– Senedd Cymru am 6:53 pm ar 22 Mai 2024.
Galwaf ar Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Thema'r ddadl heddiw yw adeiladu: system sgiliau adeiladu sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Hoffwn roi munud o fy amser i Mike Hedges, ar ôl i mi siarad.
Rwyf bob amser wedi bod yn hyrwyddwr brwd i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru, a fi yw cadeirydd presennol a sylfaenydd y grŵp trawsbleidiol ar adeiladu, a sefydlwyd yn 2007. Fe'i galwyd gyntaf yn grŵp trawsbleidiol ar yr amgylchedd adeiledig. Dros y blynyddoedd o gadeirio'r grŵp trawsbleidiol, rwyf wedi gweld ymrwymiad a gweledigaeth Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a rhanddeiliaid eraill yn y diwydiant. Maent yn chwarae rhan enfawr yn cefnogi ffyniant economaidd yng Nghymru, gan adeiladu a chynnal ystod eang o seilwaith sy'n hanfodol i'n bywydau bob dydd, a darparu hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd dysgu pellach i weithlu mawr.
Yn y ddadl hon, rwyf am ganolbwyntio ar yr heriau macro sy'n wynebu'r diwydiant, a'r rôl ganolog y mae'r system sgiliau yn ei chwarae wrth gefnogi'r diwydiant nawr ac yn y dyfodol. Ac mae'r pwyslais hwnnw ar y dyfodol yn hanfodol. Mae hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr ac uwchsgilio'r gweithlu presennol i gyflawni ein huchelgeisiau sero net yn yr amgylchedd adeiledig wedi bod yn ffocws cyson yng nghyfarfodydd ein grŵp trawsbleidiol. Mae'r diwydiant yn cael effaith economaidd aruthrol ledled Cymru. Yn 2023, roedd 43,420 o fusnesau adeiladu yng Nghymru yn cyflogi 93,500 o bobl, ac roedd cyfanswm gwerth archebion adeiladu newydd yng Nghymru ychydig o dan £2.3 biliwn. Yn 2022, roedd gwerth ychwanegol gros y sector adeiladu yng Nghymru bron yn £4.8 biliwn.
Rhagwelodd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu y byddai'r allbwn adeiladu yng Nghymru yn tyfu 1.2 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2004 a 2008. Yn amlwg, mae gan y diwydiant bwysigrwydd ac effaith enfawr ar draws economi Cymru. Dyma rai enghreifftiau o'r prosiectau seilwaith sydd ar y gweill yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru: gwynt alltraeth arnofiol yn y môr Celtaidd; gwelliannau i'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross; prosiectau adfywio ym Mhenfro, yn cynnwys Cei'r De, a Hwlffordd, yn cynnwys y gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus ac ailddatblygu glannau'r cei gorllewinol; canolfan lesiant Pentre Awel yn sir Gaerfyrddin; prosiectau erydu arfordirol ac amddiffyn rhag llifogydd yn Aberaeron; adeiladu ysgolion newydd drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy; ac adeiladu tai rhent cymdeithasol newydd drwy'r grant tai cymdeithasol.
Fe amlinellaf yr heriau unigryw y mae'r diwydiant yn eu hwynebu a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar y system sgiliau. Rhaid inni wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol, er mwyn sicrhau bod Cymru'n manteisio ar bob cyfle ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol ac i drawsnewid bywydau pobl sy'n gweithio ac yn hyfforddi o fewn y sector. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyfres o ddigwyddiadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio'n sylweddol ar fywydau pobl yng Nghymru a'r DU. Mae'r rhain yn cynnwys y pandemig COVID-19 a'i waddol parhaol, ôl-effeithiau parhaus Brexit ac yn fwyaf diweddar, yr argyfwng costau byw, wedi'i yrru gan gostau llawer uwch, gan roi straen ar gyllid cartrefi a hyfywedd rhai busnesau. Er bod economi Cymru a chyfraddau cyflogaeth yn parhau i wynebu heriau, mae cyfleoedd enfawr i ddenu gweithwyr newydd i yrfaoedd cyffrous a gwerth chweil yn y diwydiant hwn.
Mae recriwtio a datblygu'r gweithlu ar gyfer y dyfodol yn dal i fod yn her allweddol i gyflawni cyfleoedd twf, megis adeiladu'r nifer o gartrefi sydd eu hangen ar y wlad, y seilwaith ar gyfer ynni a thrafnidiaeth, ac ôl-osod yr amgylchedd adeiledig i gyrraedd targedau sero net. Dengys ffigurau diwydiant fod angen 11,000 o weithwyr ychwanegol ar Gymru erbyn 2028 i ateb y galw presennol ar y diwydiant adeiladu, sy'n golygu cyfradd recriwtio flynyddol o tua 2,200 o weithwyr. Mae'r gyfradd recriwtio flynyddol yn galw am gynnydd o 11 y cant i faint presennol y gweithlu yng Nghymru.
Mae'r diwydiant yn wynebu heriau recriwtio clir. Mae'r lefel recriwtio bresennol yn niwydiant adeiladu Cymru wedi bod oddeutu 8,900 o weithwyr y flwyddyn, ond mae mwy o bobl wedi gadael bob blwyddyn, sef tua 9,200. Y galwedigaethau sydd â'r gofynion recriwtio ychwanegol cryfaf yw crefftau gosod trydanol, bricwyr a seiri maen, cyfarwyddwyr, swyddogion gweithredol ac uwch reolwyr. Mae arolwg diwydiant Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu hefyd yn dangos bod mwy na thri chwarter yn credu y bydd prinder sgiliau yn eu galwedigaeth benodol ar gyfer gwaith datgarboneiddio a chyrraedd targedau sero net.
Mae'r ffigurau hefyd yn dangos tuedd ar i lawr o dystysgrifau ledled Cymru ar lefel 2 ac uwch mewn ystod o hyfforddiant adeiladu. Yn 2017, cafodd bron i 6,000 o dystysgrifau eu dyfarnu, yn ymwneud yn bennaf â gwaith coed, gweithredu peiriannau a gwaith brics. Erbyn 2023, roedd nifer y tystysgrifau a roddwyd wedi gostwng i ychydig dros 3,000. Dyna ostyngiad o 44 y cant, gyda gwaith coed i lawr gymaint â hynny, a gwaith brics i lawr 54 y cant. Mae hyn yn dangos bod angen mynd ati ar frys i ddenu mwy o newydd-ddyfodiaid i weithio ym maes adeiladu a chadw arbenigedd presennol cyn iddo gael ei golli drwy ymddeoliadau, ac i gynyddu amrywiaeth y gweithlu presennol. Ar hyn o bryd, mae 19 y cant o weithwyr adeiladu rhwng 16 a 24 oed, 47 y cant rhwng 25 a 44, ac mae 33 y cant o'r gweithlu dros 45 oed.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio dros nifer o flynyddoedd gyda rhanddeiliaid y diwydiant i weithredu polisïau sy'n ceisio cryfhau'r system sgiliau. Yn 2018 cyhoeddodd Cymwysterau Cymru 'Adeiladu'r Dyfodol', yr adolygiad o gymwysterau yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig yng Nghymru. Yn dilyn ymgynghoriad, gweithiodd Cymwysterau Cymru gyda chyrff dyfarnu i gyflwyno 22 o gymwysterau newydd ar gyfer Cymru, datblygodd CBAC gymhwyster TGAU newydd a Safon Uwch UG, a datblygwyd cymwysterau galwedigaethol newydd City & Guilds ac EAL i'w defnyddio mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Yn 2013 lansiwyd Sgiliau Adeiladu Cyfle, cynllun rhannu prentisiaeth, gan South West Wales Regional Shared Apprenticeships Ltd a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu ar draws sir Gaerfyrddin, Ceredigion, sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Ar hyn o bryd y prosiect arloesol hwn yw'r cynllun rhannu prentisiaeth mwyaf yn y DU, ac mae'r cynllun hwnnw'n cefnogi oedolion ifanc i gael gwaith cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi dros 95 o brentisiaid ac wedi cyflogi dros 780 o gynlluniau rhannu prentisiaeth hyd yma ar draws y crefftau allweddol. Ac mae rhannu prentisiaeth yn caniatáu i brentisiaid gwblhau eu rhaglen gyda nifer o gyflogwyr gwahanol, gan ganiatáu i gyflogwyr gyflogi prentis am gyfnod mor fyr â thri mis, i sicrhau mwy o hyblygrwydd a rhoi profiad ehangach. Mae tua 90 y cant o brentisiaid sy'n cwblhau'r tair blynedd wedi sicrhau cyflogaeth amser llawn yn eu crefft ddewisol, ac mae cynlluniau rhannu prentisiaeth yn cynnig buddion clir i gyflogwyr bach a chanolig eu maint, ac rwy'n awyddus i weld hynny'n cael ei ehangu oherwydd mae'n amlwg, yng Nghymru, mai dyna yw ein cyflogwyr targed.
O fewn y diwydiant, mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu hefyd yn cefnogi mentrau sydd â'r nod o helpu pobl i oresgyn rhwystrau rhag cael mynediad at gyflogaeth yn y diwydiannau adeiladu, sef y rhaglen tegwch, cynhwysiant a pharch, neu FIR; rhaglen llysgenhadon STEM GO Construct; a diwrnodau mewnwelediad i ddiwydiant. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi cyfrifon dysgu personol gwyrdd, ac mae'r rhain yn caniatáu i bobl astudio cyrsiau rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn o amgylch eu cyfrifoldebau presennol, sy'n eu galluogi naill ai i uwchsgilio neu ailhyfforddi. Byddant yn helpu i ddarparu'r sgiliau cywir i gefnogi taith Cymru tuag at sero net, gan gefnogi sgiliau sero net newydd a rhai sy'n datblygu mewn sectorau a dargedir yn enwedig, yn cynnwys ynni, adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu.
Nid yw sgiliau adeiladu wedi'u cyfyngu i dai. Yn ystod y gwaith o adeiladu fferm wynt Gwynt y Môr oddi ar arfordir gogledd Cymru, creodd RWE 700 o swyddi, gyda 100 o swyddi medrus ychwanegol ar gyfer y tymor hwy. Mae rhaglen hyfforddi RWE yng Ngholeg Llandrillo wedi hyfforddi dros 40 o brentisiaid, gan gynnwys prentisiaid tyrbinau ar y môr ac ar y tir a hydro ac atgyweirio llafnau. Mae Coleg Llandrillo yn gweithio gydag RWE i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau yn y sector gwynt ar y môr ac ynni, gan ddarparu addysg uwch i dechnegwyr trwy ddysgu o bell, a galluogi pobl canol oed i fynd yn ôl i'r coleg, ac fe wneuthum hynny fy hun fel mam ifanc—euthum yn ôl i Goleg Sir Benfro. Gallwch ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau tystysgrif genedlaethol uwch a diploma cenedlaethol uwch, a byddant yn hanfodol ar gyfer Cymru wyrddach.
I gloi fy nghyfraniad heddiw, hoffwn godi rhai o'r materion a gyflwynwyd i gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol ac arolygon diwydiant, a byddwn yn ddiolchgar am ymateb gan y Gweinidog ar sut y gellir goresgyn yr heriau hyn, a'r atebion a all sicrhau bod y diwydiant yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol.
Felly, y pwynt cyntaf yw prinder tiwtoriaid coleg, ochr yn ochr â'r her o uwchsgilio gwybodaeth bresennol tiwtoriaid, a sut y bydd y system addysg bellach yn ateb gofynion sgiliau yn y diwydiant ac yn sicrhau bod digon o gyrsiau wedi'u hanelu at unioni prinder sgiliau; creu capasiti ar gyrsiau fel nad oes rhaid i ddysgwyr aros i ddechrau'r daith ddysgu honno; yr oedi a all fodoli rhwng diwydiant yn mabwysiadu dulliau newydd a'r dulliau hynny'n cael eu mabwysiadu a'u haddysgu drwy'r cwricwlwm; a gallu cynghorwyr gyrfaoedd ac athrawon ac ysgolion i hyrwyddo'r amrywiaeth eang o yrfaoedd posibl yn y diwydiant i blant a phobl ifanc, ac wrth gwrs, bydd y TGAU yn helpu gyda hynny. Ac rwy'n teimlo, yng Nghymru'n arbennig, y bydd ehangu'r model rhannu prentisiaeth ledled Cymru, a datblygu llwyddiant y Prentis a Cyfle yn creu buddion yma ac yn tynnu rhywfaint o'r straen oddi ar y busnesau bach, yn bennaf, sy'n cyflogi pobl.
Ac rwy'n dod at y pwynt olaf, sef cael y dyddiad ar fabwysiadu'r TGAU a'r Safon Uwch mewn adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, oherwydd mae angen inni wybod pwy sy'n ei wneud, fel y gallwn ddeall profiad y dysgwyr hynny wedyn a'u rôl wrth ddatblygu talent newydd.
Felly, nod fy nghyfraniad heddiw oedd amlinellu pwysigrwydd y diwydiant adeiladu i ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol, yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant hwnnw yng Nghymru, fel y nodwyd gan y grŵp trawsbleidiol a'r rhanddeiliaid, ond yn bwysicaf oll, caniatáu peth amser i fynegi bod yna gyfleoedd enfawr, cyfleoedd pellgyrhaeddol, yn y diwydiant adeiladu. Ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog, ond yn gyntaf fe wnaf wahodd Mike Hedges i gyfrannu.
Diolch i Joyce Watson, yn gyntaf am gael y ddadl hon ar fater mor bwysig, a hefyd am roi munud i mi yn y ddadl hon.
Mae arnom angen gweithwyr adeiladu medrus. Yn y 1970au, roedd gennym gyflogwyr mawr fel BSE a BP yn hyfforddi cannoedd o drydanwyr, plymwyr a bricwyr. Mae'r cyflogwyr mawr naill ai wedi cau neu wedi lleihau nifer y prentisiaid sy'n cael eu hyfforddi'n sylweddol. Er mwyn adeiladu'r tai sydd eu hangen arnom, mae angen gweithwyr adeiladu. Wrth inni symud tuag at ddefnyddio trydan yn hytrach na nwy ar gyfer gwresogi, a phetrol ar gyfer ceir, mae angen mwy o drydanwyr arnom. Mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o weithwyr adeiladu medrus, wedi'u hyfforddi'n dda. Rwy'n cytuno â Joyce Waston fod Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn hynod o bwysig. Rwy'n falch ei bod yn bosibl gwirio cerdyn cynllun tystysgrif sgiliau adeiladu gweithiwr, cerdyn cynllun cymhwysedd peiriannau adeiladu, cerdyn cynllun cofnodi sgaffaldwyr y diwydiant adeiladu, neu dystysgrif brawf i sicrhau eu bod yn gymwys i wneud y gwaith y maent wedi dod i mewn i'w wneud.
Gallwn yn gyfreithlon ddisgrifio fy hun fel adeiladwr yfory. Ac rwy'n credu bod honno'n broblem sydd gennym, onid yw, nad oes amddiffyniad i grefftwyr. Ac rwy'n credu mai'r un peth sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw y dylai pobl fod yn cael eu tystysgrif City & Guilds er mwyn profi eu bod yn fedrus.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Joyce Watson am y cyfle i ymateb iddi ar y system sgiliau adeiladu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac iddi hi a Mike Hedges am eu cyfraniadau.
Mae angen system sgiliau effeithiol ar Gymru, sy'n gwella ac yn cefnogi pob sector. Mae gallu unrhyw Lywodraeth flaengar i gyflawni yn gwbl ddibynnol ar iechyd ein heconomi. Os gallwn ni gael economi sy'n wirioneddol gynaliadwy, sy'n creu ffyniant a mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n talu'n well ymhob rhan o Gymru, yna bydd gyda ni'r cyfle gorau i sicrhau bod pobl yn gallu ffynnu. Ac mae cysylltiad annatod rhwng sgiliau adeiladu ar yr un llaw a thwf cynhyrchiant ar y llaw arall.
Mae adeiladu yn sector allweddol yn economi Cymru, ac mae sgiliau yn y sector adeiladu yn gatalydd ar gyfer hybu twf economaidd a chyflymu cystadleurwydd. Ond mae angen gweithlu yng Nghymru sydd â'r sgiliau cywir i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn, ac mae hynny'n ymwneud â sicrhau bod gennym ochr cyflenwi sgiliau sy'n hyblyg ac yn gallu ymateb i newid. Wrth hynny, yr hyn a olygaf yw ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i sicrhau bod ein system addysg bellach yn ymateb i alw cyflogwyr, gan gynnig y cyrsiau sy'n cefnogi anghenion prosiectau adeiladu allweddol.
Mae cael y wybodaeth gywir am y farchnad lafur yn hanfodol er mwyn llywio ein gwaith yn llunio polisi. Rhaid i'n prifysgolion, hefyd, gael eu halinio yn y sector hwn fel bod gennym y llwybrau cywir i fyfyrwyr bontio i addysg uwch mewn disgyblaethau adeiladu penodol a meysydd sgiliau cyffredinol, megis busnes, rheoli prosiectau a chyllid. Yn sail i'r dull hwn mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r pedwar partneriaieth sgiliau rhanbarthol i adeiladu ar hynny a datblygu dull cenedlaethol ar gyfer sgiliau. Bydd angen i'r system sgiliau yng Nghymru allu ymateb yn effeithlon i'r galw gan gyflogwyr, a byddwn yn gofyn i'n partneriaid dynnu sylw at fylchau a phrinder sgiliau adeiladu a gweithio gyda'r sectorau addysg bellach ac addysg uwch i helpu i lywio'r cyflenwad i ddiwallu anghenion cyflogwyr. Yn ogystal, bydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol a gwybodaeth ehangach y farchnad lafur yn helpu i lywio'r defnydd o gyllid prentisiaeth i gefnogi ein nodau sero net. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod cyflogwyr adeiladu yn wynebu heriau wrth adeiladu llif o dalent yn y dyfodol i ymateb i dwf rhagamcanol y diwydiant, ac rydym yn awyddus i weithredu.
Gellir gweld enghraifft dda o'r ddarpariaeth yng ngogledd Cymru. Mae'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, mewn cydweithrediad â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a chyflogwyr adeiladu, yn gweithio gyda phum ysgol uwchradd ym Môn i ddarparu profiad cynhwysfawr o'r diwydiant adeiladu i fyfyrwyr blwyddyn 12, gan ganolbwyntio ar rolau lefel uchel fel peirianneg sifil, gwasanaeth mesur meintiau, rheoli prosiectau a rheoli adeiladu, drwy weithdai, sgyrsiau ysbrydoli gan gyflogwyr a phrofiadau ar y safle. Ac mae hyn yn helpu i hysbysu myfyrwyr cyn iddynt wneud eu ceisiadau prifysgol neu radd-brentisiaethau. Credaf fod hyn yn dangos pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth ar ddiben cyffredin, ac rwy'n teimlo'n angerddol fod angen inni edrych yn gyson ar sut yr awn i'r afael ag anghenion sgiliau'r genedl. Mae'n gwbl hanfodol, os ydym am lwyddo i dyfu'r economi'n gynaliadwy, gan sicrhau bod gan Gymru weithlu adeiladu medrus, ond hefyd os ydym am annog ein pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol, ac angen inni annog busnesau adeiladu'r dyfodol i fuddsoddi, mae'n rhaid inni ddarparu cynllun i unigolion ddeall y sgiliau sydd eu hangen arnynt a sut i'w caffael. Dyna sut y cysylltwn y cyfleoedd economaidd enfawr sy'n bodoli â bywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru—y llwybrau, y rhaglenni, y prentisiaethau a ddarparwn a fydd yn eu cael i ben y daith, ni waeth beth fo cefndir unrhyw unigolyn, neu a ydynt yn digwydd bod â modelau rôl neu rwydwaith o gysylltiadau yn y sectorau hynny. Rydym yn ffodus fod gennym brosiectau adeiladu cyffrous yng Nghymru a fydd yn darparu cyfleoedd go iawn, fel fferm wynt Awel y Môr oddi ar arfordir Llandudno, a fydd yn cynhyrchu digon o drydan i bweru 500,000 o gartrefi erbyn 2030, a'r safle arglawdd gwerth £360 miliwn yn ne Caerdydd, a fydd yn gweld 46 erw o dir llwyd yn cael ei adfywio i ddarparu 2,500 o gartrefi ochr yn ochr â 54,000 metr sgwâr o ofod busnes.
Mae gennyf gyfrifoldeb penodol am ynni, ac mae angen inni groesawu technolegau a dulliau adeiladu modern i dyfu gweithlu medrus ac adeiladu swyddi hirdymor o ansawdd wrth inni bontio i economi sero net. Mae uwchsgilio ein gweithlu â'r wybodaeth a'r hyfforddiant ymarferol a fydd yn ein helpu ar ein taith ddatgarboneiddio yn hanfodol. Yn y pen draw, bydd hyn yn sbarduno economi gryfach a mwy cystadleuol yng Nghymru drwy leihau'r bwlch sgiliau, drwy hybu swyddi da, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. I'r perwyl hwnnw, ym mis Hydref 2023, lansiwyd ymgynghoriad sgiliau sector sero net, a oedd yn gyfle i gryfhau ein dealltwriaeth o'r sefyllfa sgiliau a'r heriau sgiliau cyfredol ym mhob sector allyriadau yng Nghymru, gyda sgiliau adeiladu yn thema amlwg yn yr ymgynghoriad hwnnw. A bydd yr ymgynghoriad yn helpu i lywio cynlluniau sgiliau sector, a fydd yn caniatáu i gynlluniau a pholisi symud i'r blaen, i ysgogi a chreu gweithlu'r dyfodol. Ond mae honno'n dasg gymhleth, ac mae angen dull partneriaeth. Cyffyrddodd Joyce Watson â'r rhaglen cyfrif dysgu personol. Rydym wedi buddsoddi £30 miliwn yn honno, i helpu, fel y dywedodd, i gyflogi pobl i uwchsgilio ac ailsgilio. Mae rhan o hynny'n cynnwys buddsoddiad o £3.5 miliwn i gau'r union fylchau sgiliau sero net hynny mewn adeiladu, mewn ynni, mewn gweithgynhyrchu a pheirianneg. Ac mae'r amod cap cyflog bellach wedi'i ddileu ar gyfer yr elfen honno er mwyn caniatáu i fwy o bobl gael mynediad at y sgiliau a'r cymwysterau sero net gwerthfawr hynny. Rydym wedi creu elfen sgiliau sero net benodol yn ein rhaglenni sgiliau hyblyg, eto i helpu cyflogwyr i uwchsgilio eu staff er mwyn diwallu anghenion y dyfodol.
Yn ei sylwadau terfynol, nododd Joyce Watson rai materion penodol iawn y byddwn yn hapus iawn i fynd i'r afael â nhw. Yn yr amser sydd ar gael heddiw, ni fu'n bosibl gwneud hynny'n fanwl, ond rwy'n hapus iawn i ysgrifennu ati ynghylch y materion hynny yn dilyn y ddadl, ac rwy'n hapus iawn i osod copi o fy ymateb ar y cofnod ar gyfer Aelodau eraill y Senedd.
Diolch i Joyce Watson a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.