– Senedd Cymru am 3:57 pm ar 21 Mai 2024.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog, Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, gosodais y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd. A gaf i gofnodi fy niolch i'm rhagflaenydd, Julie Morgan, ac i'r cyn Aelod dynodedig o Blaid Cymru, Siân Gwenllian, am y gwaith y maent wedi'i wneud i ddod â'r Bil i'r pwynt lle mae nawr? Diolch yn fawr.
Mae'r Bil yn nodi dau brif ddarpariaeth: atal tynnu elw preifat allan o rai mathau o ofal cymdeithasol plant, a rhoi'r gallu i bobl ofyn am daliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â gofal iechyd parhaus y GIG. Mae hefyd yn cefnogi gweithrediad effeithiol parhaus ein dwy Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol blaenllaw.
Mae'r holl gynigion a nodir yn y Bil hwn wedi bod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â'r cyhoedd a chyda rhanddeiliaid. Bydd y darpariaethau ar gyfer dileu elw yn cyfyngu ar y gallu i dynnu elw preifat wrth ddarparu gwasanaethau cartrefi gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant, gwasanaethau llety diogel, a gwasanaethau maethu. Bydd yn gwneud hyn drwy sicrhau bod yn rhaid i unrhyw ddarparwr gwasanaeth plant cyfyngedig newydd ac eithrio awdurdod lleol fod yn endid nid-er-elw ar ôl i'r darpariaethau ddod i rym.
Diffinnir 'endid nid-er-elw' yn y Bil fel cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau; sefydliad elusennol corfforedig; cymdeithas gofrestredig elusennol; neu gwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.
Mae'r farchnad gofal cymdeithasol i blant yn dameidiog ac yn gymhleth ac mae diffyg lleoliadau o'r math cywir, yn y mannau cywir. Mae hyn yn golygu nad oes gan blant fynediad at ofal a llety sy'n diwallu eu hanghenion, ac yn rhy aml maent yn cael eu lleoli ymhell o'u cymunedau lleol lle maent wedi sefydlu cysylltiadau.
Wrth ddatblygu'r Bil hwn, rydym wedi cael ein harwain gan yr hyn y mae pobl ifanc wedi'i ddweud wrthym. Mae ganddyn nhw deimladau cryf iawn ynghylch cael gofal gan sefydliadau preifat sy'n elwa ar eu profiad o fod mewn gofal. O dan ein cynigion, bydd gofal preswyl, llety diogel a gofal maeth plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, yn y dyfodol yn cael eu darparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu nid-er-elw.
Mae'r Bil yn un rhan o'n rhaglen ehangach i drawsnewid gwasanaethau plant. Rydyn ni eisiau i lai o blant gael eu derbyn i ofal. Rydym eisiau i wasanaethau ddarparu'r cymorth cywir i deuluoedd, ar yr adeg iawn, i'w helpu i aros gyda'i gilydd, lle bynnag y bo modd. Pan fydd plant yn cael eu derbyn i ofal, rydym eisiau iddynt gael gofal mor agos at eu cartrefi â phosibl, gyda'r cymorth cywir ar gyfer eu hanghenion. A phan fydd pobl ifanc yn barod i adael gofal, byddwn yn eu cefnogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i fyw bywyd annibynnol.
Dirprwy Lywydd, mae'r ail brif ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â darparu gofal iechyd parhaus y GIG. Mae'n ceisio diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud taliadau uniongyrchol i unigolion sydd, ar ôl cael eu hasesu fel rhai sydd ag angen iechyd sylfaenol, felly, â hawl i gael gofal iechyd parhaus. Bydd hyn yn eu galluogi i sicrhau gwasanaethau yn uniongyrchol i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd ar gyfer gofal cymdeithasol a rhai tasgau gofal iechyd dirprwyedig, yn lle derbyn gwasanaethau a ddarperir neu a gomisiynir gan y GIG yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi mwy o lais a mwy o reolaeth i'r grŵp hwn o bobl dros reoli eu hanghenion iechyd.
Mae'r Bil hefyd yn gwneud nifer o welliannau i reoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol, i helpu'r fframwaith rheoleiddio i weithredu'n fwy effeithiol. Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu'r drefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig. Yma, nod y gwelliannau arfaethedig yw gwella ymarferoldeb y fframwaith rheoleiddio a chynorthwyo Arolygiaeth Gofal Cymru i gyflawni ei chyfrifoldebau rheoleiddio mewn cysylltiad â chofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal rheoledig yng Nghymru.
Mae'r newidiadau yn cwmpasu pedwar prif faes. Y rhain yw: y ddyletswydd i gyflwyno a chyhoeddi ffurflenni blynyddol; gwybodaeth sydd i'w darparu mewn cysylltiad â chais i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth; canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth heb gais; a phŵer i ofyn am wybodaeth mewn cysylltiad ag arolygiadau. Yn ogystal, mae'r Bil yn gwneud gwelliant i Ddeddf 2016 mewn cysylltiad â swyddogaethau Gofal Cymdeithasol Cymru fel cofrestrydd a rheoleiddiwr gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r gwelliant yn ymwneud â phwerau Gofal Cymdeithasol Cymru i adolygu ac ymestyn gorchmynion dros dro. Mae gorchmynion dros dro yn galluogi gorfodi cyfyngiadau dros dro ar berson cofrestredig tra bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal i honiadau a wneir yn erbyn yr unigolyn hwnnw.
Mae'r gwelliant yn ceisio darparu panel gorchmynion dros dro, neu banel addasrwydd i ymarfer y dygir trafodion gorchymyn interim o'i flaen, gyda'r pŵer i ymestyn hyd gorchymyn interim hyd at uchafswm o 18 mis o'r dyddiad y gwneir y gorchymyn interim gyntaf, heb fod angen cais i'r tribiwnlys haen gyntaf.
Mae'r Bil hefyd yn diwygio adran 79 o Ddeddf 2016 i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ymestyn y diffiniad o 'gweithwyr gofal cymdeithasol' at ddibenion y Ddeddf i gynnwys pob gweithiwr gofal plant a chwarae. At ddibenion y gwelliant hwn, gweithwyr gofal plant a chwarae yw'r unigolion sy'n cael eu cyflogi gan, neu sy'n gweithio i berson sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 fel darparwr gofal dydd, i ddarparu gofal a goruchwyliaeth i blant. Bydd y gwelliant yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud gan addasu'r diffiniad o 'weithiwr gofal cymdeithasol' fel y mae'n ymwneud â gofal plant, a thrwy hynny ddarparu sail ffurfiol ar gyfer y cymorth y mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei ddarparu i bawb yn y gweithlu gofal plant a chwarae.
Yn olaf, mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth i wella'r aliniad rhwng Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac arfer cyfredol. Yn bwysig, mae hyn yn cynnwys gwelliant i ad-drefnu'r darpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf 2014 sy'n galluogi awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol. Bydd y gwelliant hwn yn galluogi gwneud taliad uniongyrchol i drydydd parti a enwebwyd gan unigolyn sydd â hawl i gael taliad o'r fath, mewn achosion lle mae gan yr unigolyn alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw.
Fel y dywedais i yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe, edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau ac at barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth graffu ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) dros y misoedd nesaf. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a diolch am friffio llefarwyr yr wrthblaid y bore yma. Gadewch imi ddweud ar y dechrau bod llawer i'w groesawu yn y Bil hwn, a chaiff ein cefnogaeth gyffredinol.
Roeddwn yn bryderus, cyn ein cyfarfod, fod nod y Bil hwn wedi'i lunio'n ideolegol ar sail agwedd amherffaith bod elw yn ddrwg. Nid yw er-elw yn anghydnaws â gofalu am y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas: plant mewn gofal. Mae mwyafrif y darparwyr gofal annibynnol, sy'n darparu tri chwarter o'r holl wasanaethau gofal i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, yn weithredwyr bach sy'n darparu gofal rhagorol. Ni ddylem fod yn cosbi'r darparwyr hyn oherwydd eu bod yn fusnesau preifat. Mae elwa, ar y llaw arall, yn rhywbeth arall. Pan fyddwch yn siarad â'r mwyafrif o ddarparwyr annibynnol, maent yn cytuno na ddylid defnyddio arian cyhoeddus er budd cronfeydd cyfoeth sofran a chyfranddalwyr corfforaethol mawr.
Nid oes gan gwmnïau ecwiti preifat Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig unrhyw le ym maes rhedeg gwasanaethau plant yng Nghymru, ond dylid caniatáu i bobl fel Amberleigh Care a Landsker Child Care barhau i ddarparu gofal rhagorol. Nid ydynt yn ei wneud er mwyn elw; maent yn rhedeg busnes i fuddsoddi mewn gofal rhagorol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Roedd yn rhyddhad imi felly eich clywed yn dweud nad elw yw'r mater; yr hyn sy'n digwydd i'r elw hwnnw sy'n bwysig. Yn hyn o beth, mae gennych chi fy nghefnogaeth lawn ac, rwy'n meiddio dweud, cefnogaeth y mwyafrif o ddarparwyr yng Nghymru. Fel erioed, mae'r diafol yn y manylion, ond gallwn i gyd gytuno na ddylai neb fod yn elwa ar blant gwych. Ni ddylid cymryd arian cyhoeddus allan o Gymru er budd rheolwyr cronfeydd rhagfantoli tramor. Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i annog darparwyr preifat er-elw yng Nghymru i symud i un o'r modelau a amlinellir yn eich datganiad cyn i'r Bil hwn gael Cydsyniad Brenhinol?
O ran Rhan 2 o'r Bil, mae croeso mawr i'r cynnig i gyflwyno taliad uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cydraddoldeb i lawer o bobl, yn enwedig pobl anabl, gan roi dewis a rheolaeth iddynt dros eu triniaeth. Gweinidog, mae taliadau uniongyrchol wedi bod yn drawsnewidiol ym maes gofal cymdeithasol i lawer o bobl. Sut y byddwch yn annog mwy o bobl i dderbyn taliadau uniongyrchol?
O ran rhan olaf y Bil, er bod llawer ohoni'n dechnegol ei natur, serch hynny mae'n bwysig hefyd—mae sicrhau bod y prawf cymhwysedd llawn yn berthnasol i'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn hanfodol er mwyn sicrhau ansawdd gwasanaethau gofal iechyd parhaus. Gweinidog, un o'r newidiadau yw ailddiffinio'r rhai sy'n darparu gofal a goruchwyliaeth i blant fel gweithwyr cymdeithasol. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y gweithlu gofal plant?
Yn olaf, Gweinidog, mae nodyn y Llywydd sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi nad yw paragraff 4 o Atodlen 2 o fewn cymhwysedd y Senedd hon. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chaniatâd ar gyfer y rhan hon o'r Bil?
Diolch unwaith eto am eich datganiad a'ch briff, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni nodau'r Bil hwn, sef gwell gofal a chymorth i bobl Cymru, yn enwedig plant gwych. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, a diolch am y sylwadau yna, Altaf, ac rwy'n croesawu eich cefnogaeth gyffredinol i'r Bil yn fawr. Rydyn ni wedi nodi'n glir iawn beth rydyn ni'n ceisio ei gyflawni yn y Bil hwn, oherwydd nid ydym yn credu—. Ein man cychwyn yw nad ydym yn credu y dylai fod marchnad ar gyfer gofalu am rai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Plant yw'r rhain sydd wedi bod trwy'r cyfnod mwyaf trawmatig ac yn y diwedd yn dod i mewn i'r system ofal, ac mae'n rhaid i ni gynnig y gofal gorau y gallwn ni iddyn nhw ym mha bynnag ffordd y gallwn. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid ailfuddsoddi unrhyw arian sy'n dod i mewn i'r system. Dyna pam rydyn ni'n bwriadu cymryd yr elw preifat allan o ofal plant, fel y gellir ail-fuddsoddi hwnnw, oherwydd nid yw'r farchnad hon yn gweithio'n effeithiol ar hyn o bryd. Rydym eisiau sicrhau bod yr arian hwnnw'n mynd yn ôl i'r system.
Rydych chi'n llygad eich lle, mae yna lawer o ddarparwyr preifat da allan yna, a'r hyn rydyn ni wedi'i wneud yw sefydlu bwrdd gweithredu dileu sydd wedi bod yn gweithredu ers cwpl o flynyddoedd bellach i baratoi ar gyfer y gwaith rydyn ni'n ceisio ei wneud trwy'r ddeddfwriaeth hon, ac mae darparwyr preifat ar y bwrdd hwnnw, mae darparwyr trydydd sector, mae yna awdurdod lleol sy'n eistedd ar y bwrdd hwnnw, y Comisiynydd Plant, cynrychiolydd o Voices from Care Cymru, sydd yn yr oriel heddiw, mae gennym undebau llafur yno, mae gennym y comisiynwyr gwasanaeth, i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn gweithio trwy sut rydym yn modelu'r dull gweithredu newydd hwn o ddarparu gwasanaethau preswyl i blant. Ac rwy'n gwybod bod llawer o'r darparwyr preifat hynny mewn trafodaethau gweithredol a chalonogol gyda ni ynghylch sut y gallant drosglwyddo eu gweithrediad i fodel nid-er-elw. Ni fydd dibyn yn wynebu darparwyr er-elw gwasanaethau plant; bydd proses bontio y byddwn yn mynd drwyddi, a thrwy gydol y cyfnod hwnnw, hyd at y pwynt pryd mai darpariaeth nid-er-elw fydd yr unig ddarpariaeth ar gael yng Nghymru, bydd y darparwyr hynny yn rhan o'r drafodaeth honno.
O ran taliadau uniongyrchol, rydych chi'n hollol gywir. Mae'r taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, sydd wedi bod ar gael yn Lloegr ers tua 10 mlynedd a'r adborth a gawsom gan dderbynwyr taliadau gofal uniongyrchol am ofal iechyd parhaus yn Lloegr wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae llesiant ac ymateb a chydnerthedd unigolion sy'n derbyn y taliadau uniongyrchol hynny wedi gwella'n sylweddol gan fod ganddynt y dewis hwnnw a'r llais hwnnw dros y ffordd y darperir y gofal iechyd parhaus hwnnw iddynt gan rywun y maent yn ei gyflogi'n uniongyrchol i ddarparu'r cymorth hwnnw iddynt yn eu cartref.
Felly, rwy'n obeithiol iawn y bydd yr ychydig bobl sydd gennym nad ydynt yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd, pan fyddwn ni'n hyrwyddo'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud, yn gwneud cais am asesiad gofal iechyd parhaus gan y GIG fel y gallant ddefnyddio eu llais i gyfarwyddo'r ffordd y darperir eu gwasanaethau gofal. I lawer o'r bobl hynny, maen nhw eisoes yn derbyn taliadau gofal uniongyrchol am ofal cymdeithasol, ond mae eu gofal—rhai o'r bobl hynny—mae eu gofal yn ymestyn y tu hwnt i'r hyn y mae gofal cymdeithasol yn ei ddarparu, ond maen nhw wedi gwrthsefyll trosglwyddo, os mynnwch, i ofal iechyd parhaus, oherwydd byddai hynny'n dileu'r rheolaeth a'r llais uniongyrchol y byddai taliad uniongyrchol yn ei roi iddyn nhw. Felly, rwy'n obeithiol iawn, drwy gyflwyno taliad uniongyrchol am ofal iechyd parhaus y byddwn yn gweld pobl yn cael y gofal priodol sydd ei angen arnynt drwy eu darpariaeth iechyd.
Rydych chi wedi nodi, Altaf, fod rhan olaf y Bil yn un dechnegol yn bennaf. Mae'n ymwneud ag unioni'r rheoliadau yn y ddau Fil gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth newydd hon, ac o ran y gweithwyr gofal plant rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw, mae'n ymwneud â'u rhoi ar sylfaen reolaidd fel gweithwyr gofal plant proffesiynol cydnabyddedig o dan nawdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Felly, rydym yn gweld hynny fel cam cadarnhaol iawn ym maes proffesiynoli gweithwyr gofal plant.
Mae Plaid Cymru yn gadarn yn ein cred y dylai ein gwasanaethau iechyd a gofal gael eu rhedeg er budd y bobl, nid er budd masnachol. Yn wahanol i'r Blaid Geidwadol, ac elfennau nid ansylweddol o'r Blaid Lafur, sy'n cynnwys Gweinidog iechyd cysgodol San Steffan, rydyn ni'n gwrthod yn llwyr y gred mai'r farchnad sydd yn gwybod orau pan fo'n dod at iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym felly yn croesawu'r ffaith y bydd y ddeddfwriaeth yma'n delifro ar ein daliadau craidd, ac mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gweithio gyda'r Llywodraeth arno drwy'r cytundeb blaenorol, sef cael gwared ar yr elfen o elw allan o'r sector gofal plant.
Mae'r angen i ddiwygio'r maes yma wedi bod yn amlwg ers tro, ac rydym fel plaid wedi cyfeirio'n aml at oblygiadau niweidiol i ddarpariaeth ac ansawdd y gwasanaethau hanfodol hyn o gael eu pennu gan rymoedd y farchnad.
Fel y gwnaed yn glir yn adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2022, mae'r farchnad ar gyfer y sector ar hyn o bryd yn gogwyddo'n drwm ac yn anghymesur o blaid cyflenwyr preifat, sydd wedi gallu codi prisiau premiwm, gan fod gallu awdurdodau lleol i ddarparu eu gofal maeth eu hunain wedi cael ei beryglu'n ddifrifol gan effaith 14 mlynedd o gyni a ysgogwyd gan y Torïaid. Mewn llawer o achosion, mae hyn wedi agor y drws i gwmnïau ecwiti i elwa ar anffawd rhai o'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas—beirniadaeth gywilyddus o'r ffordd mae ein gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei breifateiddio gam wrth gam.
O safbwynt ymarferol, mae'r orddibyniaeth ar gyflenwyr preifat yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am bron i 80 y cant o'r holl leoliadau plant sy'n derbyn gofal, hefyd wedi achosi ansicrwydd sylweddol yn y sector. Dangosodd adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sut mae nifer yr achosion o ddyled ymhlith darparwyr preifat yn peri risg uchel y bydd cwmnïau'n gadael y farchnad ar fyr rybudd, gyda chanlyniadau trafferthus i'r plant yn eu gofal.
Nid yw cyflwr y farchnad ychwaith yn talu fawr o sylw i leoliad daearyddol, sy'n ffactor o'r pwysigrwydd mwyaf ar gyfer llesiant plant sy'n derbyn gofal. O'r herwydd, tra bod 84 y cant o blant mewn gofal maeth awdurdodau lleol yng Nghymru yn aros yn eu hardal leol, gan sicrhau rhywfaint o barhad hanfodol yn eu bywydau yn ystod cyfnod o ansicrwydd cynhenid, mae 79 y cant o blant mewn maethu preifat yn derbyn gofal y tu allan i'w hardal leol, ac mae 6 y cant yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl.
Ond mae'n siŵr bod yr achos mwyaf cymhellol dros newid yn dod o dystiolaeth y plant eu hunain, sy'n dangos anfodlonrwydd ac anghysur eang ynghylch sut y gellir defnyddio eu hamgylchiadau nhw fel cyfrwng ar gyfer gwneud elw. Rhaid i'w lleisiau bob amser gael blaenoriaeth yn y ddadl hon, a thrwy greu gofynion newydd i bob darparwr gofal yng Nghymru gofrestru fel endidau nid-er-elw, gallwn sicrhau eu bod yn cael gwrandawiad.
Ond er bod y Llywodraeth hon wedi ariannu awdurdodau lleol dros dair blynedd i baratoi ar gyfer pontio'r ddeddfwriaeth hon, mae marc cwestiwn ynghylch parodrwydd llawer o awdurdodau lleol. Felly, a all y Gweinidog roi sicrwydd inni fod awdurdodau lleol wedi paratoi ar gyfer y newid hwn mewn gwirionedd?
Gan droi at agweddau eraill y Bil, rydym yn cefnogi cyflwyno dyletswydd gyfreithiol ar gyfer adrodd ar blant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio, yn unol ag argymhellion yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol. Mae'n hanfodol bod y ddyletswydd hon yn cael ei hategu gan fecanweithiau cymorth cadarn ar gyfer yr unigolion yr effeithir arnynt, a ddylai gynnwys dull gweithredu hawliau plant yn achos plant dan oed. Dylid datblygu'r canllawiau adrodd hefyd er mwyn atal creu hierarchaeth de facto o achosion cam-drin. Bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod Swyddfa Gartref y DU yn bwriadu deddfu ar gyfer adrodd gorfodol am gam-drin plant yn rhywiol fel rhan o'r Bil Cyfiawnder Troseddol, a byddwn yn croesawu ei barn ar sut y bydd hyn yn rhyngweithio â'r cynigion yn y darn hwn o ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw.
Yn olaf, er bod y Llywodraeth yn iawn i fynd i'r afael â'r diffygion yn y fframwaith deddfwriaethol presennol ynghylch taliadau uniongyrchol i'r rhai sy'n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG, mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn cael yr adnoddau angenrheidiol i reoli'r cyfrifoldeb ychwanegol hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi syniad o'r gost flynyddol ddisgwyliedig i awdurdodau lleol o ganlyniad i'r newidiadau hyn, ac egluro sut y bydd y grant cynnal refeniw yn cael ei uwchraddio i ddarparu ar eu cyfer.
Diolch yn fawr iawn unwaith eto am y datganiad, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio gyda'r Gweinidog er mwyn gwthio’r Bil yma ymlaen.
Diolch yn fawr, Mabon, ac unwaith eto, diolch am eich cefnogaeth i'r Bil. Mae'n uchelgais ar y cyd. Mae wedi bod yn uchelgais ar y cyd gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn nawr ac, fel y dywedais i, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith yr ydym wedi'i wneud gyda Phlaid Cymru i'n dwyn i'r fan hon. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau a wnaethoch ynghylch y ddarpariaeth er-elw a'r gwaith a wnaed gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, y gwaith a nodwyd ganddynt, neu sut y gwnaethant nodi, yr ymchwil a gynhyrchwyd ganddynt a nodi, ein bod yn gweld y sefydliadau hyn yn cynhyrchu elw o tua 22, 23 y cant. Roedd erthygl, efallai i chi ei gweld dros y penwythnos ym mhapur The Guardian—erthygl George Monbiot oedd hi dros y penwythnos—roedd honno'n sôn am hyn—. Roedd o safbwynt Seisnig, ond mae'r materion yn union yr un fath, ac mae hyn yn cael sylw mewn ffordd debyg iawn yn awr yn Lloegr. Rwy'n credu eu bod wedi cydnabod bod yn rhaid iddynt wneud rhywbeth fel hyn. Roedd y costau oedd yn gysylltiedig â gosod un plentyn mewn lleoliad gofal preswyl ar gyfer sefydliad mawr er-elw tua £280,000 i un plentyn—tua £5,000 i £6,000 yr wythnos. Nawr, os ydych chi'n rhoi hynny yng nghyd-destun faint mae'n ei gostio i anfon plentyn i Eton, sef £46,000 y flwyddyn, gallem anfon chwe phlentyn i Eton yn hytrach na rhoi un plentyn mewn lleoliad preswyl sy'n cael ei redeg gan gwmni preifat.
Felly, rydym yn llwyr ymwybodol o'r heriau sy'n bodoli. Ond rydych chi'n gwneud pwynt da iawn am awdurdodau lleol a'u cydnerthedd a'u gallu i lenwi'r bylchau a allai godi yn sgil cael gwared ar ddarparwyr preifat o'r farchnad. Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw, yn y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud ar y rhaglen ddileu, rydyn ni wedi bod yn ymgorffori gwahanol senarios. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar—. Gallem gael senario A, pan efallai nad oes unrhyw ddarparwr preifat yn trosglwyddo i'r sector nid-er-elw, ac i'r pegwn arall, efallai fod 100 y cant yn gwneud hynny, neu rywle rhwng y ddau begwn.
Nawr, rydym yn cael trafodaethau cadarnhaol iawn gyda nifer o'r darparwyr hyn, sy'n nodi eu parodrwydd i siarad â ni am symud eu model gweithredu i un nid-er-elw, ond rydym yn gwerthfawrogi, wrth gwrs, y gallai fod rhai bylchau, gyda phob un o'r darparwyr hyn yn dymuno symud i'r farchnad nid-er-elw, ac felly mae'n rhaid i ni weithio gydag awdurdodau lleol i adeiladu'r cydnerthedd hwnnw i'r system a fydd yn galluogi iddynt ddarparu gwasanaeth nid-er-elw, p'un a ydynt yn ei ddarparu eu hunain yn uniongyrchol fel awdurdod lleol, neu drwy un o'r modelau a amlinellais yn fy natganiad.
Ond yr hyn rwy'n credu sy'n bwysig i'w nodi'n glir iawn yma yw nad yw'r darn hwn o ddeddfwriaeth i'w weld fel darn o ddeddfwriaeth sy'n eistedd ar ei ben ei hun. Mae gennym raglen trawsnewid gwasanaethau plant gyfan yng Nghymru, sy'n ataliol i raddau helaeth, ac sy'n ymwneud yn bennaf â gweithio gyda theuluoedd i gadw teuluoedd gyda'i gilydd, fel bod llai o alw am wasanaethau preswyl i blant, oherwydd y galw sy'n gwthio'r elw i fyny. Os gall darparwr preifat ddod i mewn ac yn gallu gweld marchnad, bydd yn llenwi'r farchnad honno. Dyna beth mae'r sector preifat yn ei wneud. Felly, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i feithrin y cydnerthedd hwnnw drwy'r gwahanol brosesau, ac rydym yn gwybod y bydd cost i hynny. Yr hyn na allaf ei ddweud wrthych ar hyn o bryd, oherwydd bod y modelu hwnnw'n dal i ddigwydd, am yr holl resymau rwyf newydd eu nodi, yw faint yn union y bydd hynny'n ei gostio. Ond rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i ffordd y gallwn sicrhau bod yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni hyn ar gael. Ond, fel y dywedais i, nid yw hyn yn rhywbeth y gallaf ei nodi'n union ar hyn o bryd, ond trwy gydol cynnydd y Bil hwn, byddwn yn cael gwell syniad, oherwydd mae llawer o'r darparwyr eisiau gweld mwy o fanylion cyn iddynt ymrwymo un ffordd neu'r llall.
O ran y dyletswyddau cyfreithiol a'r adrodd gorfodol, Mabon, rydych chi'n hollol gywir; mae gennym eisoes broses adrodd orfodol yng Nghymru. Mae'n wahanol i'r model y maent yn ei gynnig yn Lloegr, ond ar hyn o bryd rydym yn credu bod y broses sydd gennym, sy'n gorfodi sefydliadau i adrodd, yn iawn i ni ac yn iawn i Gymru, ond byddwn yn parhau i adolygu hynny, oherwydd nid ydym yn sefyll yma ac yn dweud bod popeth yn iawn, ond rydym yn credu bod y broses sydd gennym ni ar y blaen i'r broses oedd ar waith yn Lloegr ac y mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn Lloegr yn ceisio mynd i'r afael â hi, ond nid ydym yn cynnig ar hyn o bryd i gyflwyno adroddiadau gorfodol ar unigolion. Rydym yn cadw'r mandad sefydliadol ar gyfer adrodd ar hyn o bryd.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad pwysig hwn heddiw. Rwy'n cefnogi'r Bil ac uchelgeisiau'r Bil yn llawn, a dylwn i roi ar gof a chadw hefyd fy niolch i Julie Morgan ac yn wir Mark Drakeford am ddangos dewrder wrth gyflwyno'r gwaith hwn a'i ddechrau. Gweinidog, os cysylltaf fy sylwadau â deiseb y mae'r Pwyllgor Deisebau yn ei hystyried ar hyn o bryd gan un o drigolion etholaeth Wrecsam, etholaeth Lesley Griffiths, mae'r ddeiseb yn galw am gynnydd mewn eglurder a hawliau i bobl ar daliadau uniongyrchol neu'n derbyn Grant Byw'n Annibynnol Cymru, allu byw'n annibynnol. Mae gan y deisebydd bryderon; er gwaethaf egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'n galw am weithredu gan gynnwys gwell cymorth eiriolaeth, proses datrys anghydfodau, sianeli cyfathrebu gwell a gweithdrefn gwyno sydd â gwybodaeth am gyfraith Cymru. Nid wyf yn siŵr a yw hyn o fewn cwmpas y Bil penodol hwn, ond efallai ei fod ar gyfer ei daith. Byddwn yn ddiolchgar am eich sylwadau ar y galwadau hyn, boed hynny yn y Bil hwn neu mewn ffyrdd eraill.
Diolch am y pwyntiau yna, Jack. Ac na, nid yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Bil hwn, ond mae'r egwyddorion eang yn berthnasol, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig, oherwydd, yn fwy cyffredinol, yr hyn yr ydym yn ei wneud yw bwrw ymlaen â'r rhaglen waith a nodwyd gan y tasglu hawliau anabledd, a fyddai'n cwmpasu'r lwfans byw annibynnol, ac sy'n dod â phobl â phrofiad bywyd at ei gilydd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol, ac mae gwaith y tasglu hwnnw yn seiliedig ar y ddealltwriaeth gyffredin honno o'r model anabledd cymdeithasol a'r cydgynhyrchu ac ati. Felly, yr hyn yr ydym wedi'i wneud yw cyflwyno canllawiau newydd i awdurdodau lleol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt hunanasesu eu perfformiad a'u darpariaeth yn erbyn wyth safon ansawdd. Mae hynny'n cynnwys dangos gyda thystiolaeth sut maent yn hyrwyddo llais a rheolaeth unigolion sydd angen gofal a chymorth i'w helpu i fyw mor annibynnol â phosibl, ac mae angen iddynt ddangos sut mae barn defnyddwyr gwasanaethau a'r gofalwyr yn cael eu hadlewyrchu yn asesiad yr awdurdod o'i berfformiad. Felly, rydym yn parhau i weithio ar draws y sector i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny'n cael eu cyflawni'n brydlon, ac rwy'n disgwyl gweld cynnydd clir yn cael ei wneud arnynt yn ystod y flwyddyn, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl neu ysgrifennu atoch eto, Jack, wrth i ni ddatblygu hynny wrth i amser fynd yn ei flaen. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n galonogol iawn clywed am y datblygiad hwn. Rwy'n un o'r cyn-weithwyr cymdeithasol hynny a fyddai, allan o anobaith, yn anffodus, yn gorfod rhoi plentyn yn y lle diwethaf posibl yr oeddwn eisiau ei leoli. Clywsom—. Rhai ohonom a oedd mewn gweithdy yr wythnos diwethaf ar blant coll, clywsom dystiolaeth bwerus gan awdurdodau lleol a sefydliadau plant ynghylch sut, yn drasig, mae plant yn mynd ar goll o sefydliadau preswyl oherwydd eu bod yn ysu am gael bod adref. Pa mor ddigalon yw hynny? Dyna beth fyddem ni i gyd eisiau ei wneud, dyna beth fyddem ni'n ei wneud yn naturiol, felly rwy'n falch o glywed gennych fod hon yn rhan o broses drawsnewidiol, oherwydd, mewn gwirionedd, dylem fod yn edrych ar y pen blaen, fel y dywedwch chi. Felly, mae angen i ni osgoi rhoi plant mewn gofal, ac, yn anffodus, yng Nghymru, rydyn ni wedi gweld y niferoedd yn cynyddu yn y degawd diwethaf—ddim yn dderbyniol o gwbl. Felly, rwyf wir eisiau apelio arnoch chi: beth yw eich mesuriadau ar gyfer sicrhau ein bod yn cadw plant gartref? Beth yw eich targedau ar gyfer y tair blynedd nesaf i sicrhau ein bod yn lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal, a'n bod yn rhoi'r arian yn ein gwasanaethau rheng flaen, oherwydd dyna lle mae angen iddo fod? Diolch yn fawr iawn.
Diolch Jane, am y sylwadau yna, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth rydych chi'n ei ddweud. Rydym yn gwario swm enfawr o arian ar wasanaethau preswyl i blant. Os dywedaf wrthych ein bod, yn 2017, wedi gwario £65 miliwn ar wasanaethau preswyl plant ac eleni mae hynny wedi codi i £200 miliwn, ac mae 80 y cant o hynny'n mynd i ddarparwyr preifat, darparwyr er-elw, gallwch weld maint yr her sy'n ein hwynebu. A realiti hynny yw, dim ond ar sail ariannol, heb sôn am yr achos moesol dros wneud hyn—y byddaf yn dod ato mewn eiliad—ond, ar sail ariannol yn unig, mae hynny'n anghynaladwy. Os ydym yn gweld y costau hynny'n codi, treblu, mewn llai na deng mlynedd, ac rydym yn parhau â'r llwybr hwnnw am y 10 mlynedd nesaf, gallem fod yn edrych ar wasanaethau plant, gwasanaethau preswyl plant, yn costio bron i £1 biliwn i ni. Ar hyn o bryd mae'r gyllideb gwasanaethau plant oddeutu £350 miliwn y flwyddyn, £200 miliwn o hynny ar wasanaethau preswyl, ac nid yw llawer o'r gwasanaethau preswyl hynny a'r lleoliadau preswyl hynny, fel y dywedwch yn gwbl briodol, yn lleoliadau y mae plant eisiau bod ynddyn nhw. Ac felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr mai'r rhaglen drawsnewid yr ydym yn ceisio ei chyflawni yw'r mesur ataliol hwnnw sy'n lleihau nifer y plant sy'n mynd i fod angen gofal preswyl, a bydd hynny'n cynnwys—. Oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â chartrefi preswyl a lleoliadau preswyl yn yr ystyr hwnnw yn unig; mae hyn yn ymwneud â gwella'r niferoedd—neu gynyddu'r niferoedd, mae'n ddrwg gennyf—o ofalwyr maeth sydd gennym yn y system. Rydym yn gwybod, o'r datganiad a wneuthum yr wythnos diwethaf, ein bod yn sôn am yr angen i ni ddod o hyd i 800 o deuluoedd gofal maeth eraill ledled Cymru i ateb rhywfaint o'r galw presennol. Ond yr allwedd i hyn, ac ni allaf roi'r ffigurau ar hyn o bryd, Jane, hoffwn pe gallwn i, yw bod yn rhaid i ni weld sut mae'r holl bolisïau hyn yn gweithio, ond mae'n rhaid iddyn nhw weithio i ni allu dod â nifer y plant mewn gofal i lawr.
Felly, rwy'n gwbl benderfynol y bydd y mesurau hyn yn cael eu gweithredu, y byddwn yn rhoi arian yn y gwasanaethau ataliol lle byddwn yn gweithio gyda rhieni a phlant i'w cadw gartref lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Rydym newydd gael yr adroddiad i mewn nawr gan y cynllun treialu llys teulu, cyffuriau ac alcohol, ac rwy'n cymryd peth amser i ystyried hwnnw. Rydym wedi gweld lle cafodd hwnnw ei dreialu, ei fod yn llwyddiannus iawn wrth gadw teuluoedd gyda'i gilydd. Felly, rwy'n credu os yw hwnnw wedi bod yn llwyddiannus, mae angen i ni ystyried cyflwyno hwnnw o ddifrif hefyd. Felly, mae llawer o bethau ar y gweill, ac mae'n rhaid iddyn nhw i gyd ddod at ei gilydd. Y darn hwn o ddeddfwriaeth yw darn olaf y jig-so o ran cyflwyno sector gofal plant wedi'i ailbwrpasu a'i ailfodelu.
Diolch i chi am ateb y cwestiwn am y costau a fyddai'n cynyddu pe baem yn gwneud dim. Ond, gan ddilyn sylwadau Jane Dodds ac, yn wir, Mabon ap Gwynfor, rwy'n pryderu am allu awdurdodau lleol i gomisiynu'r gwasanaethau yn lleol, fel bod plant sydd angen naill ai gwasanaeth maethu neu lety preswyl yn gallu derbyn y gwasanaeth hwnnw yn eu hardal leol, oherwydd fel arall mae'n gwneud bywyd bron yn amhosibl i'r rhiant corfforaethol yn yr awdurdod lleol hwnnw sicrhau ei hun bod y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu yn addas i'r bobl ifanc hynny sy'n agored i niwed. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i lety diogel. Felly, rwyf wir eisiau pwysleisio pwysigrwydd y rôl sydd gennym i gyd i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed.
Rwy'n cytuno'n gryf â deddfwriaeth i ganiatáu i bobl ag anghenion gofal iechyd parhaus gomisiynu'r gwasanaethau a fydd yn diwallu eu hanghenion orau drostynt eu hunain, ac rwy'n eich canmol am dderbyn yr adborth o Loegr.
O ran gofal plant, pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i drosglwyddo rheoleiddio gweithwyr gofal plant a chwarae i Estyn? Rwy'n pryderu bod gofal plant yn eistedd ar ymyl garw rheoleiddio yma, a gobeithiaf ein bod i gyd yn cytuno bod angen arolygiadau o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar blant arnom sy'n hyrwyddo cydnerthedd emosiynol plant. Gan fod gofal plant yn cael ei ddarparu wedi'i gyd-leoli ag ysgolion cynradd yn gynyddol, mae'n ymddangos yn rhyfedd iawn bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu'r gwasanaeth blynyddoedd cynnar, ac yna sefydliad gwahanol, Estyn, yn arolygu'r feithrinfa a'r ysgol gynradd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei archwilio gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Diolch am y sylwadau yna, Jenny. Rwy'n gwybod fy mod mewn perygl o ailadrodd rhywfaint o hyn, ond rwy'n glir iawn ein bod wedi gweithio'n agos iawn, iawn gydag awdurdodau lleol ynglŷn â hyn. Nid yw hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei gyflwyno iddyn nhw nawr yn unig. Rydym wedi bod yn gweithio gyda nhw dros nifer o flynyddoedd i baratoi ar gyfer hwn. Nid yw'n dod heb ei heriau. Dydw i ddim yn mynd i sefyll yma ac esgus bod hyn yn mynd i fod yn rhywbeth sy'n mynd i fod yn hawdd i'w gyflawni. Mae awdurdodau lleol o dan bwysau ariannol aruthrol, fel y gwyddom i gyd. Ond yr hyn rwy'n ei wybod, ac rwyf wedi cwrdd â'r holl arweinwyr gofal cymdeithasol yr awdurdodau lleol, yw eu bod wedi ymrwymo i wneud hyn. Maen nhw'n gwybod mai dyma'r peth iawn i'w wneud.
Mae rhai awdurdodau lleol wedi gallu symud cryn dipyn yn barod gyda'r gefnogaeth rydym wedi'i rhoi drwy'r rhaglen ddileu. Os ydych yn cymryd awdurdod fel sir Gaerfyrddin, er enghraifft, prin fod ganddynt unrhyw ddarpariaeth breifat yn barod. Ar ben arall y sbectrwm, nid yw'n syndod, fod yna broblemau sylweddol yng Nghaerdydd, ac nid yw hynny'n syndod. Felly, rwy'n gwybod, i Gaerdydd y bydd honno'n her fwy o lawer nag y bydd i sir Gaerfyrddin, ond maen nhw wedi ymrwymo i'w chyflawni. Bydd cynllun y byddaf yn disgwyl i bob awdurdod lleol ei greu, sy'n ymwneud â'u cydnerthedd i allu cyflawni hyn.
Nawr, pan na allant ei gyflawni, yna ni fyddwn yn gallu mynd â'r darparwr preifat allan o'r farchnad am y cyfnod hwnnw, ac mae'r Bil yn caniatáu i Weinidogion wneud penderfyniadau eithriadol ynghylch lleoliadau a fydd yn parhau i ddarparwyr er-elw pan mai dyna'r unig ddewis arall a phan fo hynny er budd gorau'r plentyn. Ond dyna sy'n allweddol i hyn, buddiannau'r plentyn yw'r peth pwysicaf, a'r math o lety y mae angen iddo fod ynddo.
Taliadau uniongyrchol—rydych chi eisoes wedi gwneud y pwynt ac rwy'n cytuno â chi.
O ran gofal plant, nid ydym wedi ystyried trosglwyddo'r arolygiad i Estyn fel rhan o'r Bil hwn. Nid yw hynny'n rhywbeth yr ydym wedi cael unrhyw drafodaethau yn ei gylch trwy'r broses hon. Mae'n rhywbeth rwy'n hapus i gael sgwrs gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg amdano—a fyddai Estyn eisiau bwrw ymlaen ai peidio, neu a ydyn nhw'n teimlo bod hyn yn y lle priodol ar hyn o bryd oherwydd yr effaith ar blant ifanc iawn. Mae hyn hefyd yn rhywbeth y mae'n debyg y byddai angen i mi siarad â fy nghyd-Weinidog, Jayne Bryant amdano, gan mai hi sydd â'r cyfrifoldeb dros y blynyddoedd cynnar. Ni fyddwn yn dweud y byddem yn ei ddiystyru, Jenny, ond ar hyn o bryd, nid yw'n rhan o'r ystyriaeth ar gyfer y Bil penodol hwn oherwydd credaf fod gennym fater llawer, llawer ehangach a phwysig y mae angen i ni ymdrin ag ef ynghylch yr agenda dileu elw ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu'n fawr y gweithredu yma i waredu elw o'r system ofal. Fel y sonioch chi, un darn o waith yn unig sydd angen ei wneud i sicrhau'r diwygio radical o'r system ofal rŷn ni'n dirfawr angen ei weld yng Nghymru. Ac fel y soniodd Jane Dodds, rhaid inni wneud mwy i atal cymaint o blant a phobl ifanc—llawer gormod yng Nghymru—rhag mynd i mewn i'r system yn y lle cyntaf, lle bo modd. Ac un modd o wneud hynny yw mynd i'r afael â'r rhagfarn strwythurol sy'n cael ei phrofi gan famau ifanc yn sgil eu profiad o ofal, sy'n golygu eu bod nhw'n gallu cael eu cyfeirio at wasanaethau amddiffyn plant tra eu bod nhw'n feichiog, weithiau heb esboniad. Mae NYAS Cymru, wrth gwrs, gyda grant Llywodraeth Cymru, yn darparu cefnogaeth ddwys i fenywod ifanc sydd â phrofiad o ofal, drwy ei brosiect Undod, ac mae'n gallu cyfrannu at dorri'r cylch yna, y cylch gofal, drwy helpu meithrin hyder mewn mamau ifanc a'u grymuso nhw i leisio'u barn a chael mynediad at hyfforddiant, addysg a chyfleoedd eraill.
Fe wnaeth y Llywodraeth dderbyn mewn egwyddor argymhelliad adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ddiwygio radical i'r system ofal, y dylai model o'r fath, fel y prosiect Undod, fod ar gael fel hawl statudol. Felly, fyddwn i'n hoffi diweddariad ar hynny. Oes modd cael ymrwymiad gan y Gweinidog hefyd o ran cyllid hirdymor i'r prosiect Undod, gan fod y gwaith ataliol yma, fel rŷch chi wedi sôn, mor bwysig?
Diolch yn fawr, Sioned, am y sylwadau yna. Rydych chi'n llygad eich lle ynghylch y rhagfarn strwythurol y mae mamau ifanc yn ei phrofi, yn enwedig mamau sydd wedi bod mewn gofal eu hunain, a'r tueddiad i dybio, gan fod y fam wedi bod mewn gofal, mai dyna'r lle gorau i'r plentyn fod ynddo. Mae hynny hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma. Ac rydych chi'n llygad eich lle: mae'r gwaith y mae NYAS wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn wedi bod yn eithaf trawsnewidiol mewn llawer o leoedd, ac mae wedi helpu i gadw mamau a babanod gyda'i gilydd, a byddem eisiau parhau i gefnogi hynny.
O ran yr hawl statudol yna, Sioned, rwy'n mynd i orfod dod nôl atoch chi ar hynny, mae gen i ofn. Nid oes gennyf yr wybodaeth honno ar hyn o bryd. Digon yw dweud, o fewn y rhaglen ehangach, ein bod yn edrych ar yr agwedd ataliol honno o gadw mamau a babanod gyda'i gilydd, cadw teuluoedd ehangach at ei gilydd a'u cadw gyda'i gilydd mewn lleoliadau hefyd. Fe glywsom ni'n gynharach—rwy'n meddwl mai Jenny wnaeth y sylw—am blant yn cael eu gosod yn rhy bell i ffwrdd o ble mae eu holl gysylltiadau a lle mae eu teuluoedd. Ac os ydym o ddifrif ynghylch cadw teuluoedd gyda'i gilydd, yna tra byddwn ni'n mynd drwy'r trafodaethau hynny, mae'r mathau hynny o gynigion o gymorth, yr eiriolaeth y gallwn ni gynorthwyo rhieni i'w chael, mae'n rhaid gwneud hynny i gyd o fewn lleoliad lle gall pawb aros gyda'i gilydd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n hollol gywir. Mae popeth rydych chi'n ei ddweud yn hollol gywir. Mae gennym ffocws clir ar yr hyn yr ydym eisiau ei wneud. Nid ydym yn edrych ar unrhyw un o'r pethau hyn ar wahân. Ond y pwynt penodol y gwnaethoch ei godi, byddaf yn dod yn ôl atoch ar hynny. Diolch.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ddod â'r datganiad hwn i'r Senedd heddiw. Rwy'n credu bod dileu elw o ofal ein plant sy'n derbyn gofal yn ddatganiad beiddgar a chlir ein bod, yma yng Nghymru, yn rhoi profiadau a hawliau ein plant yn gyntaf. Ac mae'n hollol wych bod gennym blant yn yr oriel heddiw, yn gwrando ar y ddadl hon.
Wrth gwrs, dyna beth mae ein plant eisiau. Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro, mewn system farchnad, eu bod yn teimlo eu bod nhw'n nwyddau ar werth, gyda phobl yn elwa ar eu sefyllfaoedd anffodus, a gwn y byddant wedi dweud hynny wrth y Gweinidog hefyd. Felly, rwy'n credu, drwy gyflwyno'r Bil hwn, yr ydym yn anfon neges gref at ein plant yn y system ofal ein bod wedi gwrando ar yr hyn y maent wedi gofyn i ni amdano. Oherwydd eu bod yn sicr wedi gofyn cyn yr etholiad diwethaf, ac maen nhw wedi gofyn ym mhob uwchgynhadledd rydyn ni wedi'i chael ers hynny, bod hyn yn rhywbeth y maen nhw'n dymuno ei gael.
A yw'r Gweinidog yn cytuno y bydd gwrando ar yr hyn y mae plant yn ei ddweud a gweithredu ar hynny yn helpu i ddatblygu perthynas o ymddiriedaeth gyda'r plant, a bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn? Ac a yw hi hefyd yn cytuno y bydd cael gwared ar elw o'r system ofal hefyd yn cynnig gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc? Rwy'n gwybod ei bod yn anodd cael tystiolaeth am hynny gan mai ychydig iawn o ddarpariaeth breifat sydd ar gael ledled y byd. Rwy'n meddwl ein bod ni'n weddol unigryw, gyda chwpl o wledydd eraill, o ran cael unrhyw ddarpariaeth breifat o gwbl, felly mae'n anodd cymharu. Ond a fyddai'n cytuno, gyda'r dystiolaeth sydd yna, ei bod yn fwy tebygol y bydd plant yn elwa ac yn ffynnu mewn sefyllfa nid-er-elw nag mewn sefyllfa er-elw breifat?
Mae nifer o bobl wedi sôn am y mater ynglŷn â bod yn agos at eu teuluoedd eu hunain, ac atal, a hoffwn bwysleisio fy mod yn teimlo'n gryf iawn bod y rheini'n faterion pwysig iawn. Ac yn olaf—
Diolch yn fawr, Julie. Mae'n ddatganiad, ac felly rydych chi ymhell dros eich amser.
Iawn. Ga i ofyn un arall?
Na. [Chwerthin.]
Gallwch siarad â fi wedyn, Julie, am eich pwynt olaf. Diolch, ac unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr. Yr un peth sydd wedi fy nharo pan oeddwn i, dros yr wythnosau diwethaf, yn siarad â phlant â phrofiad o ofal, p'un a ydyn nhw'n blant sydd wedi profi gofal preswyl mewn sefydliadau, os mynnwch chi, o eisiau gwell term, neu gyda gofalwyr maeth, yr hyn a amlygwyd dro ar ôl tro yw eu gwrthwynebiad i'w defnyddio fel adnodd; eu gwrthwynebiad i gael eu defnyddio at ddibenion elw.
Fel y dywedais reit ar y cychwyn, dyma rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac rydym ni'n eu defnyddio fel nwyddau marchnad—neu'r sector preifat, mewn rhai amgylchiadau, yn eu defnyddio fel nwyddau preifat. Ac rydych chi'n hollol gywir: mae'n rhaid i ni gael ymddiriedaeth y plant hyn. Mae'n rhaid i ni gyd-gynhyrchu'r holl bolisïau hyn, onid oes?
Mae'n rhaid i ni wneud yr hyn y dywedsom ni y byddem ni'n ei wneud, a gwrando ar leisiau'r plant hynny a ddywedodd wrthym ni ynghylch sut yr hoffen nhw i'w gofal gael ei ddarparu. Os na fyddwn ni'n gwrando arnyn nhw, byddwn ni wedi torri'r ymddiriedaeth honno, a gobeithio eu bod nhw'n teimlo—. Maen nhw yma i wrando ar hyn heddiw, a gobeithio eu bod nhw'n teimlo ein bod ni wedi gwrando arnyn nhw, a bod cyflwyno hyn ymlaen heddiw yn arwydd o hyn.
Dw i'n gwybod, Julie, eich bod chi a'r cyn-Brif Weinidog wedi llofnodi'r ddogfen hon—y datganiad hwn—y llynedd. Rydw i a'r Prif Weinidog newydd yn mynd i'w ail-lofnodi, fel y byddwn ni'n gwneud ein datganiadau personol fel y Gweinidogion newydd y byddwn yn bwrw ymlaen â'r rhaglen waith hon hefyd.
Dim ond yn olaf i ddweud, yn hollol, yr hyn rydych chi'n ei ddweud o ran cael gwared ar elw, sut y bydd hynny'n sicrhau'r canlyniadau gwell hynny, oherwydd yna byddwn yn gallu gweld yr elw hynny sy'n mynd i'r cyfranddalwyr yn cael ei ailfuddsoddi yn uniongyrchol yn y gwasanaeth, er mwyn sicrhau bod yr amcanion cyffredinol hynny o ddarparu gwell gofal i'r plant hynny, mewn dyluniad, mewn ffordd sy'n gweddu i anghenion y plant hynny, bydd yn fwy fforddiadwy nag y maen nhw ar hyn o bryd, a byddwn yn gallu eu cyflawni.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'r Bil hwn a gyflwynir. Rwy'n arbennig o awyddus i grybwyll—. Dydw i ddim eisiau ailadrodd dim byd arall, ond mae'r bobl sydd yn y sector cyhoeddus—a dwi'n meddwl ein bod ni eisiau dweud —y sector preifat, mae'n ddrwg gen i, darparu gofal, mae'r gweithwyr yno yn poeni am y plant. Maen nhw'n gweithio oriau hir, rhai ohonyn nhw fwy na thebyg y tu hwnt i'r oriau maen nhw'n cael eu talu amdanyn nhw. Ac wrth gwrs, Gweinidog—ac fe ddaw hyn yn amlwg pan fyddwch yn gwneud datganiadau pellach—os yw lleoliad yn dda i'r plentyn, er ei fod yn y sector preifat, bydd yn parhau ar gyfer lles y plentyn hwnnw cyhyd ag y bydd angen y lleoliad hwnnw arnyn nhw, a hefyd y bydd gan ddarparwr preifat gyfle i ddod â hwnnw i'r sector cyhoeddus. Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud hynny, gan nad oes neb arall wedi dweud hynny.
Yr unig sylw arall yr hoffwn i ei wneud heddiw yw talu'n uniongyrchol am ofal iechyd parhaus. Wrth gwrs, mae hynny'n beth da, ond nid o reidrwydd yr hyn y mae ar bobl ei eisiau trwy'r amser. Felly, fe hoffwn i wybod am y mesurau diogelu ar gyfer pobl agored i niwed, p'un a ydyn nhw'n anabl neu'n oedrannus, er mwyn sicrhau, os gwneir y penderfyniad hwnnw, y caiff ei wneud er budd gorau'r unigolyn, yn hytrach na chael ei wthio o rywle arall.
Diolch yn fawr, Joyce. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl gywir dweud a nodi bod y mwyafrif helaeth o bobl sy'n gweithio mewn sefydliadau er-elw ac sy'n darparu gofal ar gyfer y plant hyn yn gwneud hynny am y rhesymau cywir, ac mae rhai ohonyn nhw ymhlith y rhai sydd â'r cyflogau lleiaf yn y sector. Unwaith eto, o fy safbwynt i, rwy'n ei weld yn gwbl annerbyniol bod yr elw mwyaf yn cael ei wneud gan sefydliadau sy'n talu'r lleiaf i'w gweithlu. Mae sefydliadau awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector yn tueddu i fod â thelerau ac amodau llawer gwell na'r rhai yn y sector preifat. Rwy'n credu ei bod hi'n gywir dweud ein bod yn siarad nid o reidrwydd am y staff sy'n darparu gofal rhagorol mewn llawer o amgylchiadau. Mae hefyd yn gywir dweud—rydych yn hollol gywir yn dweud hyn, Joyce—pan fo plentyn gyda darparwr er-elw, lle ystyrir bod y lleoliad hwnnw er budd y plentyn hwnnw, bydd hynny'n parhau. Rydym ni wedi ysgrifennu yn y ddeddfwriaeth yr hawl i Weinidogion allu awdurdodi hynny. Felly, fel y dywedais, nid yw hyn yn ymwneud â therfynu gwasanaeth, nid yw hyn yn ymwneud â symud pawb o'r system yr eiliad y caiff y ddeddfwriaeth ei phasio; mae'n ymwneud â chyfnod pontio, mae'n ymwneud â chloriannu sefyllfa pob plentyn yn ôl ei haeddiant, gan edrych ar beth yw'r gofal gorau iddyn nhw.
O ran y taliadau uniongyrchol, y peth i'w ddweud ac i fod yn glir iawn amdano yw bod y taliadau uniongyrchol yn wirfoddol o ran a ydyn nhw'n ceisio asesiad ar gyfer taliad uniongyrchol o dan ofal iechyd parhaus. Felly, ni fydd neb yn cael eu gorfodi i wneud hyn. Bydd hon yn broses wirfoddol y gallan nhw fynd drwyddi os ydyn nhw o'r farn mai dyna fyddai fwyaf llesol. Byddan nhw'n gallu penderfynu pwy maen nhw'n ei benodi i gyflawni'r gofal hwnnw, a bydd pwy bynnag maen nhw'n ei benodi i gyflawni'r gofal hwnnw, wrth gwrs, yn destun gwiriadau DBS hefyd—os ydyn nhw'n rhywun maen nhw'n dod â nhw i mewn o sefydliad allanol, neu beth bynnag. Ond yn eithaf aml, wrth gwrs, aelodau o'u teulu fydd hynny, pobl maen nhw'n ymddiried ynddyn nhw. Dyma'r dewis sydd ganddyn nhw i adnabod y person maen nhw'n credu bydd yn darparu'r gofal gorau iddyn nhw. Ond er mwyn gwneud hyn yn gwbl glir, nid yw hwn yn llwybr gorfodol i unrhyw un; bydd yn hollol wirfoddol. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.