyd. Maen nhw'n ysgogi pobl mewn ffyrdd hollol wahanol, fel oedd yn amlwg o'r dorf. Ond yn amlwg, yr wythnos diwethaf, mi wnaethom ni hefyd glywed bod Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn edrych i dorri eu gwersi cerddoriaeth ac actio i blant a phobl ifanc, gan olygu mai dyma fydd yr unig goleg cerdd a drama yn y Deyrnas Unedig heb adran iau. Ar y penwythnos, mi gyhoeddodd y BBC erthygl yn dyfynnu Michael Sheen, sydd ar hyn o bryd wedi bod yn portreadu Aneurin Bevan yn y cynhyrchiad Nye. Disgrifiodd y toriadau i'n cyrff diwylliannol fel