2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am ar 22 Mai 2024.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fynediad at wasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw? OQ61123
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar fynediad at wasanaethau fel rhan o'r tasglu hawliau pobl anabl. Mae'r gwaith hwn yn rhan annatod o wella mynediad at bob gwasanaeth yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer y rhai hynny sydd â cholled clyw.
Mae'n bwysig iawn fod pobl sydd â cholled clyw yn cael mynediad, os ydynt ei angen, at gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain wrth fynychu apwyntiadau meddygol, wrth ymdrin â chynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rwy'n aml yn ei gymharu â fi'n siarad Cymraeg: rwy'n ddigon hapus i siarad Cymraeg yn gymdeithasol, ond pan fo'n mynd yn gymhleth, rwy'n defnyddio un o'r rhain sy'n ei chyfieithu i mi. Ac rwy'n credu bod llawer o bobl eraill yn gwneud yr un peth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i bobl fyddar gael cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain er mwyn sicrhau eu bod yn deall yn iawn. Dyma'r unig ffordd o sicrhau bod y gymuned fyddar yn deall yr hyn sy'n cael ei ddweud yn iawn. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mynediad at ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain pan fo galw amdanynt?
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, Mike Hedges. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ddarparu addasiadau rhesymol, ac mae hynny'n cynnwys dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, sy'n hanfodol i sicrhau mynediad at wasanaethau. Ond rydym yn cydnabod fodd bynnag fod prinder dehonglwyr a chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, a bod angen adeiladu capasiti. Soniais mewn ateb cynharach fy mod wedi cyd-gadeirio cyfarfod y tasglu hawliau pobl anabl y bore yma, ac mae gennym ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yno i helpu rhai o'n pobl sy'n mynychu'r grŵp hwnnw. Rwyf wedi gorfod dysgu siarad yn llawer arafach, wrth symud ymlaen, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y drafodaeth honno. Roedd yn dda clywed rhywun yn dweud y bore yma fod Iaith Arwyddion Prydain yn rhan o TGAU nawr, ac yn amlwg, mae'n rhan o'r cwricwlwm, a Llywodraeth Cymru oedd un o'r rhai cyntaf i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith. Felly, nid wyf yn anghytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud o gwbl. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar y capasiti i sicrhau bod gennym ddigon o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain yma yng Nghymru, ond yn y cyfamser, rydym yn sicr yn annog darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n ymateb i anghenion pob dinesydd yng Nghymru.
Wel, mae mynediad at wasanaethau cyhoeddus i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain byddar yn cael ei rwystro gan ddiffyg darpariaeth o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain. Fe wnaeth rheolwr Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru, WITS, fynychu cyfarfod olaf y grŵp trawsbleidiol ar faterion byddar a gadeirir gennyf, a thynnu sylw at brinder dehonglwyr, yn enwedig ar gyfer gofal brys a gofal heb ei gynllunio, gyda'r rhan fwyaf o geisiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw, a chyda heriau o ran dod o hyd i ddehonglwyr sydd â sgiliau priodol ar fyr rybudd. Sut ydych chi'n cynnig mynd i'r afael â hyn a'r pryderon ynghylch y ffaith nad yw staff yn y gwasanaeth iechyd yn gwybod sut i drefnu dehonglwyr, ynghylch datgysylltiad rhwng staff yn y gwasanaeth iechyd a WITS sy'n arwain at ansicrwydd ynglŷn ag argaeledd dehonglwyr, ynghylch unigolion byddar yn cael llythyrau apwyntiad heb wybodaeth glir yn dweud a oes dehonglydd wedi'i drefnu, gan achosi dryswch ac ansicrwydd, ac ynghylch y diffyg ymwybyddiaeth yn y proffesiwn meddygol am anghenion unigolion sy'n ddall a byddar?
Wel, soniais am yr angen i adeiladu capasiti yma yng Nghymru. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain ochr yn ochr â Saesneg, Cymraeg ac ieithoedd eraill yn ei chwricwlwm ac mae angen i ni sicrhau nawr ein bod yn cefnogi'r cynnydd yn y gwasanaethau. Mae'n amlwg iawn mai Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf neu iaith ddewisol y gymuned fyddar nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.