Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 22 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:38, 22 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Na, nid fi yw'r unig lais o gwbl. Cefais drafodaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ynghylch gwerth allforio Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n deall hynny'n iawn. Rwyf wedi cael trafodaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn perthynas ag Amgueddfa Cymru, fel y gwnaethoch chi nodi. Soniais am y gwasanaeth llesiant y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ei ddarparu. Felly, nid fi yw'r unig lais o gwbl, ac rwyf eisiau eich sicrhau o hynny. Nid oes neb eisiau gwneud toriadau i'r gyllideb, neb; nid oes yr un ohonom yn dod i'r byd gwleidyddol i wneud toriadau i'r gyllideb, ond rydym wedi wynebu toriadau gwirioneddol sylweddol. Felly, rwyf eisiau sicrhau pawb fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw'r sector diwylliant, ein sector chwaraeon, a'n sectorau celfyddydol i bob un ohonom.

Fe wnaethoch chi sôn mewn ateb cynharach am Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rwy'n gwybod, unwaith eto, fod hynny wedi creu haen arall o bryder i bobl, ac rwy'n sylweddoli'n iawn y gallai hynny gael effaith ar ddarpariaeth cerddoriaeth, yn enwedig i'n pobl ifanc. Felly, er bod hwnnw'n gorff annibynnol, mae'n haen arall, a maes arall, sy'n peri pryder.