Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 22 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:37, 22 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn deall bod nifer o sylwadau wedi'u gwneud sydd wedi bod yn feirniadol yn benodol o ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â diwylliant a'r celfyddydau hyd yma. Mae awdur Cymreig y ddrama Nye, Tim Price, wedi lleisio ei bryder, gan ddatgan

'Mae'r theatr yng Nghymru mewn argyfwng yn sgil y toriadau, ac yn dal i aros am strategaeth theatr gan Gyngor Celfyddydau Cymru.'

Aeth rhagddo i ddweud:

'Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gweld gwerth y celfyddydau yn yr un ffordd ag y mae gwledydd a rhanbarthau eraill yn ei wneud ac rwy'n credu y bydd hynny'n cael effaith enfawr ar lesiant ac ar yr economi.'

Rhaid i mi ddweud, ers i chi ddod i'r swydd, rwyf wedi gwerthfawrogi'r newid cywair ac rwy'n sicr eich bod yn deall, fel Ysgrifennydd y Cabinet. Ond a gaf i ofyn, ai chi yw'r unig lais yn y Llywodraeth, neu a ydych chi'n gweld newid mawr ei angen gan eich cyd-Aelodau, nid yn unig i sicrhau dyfodol y sefydliadau annwyl hyn ond i'w cefnogi i wneud y gorau o'u heffaith? Rydych chi wedi sôn yn y gorffennol eich bod wedi cael gwybod am waith Amgueddfa Cymru mewn addysg ac yn y blaen. Rydym yn gwybod eu bod yn cyfrannu, o ran y cyfraniad a wnânt i iechyd a chyfiawnder cymdeithasol. Felly, sut mae sicrhau nad yw'r buddsoddiad ond yn dod o'r portffolio diwylliant yn unig, ond o bob rhan o'r Llywodraeth?