Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 22 Mai 2024.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y mae Llyr wedi nodi, mae'r argyfwng costau byw wedi cael effaith ddramatig ar lawer o bobl anabl. Diolch byth, mae chwyddiant bellach dan reolaeth, ac mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc Lloegr wedi uwchraddio rhagolygon twf y DU unwaith eto. Yn anffodus, mae penderfyniadau fel cynyddu'r tâl am ofal amhreswyl yn sicr yn creu ofn ymhlith llawer o bobl anabl ac yn gwneud iddynt orfod dewis rhwng bwyd neu ofal. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi annog cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y cynnydd arfaethedig mewn taliadau, a fydd, yn ôl Anabledd Cymru, yn gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â diffygion yng nghyllidebau awdurdodau lleol ac a allai arwain at bobl yn optio allan o ofal cymdeithasol?