6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru

– Senedd Cymru am 4:48 pm ar 21 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:48, 21 Mai 2024

Felly, eitem 6 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fframwaith imiwneiddio cenedlaethol Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ychydig dros 18 mis ers i mi lansio'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd rydym ni wedi'i wneud ac i rannu rhai o'r cynlluniau sydd gennym ni ar gyfer gweddill eleni.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud mai brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf diogel a mwyaf effeithiol o atal lledaeniad, ac amddiffyn pobl rhag dal afiechydon a allai beryglu bywyd. Mae brechlynnau'n rhan o'r arfau sydd gennym ni ar flaenau ein bysedd i frwydro yn erbyn afiechydon a chlefydau—afiechydon sydd wedi lladd degau o filoedd o bobl bob blwyddyn yn y DU, heb sôn am yn fyd eang. Rydym ni wedi cael gwared ar frech wen yn llwyddiannus yn fyd-eang, diolch i ymdrechion arwrol timau ledled y byd i frechu poblogaethau cyfan, ac rydym ni ar ein ffordd i ddileu clefydau marwol eraill.

Fe welsom ni i gyd pa mor effeithiol oedd brechu yn ystod y pandemig. Mae'r brechlyn COVID wedi achub miloedd o fywydau ac wedi atal hyd yn oed mwy o achosion o salwch difrifol. Arweiniodd ein profiad o ddarparu'r brechlyn COVID at ddatblygu'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol i Gymru. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe wnaethom ni greu tîm brechu cenedlaethol yng Ngweithrediaeth newydd GIG Cymru. Mae'r tîm yn darparu cymorth cenedlaethol ac yn rheoli perfformiad, a hefyd yn sicrhau bod gan fyrddau iechyd hyblygrwydd i ddarparu rhaglenni brechu yn y ffordd fwyaf effeithiol i'w poblogaeth leol.

Mae ein hymrwymiad i sicrhau mynediad teg at frechu i bob dinesydd yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd. Fe welsom ni adeg y pandemig y goblygiadau difrifol y gall annhegwch o ran gallu cael brechiad ei achosi ar gyfer iechyd. Roedd yn ysbrydoledig gweld y datblygiadau a wnaed wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau trwy gael gwared ar rwystrau ac estyn at a gweithio gyda chymunedau. Mae cynnal y momentwm hwnnw wedi bod yn heriol ar ôl y pandemig, ac rydym ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n derbyn brechlynnau, gyda rhai canlyniadau pryderus iawn. Ond rwy'n gwbl glir bod yn rhaid i ni gynnal momentwm i leihau anghydraddoldebau lle maen nhw'n bodoli ac i wella'r niferoedd sy'n derbyn lle bu gostyngiad.

Mae'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol yn gosod gofyniad i fyrddau iechyd ddatblygu strategaethau tegwch brechu i nodi'n glir sut maen nhw'n lleihau anghydraddoldebau. Mae'r gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu ac edrychaf ymlaen at weld yr effeithiau yn y byd go iawn. Yn cyd-fynd yn agos â'n hymrwymiad i degwch yw'r ymrwymiad yn y fframwaith i lythrennedd  gwell o ran brechlynnau. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi strategaeth lythrennedd o ran brechlynnau, a fydd yn helpu i wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o frechlynnau a chefnogi gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n cael eu brechu.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 4:51, 21 Mai 2024

A dyna yw hanfod y fframwaith imiwneiddio: cynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar ein holl raglenni brechu. Mae'n hawdd anghofio, weithiau, nifer y clefydau peryglus a difrifol rŷn ni'n brechu yn eu herbyn yng Nghymru. Hyd yn oed cyn i fabi gael ei eni, bydd y fam wedi cael cynnig sawl brechiad i amddiffyn eu babi yn nyddiau ac wythnosau cyntaf ei fywyd. Un o'r rheini yw brechiad yn erbyn y pas, neu whooping cough. Rwy'n poeni'n fawr o weld cynnydd yn nifer yr achosion eleni. Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod pum babi yn Lloegr wedi marw o whooping cough eleni. Yn ffodus, does dim marwolaethau wedi bod yng Nghymru hyd yma, ond dylai'r newyddion trasig yma fod yn rhybudd i ni i gyd. Dwi'n apelio ar fenywod beichiog yng Nghymru i fynd i gael y brechiad hwn, sy'n ddiogel ac yn effeithiol iawn.

Dros y flwyddyn diwethaf, rŷn ni hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o'r frech goch ledled y byd. Yn yr hydref, daeth achosion newydd i'r amlwg yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Ar hyn o bryd, rŷn ni'n delio ag achosion pellach yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae'n siomedig dros ben gweld achosion o'r frech goch yn ôl yng Nghymru. Gan fod sawl achos parhaus dros y ffin, mae'r risg yn parhau'n uchel yma. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cymryd camau i wella'r amddiffyniad yn erbyn y salwch difrifol hwn. Ym mis Chwefror, ysgrifennodd Prif Swyddog Meddygol Cymru at fyrddau iechyd yn gofyn iddyn nhw sicrhau bod 90 y cant o ddysgwyr mewn ysgolion wedi'u brechu'n llawn erbyn diwedd mis Gorffennaf. Dwi'n sylweddoli faint o waith y mae hyn yn ei olygu i'n timau imiwneiddio a nyrsys ysgol, a hoffwn ddiolch o galon i bawb sy'n rhan o'r gwaith hwn i ddal i fyny.

Dirprwy Lywydd, dwi nawr am droi at y camau nesaf yn y fframwaith. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod datblygu datrysiadau digidol i helpu'r gwaith brechu yng Nghymru wedi bod yn garreg filltir bwysig. Gofynnais i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gynnal gwaith darganfod digidol i ystyried y ffordd ymlaen. Dwi'n falch o ddweud bod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau ac mae'r camau nesaf, er mwyn symud i'r cam gweithredu, wrthi yn cael eu hystyried. Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith pwysig yma. Mae ein rhaglenni brechu tymhorol yn parhau i gynnig amddiffyniad pwysig i bobl sy'n agored i niwed, ac i'r gwasanaethau iechyd a gofal. Mae rhaglen frechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn ar ei hanterth ar hyn o bryd. O ran rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol, fe wnaethom ni roi dros 1.7 miliwn o frechlynnau yn erbyn COVID a'r ffliw. 

Mae'r fframwaith imiwneiddio yn nodi ein huchelgais i symud at fodel canolog ar gyfer caffael brechlynnau ffliw. Byddai hyn yn cael gwared ar y baich caffael i feddygon teulu a fferyllwyr, ac yn creu system fwy hyblyg i gefnogi nodau ehangach y fframwaith. Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud, a dwi'n gobeithio gallu rhannu rhagor o fanylion yn ystod y misoedd nesaf. Yn olaf, dwi eisiau rhannu cymaint o fraint oedd hi i gael annerch cynhadledd imiwneiddio Cymru fis diwethaf. Roedd yn wych i weld yr egni, yr angerdd a'r ymrwymiad i ddatblygu gwasanaeth brechu sydd o safon fyd-eang. Hoffwn i ddiolch o galon i bawb sy'n cyfrannu at gyflawni'r gwasanaeth gwerthfawr hwn dros bobl Cymru. 

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Ceidwadwyr 4:56, 21 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad heddiw am y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol i Gymru. Gadewch imi hefyd ategu eich sylwadau, Ysgrifennydd Cabinet, a dweud bod pwysigrwydd y rhaglen imiwneiddio effeithiol honno yn hanfodol i unrhyw genedl. Wrth gwrs, mae'n amddiffyn pawb yn ein cymdeithas, ond yn enwedig y rhai sydd ar adegau bregus mewn bywyd, fel plant, babanod a menywod beichiog. O'r herwydd, mae mor bwysig bod pobl yn cael y brechlynnau sy'n berthnasol iddyn nhw ar yr adeg y gallan nhw, oherwydd, wrth gwrs, mae'n eu hamddiffyn nhw ac mae'n amddiffyn eraill hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, am y newyddion da y gwyddom ni am ddileu'r frech wen yn fyd-eang. Mae enghreifftiau eraill o glefydau eraill a drechwyd yn dod i'r meddwl hefyd, fel difftheria a tetanws, ill dau wedi cael eu lleihau'n ddramatig oherwydd bod rhaglenni brechu yn cael eu cyflwyno ledled y DU yn y 1940au a'r 1960au yn y drefn honno. Mae mor bwysig bod yr achosion hynny'n cael eu deall a'u holrhain, a gwaith pwysig y fframwaith wrth wneud hynny hefyd.

Mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd nad yw hyn yn wir ym mhob gwlad ledled y byd, ac mae'n dangos pwysigrwydd y brechiadau effeithiol, a hefyd bod â phoblogaeth sy'n ymddiried yn y broses i gymryd y brechlyn i'w hamddiffyn hefyd. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae fel gwleidyddion wrth annog ein hetholwyr i fanteisio ar frechlynnau pan fyddan nhw ar gael.

O ran y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol y gwnaethoch chi gyfeirio ato, wrth gwrs, cafodd datganiad yn ymwneud â hynny ei gyhoeddi yn 2022, ac mae gennyf ychydig o gwestiynau. Mae'r cyntaf mewn perthynas â swyddogaeth y fframwaith gan ei fod yn neilltuo'r cyfrifoldeb dros weithredu i uned gyflawni GIG Cymru, ac mae goruchwylio hynny, wrth gwrs, yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Cabinet. Mae gen i ddiddordeb deall pa mor fodlon ydych chi fod yr uned gyflawni yn gweithio a bod gennych chi, Llywodraeth Cymru, ddigon o afael ar y sefyllfa a'r llywodraethu i arwain os nad yw pethau'n gweithio fel y dylen nhw. Rwy'n deall bod gennych chi ddiddordeb mewn strwythurau llywodraethu ar hyn o bryd; byddai gen i ddiddordeb yn y maes hwnnw, yn arbennig.

Fe wnaethoch chi gyfeirio'n briodol at yr ymateb i COVID-19 yn eich datganiad, ac rwy'n sicr yn ategu eich canmoliaeth o ymdrechion pawb fu'n rhan o gyflwyno'r brechlyn pwysig hwnnw. Rydym ni hefyd yn gwybod nad yw'r heintiau a'r afiechydon bacteriol hyn yn parchu ffiniau gwledydd neu weinyddol, felly fe hoffwn i ddeall ychydig mwy am sut rydych chi'n gweithio gyda chyrff eraill, fel cydweithwyr ar lefel Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol, i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r defnydd o imiwneiddio, a hefyd yn gallu ymateb os a phan fydd gennym ni achosion pellach neu lefelau pandemig byd-eang hefyd.

Diolch heddiw am gyfeirio at y pas a'r gwaith sydd wedi'i wneud i geisio lleihau'r niferoedd hynny. Rwy'n bryderus iawn am y cynnydd yn yr achosion hynny, ac rwy'n sicr yn cytuno â'ch neges y dylai menywod beichiog ofyn am y brechiad hwnnw os nad ydyn nhw wedi'i gael eisoes, i geisio atal a lleihau unrhyw niwed posibl. Felly, rwy'n ategu eich geiriau yn hynny o beth.

Fe hoffwn i gyfeirio hefyd at y modd y bu ichi amlygu pwysigrwydd brechu ar gyfer y frech goch hefyd, sydd, fel y dangosoch chi, yn anffodus ar gynnydd yma yn y DU ac ar draws y byd. Gellir atal hynny, wrth gwrs, gyda'r brechlyn MMR. Fe wnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, y ffigur o 90 y cant o blant ysgol sydd am gael eu brechu erbyn diwedd mis Gorffennaf; mae hynny'n sicr i'w groesawu. Ond fe hoffwn i wybod pa mor grediniol ydych chi y cyflawnir y ffigur hwnnw, a pha waith rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod plant nad ydyn nhw mewn lleoliadau ysgol traddodiadol, fel y rhai sydd efallai yn cael eu dysgu gartref, yn gallu cael y brechlynnau hyn hefyd.

Felly, fe hoffwn i derfynnu drwy ddim ond croesawu'r gwaith digidol hefyd sy'n cael ei wneud i gefnogi'r gwelliant yn nifer y bobl sy'n derbyn brechlynnau. Rwy'n credu ei fod yn faes gwaith pwysig iawn, gan sicrhau bod systemau a rhaglenni'n cyfathrebu â'i gilydd o ran gofal sylfaenol a'n hysbytai hefyd. Fe hoffwn i hefyd ategu'ch cydnabyddiaeth o'n rhan ni i gyd, unwaith eto, i sicrhau bod ein hetholwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd cael y brechlynnau hynny, pan fyddant ar gael, i leihau'r peryglon iddyn nhw eu hunain ac i eraill hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 5:00, 21 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, a dw i'n meddwl ei bod hi'n dda cydnabod—a diolch am gydnabod—y ffaith, mewn gwirionedd, mai hwn yw'r offeryn iechyd cyhoeddus mwyaf cost-effeithiol sydd gennym ni, mae'n debyg. Dyma beth sy'n arbed arian i ni, felly mae'n bendant yn fuddsoddiad—nid yn unig yma, yn amlwg, ond ar draws y byd. Ac mae'n dda gweld bod hynny'n cynyddu ar draws y byd, a hyd yn oed pethau fel malaria nawr, mae yna enghreifftiau o ble mae hynny'n gwneud cynnydd.

Rwy'n credu mai un o'ch cwestiynau chi oedd am yr uned gyflawni a sut mae honno'n gweithio ac, yn amlwg, mae hyn bellach yn rhan o Weithrediaeth GIG Cymru. Mae hwn yn faes ac yn grŵp y mae gennyf hyder gwirioneddol ynddo. Rwy'n credu eu bod yn cyflawni'n dda iawn, gan ddatblygu dull traws-genedl go iawn, gan sicrhau bod ganddyn nhw'r pwyslais hwnnw, gan sicrhau nad yw'r math o sefyllfa loteri cod post yn rhywbeth sy'n codi. Felly, mae cael y strwythur cyffredinol hwnnw o fewn gweithrediaeth y GIG mewn gwirionedd yn ddefnyddiol iawn. Dw i'n meddwl bod y grŵp penodol yma—wyddoch chi, fe wnaethon nhw ddysgu eu crefft yn ystod y pandemig. Mae'r rhain yn bobl sydd wedi cael eu profi, maen nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud, maen nhw'n deall pethau. Mae yna rannau eraill nad ydw i mor hyderus ynddyn nhw, ond mae hwn yn grŵp dw i'n siŵr eu bod yn gwneud yn dda iawn. Ac, yn amlwg, byddaf yn edrych ymlaen at gyhoeddi adroddiad y grŵp llywodraethu ac atebolrwydd yn fuan iawn.

O ran gweithio gyda Llywodraeth y DU, un o'r pethau a wnawn ni yw gweithio'n agos iawn a chymryd argymhellion gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, a lle bo hynny'n bosibl, oherwydd peth o'r wybodaeth anghywir sydd o'n cwmpas, rydym ni'n ceisio gwneud hynny ar sail pedair gwlad, a chredaf y bydd hynny, gobeithio, yn rhoi mwy o hyder i bobl fanteisio ar y cyfle. Ac, ie, rydym ni'n hyderus bod gennym ni'r gallu i feithrin y capasiti yn gyflym iawn yn y dyfodol, os gwelwn ni fath arall o bandemig. Felly, rydym ni wedi ceisio sicrhau bod y capasiti hwnnw yn bodoli.

Dw i'n poeni'n fawr am y pas, fel y dywedwch chi, ond mae hefyd yn rhan o gylch, felly mae yn ymddangos, rwy'n credu, bob pedair neu bum mlynedd. Felly, mae hynny yn digwydd, ond, yn amlwg, mae hynny'n fwy o reswm i gael pobl, i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys a'u bod yn cael eu brechiadau. Y targed hwnnw o 90 y cant yn cael brechiad MMR erbyn diwedd mis Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud, erbyn tua mis Rhagfyr, ei fod hyd at 89 y cant. Ond y broblem yw ein bod ni'n poeni am degwch. Felly, yr hyn sydd gennych chi mewn rhai ardaloedd, yw hyd at 95 y cant, ac mewn ardaloedd eraill bydd yn llawer is. Felly, mae tegwch i ni yn allweddol iawn, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud y gwaith allgymorth hwnnw gyda'r ysgolion hynny a allai fod wedi gweld llai o bobl yn manteisio. Felly, nid yw'n ymwneud â tharo'r 90 y cant yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau bod o leiaf 90 y cant ym mhobman, os yn bosibl—mae'n rhaid i hynny fod yn nod i ni, os gallwn ni. Felly, rwy'n gobeithio bod hyn wedi rhoi atebion i chi i'r cwestiynau hynny. Diolch.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:04, 21 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Fe wyddom ni, ers datganiad blaenorol yr Ysgrifennydd Cabinet ar y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol y llynedd, fod materion yn ymwneud â chamwybodaeth wedi cyfrannu at betruster bobl o hyd i gael brechiadau, sydd yn ei dro wedi cyfrannu at achosion peryglus a hollol ataliadwy o'r frech goch. Yng Nghymru a Lloegr, roedd 1,603 o achosion o'r frech goch yn 2023, cynnydd o 735 yn 2022, a dim ond 360 y flwyddyn flaenorol. Y llynedd fe wnaethom ni ofyn sut y byddai defnyddio ap yn helpu i frwydro yn erbyn lledaenu gwybodaeth anghywir am frechiadau. Ymatebodd y Gweinidog—yr Ysgrifennydd Cabinet bellach—

'O ran camwybodaeth, dwi yn meddwl bod hwn yn bwnc difrifol. Mae yn effeithio ar bobl, mae rhai pobl yn gwrando ar y dwli yma maen nhw'n ei weld ar-lein yn arbennig. Dyna pam mae'n bwysig bod pobl yn gallu mynd at lefydd a mannau ac at wefannau lle maen nhw'n gallu cael hyder bod y wybodaeth maen nhw'n ei chael yn wybodaeth ffeithiol, gwyddonol maen nhw'n gallu dibynnu arni. Felly, dyna pam dwi'n meddwl bod yna rôl amlwg nid yn unig i'r ap, ond hefyd i'r NHS yn lleol i wneud yn siŵr bod gan bobl hyder. Mae dal pobl sydd â lot o hyder yn yr NHS ac yn y bobl sy'n arwain yr NHS.'

Felly,  fy nghwestiynau yw, o ystyried y swyddogaeth y mae lledaenu gwybodaeth anghywir yn parhau i'w chael wrth hyrwyddo petruster ynghylch cael brechlynnau, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod angen gwneud mwy na darparu gwybodaeth drwy wefan y GIG yn unig? A yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod angen brys am ddull trawsadrannol o fynd i'r afael â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth, gan gynnwys am frechlynnau, a pha sgyrsiau y mae hi'n eu cael neu a fydd hi'n eu cael gyda'i chyd-Weinidogion ynglŷn â hyn? Ac a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, heb ddatganoli pwerau dros ddarlledu yn benodol, y bydd hi'n anoddach gwrthsefyll camwybodaeth rhag lledaenu?

Gan symud ymlaen at seilwaith digidol, rwy'n pryderu bod datblygu'r seilwaith digidol yn broses boenus o araf ac mae angen i ni weld mwy o ysgogiad ar y maes hwn. Y llynedd, fe wnaethom ni hefyd ofyn sut y byddai'r seilwaith digidol yn sail i'r fframwaith ac yn helpu i gyflawni'r fframwaith, a sut y byddai hyn yn rhyngweithio â'r systemau cyfrifiadurol lluosog sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG yng Nghymru. Ymatebodd y Gweinidog, ac rwy'n dyfynnu eto:

'rŷn ni'n gwneud lot i drawsnewid systemau digidol yn yr NHS. Byddwn i'n licio gwneud lot, lot yn fwy pe bai mwy o arian gen i. Dwi'n meddwl ei bod hi'n ardal lle byddem ni'n cael gwerth ein harian ni, ond mae yna broblemau, yn amlwg, yn ariannol gennym ni ar hyn o bryd, felly beth rŷn ni yn trio ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y systemau cyfrifiadurol mewn lle, ac mae'n tîm digidol ni yn truelio lot o amser yn sicrhau bod hwn yn y lle iawn.'

Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am, a/neu wybodaeth fwy penodol am ddatblygu systemau TG perthnasol? Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran integreiddio'r rhain â'r systemau presennol, a pha waith a wnaed i wneud y systemau hyn yn symlach ac yn fwy effeithiol? Diolch yn fawr iawn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 5:07, 21 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Mabon. Rydych chi'n llygad eich lle, rwy'n credu bod camwybodaeth yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn bryderus iawn amdano ac mae sicrhau y gall pobl gael gafael ar gyngor diogel lle gallant gael sicrwydd yn bwysig. Dyna pam rwy'n credu bod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ran allweddol iawn yma, ac yn amlwg y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu hefyd. Rydych chi'n llygad eich lle bod petruster o ran brechlynnau, yn enwedig mewn perthynas ag MMR—yr hyn a ddigwyddodd yw ein bod ni'n gwybod bod adeg pan gafwyd yr holl wybodaeth anghywir honno ychydig flynyddoedd yn ôl, felly mae carfan o blant rydym ni'n arbennig o bryderus amdanyn nhw, a byddem yn gofyn iddyn nhw ddod ymlaen, neu o leiaf wirio eu cofnodion dim ond i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys, oherwydd nid yw'n rhywbeth yr ydych chi eisiau ei gael, ac rydym ni'n gweld yr achosion cynyddol hyn. Mae gennym ni achosion—. Rydym ni wedi gweld achosion yn Aneurin Bevan, yng Nghaerdydd, a hefyd nawr rydym ni wedi cael un achos yn y gogledd.

Roeddech chi'n holi am waith traws-adrannol. Wel, yn amlwg, rhaglen ysgol yw'r brechiad, felly yn amlwg mae llawer o waith yn digwydd gydag addysg yn barod.

O ran darlledu ac a fyddai awdurdod darlledu canolog a rheoledig yng Nghymru, mewn rhyw ffordd, yn gallu rheoli hyn, dw i'n meddwl, dw i'n credu bod hynny'n eithaf anodd oherwydd bod pobl ifanc, er enghraifft, llawer ohonyn nhw, yn cael eu gwybodaeth o TikTok. Pob lwc os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n mynd i reoli TikTok. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â ble y gallwn ni ddylanwadu.

Dim ond o ran eich cwestiwn ynghylch seilwaith digidol, y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol, nododd uchelgais i ddatblygu'r seilwaith digidol sydd ei angen, a'r holl ddiben oedd bod hynny i fod yn system sy'n gweithio i ymarferwyr a chleifion. Felly, comisiynwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru i adolygu'r holl systemau brechu, i gynnal darganfyddiad technegol, digidol, ac i ddarparu dewisiadau a fyddai'n ein galluogi i wireddu'r uchelgeisiau hyn. Nawr, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac maen nhw wedi darparu dewisiadau ar gyfer gweithredu rhaglen o drawsnewid brechiadau digidol. Felly, rydym ni'n ystyried y dewisiadau hyn, ac ar hyn o bryd rwy'n aros am y cyngor ar hynny. Felly, rwy'n credu bod y newidiadau digidol yn cynnig y cyfle hwnnw yr oeddech chi'n sôn amdano—un ffynhonnell o wirionedd, dyna beth fydden ni'n hoffi ei weld—a record frechu gyflawn a chywir. Wn i ddim amdanoch chi, ond os ydych chi byth yn ceisio mynd dramor, mae'n rhaid i chi geisio dod o hyd i'ch cofnod brechu. Mae bob amser yn drafferth. Mae'n rhaid i ni fod yn fodern. Mae'n rhaid i ni gael system ddigidol. Felly, dw i'n meddwl dim mwy o gofnodion brechu papur—dyna lle mae angen i ni gyrraedd. Rydym ni ar y trywydd iawn i symud ymlaen tuag at hynny, ac rydw i ar fin cael rhywfaint o gyngor ar hynny. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:11, 21 Mai 2024

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yna.