Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 22 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:39, 22 Mai 2024

Diolch yn fawr iawn i chi. Yn amlwg, mae yna gysylltiad, onid oes, rhwng yr holl doriadau yma o ran y sector yn gyfan gwbl. Ac, yn amlwg, mae'r strategaeth ddiwylliant yma yn hirddisgwyliedig, ond mi fyddwch chi'n ymwybodol hefyd ein bod ni wedi cytuno bod yr adnoddau oedd ar gael wedi mynd at liniaru'r toriadau mwyaf diweddar.

Felly, un o'r pethau y byddwn i yn hoffi gofyn i chi yw, gyda'r sefyllfa ariannol a'r lefel o doriadau ledled Cymru—a ddim dim ond gan Lywodraeth Cymru—mor ddyrys, oes yna asesiad effaith wedi'i gomisiynu o ran beth ydy'r sefyllfa o ran diwylliant a'r celfyddydau yng Nghymru ar hyn o bryd? Ac os felly, a wnewch chi ymrwymo i'w rannu gyda ni fel Aelodau o'r Senedd? Ond os does yna ddim, a wnewch chi ymrwymo i gomisiynu asesiad effaith fel bod y strategaeth ddiwylliant derfynol yn un a fydd yn sicrhau dyfodol y sectorau hyn a'r gweithlu? Oherwydd mae yna wastad risg, onid oes, y byddwn ni'n gofyn i bobl fod yn cyflawni ar y strategaeth yma, ond efallai na fyddan nhw'n bodoli, a rhai o'r gwasanaethau dŷn ni'n cymryd yn ganiataol rŵan ddim yn bodoli. Felly, mae'n rhaid inni ddeall beth ydy'r sefyllfa, beth fydd y sefyllfa, er mwyn i'r strategaeth honno fod yn un llwyddiannus.