– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 21 Mai 2024.
Eitem 7 sydd nesaf. Y Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yw'r rheoliadau yma. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae arnom ni eisiau i'n hanifeiliaid fferm gael bywyd da, ac rydym yn cymryd lles mewn lladd-dai o ddifrif. Bydd Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yn ei gwneud hi'n ofynnol gosod camerâu cylch cyfyng mewn lladd-dai mewn ardaloedd lle mae anifeiliaid byw yn cael eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a'u lladd. Bydd angen i weithredwr y lladd-dy gadw delweddau wedi'u recordio am gyfnod o 90 diwrnod o leiaf, a'u bod ar gael i bersonau awdurdodedig, er enghraifft milfeddygon swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, i weld, copïo neu atafaelu at ddibenion monitro a gwirio safonau lles anifeiliaid.
Felly, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y rheoliadau yn dod i rym mewn dau gam. Yn gyntaf, bydd rheoliadau 1 i 4 yn dod i rym ar 1 Mehefin. Dyma'r gofynion i osod a gweithredu system teledu cylch cyfyng a chadw lluniau a gwybodaeth teledu cylch cyfyng. Yn ail, bydd rheoliadau 5 i 14 yn dod i rym ar 1 Rhagfyr. Dyma'r troseddau a'r pwerau i archwilio, atafaelu a gorfodi'r rheoliadau. Felly, mae hyn yn darparu cyfnod o chwe mis lle bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi gweithredwyr lladd-dai i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau 1 i 4 cyn gorfodi'r rheoliadau. Rydym ni wedi gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd i ddatblygu canllawiau i helpu gweithredwyr i gydymffurfio â'r rheoliadau. Mae gweithredwyr lladd-dai wedi bod yn ymwybodol o'n bwriad i fynnu teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ers 2021, pan ysgrifennodd y prif swyddog milfeddygol gyntaf i'w cynghori am ymrwymiad y rhaglen lywodraethu. Yna ysgrifennodd eto yn ddiweddar yn cynghori gweithredwyr bod y rheoliadau wedi'u cyflwyno.
Nawr, gadewch i ni fod yn glir, ni all teledu cylch cyfyng ddisodli goruchwyliaeth uniongyrchol gan reolwyr lladd-dai neu filfeddygon swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ond fe wyddom ni y gall wella effeithlonrwydd monitro a gorfodi. Mae data'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2022/23 yn dangos bod o leiaf 15 y cant o achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn lladd-dai yn cael eu nodi naill ai trwy wylio teledu cylch cyfyng yn fyw neu wedyn, ac mae teledu cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd fel tystiolaeth i gefnogi camau gorfodi. Nododd adolygiad o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn Lloegr, lle bu yn orfodol ers 2018, fanteision i les anifeiliaid a sicrwydd safonau lles. Gall recordiadau teledu cylch cyfyng hefyd fod yn offeryn defnyddiol i weithredwyr lladd-dai wrth hyfforddi staff newydd a phresennol. Felly, mae hyn i gyd yn rhoi mwy o hyder i ddefnyddwyr bod safonau lles yn cael eu cyflawni.
Pan ymgynghorodd fy rhagflaenydd, y Gweinidog materion gwledig, ar gynigion, cafwyd dros 16,000 o ymatebion. Cytunodd y mwyafrif llethol y dylid gosod camerâu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy mewn ardaloedd lle mae anifeiliaid byw yn bresennol. Ac i fod yn glir, mae gan y rhan fwyaf o'n lladd-dai ryw fath o deledu cylch cyfyng eisoes ar waith. Mae ein lladd-dai mwy, sy'n prosesu'r rhan fwyaf o anifeiliaid, eisoes yn cadw at brotocol a ddatblygwyd ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chyrff y diwydiant i alluogi milfeddygon swyddogol i gael mynediad at luniau teledu cylch cyfyng. Bydd y gost i weithredwyr lladd-dai wrth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn amrywio, yn dibynnu ar faint a chynllun pob adeilad, ac mae'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol yn rhoi golwg deg a rhesymol ar effaith ddisgwyliedig y rheoliadau, ac rwy'n fodlon bod y buddion yn cyfiawnhau'r costau tebygol. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad ar y rheoliadau, yr ydym ni wedi'u nodi. Felly, Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau. Diolch yn fawr iawn.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r rheoliadau hyn. Heddiw, bydd fy nghyd-Aelodau a minnau yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau hyn yr ydych chi wedi'u cyflwyno, gan ein bod yn credu'n gryf bod angen i'r defnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ledled Cymru godi safonau ar draws y diwydiant. Mae lles anifeiliaid yn gonglfaen i'n gwerthoedd yng Nghymru, ac rydym ni'n credu bod y rheoliadau hyn yn gam hanfodol tuag at sicrhau bod anifail yn cael ei drin yn drugarog drwy gydol ei oes. Ar hyn o bryd, mae cynnal lles anifeiliaid mewn lladd-dai yn dibynnu ar arolygu a hunan-adrodd. Er bod y dulliau hyn yn werthfawr, mae ganddyn nhw eu cyfyngiadau. Canfu adroddiad yn 2021 gan yr RSPCA fod dros 22 y cant o bryderon lles yr ymchwiliwyd iddyn nhw yn deillio o ladd-dai, felly mae teledu cylch cyfyng yn cynnig ateb i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried ymddiriedaeth y cyhoedd yn y diwydiant bwyd, ac mae hyn yn dibynnu ar fod yn agored. Mae teledu cylch cyfyng yn gofnod gwrthrychol o drin a lles anifeiliaid, gan feithrin hyder y cyhoedd bod y rheoliadau hyn yn cael eu dilyn, a chodi safonau. Fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, gall pobl awdurdodedig adolygu lluniau, gan ganiatáu iddyn nhw nodi materion posibl ac ymchwilio i bryderon yn fwy effeithlon. Mae astudiaethau gan Brifysgol Bryste yn dangos bod lluniau teledu cylch cyfyng yn gwella'n sylweddol y broses o ganfod achosion o dorri safonau lles anifeiliaid. Mae pobl sy'n gweithio mewn lladd-dai, os ydyn nhw'n gwybod eu bod yn cael eu recordio, mae'n annog y staff hynny i fod yn fwy cyson a chadw at arferion ac i beidio â gwneud unrhyw beth sy'n groes i'r gyfraith.
Rwy'n deall y gallai rhai fod yn bryderus am gost neu gamddefnyddio lluniau. Fodd bynnag, rydw i a'r grŵp Ceidwadol yn credu bod y manteision yn gwrthbwyso'r rhain o gryn dipyn. Mae cost gweithredu teledu cylch cyfyng yn fach iawn o'i gymharu â manteision moesegol ac economaidd gwella lles anifeiliaid. Mae rheoliadau llymach yn sicrhau bod deunydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion monitro a gorfodi yn unig. Mae asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun ar y rheoliadau hyn yn amlygu, er bod teledu cylch cyfyng eisoes mewn lladd-dai mwy, mae yna lawer ar draws y wlad hebddynt. Mae hyn yn creu sefyllfa annheg ac yn cyfyngu ar oruchwyliaeth. Felly, credwn fod hyn yn rheswm arall pam mae ei angen.
Ond, fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, nid yw hyn yn ymwneud â disodli arolygiadau; mae'n ymwneud â chryfhau'r holl system o fonitro lles anifeiliaid ledled Cymru. Rwy'n gwybod y bu yna bryderon gan ladd-dai llai ledled Cymru, ond byddwn i'n dweud wrth y bobl hynny: peidiwch â gweld hyn fel rhwystr. Gwelwch hyn fel help i wella safonau lles anifeiliaid mewn gwirionedd a gwella hyder y cyhoedd yn y bwyd yr ydym ni'n ei gynhyrchu yma ledled Cymru. Mae gennym ni hanes hir a balch yng Nghymru o hyrwyddo lles anifeiliaid, ac mae'r rheoliadau hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i hynny. Trwy weithredu'r rheoliadau hyn, rydym ni'n anfon neges glir na fydd creulondeb tuag at anifeiliaid yn cael ei oddef. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio pob offeryn sydd ar gael i ni i sicrhau lles pob anifail, trwy'r gadwyn fwyd. Felly, rwy'n annog pawb yn y Siambr hon heddiw i roi eich cefnogaeth lawn i'r rheoliadau pwysig hyn, a byddwn yn cefnogi'r Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma.
Yn yr un modd, bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau hyn hefyd, er bod gen i rai pryderon ynghylch y goblygiadau ariannol i'r lladd-dai llai, y bydd hyn yn amlwg yn ddisgwyliedig ganddyn nhw. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn hwylio'n agos iawn at y dibyn, ac maen nhw'n rhan hanfodol o economïau gwledig. Maen nhw'n cynnig llwybr gwerth uwch i'r farchnad ar gyfer bridiau brodorol a phrin, sy'n rhywbeth nad yw'r lladd-dai mwy yn tueddu i'w wneud, neu nad ydyn nhw'n gallu gwneud, efallai, weithiau, neu hyd yn oed yn amharod i wneud hynny, felly mae angen i ni fod yn ofalus yma nad ydym ni'n colli rhywbeth wrth gyflwyno'r rheoliadau hyn. Ac maen nhw hefyd yn cefnogi safonau uwch o les anifeiliaid, gyda llaw, oherwydd mae lladd-dai lleol llai yn helpu, wrth gwrs, i leihau amseroedd teithio i'w lladd, felly does arnom ni ddim eisiau gweld yn anfwriadol bod gennym ni lai o'r lladd-dai llai ac wedi hynny bod yn rhaid i anifeiliaid deithio ymhellach, oherwydd bydd hynny'n amlwg yn cyflwyno elfen wahanol o bryder lles.
Felly, fy nghwestiwn i, i bob diben, y byddwn i'n gofyn i chi fynd i'r afael ag ef efallai wrth ymateb i'r ddadl hon yw: pa fath o fesurau cymorth ariannol fyddech chi'n eu hystyried, o bosibl, fel Llywodraeth, i gefnogi'r lladd-dai llai i gydymffurfio â'r rheoliadau newydd hyn? Oherwydd rwy'n credu mai cyfanswm y gost gyfalaf yw £40,000 ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng. Ni fyddai'n gyfraniad enfawr gan Lywodraeth Cymru, ond, i'r lladd-dai llai byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr, rwy'n credu. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU ychydig fisoedd yn ôl wedi cyhoeddi cronfa lladd-dai llai gwerth £4 miliwn. Maen nhw mewn gwirionedd wedi gorfod cynyddu'r uchafswm grant a ganiateir oherwydd bod lladd-dai llai yn ei chael hi'n anodd ac angen mwy o gefnogaeth. Felly, dim ond pendroni ydw i—. Efallai y bu neu na fu cyllid canlyniadol Barnett i hynny, ond, os nad oedd, oes gennych chi unrhyw beth mewn golwg o ran helpu'r lladd-dai llai, o ran yr hyn sy'n gyfraniad pwysig iawn y maen nhw'n ei wneud mewn cymaint o ffyrdd, i weithredu'r rheoliadau hyn yn effeithiol? Diolch.
Llywydd, yn gynharach yn y flwyddyn, roeddwn i'n rhan o ddirprwyaeth o'r Senedd i Ynysoedd Falkland gydag Aelodau o'r Senedd, lle buom yn siarad am feysydd o gyd-ddiddordeb a bu i lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, gallaf ddweud yn hyderus, ddangos ei wybodaeth am y maes penodol hwn a siarad yn helaeth yn ystod ein cyfnod dramor a bu iddo yn sicr fy ngoleuo ar y pwnc hwn.
Llywydd, os cânt eu pasio heddiw, bydd y rheoliadau hyn yn cyflawni'r camau y gofynnwyd amdanyn nhw gan ddeiseb, P-04-433, 'Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai', a gyflwynwyd gyntaf yn ôl yn 2012. Cyflwynwyd y ddeiseb honno gan Kate Fowler ar ran Animal Aid a derbyniodd dros 1,066 o lofnodion i gefnogi. Yn ôl yn 2020—dw i'n meddwl mai'r Cadeirydd oedd Janet Finch-Saunders bryd hynny—fe ysgrifennodd y pwyllgor adroddiad a gwneud yr argymhelliad canlynol:
'Bod Llywodraeth Cymru ei gwneud yn orfodol i osod a chynnal systemau teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yng Nghymru.'
Roeddwn yn falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru, yn 2020, wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, ac rwy'n falch, gyda chefnogaeth y Senedd a chymeradwyaeth y Senedd ar ôl heddiw, y caiff ei dderbyn yn ymarferol.
Llywydd, nid yw datblygiad syniad da o'i genhedlu i bolisi cenedlaethol bob amser yn llinell syth, nid yw bob amser mor syml ag y gallai ymddangos neu efallai y dymunwn iddo fod, ond rwy'n gobeithio y gallwch chi a'r Ysgrifennydd Cabinet wrth ymateb ymuno â mi i longyfarch y deisebydd a phawb a lofnododd y ddeiseb honno dros ddegawd yn ôl nawr. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, ac a gaf i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth hefyd? Byddaf yn ymdrin â'r cwestiynau sydd wedi codi mewn eiliad. Ond, James, diolch yn fawr iawn i chi am y ffordd rydych chi wedi siarad, gan awgrymu cefnogaeth ar gyfer hyn, ar sail lles anifeiliaid, ond hefyd, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, o ran hyder defnyddwyr hefyd, a'r ffaith bod angen i ni siarad yn gryf am ein safonau lles anifeiliaid da ac yna cyflawni hynny drwy Gymru benbaladr, ac ailadrodd yn ogystal rywfaint o'r dystiolaeth sy'n dangos bod hyn yn gweithio mewn gwirionedd; mae yn wir yn gweithio.
Diolch i chi hefyd am yr hyn rydych chi'n ei ddweud, bod y ffaith bod y gost yn fach iawn o'i gymharu â'r manteision sy'n cronni o hyn, sy'n dod â mi, Llyr, at eich pwyntiau, ac unwaith eto, diolch i chi am gefnogi hyn hefyd ac am gefnogaeth Plaid Cymru ynghylch hyn. Y peth cyntaf i'w nodi yw bod y gost yn wir, fel y soniodd James, yn weddol isel o ran costau cyffredinol gweithredu hyd yn oed lladd-dy bach, ac mae gen i ladd-dai bach yn fy nhref fy hun yr wyf yn byw ynddi. Ond o ran diddordeb—. Soniais yn gynharach am yr amser paratoi hir a roesom ni iddyn nhw er mwyn caniatáu i bobl baratoi ar gyfer hyn. Ond, o ran y cyllid, yn gyntaf oll, gadewch imi ddweud y byddwn yn parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a chyda gweithredwyr lladd-dai mewn perthynas gefnogol iawn i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflwyno. Rydym ni eisoes wedi sicrhau bod cyllid ar gael drwy'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd i gefnogi lladd-dai bach a chanolig eu maint i, ymhlith pethau eraill, osod ac uwchraddio eu systemau teledu cylch cyfyng. Nawr, caeodd y cynllun buddsoddi busnesau bwyd yn flaenorol. Gwahoddwyd wyth cais, gyda thri phrosiect wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, gyda sawl mil o bunnau o grantiau yn cael eu cefnogi ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng. Yna agorodd y cynllun cyflymu busnesau bwyd ym mis Tachwedd 2022 i ddarparu grantiau cyfalaf i gefnogi buddsoddiad mewn offer gweithgynhyrchu a moderneiddio i gynyddu effeithlonrwydd. Yn ddiddorol, ni chafwyd unrhyw geisiadau o ladd-dai ar gyfer y gronfa hon, ond os daw cyllid ar gael—ac mae hynny yn 'os', mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, o gofio'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd—os daw cyllid ar gael, gall y cynllun hwnnw ailagor.
Ond dim ond i ddweud hefyd bod is-adran fwyd Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth i'r diwydiant y gall lladd-dai bach yng Nghymru ei ddefnyddio i wella cynhyrchiant, gan gynnwys twf busnes, sgiliau, ehangu a chymorth cyllid. Y rheswm pam rwy'n dweud hynny yw, er nad oes gennym ni gynllun penodol yma, ar hyn o bryd, yr ydym ni wedi'i gael o'r blaen, y gellid bod wedi cael mynediad ato ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng, mae cynlluniau eraill ar gael y gall lladd-dy bach, gyda rhywfaint o gyngor, o siarad â'r gweithredwyr ar lawr gwlad, gyda chefnogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, fanteisio arnyn nhw ar gyfer eu busnes cyffredinol a allai helpu i liniaru'r costau bychain eraill yma o roi teledu cylch cyfyng ar waith mewn gwirionedd.
Gadewch imi droi, felly, o'r diwedd—. A chyfeiriodd Jack at y ddeiseb yn ôl yn 2012 a gyflwynwyd gan Kate Fowler, gyda'r nifer aruthrol o lofnodwyr, ac rydym ni'n gwbl ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi hyn dros nifer o flynyddoedd. Mae'n ddegawd. Cymerodd hyn amser hir i ddod. Ond bydd gennym ni chwe mis o baratoi cyn i ni gyrraedd amser gorfodi, felly byddwn yn gweithio gyda lladd-dai, ac, fel roedd Llyr yn ei ddweud, y lladd-dai bach a chanolig hynny sydd mor bwysig i wead ein cymunedau gwledig a'n system gynhyrchu bwyd. Byddwn yn gwneud i hyn weithio, byddwn yn ei wneud yn dringar. Ond bu galw enfawr i fwrw ymlaen â hyn a'i roi ar waith a'i wneud yn dda, felly fe wnawn ni hynny.
A gaf i ddweud wrth gloi, Llywydd, bu hon hefyd yn ymgyrch hirhoedlog gan unigolion yng Nghymdeithas Lles Anifeiliaid Maesteg, sy'n dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni, y maen nhw wedi fy ngwahodd i iddo yn ddiweddar? Siaradais cyn y penwythnos hwn ag un o drefnwyr hynny, ac roedd hi wrth ei bodd gyda'r ffaith ein bod ni nawr yn bwrw ymlaen â hyn. Felly, da iawn i bawb sydd wedi ymgyrchu dros hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd y prynhawn yma'n ei gefnogi. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Fydd yna ddim angen am bledleisiau heddiw.