1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am ar 22 Mai 2024.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wella'r gwasanaeth bysiau yng Nghaerdydd? OQ61174
9. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i gefnogi teithio ar fysiau yng Nghaerdydd? OQ61161
Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 9 gael eu grwpio. Rwy'n ddiolchgar iawn.
Gallaf ddweud bod Cyngor Caerdydd a gweithredwyr bysiau lleol wedi bod yn gweithio’n rhagweithiol gyda’i gilydd i ddarparu rhwydwaith bysiau cynaliadwy yn y rhanbarth, gyda chefnogaeth cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy ein grant rhwydwaith bysiau, a gyflwynwyd ym mis Ebrill hefyd.
Mae cyllid y Llywodraeth ar gyfer yr orsaf fysiau i'w groesawu’n fawr, ond nid felly'r oedi cyn adeiladu gorsaf fysiau newydd. Cafodd yr orsaf fysiau ganolog ei dymchwel yn 2008 ac mae’r un newydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar fin cael ei hailagor. Ac mae wedi'i gwneud yn anodd iawn i bobl leol ac ymwelwyr â'n prifddinas wybod sut i ddefnyddio'r system fysiau. Yn y cyfamser, mae datblygiadau enfawr wedi bod, pob un ohonynt i'w croesawu, ond mae anghenion teithwyr bysiau yn sicr wedi eu dadflaenoriaethu. Ac ymddengys i mi fod angen inni edrych ar y broses gaffael o ran sut y gallai hyn fod wedi digwydd, gan y dywedwyd wrthyf na fyddai'n bosibl i'r datblygwyr orffen yn gynt heb achosi llawer o gostau ychwanegol i ddiwygio'r contract. Hoffwn ddeall sut y gallwn ddysgu o'r broses hon fel ein bod yn sicrhau, pan fydd rhywun yn ymrwymo i gontract, eu bod wedyn yn ei gwblhau o fewn amser penodol.
Wel, a gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn, ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd gorsaf fysiau newydd i Gaerdydd ac i'r rhanbarth ehangach hefyd? Mae'n hanfodol bwysig, er mwyn newid dulliau teithio, ein bod yn darparu cyfleuster addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i bobl aros ynddo am eu bysiau.
Nawr, rwy’n falch o allu rhoi gwybod i'r Senedd heddiw y bydd yr orsaf fysiau yn bendant ar agor erbyn toriad yr haf. Bu oedi—mae’r Aelod yn hollol gywir. Mae'r oedi diweddaraf yn ymwneud â chymeradwyo'r adeilad. Roedd yn anodd dod o hyd i swyddogion awdurdod lleol â’r sgiliau a’r arbenigedd priodol, ond rydym wedi gallu dod o hyd iddynt o Gaerffili, felly rydym yn ddiolchgar iawn i’r awdurdod lleol hwnnw. Ac fe gafodd allweddi'r orsaf, i bob pwrpas, eu rhoi i Trafnidiaeth Cymru ddydd Llun. Byddant yn cyfarfod â gwahanol grwpiau rhanddeiliaid nawr i sicrhau bod pryderon pawb ynghylch hygyrchedd yn cael eu hystyried, ac os oes unrhyw newidiadau munud olaf y bydd angen eu gwneud, fe gânt eu gwneud. Ond gallaf rannu’r wybodaeth honno heddiw y bydd yr orsaf fysiau’n cael ei hagor yn yr wythnosau nesaf. Diolch.
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi teithio ar fysiau yng Nghaerdydd?
Nid oes angen ichi ofyn y cwestiwn a gyflwynwyd yn y cyd-destun hwnnw, gallwch symud yn syth at eich cwestiwn atodol.
Diolch. Fel y mae Jenny Rathbone eisoes wedi’i ddweud, bu oedi enfawr mewn perthynas â'r orsaf fysiau. Mae fy etholwyr wedi gorfod aros am naw mlynedd bellach, rwy'n credu. Fe'ch clywaf yn dweud, ac rwy’n falch iawn o’ch clywed yn dweud, y bydd ar agor cyn yr haf, ond rydym wedi clywed hyn sawl tro o’r blaen, felly rwy'n credu y dylem gadw hynny mewn cof.
Ond roeddwn am godi’r cwestiwn ynghylch hygyrchedd yr orsaf fysiau newydd, oherwydd yn amlwg, rydym am i’r gyfnewidfa fod yn gwbl hygyrch. Dywedir wrthyf nad ymgynghorwyd â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain yng Nghymru ynghylch cynllun y gyfnewidfa, a deallaf fod gan Cŵn Tywys Cymru bryderon ynghylch diffyg man cymorth canolog ac y bydd yn rhaid i bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall ddod o hyd i lysgenhadon crwydr i gael cymorth, sy’n achosi cryn dipyn o bryder. Felly, nid wyf yn gwybod a oes unrhyw wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â faint o waith a wnaed gyda grwpiau anabledd er mwyn cynhyrchu'r fersiwn derfynol hon. Ac rwy'n gobeithio y bydd argymhellion y grwpiau'n cael eu hystyried pan fydd hyn wedi'i gwblhau.
Yn sicr. A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn hefyd? Gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau, o gofio bod yr orsaf wedi'i rhoi yn ôl i Trafnidiaeth Cymru yr wythnos hon, ein bod bellach yn gwbl sicr y bydd yn agor cyn toriad yr haf. Mae wedi dod yn ôl gan y contractwyr yn barod i Trafnidiaeth Cymru wneud gwaith ymgysylltu terfynol gyda nifer o wahanol grwpiau, a byddant yn cynnwys—gallaf roi sicrwydd i Julie Morgan—Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain a Cŵn Tywys Cymru. Byddant yn cael cyfle i ymweld â'r orsaf fysiau cyn iddi agor, i gael cyfle i roi adborth pellach. A gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau hefyd y bydd cyfnewidfa fysiau Caerdydd yn cydymffurfio'n llawn â'r gofynion a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. I gynorthwyo cwsmeriaid dall a rhannol ddall, bydd lloriau botymog yn yr ymgynullfannau oll, a bydd map hygyrchedd hefyd, a fydd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â lleoliad cilfannau bysiau a chyfleusterau. Nid yw’r llysgenhadon yno i gymryd lle gwasanaethau cymorth hollbwysig, maent yno i’w hategu, ac rwy’n siŵr y bydd grwpiau defnyddwyr yn eu croesawu pan fydd y gyfnewidfa ar agor.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf eisoes wedi dweud yn y Siambr hon fod bysiau yn Lloegr, ers peth amser bellach, wedi’u hôl-osod â ffaniau er mwyn helpu i wella ansawdd aer. Yn wir, canfuwyd, dros gyfnod o 100 diwrnod, y gall un bws dynnu oddeutu 65g o ronynnau o'r aer, sef oddeutu pwysau pêl dennis. Mae cael gwared ar y gronynnau hyn yn fuddugoliaeth hawdd i gynghorau, i wella ansawdd aer a mynd i’r afael â llygredd gwenwynig, gan nad oes angen ynni—mae’r hidlyddion yn gweithio wrth i’r bws symud o gwmpas. Gyda hyn mewn golwg, pam nad oes gennym y bysiau hyn yng Nghaerdydd? Diolch.
A gaf i ddiolch i Joel James am ei gwestiwn? Os caf dawelu ei feddwl, mae datgarboneiddio'r fflyd fysiau yn ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru. Yn y gwanwyn, rydym wedi bod yn rhannu ein cynlluniau i gyflawni'r ymrwymiad hwn a'r targed a nodir yn 'Cymru Sero Net'. Rydym wedi bod yn buddsoddi mewn bysiau trydan ledled Cymru—yn y gogledd a'r de. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill hefyd ar gyfer gwasanaethau hydrogen hefyd. Mae datgarboneiddio’r fflyd fysiau yng Nghymru erbyn 2035 yn rhaglen uchelgeisiol, ond rydym yn hyderus y gallwn ei chyflawni ac rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid i gyflawni yn erbyn yr agenda hon.