Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 22 Mai 2024.
Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn lansio'r ymgynghoriad. Fel y dywedais, rydym yn gwneud hynny yr wythnos hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae Siân Gwenllian wedi'i wneud gyda ni, a Phlaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Ac fel y dywedwch, yn dilyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad rwy'n credu bod yr arian a oedd wedi'i neilltuo ar gyfer cynllun gweithredu wedi ei roi tuag at liniaru colli swyddi. Ac rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Roedd angen inni ddiogelu bywoliaeth pobl.
Felly, rwy'n credu mai'r peth gorau i'w wneud nawr yw cael yr ymgynghoriad allan yno. Rwyf wedi gofyn am ymgynghoriad estynedig, oherwydd, am ei fod dros yr haf, rwyf bob amser yn gweld nad ydych yn cael yr ymatebion yn ôl mor gyflym. Felly, mae'n bwysig iawn—felly rwyf wedi'i ymestyn rywfaint, wythnos neu ddwy—i gael yr ymatebion hynny yn ôl, ac yna mae angen inni gyflwyno cynllun gweithredu. Ac ar yr adeg honno, rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod yna gyllid ar gael ar gyfer y cynllun gweithredu.
Hyd y gwn i, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi'i ystyried hyd yma, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n hapus i'w ystyried.