1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am ar 22 Mai 2024.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau rheilffyrdd dibynadwy i gymunedau gwledig? OQ61170
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd, sy’n dechrau gweithredu ledled Cymru. Wrth i'r trenau newydd ddod yn weithredol, mae dibynadwyedd a pherfformiad wedi gwella. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwn, ac yn alinio ein hamserlenni’n well â phatrymau teithio ôl-COVID newidiol ein teithwyr.
Diolch am yr ymateb.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cydnabod o'r blaen yr angen i gynyddu'r defnydd o reilffordd Calon Cymru, ac eto rydym yn gweld cylch dieflig o ostyngiad yn nifer y defnyddwyr os bydd gwasanaethau'n dod yn fwyfwy anymarferol ac anneniadol. Mae rhanddeiliaid lleol, fel Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru, wedi beirniadu’r amserlen newydd arfaethedig gan Trafnidiaeth Cymru, gan nodi y bydd yn ei gwneud bron yn amhosibl i unigolion gymudo neu gael amseroedd teithio rhesymol. Gyda dim ond tri thrên cyfeillgar i dwristiaid yn ystod yr wythnos, nid yw'r amserlen yn manteisio ychwaith ar botensial sylweddol y rheilffordd i ddenu ymwelwyr a hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy. Yn ei hymgynghoriad, mae'r gymdeithas yn tynnu sylw at ddau adroddiad ymgynghorol sydd wedi canfod bod angen o leiaf un trên bob dwy awr er mwyn i'r rheilffordd weithredu yn y ffordd orau bosibl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda Trafnidiaeth Cymru i gaffael trenau newydd, modern a mynd i’r afael â materion dibynadwyedd i adfywio rheilffordd Calon Cymru? Diolch yn fawr iawn.
Wel, a gaf i ddiolch i Jane Dodds am ei chwestiwn atodol? Mae'r rheilffordd yn un o'r rhai mwyaf syfrdanol yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Aelod yn llygad ei lle nid yn unig ei bod yn bwysig i bobl sy’n gorfod cymudo i’w cymunedau yn y canolbarth. Mae hefyd yn hanfodol bwysig i'r economi dwristiaeth yn y canolbarth. Yn dilyn trafodaethau gyda Network Rail, rwy'n gobeithio gallu rhannu newyddion cyffrous am botensial twristiaeth y rheilffordd honno yn y dyfodol agos.
Roeddwn ar y rheilffordd hefyd—roeddwn ar wasanaeth rheilffordd—yr wythnos hon, a chyfarfûm â’r grŵp teithwyr y cyfeiriodd yr Aelod ato, pobl wych a rannodd eu siom â mi ynghylch lleihau'r gwasanaeth. Yn anffodus, gwnaed yr arbedion o £1 filiwn i £1.5 miliwn drwy ddileu un o'r gwasanaethau dyddiol hynny, ond dim ond chwe theithiwr, ar gyfartaledd, a oedd ar y gwasanaeth dyddiol hwnnw. Ond rwy'n cydnabod bod ei golli'n rhywbeth sydd wedi digalonni pobl yr ardal yn fawr. Felly, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gyda grwpiau defnyddwyr teithwyr a chyda’r awdurdod lleol i drafod sut y gellid unioni’r sefyllfa drwy ddefnyddio gwasanaeth bysiau o ansawdd uchel fel opsiwn tymor byr, o leiaf. Byddwn yn falch iawn o gyfarfod â Trafnidiaeth Cymru, gyda’r Aelod, i sicrhau nad yw ei hetholwyr o dan anfantais.
Diolch am eich ateb i Jane Dodds, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl ar 24 Ebrill, mynegais bryderon ynglŷn â'r toriadau i reilffordd Calon Cymru. Fe ddywedoch chi bryd hynny eich bod o ddifrif ynghylch anghenion y bobl sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Fe aethoch yn eich blaen hefyd i ddweud y byddech yn cyfarfod â thrigolion ac Aelodau etholedig ynglŷn â hyn. Ers ein trafodaeth ar 24 Ebrill, nid wyf wedi cael cyfle i gyfarfod â chi i drafod yr heriau hyn. Yn ogystal, nid wyf wedi clywed am unrhyw gyfarfodydd a gawsoch gydag etholwyr yn uniongyrchol ynghylch y toriadau hyn. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa gamau a gymerwyd gennych i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan bobl ynghylch y lleihau nifer y gwasanaethau ar reilffordd Calon Cymru. Ac a allwch gadarnhau heddiw eich bod o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn, neu ai dim ond geiriau cynnes a sbin cysylltiadau cyhoeddus gan y Llywodraeth yw hyn mewn gwirionedd? Oherwydd mae’r bobl sy’n byw yn fy etholaeth yn awyddus i weld y gwasanaethau hyn yn cael eu hailgyflwyno, ac nid geiriau cynnes yn unig gan Lywodraeth Cymru yw'r hyn sydd ei angen arnynt; maent angen gweld gweithredu'n digwydd.
A gaf i ddiolch i James Evans am ei gwestiwn a dweud fy mod yn gresynu’n fawr nad ydym wedi cael cyfle i gyfarfod i drafod hyn wyneb yn wyneb? Ond rwyf wedi cyfarfod â thrigolion, ac fel y soniais wrth Jane Dodds, rwyf wedi cyfarfod â'r grŵp defnyddwyr yr wythnos diwethaf. Cynhaliwyd digwyddiad ar reilffordd Calon Cymru. Cyfarfûm â llawer o sefydliadau, yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, yn cynnwys rheolwyr rheilffyrdd a Network Rail. Codwyd y mater hwn gan nifer o bobl, ac felly rwyf wedi siarad â Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r angen i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd a’r angen i ddarparu gwasanaethau bysiau o ansawdd uchel, fel y dywedais wrth Jane Dodds, yn y tymor byr, o leiaf. Ond byddwn yn dal i groesawu cyfle i drafod y mater wyneb yn wyneb gyda James Evans.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn—. Mi wnaf i aros am eiliad. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod yna ymgynghoriad wedi bod ar newid amserlen trenau rheilffordd y Cambrian o Fachynlleth i Bwllheli. Mae'r newidiadau arfaethedig yma wedi achosi lot fawr o bryderon i bobl ar arfordir Meirionnydd—pobl a fydd, o gael y newidiadau yma mewn grym, yn methu mynd i'w gwaith, yn methu mynd i'w lle addysg. Yn wir, yr hyn sydd yn sarhad pellach ydy bod yr argymhellion yn argymell cynyddu nifer y trenau yn ystod tymor yr haf, er mwyn cael mwy o dwristiaid, ond llai yn ystod y tymor sydd y tu allan i dymor yr ymwelwyr, fydd yn niweidio cyfleoedd pobl leol er mwyn mynd i'r gwaith, addysg, siopa, ac yn y blaen. Felly, dwi eisiau sicrwydd gennych chi—tra dwi'n ymwybodol ac yn gwerthfawrogi mai ymgynghoriad oedd o—na fydd yr argymhellion yn yr ymgynghoriad yma yn cael eu gweithredu, ac y byddwch chi yn gwrando ar lais pobl sydd yn byw yn yr ardal ac yn ddibynnol ar y trên yna er mwyn mynd i'r gwaith ac addysg, ac yn datblygu amserlen a fydd yn siwtio anghenion pobl arfordir Meirionnydd.
A gaf i ddiolch i Mabon am ei gwestiwn a'i sicrhau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad dros y newidiadau arfaethedig i'r amserlen, ac unrhyw newidiadau a allai ddigwydd yn y dyfodol hefyd? Byddwn yn cytuno bod cael gwared ar ddau wasanaeth rhwng Machynlleth a Phwllheli, un i bob cyfeiriad, yn anffodus wrth gwrs, ond eto, fel gyda gwasanaeth Calon Cymru, mae'r galw amdanynt yn isel iawn. Mae ganddynt gyfartaledd o bedwar i bump o deithwyr, ac felly cyfradd cymhorthdal sylweddol iawn. Ac rwy'n gwybod bod Aelodau yn y Siambr hon wedi galw droeon am gymhwyso cymorthdaliadau tebyg i wasanaethau rheilffyrdd ar gyfer gwasanaethau bysiau, ond y broblem gyda hynny yw y bydd cymorthdaliadau i wasanaethau rheilffyrdd bob amser yn sylweddol uwch.
Nawr, y cwestiwn yw: ar ba bwynt ydych chi'n ystyried bod gwasanaeth yn anghynaladwy? A chyda dim ond pedwar i bump o deithwyr, barnwyd bod y gwasanaeth hwn yn anghynaladwy gan Trafnidiaeth Cymru yn yr amgylchedd ariannol presennol. Nawr, rydym yn gobeithio y bydd cyllid yn gwella. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd pobl yn newid ymddygiad teithio mewn cyd-destun ôl-COVID, wrth inni weld mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth i gyrraedd a gadael y swyddfa, yn hytrach na gweithio gartref, ac i ac o hybiau rhanbarthol. Ond gallaf sicrhau'r Aelod fod elfen hanfodol i'r penderfyniad a wnaed gan Trafnidiaeth Cymru, sef nad yw'r gwasanaethau a gollwyd yn cael eu defnyddio gan ddisgyblion i gyrraedd yr ysgolion yn Harlech a Thywyn. Dyna un budd sy'n deillio o'r ffaith eu bod wedi gwrando eisoes, ond gallaf sicrhau'r Aelod y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law o'r ymgynghoriad.