Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 22 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:46, 22 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Gwrando ar leisiau pobl yr effeithiwyd arnynt, iawn. Wel, dosbarthodd rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru bron i 190,000 o barseli bwyd brys yn y 12 mis o fis Ebrill y llynedd. Dyna'r nifer uchaf o becynnau y maent erioed wedi gorfod eu cyflenwi. Yn y cyfnod hwnnw, roedd 73 y cant o'r bobl a gyfeiriwyd at fanciau bwyd yn bobl anabl, sy'n fwy na dwbl y gyfran o'r boblogaeth sy'n bobl anabl mewn gwirionedd. Nawr, mae hynny'n amlwg yn peri pryder. Yn wir, mae ymchwil gan Scope wedi amlygu bod costau byw yn uwch i bobl ag anableddau, gydag aelwydydd anabl yn gwario £625 yn fwy bob blwyddyn ar gyfartaledd o'i gymharu ag aelwydydd nad ydynt yn anabl. O ystyried hyn, a ydych chi'n cytuno bod y cynigion i gynyddu'r cap ar ofal cymdeithasol amhreswyl i oedolion yng Nghymru yn annoeth ac a ydych yn cydnabod y bydd hyn yn gwthio pobl anabl i drafferthion ariannol dyfnach byth?