Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 22 Mai 2024.
Felly, nid wyf yn credu bod angen i chi gymryd fy ngair i ar hyn. O ran Opera Cenedlaethol Cymru—roedd un o'r bobl y gwneuthum gyfarfod â nhw ddoe, eu cyfarwyddwr cyllid, Stephanie, yn awyddus iawn i ddweud wrthyf am yr holl waith y maent yn ei wneud i gefnogi'r gwasanaeth hwnnw, oherwydd maent yn cydnabod ei bwysigrwydd yn llwyr. Rwyf wedi ymrwymo i ymweld â rhywle lle gallaf weld y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal, yn ystod toriad yr haf yn ôl pob tebyg, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedwch, nad ydym yn canolbwyntio ar eu cynyrchiadau anhygoel yn unig. Mae'n ymwneud â'r holl waith arall: soniais am y gwaith addysg y maent yn ei wneud; rydych newydd sôn am y gwaith a wnânt ym maes iechyd. Felly, rwy'n credu eu bod nhw eu hunain eisiau ei ddiogelu. Ond fy ymrwymiad iddynt ddoe—cyfarfûm â'r cadeirydd a'u prif weithredwr dros dro—oedd y byddwn yn gwneud popeth yn fy ngallu i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn.