Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 22 Mai 2024.
Y bore yma, cyd-gadeiriais fy nghyfarfod cyntaf o'r tasglu hawliau pobl anabl, ac roedd yn gyfarfod diddorol iawn, lle clywsom gan ffrydiau'r gweithgor a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt. Hwn oedd degfed cyfarfod y tasglu hawliau pobl anabl. Yr hyn a wnaeth argraff arnaf oedd effaith andwyol cymaint o bethau ar bobl anabl oherwydd y costau ychwanegol a'r rhwystrau sylweddol y maent yn eu hwynebu. Fel Llywodraeth, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl i sicrhau eu bod yn cael popeth y dylent ei gael, ac mae gennym siarter budd-daliadau Cymru hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â honno.