1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 22 Mai 2024.
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhinwedd eich swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru, a allwch ddweud wrthym pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gogledd Cymru'n cael ei gyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru?
Wel, gallwn siarad am oriau lawer ar y pwnc hwn—ac rwyf wedi gwneud hynny yn y gorffennol—ynglŷn â rôl hanfodol mentrau fel cyllidebau dangosol rhanbarthol, sicrhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Gweinidog dros ogledd Cymru ar faterion sy’n berthnasol i'r gogledd. Mae gennym is-bwyllgor Cabinet sy’n ystyried y prif faterion sy’n berthnasol i ogledd Cymru, ac rwy’n benderfynol o sicrhau, wrth inni chwilio am gyfleoedd i Gymru gyfan, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfartal, ac yn buddsoddi’n deg ac yn gyfartal mewn cyfleoedd i ysgogi ffyniant ledled y wlad.
Wel, rydych yn gwneud y synau iawn, ond rydym eto i weld y camau gweithredu iawn gan Lywodraeth Cymru—dyna'r realiti. Mae setliadau llywodraeth leol fel arfer yn waeth yng ngogledd Cymru. Rydym yn gweld diffyg buddsoddiad yn ein seilwaith ffyrdd yn y gogledd. Rydych yn adeiladu ysbytai newydd yn y de, ond nid yn y gogledd. Dyna hanes y Llywodraeth hon, ac rwy'n gobeithio efallai y gallwch chi fel Ysgrifennydd Cabinet newydd, sy’n cynrychioli etholaeth yn y gogledd, newid hynny.
Mae gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, ei hagenda ffyniant bro, ac mae'n awyddus i godi’r gwastad ledled y DU gyfan. Mae angen i Lywodraeth Cymru gael agenda ffyniant bro yng Nghymru, ond nid dyna’r realiti, oherwydd gadewch inni ystyried y gwahaniaeth, er enghraifft, rhwng gwariant yng ngogledd Cymru a de Cymru, dim ond ar y prosiectau metro. Mae metro de Cymru wedi cael dros £1 biliwn gan Lywodraeth Cymru, ac mae cyfres o brosiectau seilwaith mawr eisoes yn mynd rhagddynt mewn mannau eraill yn y de. Yn y gogledd, dim ond £50 miliwn a ddyrannwyd i’r prosiect metro yno. Nawr, hyd yn oed wrth roi cyfrif am y gwahaniaethau mewn poblogaeth, mae'r de yn dal i gael mwy na phum gwaith y buddsoddiad y pen—pum gwaith—na'r gogledd. Nid yw hynny'n ddigon da, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth rydych chi'n mynd i’w wneud i fynd i’r afael â’r annhegwch difrifol hwnnw?
Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am ei ail gwestiwn heddiw? Gadewch imi nodi'r ffeithiau. Mae metro de Cymru yn fuddsoddiad sylweddol iawn—buddsoddiad fel rhan o’r fargen ddinesig. Nid yw metro gogledd Cymru, a'r gwelliannau i seilwaith rheilffyrdd y gogledd, yn rhan o fargen dwf gogledd Cymru—y cytundeb cyfatebol. Er mwyn sicrhau bod y gwelliannau i'r seilwaith yn cael eu cwblhau i alluogi metro gogledd Cymru, mae'n rhaid i'r rheini sy'n gyfrifol am eu hariannu ysgrifennu'r sieciau. Nid yw hynny'n digwydd. Rydym wedi cael addewidion amhendant o arian ar gyfer trydaneiddio prif linell reilffordd y gogledd, a fyddai, gyda dim ond £1 biliwn, ond yn ei thrydaneiddio o Gaer i Brestatyn ar y gorau, yn ôl pob tebyg. Mae arnom angen ymrwymiadau cadarn gan Lywodraeth y DU, nid yn unig ar y brif linell reilffordd, ond mae arnom angen iddynt wneud ymrwymiad cadarn i uwchraddio rheilffordd Wrecsam-Bidston, y maent yn gyfrifol amdani, rheilffordd y Gororau, y maent yn gyfrifol amdani. Mae angen iddynt addo nad rhwng Caer a Phrestatyn yn unig y byddant yn trydaneiddio, ond yr holl ffordd i Gaergybi. Ac yn hollbwysig, er mwyn galluogi mwy o wasanaethau i deithwyr, mae’n rhaid inni sicrhau bod y problemau sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau capasiti yng ngorsaf Caer yn cael eu datrys hefyd. Mae’r rhain oll wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru, Growth Track 360, bwrdd rheilffyrdd Cymru, sy’n cyfuno swyddogion Llywodraeth Cymru â swyddogion Llywodraeth y DU. Yn anffodus, dro ar ôl tro, mae Trysorlys y DU wedi dweud 'na’. Dyna'r rheswm pam ein bod wedi gweld mwy o fuddsoddiad yn ne Cymru nag yng ngogledd Cymru. Pan gawn Lywodraeth Lafur newydd mewn grym yn San Steffan, rwy'n hyderus y bydd y gwahaniaeth mewn gwariant a buddsoddiad yn cael ei ddatrys.
Wrth gwrs, mewn gwirionedd, mae Llywodraeth bresennol y DU, y Llywodraeth Geidwadol, wedi cyflawni rhywfaint o drydaneiddio yng Nghymru, yn wahanol i’r addewidion a wnaed ac na chafodd eu cadw gan y Llywodraeth Lafur flaenorol, ac mae wedi ymrwymo i werth dros £1 biliwn o fuddsoddiad yn rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru er mwyn ei thrydaneiddio. Ond gadewch inni fynd yn ôl at eich cyfrifoldebau yma. Y gwir amdani yw bod cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i brosiectau yn y de, a'r nesaf peth i ddim, fel briwsion oddi ar y bwrdd, wedi'i roi i bobl y gogledd, sy'n ddig iawn wrth Lywodraeth Cymru am y sefyllfa honno a dweud y gwir.
Gadewch inni sôn am fater arall lle mae gwahaniaeth ac annhegwch enfawr i bobl y gogledd. Gadewch inni ystyried Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft. Prisiau tocynnau ar Trafnidiaeth Cymru: rhwng Abertawe a Chaerdydd, gallwch dalu £5.50 am docyn unffordd; mae taith debyg yn y gogledd rhwng Cyffordd Llandudno a Chaer yn costio £13.10. Mae'n wahaniaeth enfawr, sylweddol, sy'n annheg iawn. Pam y dylai pobl yn y gogledd dalu dwywaith cymaint am eu tocynnau trên, a pheidio â chael y buddsoddiad yn y metro a addawyd gennych ddau faniffesto yn ôl, a pham y dylent oddef y setliadau annheg a gânt o ran buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru?
Nid yw eich atebion heddiw yn ddigon da. Hoffwn wybod beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn a pha gamau penodol y byddwch yn eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn gan Trafnidiaeth Cymru.
A gaf i godi un pwynt ynglŷn â'r rheilffyrdd a'r gogledd a buddsoddiad? Fe wnaethom ofyn yn gyson i Lywodraeth y DU wario arian ar ddyblu rheilffordd Wrecsam i Gaer, oni wnaethom? Roeddent yn dweud 'na' o hyd. O ganlyniad i gytundeb rhyngom ni a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bu modd inni fuddsoddi ynddi. Byddwn yn parhau i fuddsoddi ynddi. Ni ddylem orfod gwneud hynny. Trysorlys y DU sy’n gyfrifol am y darn hwnnw o seilwaith rheilffyrdd, ond dywedodd Trysorlys y DU, o dan y Torïaid, unwaith eto, 'Na, ni fyddwn yn darparu ar gyfer gogledd Cymru’, yn union fel y dywedasant, 'Ni fyddwn yn darparu ar gyfer gogledd Cymru ar y lein o Wrecsam i Bidston’, yn union fel y gwnaethant ddweud na fyddant yn darparu ar gyfer gogledd Cymru o ran cyfyngiadau capasiti yng ngorsaf Caer, a fydd yn hwyluso mwy o wasanaethau i mewn i ogledd Cymru.
Maent wedi dweud 'na' wrthym pan wnaethom ofyn am rywfaint o reolaeth dros Avanti West Coast. Rydych yn sôn am wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, felly gadewch imi ddweud wrthych: mae prydlondeb Trafnidiaeth Cymru yn llawer gwell—llawer gwell—na phrydlondeb Avanti West Coast, cwmni y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano, ac maent yn gwrthod caniatáu unrhyw lais i ni o ran pwy ddylai reoli'r fasnachfraint honno. Yn wir, fe wnaethant ailbenodi Avanti West Coast heb hyd yn oed ofyn a oeddem yn cydsynio. Aethant ymlaen i roi sawl blwyddyn arall i Avanti West Coast, perfformiwr gwael iawn o gymharu â Trafnidiaeth Cymru, sawl blwyddyn arall o weithredu’r gwasanaeth rheilffordd aflwyddiannus hwnnw.
Nawr, o ran buddsoddiad yn y gogledd, gadewch inni ystyried rhai o'r buddsoddiadau diweddar a wnaethom. Gadewch inni ystyried y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn Airbus, darn hynod werthfawr o seilwaith a fydd yn ysgogi ffyniant nid yn unig yn Airbus ond ar draws y rhanbarth. Hefyd, mae lleoli pencadlys y banc datblygu yn y gogledd—
Rwy'n falch iawn o hynny.
Hynod bwysig—rwy'n falch eich bod yn ei groesawu. Ac nid yn unig hynny, fel y dywedais, rydym yn buddsoddi—
Briwsion.
Mae'n fwy na briwsion. Rydym yn buddsoddi mewn cyfleoedd ar draws y gogledd, ond rydym am wneud mwy ac fe fyddwn yn gwneud mwy. Byddwn yn gwneud hynny'n rhannol am ein bod wedi buddsoddi £800 miliwn mewn cerbydau rheilffyrdd newydd. Pan ddaeth Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am y fasnachfraint yn 2018, roedd gan Trafnidiaeth Cymru un o’r fflydoedd hynaf yn y DU. Erbyn diwedd eleni, bydd ganddynt un o'r fflydoedd mwyaf newydd. Dim ond 270 o gerbydau trên a oedd ar waith pan ddaethom yn gyfrifol amdanynt yn 2018. Erbyn i'r archebion gael eu cwblhau, bydd gennym fwy na 470 o gerbydau trên ar y rheilffyrdd, trenau newydd sbon yn gweithredu yn y gogledd. Ni all y masnachfreintiau y mae Llywodraeth y DU yn eu gweithredu yng Nghymru frolio'r un peth.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â thrafnidiaeth i bobl ifanc, os gwelwch yn dda. Mae strategaeth dlodi plant ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cost trafnidiaeth yn gwaethygu allgáu a thlodi plant. Nawr, mae nifer o gynlluniau gan y Llywodraeth sydd â'r nod o leihau costau trafnidiaeth yn rhannol i bobl ifanc. Rwy'n croesawu hynny. Ond mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi canfod nad yw 72 y cant o bobl ifanc yn ymwybodol o'r gostyngiadau sydd ar gael. A allwch ddweud wrthyf sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc i deithio’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy, ond hefyd sut rydych chi'n codi ymwybyddiaeth ymhlith y bobl ifanc hyn am y cynlluniau gostyngiadau a allai eu helpu i wneud y teithiau hynny?
Wel, a gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chwestiwn? Gwn fod hwn yn bwnc y mae'n angerddol yn ei gylch, ac mae wedi'i godi gyda mi nid yn unig yn y Siambr, ond hefyd yn ein trafodaethau preifat. Credaf y bydd cyfleoedd enfawr ar ôl inni basio’r Bil bysiau i greu nid yn unig system drafnidiaeth integredig, ond hefyd i sicrhau bod gennym brisiau tocynnau tecach, ac mae hynny’n cynnwys ar gyfer pobl ifanc. Nawr, fel y mae'r Aelod wedi'i nodi, mae cynlluniau teithio rhatach a theithio am ddim eisoes ar gael i blant a phobl ifanc ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn cadw golwg ar hynny. Mae’n seiliedig ar argaeledd cyllid o ran pa mor bell y gallwn fynd gyda hynny. Rydym yn agored i ystyried yr holl opsiynau ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys y rhai a allai ddod i fodolaeth pan fyddwn wedi dechrau rheoleiddio'r gwasanaethau bysiau eto.
Diolch. Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio’n anuniongyrchol, o bosibl, at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, a rhywfaint o’r trafodaethau a gawsom ynglŷn â hwnnw. Dywedwyd wrthym, ar y Mesur teithio gan ddysgwyr, na fydd yr adolygiad presennol yn arwain at unrhyw gynnydd yn y pellter cymhwystra ar gyfer cludiant am ddim i'r ysgol. Nawr, mae cost cludiant i'r ysgol wedi arwain at blant yn colli ysgol, am na all eu rhieni fforddio eu hanfon yno ar y bws ysgol. Nawr, rwy’n poeni am effeithiau hyn ar addysg, ar dlodi sy’n gwaethygu, fel rydym eisoes wedi’i drafod, allgáu cymdeithasol, ac ar y Gymraeg hefyd, oherwydd—unwaith eto, rydym wedi trafod hyn o’r blaen—mae achosion ledled Cymru lle mae rhieni yn dymuno anfon eu plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg, ond nid ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i'w hysgol Gymraeg agosaf. Felly, a allech ddweud wrthyf, yn gyntaf, os gwelwch yn dda, sut mae hyn yn cysylltu â 'Cymraeg 2050'? A hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, fe sonioch chi am gyllid. Mae'n peri pryder i mi nad yw Llywodraeth Cymru yn pwyso digon ar Lywodraeth y DU na Keir Starmer am ariannu teg i Gymru i helpu i unioni'r mater hwn, sy'n gwneud cam â'n plant a'n pobl ifanc. Felly, pa gamau y gwnewch chi eu cymryd ar fyrder i fynd i’r afael â hynny?
Unwaith eto, a gaf i ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn ar y pwnc hwn? Credaf fod 20 y cant o bobl ifanc mewn rhannau o Gymru yn methu mynychu eu cyfweliadau swyddi am nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus neu am fod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhy ddrud. Felly, mae anghyfiawnder cymdeithasol enfawr yn y system sy'n gweithredu heddiw, a dyna pam ein bod mor benderfynol o fynd ar drywydd y Bil bysiau erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Nod yr adolygiad a gynhaliwyd yw darparu rhyw fath o bont i ni at yr adeg pan fydd masnachfreinio yn digwydd. A’r pwynt allweddol gyda masnachfreinio, mewn perthynas â phobl ifanc ym myd addysg, yw y bydd yn ein galluogi i ddefnyddio’r holl wasanaethau at ddibenion cludo pobl ifanc i’r ysgol; bydd yn ein galluogi i gyfuno gwasanaethau rheolaidd i deithwyr yn well gyda chludiant i'r ysgol. Dylwn ddweud nad yw'r broblem yn ymwneud â fforddiadwyedd yn unig, o ran y cynlluniau pontio. Mae'n ymwneud hefyd ag argaeledd gyrwyr bysiau a bysiau, sy'n her fawr. Ac mewn rhai rhannau o Gymru, cafwyd heriau o ran recriwtio i'r sector. Mae'n un o'r rhesymau, mewn gwirionedd, pam y gwnaethom sefydlu'r bwrdd amrywiaeth mewn trafnidiaeth gyhoeddus, am ein bod yn cydnabod yr angen i gynyddu nifer y bobl a oedd yn hyfforddi nid yn unig fel gyrwyr bysiau, ond hefyd yn y diwydiant rheilffyrdd, ac roedd angen inni sicrhau bod gennym weithlu mwy amrywiol. Felly, mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo, ond mae'n ymwneud â mwy na'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth; mae a wnelo ag argaeledd bysiau a gyrwyr hefyd.
Diolch eto am hynny. Nawr, o ran y Bil bysiau, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi’i ddweud, yn sicr ynglŷn â'r angen i bontio’r bwlch hwnnw. Nawr, cyn i'r bont honno gael ei chwblhau, pan fydd y blociau adeiladu'n dal i fod ar yr ochr, beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw'r garfan sy'n colli cludiant am ddim i'r ysgol ar hyn o bryd yn cael cam rhwng nawr a hynny? A phan fydd y bysiau'n cael eu masnachfreinio, a ydych chi'n cytuno â mi y dylem fynd gam ymhellach mewn gwirionedd a chyflwyno tocyn bws am ddim i bobl ifanc? Oherwydd gwn fod yr Alban wedi cyflwyno hyn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf—teithio am ddim ar fysiau i bobl ifanc rhwng pump a 21 oed. Fe wnaeth y defnydd ychwanegol a ddeilliodd o hynny alluogi rhai cwmnïau bysiau i gynyddu'r gwasanaethau a ddarperir. Felly, mewn gwirionedd, er y gallai fod buddsoddiad ymlaen llaw, gallai hynny dalu ar ei ganfed a helpu i ryddhau rhagor o arian ar gyfer gwasanaethau ychwanegol yn gyffredinol. Felly, a yw tocyn bws am ddim i bobl ifanc yn rhywbeth yr ydych chi eisoes yn ei ystyried? Ac os nad yw, a wnewch chi ymrwymo i ddechrau edrych nawr ar y potensial i gyflwyno hynny yng Nghymru pan gaiff y Bil bysiau ei weithredu, os gwelwch yn dda?
Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y math hwn o fenter a'r potensial i fynd hyd yn oed ymhellach hefyd. Mewn rhai rhannau o Ewrop, mae gennych gludiant bws am ddim, y telir amdano drwy’r hyn sy’n cyfateb i’n treth gyngor ni. Felly, mae ffyrdd amgen ac ychwanegol o godi refeniw nid yn unig i gynyddu nifer y gwasanaethau sy’n weithredol, ond hefyd i wella hygyrchedd drwy ddileu’r gost i’r rheini nad ydynt yn gallu fforddio talu.
Felly, gyda masnachfreinio, bydd yn cynnig cyfle i greu nid yn unig un rhwydwaith, gydag un amserlen, gydag un tocyn, ond i gyflwyno trefn brisiau tocynnau lawer tecach ar drenau ac ar fysiau. Felly, rwy’n awyddus i ddysgu o fannau eraill, gan fod enghreifftiau rhagorol ledled Ewrop a thu hwnt, ac o fewn y Deyrnas Unedig, ac rwy’n awyddus iawn i ddysgu o unrhyw brofiadau a allai fod gan Aelodau yn y Siambr hon.